Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Gwy Isaf


Mae'r ardal a ddewiswyd yma fel Pen Isaf Dyffryn Gwy yn ymestyn rhwng Symonds Yat, Trefynwy a Chas-gwent, ac am y rhan fwyaf o'r ffordd mae'n geunant hirfain rhnwng llwyfandir calchfaen Pen Isaf Gwy-Fforest y Ddena sydd ym mhen deheuol dyffryn yr Afon Gwy. Nodweddir y ceunant ymdroellog mewn llawer man gan glogwyni calchfaen serth a llethrau eithriadol o serth sy'n codi 150 i 200m o lawr y dyffryn, sy'n gyfwastad 'r mr, i wynebau'r llwyfandir o bobtu. Rhwng y ceunentydd, mae i'r dyffryn eangderau lletach gyda bryniau mwy crwn ac ochrau sydd yn aml yn edrych i lawr dros ddyffrynnoedd llai yr isafonydd. Cydnabyddir bod yr ardal yn un o'r tirweddau iseldir mwyaf deniadol o ran ei olygfeydd ym Mhrydain, ac un o'r ychydig Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd yn iseldir. Dyma hefyd un o'r ychydig fannau sydd ar l gydag eangderau gweddol fawr o goetir llydanddail hynafol, tra bod tir pori, caeau gwair, gwrychoedd a choedlasau'r tirwedd amaethyddol yn y dyffryn a'r cyffiniau hefyd yn gynefinoedd naturiol cyfoethog o arwyddocd hanesyddol.

Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.

Yn hanes celfyddyd, gwerthfawrogwyd nodweddion golygfaol y dyffryn yn gynnar iawn; dyma ysbrydolodd y Parchedig William Gilpin ym 1770 i ysgrifennu el draethawd pwysig ar y syniad a'r darluniad o dirwedd fel y Darlunaidwy. Ynghyd i gysylltiadau celfyddydol, mae gan y dyffryn hefyd dreftadaeth archeolegol gyfoethog, o'r cyfnod cynhanesyddol i'r gorffennol diweddar, sy 'n adlewyrchu ei bwysigrwydd fel tramwyfa, ffin naturlol a gwlerdyddol, a chanolfan bywyd crefyddol a llawer o ddiwydiannau cynnar

Ymhlith y safleoedd archeolegol, mae beddrodau cryniono Oes yr Efydd a bryngaerau o Oes yr Haearn, megis gwersyll Coed Blackfield, sy'n rhoi mannau gwych i wylio dros y dyffryn, i safleoedd Brythonaidd-Rufeinig, a chestyll o waith cloddiog Normanaidd. Yn dilyn Afon Gwy yn agos, yn uchel uwchlaw ei glan ddwyreiniol, mae Clawdd Offa, y clawdd unionlin o'r 8fed ganrif a oedd o arwyddocd economaidd a gwleidyddol enfawr. Fel clawdd sylweddol a gadwyd yn dda, mae Clawdd Offa bellach yn rhan annatod o'r amgylchedd naturiol yn ogystal hanesyddol. O bobtu'r ceunant mae bwrdeistrefi castellog canoloesol Trefynwy a Chas-gwent, pwyntiau strategol pwysig yng ngorchfygiad Cymru yn niwedd yr 11ed ganrif, a chyn hynny, mae'n debyg eu bod yn aneddiadau pwysig yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Tywyll. Heddiw, mae rhannau o'r afon yn dal i ffurfio rhannau o'r ffin cenedlaethol rhwng Cymru a Lloegr. Yn ogystal bod yn ffin, cyfrannodd yr Afon Gwy atdwf economaidd y dyffryn, bu'n gyfrwng cludiant, masnach ac i dramwyo. Arferid cludo'r rhan fwyaf o nwyddau yn l ac ymlaen i Fynwy ar ysgraffiau tan 1815, pryd y gwnaed ffyrdd trwy'r ardal. Arwydd o bwysigrwydd yr Afon Gwy yn hyn o beth yw'r enwau sy'n dal i oroesl, megis Tafarn y Sloop yn Llandogo. Fodd bynnag, yr oedd coredau a godwyd i ddal eogiaid yn rhwystro tramwyo rhydd ar hyd yr afon. Byddai'r coredau hyn yn destun anghydfod, ac y mae cofnodion yn bodoli am hyn ers y 14edd ganrif.

Yn goruchafu yng nghanol y dyffryn, yn yr ystyr gorfforol ac ysbrydol, mae olion rhyfeddol Abaty Tyndyrn, un o'r mynachlogydd enwocaf ym Mhrydaln, a sefydlwyd ym 1131; mae'r ohon yn dal i oruchafu dros lawr y dyffryn tawel. Cafodd y fynachlog ai holl adeiladau, sy'n ymestyn dros ryw 11ha, gan gynnwys eglwys yr Abaty, eu hail-ffurfio a'u ehangu lawer gwaith yn ystod pedair canrif eu bodolaeth; yr oedd hyn yn adlewyrchiad o gyfoeth mawr. Daeth y Ty Sistersaidd mawr hwn yn enwog yn y tirwedd, trwy dirlunia gan l arlunwyr o'r 18fed ganrif ymlaen.

Mae i'r dyffryn dreftadaeth hanesyddol cyfoethog, a gafodd ddylanwad mawr ar batrwm yr aneddiadau. Mae tystoolaeth archeolegol yn cadarnhau fod y coetiroedd yn nyffryn yr Afon Gwy ac yn Fforest y Ddena gyfagos wedi'u hymelwa ar raddfa fasnachol. Yr ardal hon, gyda'i chyflenwad parod o goed ar gyfer golosg, oedd un o'r llefydd gyda'r crynodiad mwyaf eang ym Mhrydain o safleoedd toddi mwyn haearn, o'r cyfnod Rhufeinig hyd at ddiwedd y l8fed ganrif. Ymhlith gweithgareddau diwydiannol eraill yn y dyffryn a'i gyffiniau yr oedd gwneud papur, trin crwyn, cynhyrchu tun, chwareli cerrig a gwneud meini melin. Yr oedd hyn oll yn cyfrannu at sefydliad a thwf llawer o'r pentrefi, a ddaeth i ddibynnu ar yr afon fel cyfrwng masnach ac fel tramwyfa.

Abaty Tyndyrn oedd un o'r prif ffactorau a arweiniodd at sefydlu Tyndyrn a neilltuwyd yn bennaf, wedi Diddymiad y mynachlogydd yn y 16ed ganrif, i ddwydiannau oedd yndefnyddio pwer dwr a'r coedydd helaeth. Gellir gweld parhad y diwydiannau hyn, oedd yn dibynnu ar reoli'r dwr, yn nyffrynnoedd isafonydd Angidy, Gwenffrwd a'r Redbrook Isaf ac Uchaf.

Dyffryn Angidy, sy'n ymuno dyffryn Afon Gwy yn Nhyndyrn, yw un o safleoedd diwydiannol cynharaf De Cymru. Ym 1566, sefydlwyd gwaith gwifrau, yn gyntaf i wneud gwifrau pres, er y gwnaed gwifrau haearn o 1568 ymlaen, gan barhau tan 1880. Yr oedd angen gwifrau i wneud cribau i'r diwydiant gwln, hoelion, pinau, gweill, bachau pysgota ac ati. Mae olion y diwydiannau hyn yn dominyddu llawr y dyffryn bach, ac y maent yn cynnwys y gwaith haearn yn Nhyndyrn ac eraill yn ymestyn i fyny'r dyffryn; ffwrneisi blast, melinau, gefeiliau, pyllau, ffosydd, doc ar yr Afon Gwy a thai diwydiannol cynnar.

Mae olion olynol diwydiant cynnar oedd yn dibynnu ar reoli dwr hefyd wedi'u cadw yn nyffryn y Gwenffrwd, sydd yn codi yn Five Trees ac yn llifo i'r dwyrain trwy ddyffryn coediog i gwrdd 'r Afon Gwy, 6km i'r de o Drefynwy. Y diwydiant cyntaf a ddenwyd i'r llednant hon o'r Afon Gwy oedd gweithio gwifrau, a godwyd fel estyniad i Waith Gwifrau enwog Tyndyrn tua 1567. Erbyn 1600, mae'n debyg bod pum safle gwaith gwifrau ar waith yn y dyffryn.

Sefydlwyd melinau papur tua 1761, pryd y daeth papur wal yn ddull poblogaidd o addurno tai ffasiynol. Erys olion pedair melin bapur ar hyd y dyffryn, ac y mae'r rhain, gyda'u nodweddion archeolegol ategol, megis pyllau a ffosydd cloddiog, yn enghreifftiau pwysig o sefydliad diwydiannol cynnar; ni amharwyd ar ei gymeriad chwaith gan ddatblygiadau cyfoes. Ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Gwy, ryw 4km i'r de ddwyrain o Drefynwy, yr oedd llawer melin yd yn nyffryn Redbrook Uchaf, a gwaith tun plat yn nyffryn Redbrook Isaf gerllaw. Mae dyffryn Redbrook Uchaf o ddiddordeb archeolegol gan ei fod yn cynnwys trosbont Incln Redbrook a phont Rheilffordd Swanpool gyda'i thwnnel a'i adeiladwaith brics gwyrgam rhyfedd sy'n ymddangos yn chwithig.