The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

038 Tir Comin Cefn Bryn


Ffoto o Tir Comin Cefn Bryn

HLCA038 Tir Comin Cefn Bryn

Tir comin agored: tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol; anheddu cynhanesyddol posibl; llwybrau a sarnau; cysylltiad hanesyddol; cyflenwad dwr; mân nodweddion diwydiannol ac amaethyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Cefn Bryn gan derfynau traddodiadol tir comin agored o fewn plwyfi Llanrhidian, Nicholaston, Penmaen, Pen-rhys a Reynoldston, ac mae'n cynnwys Frog Moor.

Mae Tir Comin Cefn Bryn yn ddarn o dir uwch sy'n codi i uchafswm uchder o bron 190m DO ac sy'n disgyn yn serth i'r de ac i'r gorllewin. Mae prif esgair yr ardal hon yn ymestyn o'r de-ddwyrain i'r gogledd-orllewin o Benmaen i Hillend. Ceir llwyfandir bach uwchlaw Reynoldston, i'r gogledd-ddwyrain o'r llwyfandir hwn mae'r tir comin yn disgyn yn gymharol serth ac wedyn yn fwy graddol nes cyrraedd Cillibion. Mae'n amlwg i'r ardal hon chwarae rôl bwysig mewn gweithgareddau dynol yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Mae'n bosibl i dystiolaeth o weithgarwch anheddu yn ystod y cyfnod Mesolithig gael ei datguddio wrth gloddio Carnedd Fawr Cefn Bryn; lle y darganfuwyd arteffactau fflint yn dyddio o bosibl o'r cyfnod hwn mewn cyd-destun seliedig o dan y garnedd.

Ceir dau feddrod siambrog yn dyddio o'r cyfnod Neolithig ar y tir comin. Mae Maen Ceti neu Garreg Arthur (SAM GM003; 00068w; 95736) yn un o'r henebion enwocaf ym Mro Gwyr, a leolir ar lethr sy'n wynebu'r gogledd, ychydig i'r gogledd o'r briffordd sy'n croesi'r tir comin; ceir golygfeydd ar draws Morfa Llanrhidian i aber Afon Llwchwr. Mae'n feddrod Megalithig mawr â dwy siambr o fewn olion carnedd gron ac ar ei ben ceir maen capan o Hen Dywodfaen Coch clobynnog, yr amcangyfrifir ei fod yn pwyso 25 tunnell. Ceir carnedd hir siambrog (SAM GM167; 00273w; 94594) hefyd ar gwr y tir comin ychydig uwchlaw Nicholaston lle y ceir golygfeydd da allan tua Bae Oxwich.

Bu cynnydd mawr yn y defnydd a wneid o'r ardal at ddibenion lleoli henebion defodol yn ystod yr Oes Efydd fel y tystia deugain neu ragor o garneddau a leolir ar hyd esgair y twyn. Ceir carneddau crynion a charneddau cylchog sy'n amrywio o ran maint ac sy'n perthyn i nifer o feysydd carneddau a nodwyd (00082w, 00083w, 02094w, 02234w, 02235w, 00530w, 300050) ar y tir comin. Ymddengys fod y carneddau yn nodweddiadol o strwythurau angladdol; y mae nifer ohonynt yn rhestredig (SAMs GM038, GM153, GM196). Mae'n amlwg bod yr henebion hyn yn perthyn i dirwedd ddefodol ehangach yn dyddio o'r Oes Efydd sy'n cynnwys Bryn Llanmadog a Thwyn Rhosili; mae'r ardaloedd ucheldirol a'r esgeiriau yn chwarae rôl bwysig mewn defodau ac efallai o ran diffinio tiriogaethau. Ailadeiladwyd yr heneb a elwir yn 'Great Cairn Ring Cairn' (SAM GM196; 00078w), gerllaw Carreg Arthur ar ôl iddi gael ei chloddio gan Anthony Ward. Cofnododd Ward y meintiau bach o esgyrn a daeth i'r casgliad bod y safle yn 'forum for wider ceremonials of symbolic practice' (Ward 1981) yn hytrach na storfa ar gyfer y meirw. Ni ddatgelodd gwaith cloddio a wnaed ar ail garnedd gylchog (Ward 1982) ar y tir comin unrhyw dystiolaeth o gladdu ychwaith.

Darperir tystiolaeth o anheddu domestig yn yr ardal ar ddechrau'r cyfnod cynhanesyddol gan aelwyd a thwll postyn a ddarganfuwyd wrth gloddio'r 'Great Cairn'. Ystyrir bod nifer o dwmpathau llosg (SAM GM543; 00284w, 04788w; GM436; 02436w; GM544; 02144w; 00191w; 00272w), y mae eu swyddogaeth yn aneglur, yn dwmpathau coginio neu wledda, ond gallant fod yn ddefodol eu natur hefyd. Awgrymodd dehongliadau eraill y caent eu defnyddio mewn sawnau neu chwystai am eu bod wedi'u lleoli yn agos at ffynonellau dwr.

Ni chanfuwyd unrhyw archeoleg yn ymwneud â'r Oes Haearn ar y tir comin. Fodd bynnag, mae clostir yn Reynoldston a chaer yn Stembridge yn tystio i'r ffaith bod pobl yn byw yn yr ardal o'i amgylch yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r ffaith eu bod yn agos i'r tir comin a'r ffaith nad amgaewyd Hillend tan yn gymharol ddiweddar yn awgrymu i'r ardal barhau i gael ei defnyddio drwy gydol yr Oes Haearn.

Yn ystod y cyfnodau Canoloesol roedd y tir comin agored yn rhan o system amaethyddol, a gyfunai randiroedd âr ar y tir is â mynediad agored i'r tir comin, a ddefnyddid gan y pentrefwyr fel tir pori ar gyfer da byw. Gall caeau ar y tir comin, y mae eu dyddiad yn ansicr, fod yn gysylltiedig â rhyw arfer amaethyddol neu weithgarwch rheoli da byw. Bu pobl yn tresmasu ar diroedd comin Bro Gwyr o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen; ymddengys fod y gweithgarwch tresmasu hwn yn dameidiog ac ar raddfa fach o gymharu â mannau eraill ym Mro Gwyr. Mae'r caeau o amgylch Hillend, Freedown a Stoneyford yn enghreifftiau o gaeau a sefydlwyd erbyn y ddeunawfed ganrif. Cynhwysai fferm ôl-ganoloesol bosibl gerllaw Carreg Arthur, a gloddiwyd gan Anthony Ward, nifer o strwythurau, gan gynnwys gefail bosibl ac iard gerrig. Mae'r ardal yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer pori da byw.