The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

041 Bishop's Wood


Ffoto o Bishop's Wood

HLCA041 Bishop's Wood

Tirwedd dyffryn afon coediog: coetir hynafol a phrysgwydd; a gweithgarwch amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Bishop's Wood gan goetir a phrysgwydd o fewn yr AOHNE i'r gogledd o Fae Caswell o fewn yr hyn sydd fel arall yn dirwedd amaethyddol a threfol. Mae'r ardal yn gorwedd ar hyd ffin cyn-blwyfi Llandeilo Ferwallt ac Ystumllwynarth.

Nodweddir ochr orllewinol y dyffryn hwn gan goetir hynafol yn bennaf ac mae'n SODdGA, tra bod y llethr dde-ddwyreiniol yn cynnwys prysgwydd ac ambell i goeden yn tyfu yma ac acw. Ni chofnodwyd fawr ddim tystiolaeth archeolegol yma ar wahân i'r ddwy odyn galch (02537w, 02530w) a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO. Yr unig ddarganfyddiad bach a gafwyd yn yr ardal yw blaen saeth fflint adfachog unigol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Neolithig (NMGW 12931).

Lleolid bwthyn Caswell a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Westy Bae Caswell ac ymddengys ei fod yn annedd gymharol sylweddol a chanddi gaeau cysylltiedig, fodd bynnag, mae'n debyg ei bod yn adfail bellach ymysg y coed.