The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

032 Pitton a Pilton


Ffoto of Pitton a Pilton

HLCA032 Pitton a Pilton

Tirwedd amaethyddol a chanolfannau maenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: patrwm caeau amrywiol; ffiniau traddodiadol a lonydd Gwyrdd; anheddiad/aneddiadau? clystyrog a gwasgaredig bach; ffermydd ôl-ganoloesol a sefydlwyd ar ffermydd canoloesol cynharach; gwasgariadau o ddarganfyddiadau cynhanesyddol; nodweddion prosesu diwydiannol gwledig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pitton a Pilton yn cynnwys cyn-Faenorau Pilton a Pitton a elwir hefyd yn Fernhill, i'r dwyrain o Rosili a Middleton. Nodir ffin ddeheuol yr ardal gan gwr uchaf tir arfordirol ymylol a thir amgaeëdig.

Mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod Paleolithig a darganfuwyd casgliadau pwysig o lafnau a naddion fflint ar hyd y cyrion tua'r arfordir; bu pobl yn byw yn yr ardal hon trwy gydol y cyfnod cynhanesyddol fel y tystia casgliadau a darganfyddiadau eraill, naddion, llafnau a chreiddiau yn bennaf, ond hefyd arfau, gan gynnwys microlith yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig.

Ychydig a wyddom am hanes yr ardal yn ystod y cyfnod Rhufeinig ac ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, er ei bod yn debyg i dir cynhyrchiol yn yr ardal barhau i gael ei weithio tan gyrchoedd yr Eingl-Normaniaid yn ystod y ddeuddegfed ganrif. Mae siarter ddyddiedig 1306 yn nodi bod Fernhill a Pilton yn un o 13 o 'hen ffioedd marchog'. Gwyddom fod y teulu de Penres (Pen-rhys), a ddaliai ffiff Mounty Borough hefyd (Pen-rhys a Horton yn ddiweddarach), hefyd yn dal ffiff Dwyrain Pilton. Mae'n debyg mai aneddiadau ôl-ganoloesol Dwyrain a Gorllewin Pilton a Pitton yw safleoedd cyn-aneddiadau canoloesol (h.y. anheddiad Canoloesol Anghyfannedd).

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol gwelodd yr ardal hon, ynghyd â'r rhan fwyaf o Fro Gwyr, newidiadau mawr yn ei thirwedd amaethyddol a'i phatrymau daliadaeth. Y teulu Mansel oedd y prif berchennog tir yn yr ardal bellach a'r perchennog tir mwyaf ym Mro Gwyr. Er y gellir olrhain olion y gyn-system ganoloesol o gaeau agored yn y dirwedd fel rhandiroedd ffosiledig o fewn y patrwm caeau, mae'r dirwedd amgaeëdig bresennol yn ymwneud yn bennaf â gwaith a wnaed i gyfuno daliadau a ddechreuwyd yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Pitton yw'r prif anheddiad yn yr ardal, ac mae'n cynnwys neuadd loriog Fferm Great Pitton, sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, a'i hadeiladau atodol. Fel neuadd loriog, mae'r adeilad hwn yn gymharol anarferol ym Mro Gwyr, ac ymddengys ei fod yn awgrymu lefel arbennig o statws, sy'n ymwneud o bosibl â chanolfannau maenoraidd nas datblygwyd. Tua 1780 roedd Great Pitton yn rhan o ystad George Venables, 2il Farwn Vernon o Lansawel. Ym 1845 fe'i cofnodir fel tenantiaeth George Beynon yn ystad Syr Josiah Guest. Roedd y teulu Beynon yn Fethodistiaid lleol blaenllaw a defnyddiwyd y gegin a'r ysgubor yn Great Pitton ar gyfer cyfarfodydd y Methodistiaid Wesleaidd yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ddiweddarach adeiladwyd capel ym 1833, yn y lôn islaw Fferm Great Pitton. Ar wahân i'r teulu Vernon o Lansawel ystad y teulu Pen-rhys oedd yr ystad bwysig arall a feddai ar dir yn yr ardal yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO y pedwar prif glwstwr o aneddiadau yn yr ardal, sef Pitton, Pitton Cross, Pilton a Pilton Green, a ffermydd anghysbell i'r gogledd ac i'r gorllewin o'r ardal. Cynhwysai Pitton, ac mae'n dal i gynnwys, y brif fferm a'r rhes siâp U o adeiladau fferm sy'n ffurfio Fferm Great Pitton, â'i strimyn o fythynnod cysylltiedig, y pwll llifio a'r odyn galch gerllaw, a Chapel Methodistaidd (Wesleaidd), Fferm Pitton, yn ymestyn i'r gogledd ar y lôn droellog sy'n arwain i Fferm Corner House a chyffordd y groesffordd â Ffordd Rhosili. Yn union i'r gogledd o'r ffordd dangosir Fferm Gables ar y lôn i'r gogledd yn mynd heibio i efail a Melin Pitton (Yd) a nifer o fythynnod o fewn dyffryn nant coediog. Dangosir yr ardal i'r gogledd fel matrics o gaeau heb eu gwella ac wedi'u gwella o wahanol fath, yr ymddengys iddynt gael eu cymryd o dir comin neu dir diffaith gerllaw dros amser, ac sy'n ymwneud yn ôl pob tebyg â phroses gymysg o amgáu tir bryniog a thresmasu ar dir bryniog. O fewn yr ardal hon dangosir bythynnod a ffermydd anghysbell wedi'u lleoli gerllaw cwr presennol y tir comin; mae'r rhain yn cynnwys Bwthyn Prospect, Hoarstone, Kenmoor, Fernhill a Sluxton â'i bwll llifio. I'r dwyrain o Pitton ceir anheddiad Pitton Cross; adeg llunio argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, cynhwysai Pitton Cross un fferm, a darn trionglog o Dir Comin, ychydig i'r dwyrain safai Bwthyn Pitton Moor (o fewn yr ardal gyfagos), ac i'r de-ddwyrain Fferm Kimley Moor a bythynnod gwasgaredig. Cynhwysai pentrefan Pilton, a oedd yn anheddiad canoloesol anghyfannedd yn ôl pob tebyg, ffermydd cyfagos Gorllewin a Dwyrain Pilton yr oedd gan bob un eu lleiniau eu hunain o dir pori garw hirgul (llwybrau porthmyn o bosibl) a arweiniai at yr hyn yr ymddengys ei fod yn gyn-forfa. Yn achos y fferm gyntaf mae'r cyn-forfa bellach yn dir pori garw, yn achos yr ail mae bellach yn cynnwys grwp o gaeau wedi'u gwella a elwir yn Forfa Kimley. Ym mhen dwyreiniol yr ardal dangosir anheddiad Pilton Green, bryd hynny cynhwysai Fferm Pilton Green (De) wedi'i gwahanu oddi wrth Fwthyn Fferm Pilton Green Farm a Bwthyn Green gan lain neu lawnt agored afreolaidd ei siâp.

Mae'n debyg bod hanes hir i grefftau a diwydiant gwledig yn yr ardal hon ac mae gweithgarwch melino yn dyddio o'r cyfnod canoloesol os nad ynghynt. Fel arfer byddai daliadau maenoraidd yn ystod y cyfnod canoloesol wedi cynnwys o leiaf un felin; cyfeiriad at brydles am felin yd ddyddiedig 1631, sy'n enwi rhyw Philip Tailour fel daliwr y brydles, yw'r cofnod cyntaf o Felin Pitton. Mae'n debyg bod y felin yn bodoli ar y safle cyn yr ail ganrif ar bymtheg. Yn ôl tystiolaeth ddogfennol (cyfuniad o brydlesau a rholiau rhenti yng nghasgliad Pen-rhys) atgyweiriwyd y felin ym 1725 ac fe'u gosodwyd ar brydles i John Evan ym 1759, Mary Evan ym 1793, John Ace 1796, William Evan tua 1800 a William Taylor o 1845 nes iddi gau ym 1899. Credir i'r felin hon gyflenwi'r rhan fwyaf o'r haidd a'r blawd ceirch ar gyfer plwyf Rhosili (Taylor 1991, 20-21).