The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

033 Henllys


Ffoto o Henllys

HLCA033 Henllys

Tirwedd amaethyddol a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun afreolaidd datblygedig sy'n cynnwys llain-gaeau canoloesol; ffiniau traddodiadol; nodweddion anheddu a nodweddion amaethyddol canoloesol ac ôl-ganoloesol; anheddiad gwasgaredig; adeiladau ôl-ganoloesol diddorol (ffermydd) a saif o bosibl ar safle adeiladau canoloesol cynharach; cysylltiadau posibl â dechrau'r cyfnod canoloesol (safle Llys). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Henllys yn cynnwys cyn-Faenor Henllys. Mae'r ardal yn diffinio'r daliadau tir a gysylltir yn bennaf ag Old Henllys a New Henllys ac mae'n cynnwys ffriddoedd/cyn-forfa amgaeëdig ar hyd y cwr gorllewinol yn ogystal â thiroedd craidd amgaeëdig cynharach.

Mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal hon yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol fel y tystia darganfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod hwn, gan gynnwys ysgrafelli, naddyn a naddyn wedi'i ail-weithio..

Ychydig a wyddom am hanes cynnar yr ardal; gall yr enw lle Henllys adlewyrchu pwysigrwydd yr ardal hon cyn i'r Normaniaid gyrraedd Bro Gwyr, a gall gyfeirio at fodolaeth anheddiad Cymreig brodorol ar ffurf maerdref. Ar ôl i'r Normaniaid gyfeddiannu'r ardal daeth yn Faenor Fên. Arolygwyd y Siantri neu gapel rhydd Henllys yn Llanddewi (05291w; 01457w; 11802) ym 1545 a 1547 gan gomisiynwyr a benodwyd gan Harri VIII; hyd y gwyddom nid oes unrhyw olion o'r Siantri wedi goroesi (Evans 2003a, 2004). Anheddiad gwledig anghyfannedd (00154w; 15430) sy'n cynnwys cwt a chrofft ganoloesol yw'r unig nodweddion hysbys sydd wedi goroesi o'r cyfnod canoloesol yn yr ardal hon.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol gwelodd yr ardal hon, ynghyd â'r rhan fwyaf o Fro Gwyr, newidiadau mawr yn ei thirwedd amaethyddol a'i phatrymau daliadaeth. Y teulu Mansel oedd y prif berchennog tir yn yr ardal bellach a'r perchennog tir mwyaf ym Mro Gwyr. Er y gellir olrhain olion y gyn-system ganoloesol o gaeau agored yn y dirwedd fel rhandiroedd ffosiledig o fewn y patrwm caeau, mae'r dirwedd amgaeëdig bresennol yn ymwneud yn bennaf â gwaith a wnaed i gyfuno daliadau a ddechreuwyd yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Roedd Henllys yn faenor a ddelid gan Henry Mansell ym 1583. Mae Rice Merrick yn cofnodi i Henry Mansell brynu'r faenor, a fuasai'n etifeddiaeth y teulu Barrett cyn hynny, gan Erasmus Saunders. Yn dilyn problemau ariannol ym 1715 trosglwyddwyd Maenor Henllys o'r Capten Edward Mansel i'w berthynas Thomas Barwn Cyntaf Mansel o Fargam, a daeth yn rhan o Ystad Margam ac yn ddiweddarach Ystad Pen-rhys. Ad-drefnwyd demên Henllys o ganlyniad ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif: golygai hynny rannu'r daliad helaeth a ffermid yn wreiddiol o Henllys yn ddaliadau llai o faint, gan gynnwys fferm New Henllys. O ganlyniad ailenwyd maenordy Henllys yn Old Henllys.

Parhaodd ty Henllys a'i fferm gysylltiedig a gynhwysai dros 200 erw (81 hectar) ym meddiant y teulu Mansel nes iddo gael ei werth i denantiaid yn y 1960au. Mae gan dy Old Henllys (01634w; 19501) gynllun brodorol sy'n nodweddiadol o Fro Gwyr ac mae ganddo rannau ochrol. Cyntedd yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg yw uned ganolog y ty. Mae gan y ty hwn sy'n perthyn i grwp yr aelwyd-gyntedd risiau mynediad o gerrig yn y talcen a tho llechi croes, cwpwrdd gwely, ychwanegiadau diweddarach, ac mae gan ran ohoni do gwellt. Mae'n debyg i uned y cyntedd gael ei hadeiladu yn erbyn bloc gorllewinol cynharach neu gyfoes, a ddymchwelwyd ar ôl hynny. Ni ellir dyddio'r estyniad gorllewinol a welir heddiw, ond mae'n sylweddol iawn: rywbryd neu'i gilydd fe'i haddaswyd yn llety domestig, am fod drws mewnol i'r rhan gynharach ar bob llawr. Mae simnai fawr (a elwir yn draddodiadol yn Simnai Ffleminaidd, ond nad yw'n enghraifft fawr yn ôl safonau Sir Benfro) yn bargodi yn y canol yn y talcen. Mae estyniad dwyreiniol llai o faint yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif a'r ugeinfed ganrif. Credir bod seleri brics â fawtiau baril yn gronfa ddwr glaw ar gyfer y ty yn wreiddiol (Morris 1998, 107-117; disgrifiad adeilad rhestredig).

Dangosir fferm New Henllys, sy'n dal i fodoli, ar fap o ystad Pen-rhys dyddiedig 1786 gyda rhes o adeiladau allan ynghlwm wrth ei phen gogleddol. Mae gan y ty eithaf mawr hwn sydd yn arddull y Dadeni gyntedd grisiau canolog rhwng cegin a pharlwr a simneiau yn y ddau dalcen, a ffasâd cymesur tipyn bach yn onglog sy'n nodweddiadol o'r cyfnod. Credir i New Henllys gael ei hadeiladu yng nghanol y 18fed ganrif, o dan denantiaeth y teulu Hancorne, yn hytrach na phrydles un oes Marry Harris, a ddechreuodd yn y 1720au. Er i'r teulu Hancorne rentu New Henllys ar brydles o1731, isosodwyd y ty i wahanol denantiaid; yn gyntaf Hoskin(s), tad a mab efallai, ac o 1830 i'r teulu Hugh(es) tan rywbryd yn ystod yr 20fed ganrif (Morris 1998, 39-42).

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO a mapiau ystad cynharach i'r system gaeau aros yn ddigyfnewid fwy neu lai o'r 18fed ganrif ymlaen, a dyma'r system gaeau a welir heddiw ar wahân i rywfaint o waith ar raddfa fach a wnaed yn ail hanner yr 20fed ganrif i gyfuno rhai o'r caeau neu lain-gaeau llai o faint. Ymddengys fod darnau o dir pori garw amgaeëdig, yn arbennig i'r de ac i'r gorllewin o Old Henllys, yn nodi darnau o gyn-dir diffaith neu dir comin agored, cadarnheir hynny i ryw raddau gan dystiolaeth enwau lleoedd megis Lower Old Moor (sydd bellach yn adfeiliedig ac a ailenwyd yn Kingshall) a Higher Old Moor. Roedd y rhain a chyn-fferm anghysbell Kingshall (a oedd yn adfail erbyn cyhoeddi argraffiad 1af map yr AO) wedi'u cysylltu ag Old Henllys gan Lôn Kingshall; rhedai'r lôn werdd/llwybr porthmyn hwn rhwng Llanddewi trwy Old Henllys a thir comin gorllewinol Twyn Rhosili. Dangosir anheddiad Henllys fel rhes linellol o adeiladau a leolir o fewn iard o fewn matrics o gaeau amrywiol, mae adeiladau allan bach yn ymestyn i bwll tua'r dwyrain, tra bod y buarth yn cynnwys tair rhes o adeiladau allan wedi'u lleoli heb fod ymhell i'r gorllewin ynghyd â phwll llifio a chwareli segur i'r de. Ychydig i'r dwyrain o'r anheddiad mae llwybr llydan o dir pori garw yn ymestyn i'r de islaw Lôn Kingshall, y tu hwnt i bwll crwn, i gae afreolaidd ei siâp yn cynnwys tir pori garw, sy'n cynrychioli o bosibl gyn-dir comin.

I'r gogledd-ddwyrain o Old Henllys ceir New Henllys, a leolir yn fwy cyfleus ar gyfer y lôn eilradd i Burry Green ac fe'i dangosir fel fferm y mae rhes siâp L ynghlwm wrthi i'r gogledd, gydag adeilad allan annibynnol gyferbyn â hi sy'n ffurfio iard dair ochr. Lleolir gerddi/lleiniau llysiau i'r de o'r ty. Saif adeilad arall ar ei ben ei hun gerllaw i'r gorllewin, tra ceir pwll ymhellach i'r gogledd-orllewin. Dangosir ffermydd bach Lower Pitlands (Betlands bellach), trefniant siâp T o ddwy res ar wahân, a bwthyn nas enwir i'r gogledd ar ymyl y lôn eilradd i Burry Green (annedd gweithiwr amaethyddol di-dir yn ôl pob tebyg) ar argraffiad 1af map yr AO hefyd.