Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


Mae tirwedd y Rhondda yn dirwedd hanesyddol brin a phwysig ac felly caiff ei chynnwys yng Register of Landscapes of Historic Interest in Wales: Part 2:2: Landscapes of Special Historic Interest (2001). Mae'r broses o gofnodi nodweddion y dirwedd, sef diben yr adroddiad hwn, wedi llwyr ategu'r farn hon gan gynnig argymhellion ar gyfer rheoli'r ardal hon dros yr hirdymor a hynny mewn modd rhagweithiol.



Cliciwch ar yr ardal am wybodaeth pellach


Dewiswyd y dirwedd hanesyddol bwysig hon, a leolir yn ne Cymru, drwy gonsensws proffesiynol a chynrychiola un o'r cytrefi a'r cymunedau glofaol mwyaf ac enwocaf ym Mhrydain. Mae'r dirwedd ehangach yn gyforiog o adnoddau archeolegol amrywiol a thematig sy'n cynrychioli nifer o gyfnodau a mathau gan ddangos lefel dda o ddiddordeb a pharhad diwylliannol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae'r ardal dan fygythiad o sawl tu, yn gyhoeddus a phreifat ac yn arbennig, cynlluniau gwella ac adfer y dirwedd a chynlluniau adnewyddu trefol. Mae'r rhain yn digwydd ar adeg pan nad oes, hyd yma, werthfawrogiad llawn o werth a chyflwr yr adnodd archeolegol diwydiannol a'r adnodd archeolegol cynharach, yn enwedig yng nghyd-destun y dirwedd.

Felly, mae'n amserol a derbyniol bod y project hwn wedi'i ysgogi, ei gomisiynu a'i ariannu gan Cadw fel rhan o fenter ehangach drwy Gymru gyfan. Y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn ysgogiad i ystyried ar fyrder gadwraeth y Rhondda yn y dyfodol.


Prosesau, themâu a chefndir hanesyddol y Rhondda


Yr Ardaloedd Cymeriad

HLCA 001 Y Porth: Mynedfa i Gymoedd y Rhondda
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol; anheddiad glofaol cyfansawdd; ardal anheddu diwydiannol gynnar gyda thai cyfoes a datblygiadau glofaol cynnar; nodweddion adeiledig, yn dyddio gan amlaf o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, gan gynnwys tai teras, capeli, eglwysi, adeiladau cyhoeddus, siopau a sefydliadau gweithwyr; mae'r anheddiad presennol yn gytrefiad cnewyllol a ganolir ar ardal fasnachol graidd ddiweddarach; canolbwynt cludiant/dosbarthu; canolfan gynnar i Gristnogaeth anghydffurfiol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA001)

Y Porth, golygfa i'r dwyrain o gyfeiriad Dinas gyda Mynydd-y-Glyn yn y cefndir.


(Ffoto: GGAT HLCA002)

Parc Treftadaeth y Rhondda yn y blaen gyda rhan o Drehafod a Mynydd-y-Glyn yn y cefndir.

HLCA 002 Hafod
Dau anheddiad glofaol 'pen pwll' llinellol cam cyntaf, a oedd yn wreiddiol yn rhesi unigol o dai teras a bythynnod, datblygiad strimynnog a phatrwm grid o ddiwedd y 19eg ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, eiddo masnachol a chapeli; dim llawer o ddatblygiadau masnachol; henebion diwydiannol wedi goroesi, Parc Treftadaeth y Rhondda.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 003 Pen-y-graig
Anheddiad glofaol 'pen pwll' cam cyntaf gyda gwreiddiau cnewyllol cynharach, datblygiad strimynnog diwydiannol diweddarach a phatrwm grid o ddiwedd y 19eg ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, eiddo masnachol a chapeli; tai cyngor cynnar; canolfan fasnachol gymharol ddatblygedig; cysylltiadau diwylliannol/hanesyddol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA003)

. Golygfa o'r awyr o Benygraig o'r gogledd orllewin gyda Mynydd Penygraig yn y cefndir.

(Ffoto: GGAT HLCA004)

Trewiliam gyda Mynydd Dinas yn y cefndir.

HLCA 004 Trewiliam
Anheddiad glofaol cam cyntaf bychan, datblygiadau ail a thrydydd cam yn ddiweddarach; anheddiad datblygiad strimynnog a phatrwm grid o ddiwedd y 19eg ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, eiddo masnachol a chapeli; pentref glofaol preswyl gyda nifer fach o ddatblygiadau swyddogaethol a morffolegol trefol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon


Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 005 Trealaw
Anheddiad glofaol cyfansawdd, anheddiad pen pwll cam cyntaf, anheddiad bychan cnewyllol o derasau llinellol wedi'u codi gan y lofa gydag ychwanegiadau strimynnog diweddarach helaeth; tai teras nodweddiadol yn parhau a chapeli etc; pentref glofaol preswyl gyda chlwb adeiladu, tai hapfasnachol a thai perchenogion-deiliaid; mynwent fawr yn gwasanaethu'r ardal, gan gynnwys pen isaf a chanol y Rhondda Fach; dim llawer o ddatblygiadau masnachol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon


Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA005)

Golygfa o'r awyr o Drealaw o'r de ddwyrain.

(Ffoto: GGAT HLCA006)

Tonypandy, canol gyda Threalaw ym mlaen y llun.
HLCA 006 Tonypandy
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol (gan gynnwys caffis Eidalaidd a siopau trin gwallt); anheddiad cyfansawdd, gydag anheddiad rhagflaenol ôl-ganoloesol a ganolwyd ar Bandy neu felin bannu gydag anheddiad strimynnog cam cyntaf, gydag ychwanegiadau patrwm grid helaeth, yn bennaf yn ystod yr ail gam; ailddatblygu'r ardal cam 1af cychwynnol yn ddiweddarach fel canolfan fasnachol yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, siopau, capeli ac adeiladau cyhoeddus y cyfnod; tai hapfasnachol yn bennaf yn ystod cyfnodau mwy diweddar.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 007 Cwm Clydach
Enghraifft o aneddiadau glofaol pen pwll cam cyntaf darniog, gyda rhesi teras unigol; yn ddiweddarach anheddiad ail gam yn ôl cynllun gyda phatrwm strydoedd grid amlwg a therasau llinellol, gydag ychwanegiadau trydydd cam diweddarach ar lethrau'r bryn, gan roi gwedd weledol gymharol unffurf i'r ardal; aneddiadau glofaol preswyl gydag amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol cyfyngedig; enghreifftiau o glwb adeiladu ôl 1870au a thai hapfasnachol; tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân ar ochr y cwm.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon


Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA007)

Cwm Clydach.

(Ffoto: GGAT HLCA008)

Golygfa o'r awyr o Lwynypia gan ddangos Terasau'r 'Scotch' yn y blaen i'r dde.

HLCA 008 Llwynypia
Enghraifft brin o anheddiad pen pwll cam cyntaf cynnar yn y Rhondda; anheddiad clos a chnewyllol o derasau llinellol a adeiladwyd gan y lofa yn ôl cynllun, gydag ychwanegiadau strimynnog ail gam ac ychwanegiadau ar lethrau'r bryn yn bennaf; anheddiad glofaol preswyl gydag amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol cyfyngedig; enghreifftiau cynnar o dai teras a godwyd gan y lofa - 'Terasau'r Scotch' sef bythynnod teras ffrynt dwbl neilltuol; Ty Injan Glofa Llwynypia, sef enghraifft brin o heneb ddiwydiannol sydd wedi goroesi yn y Rhondda.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 009 Ystrad a Phentre
Datblygiad ochr ffordd llinellol cam cyntaf sy'n dyddio o ganol y 19eg ganrif, sy'n ymestyn i'r de o gnewyllyn ym Mhentre, gan wasanaethu nifer o byllau; ehangu ail gam diweddarach ar batrwm grid llinellol, yn benodol ym Mhentre a Bodringallt (Ystrad); pentref preswyl dilynol heb lawer o ddatblygiadau swyddogaethol a morffolegol trefol; canolfan gynnar i grefydd anghydffurfiol; cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA009)

Ystrad, golygfa o'r de gan ddangos yr ysgolion sy'n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, canol.

(Ffoto: GGAT HLCA010)

Golygfa o'r awyr yn dangos y Gelli, canol a Thon Pentre, ar y dde.

HLCA 010 Ton Pentre a'r Gelli
Anheddiad glofaol cyfansawdd yn cynnwys: datblygiad pen pwll cam cyntaf o ganol y 19eg ganrif gyda thai cychwynnol a godwyd gan y lofa a phatrwm grid i gynnwys i system ffordd a fodolai a rhesi unigol gyferbyn; a datblygiad ail gam yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ar batrwm grid llinellol, gan gynnwys creu anheddiad pen pwll ail gam mawr yn y Gelli a mân ychwanegiadau trydydd cam; pentref glofaol preswyl heb lawer o ddatblygiadau swyddogaethol a morffolegol trefol; canolfan ganoloesol a phlwyfol yn ddiweddarach (Ton Pentre).
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 011 Treorci
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol; anheddiad cam cyntaf yn bennaf ar dir Ystad Bute gyda lefel amlwg o gynllunio, gyda stryd fawr weddol lydan a ddatblygwyd yn ddiweddarach fel y ganolfan fasnachol gyda phatrwm grid llinellol bob ochr wedi'i datblygu dros y tri cham; datblygodd y ganolfan fasnachol sylweddol o'r aneddiadau glofaol cychwynnol; nodweddion adeiledig, yn dyddio'n bennaf o ddiwedd y 19eg ganrif/dechrau'r 20fed ganrif gan gynnwys tai teras, capeli, eglwysi, adeiladau cyhoeddus, siopau a sefydliadau gweithwyr; mynwent fawr yn gwasanaethu'r ardal, h.y. y Rhondda Fawr; anheddiad yn gysylltiedig â nifer o byllau glo lleol, yn bennaf glofa Abergorci, gyda'i hanheddiad o resi unigol; prif gyffordd; cysylltiadau diwylliannol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA011)

Treorci: Sefydliad y Gweithwyr Abergorci.

(Ffoto: GGAT HLCA012)

Cwm-parc, golygfa o'r dwyrain gyda Graig-fawr yn y cefndir.

HLCA 012 Cwm-parc
Enghraifft o anheddiad(aneddiadau) glofaol pen pwll, a ddatblygodd o resi unigol yn ystod y cam cyntaf a unwyd yn anheddiad llinellol parhaus unigol yn ystod yr ail a'r trydydd cam; terasau llinellol yn rhoi gwedd weledol unffurf i'r ardal; aneddiadau glofaol preswyl heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol; enghreifftiau o dai glofaol cyn 1880 a thai hapfasnachol diweddarach; tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân ar ochr y cwm.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 013 Treherbert
Anheddiad glofaol cam cyntaf a adeiladwyd ar yr Ystad yn ôl cynllun gydag ychwanegiadau cymharol fach yn ystod yr ail a'r trydydd cam; tai nodweddiadol yn parhau ac eiddo masnachol wedi'i addasu etc; adeiladau diddorol yn dyddio o'r 19eg ganrif, ee Ysgol Genedlaethol ac Ysgoldy, elusendai a Stryd Dumfries a chapeli niferus; ychwanegiad pentref gardd a thai cyngor cynnar; cynllun patrwm grid; canolfan fasnachol gymharol ddatblygedig.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA013)

Treherbert: Elusendai St Mary, Bute Street.

 


(Ffoto: GGAT HLCA014)

Golygfa o'r awyr o Dy-newydd gyda Chwm-parc yn y cefndir.

HLCA 014 Ty-newydd
Anheddiad teras a godwyd gan y lofa yn ôl cynllun, ac a grëwyd yn wreiddiol fel Pentref Model; anheddiad glofaol cam cyntaf gydag ychwanegiadau ail a thrydydd cam, heb lawer o ddatblygiadau masnachol; tai teras nodweddiadol ac eiddo masnachol wedi'i addasu; safle Pwll Glo Rhondda Merthyr (tomenni'n goroesi).
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 015 Blaenrhondda
Anheddiad glofaol ym mhen uchaf y cwm wedi'i gynllunio'n llinellol; anheddiad pen pwll cam cyntaf gyda rhesi unigol ar y cyrion gydag ychwanegiadau trydydd cam; anheddiad preswyl gan fwyaf heb fawr ddim datblygiadau masnachol; gwedd weledol debyg, tra'n dynodi datblygiadau o fewn anheddiad glofaol ffurfiannol; hunaniaeth pentref neilltuol yn parhau ar wahân i'r aneddiadau cyfagos; enghreifftiau da o dai teras glofaol nodweddiadol a'r capeli ac ysgolion cysylltiedig; safle Pwll Glo Fernhill wedi'i adfer.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA015)

Golygfa o'r awyr gyda Blaenrhondda yn y blaen a Chwm-parc yn y cefndir.

(Ffoto: GGAT HLCA016)

Blaen-cwm, golygfa o'r gorllewin.
HLCA 016 Blaen-cwm
Anheddiad glofaol llinellol ym mhen uchaf y cwm; anheddiad glofaol cam cyntaf wedi'i lleoli o amgylch haen lo gynnar a'r gwaith adnewyddu trydydd cam wedi'i ganoli ar ddatblygiadau glofaol diweddarach, a nodweddir gan resi unigol gydag ychwanegiadau diweddarach yn ystod datblygiadau ehangu newydd yn ystod yr 20fed ganrif; cymeriad preswyl yn bennaf heb lawer o ddatblygiadau masnachol; yn dynodi datblygiadau o fewn anheddiad glofaol ffurfiannol; tarddiad ar wahân i aneddiadau cyfagos ac yn cadw hunaniaeth pentref neilltuol hyd heddiw; enghreifftiau da o dai teras glofaol annodweddiadol a nodweddiadol; tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân ar ochr y cwm.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 017 Ynys-hir
Yr anheddiad glofaol cyntaf yn y Rhondda Fach; anheddiad glofaol cam 1, 2 a 3, a ddechreuodd fel rhesi unigol nodweddiadol yn ystod y cam cyntaf, ond nodweddir y cymeriad presennol gan waith ehangu tua diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif a chan y patrwm llinellol; mae'r datblygiadau'n gysylltiedig â ffyniant y pyllau glo cysylltiedig; cymeriad preswyl yn bennaf, stoc tai sy'n dyddio'n bennaf o'r 1870au ymlaen; mân ddatblygiadau masnachol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA017)

Golygfa o'r awyr o Ynys-hir o'r de ddwyrain.


(Ffoto: GGAT HLCA018)

Golygfa o'r awyr o Wattstown o'r gorllewin.

HLCA 018 Wattstown
Anheddiad pen pwll ail gam cywasgedig yn gysylltiedig ag un lofa;anheddiad cywasgedig, cynlluniedig o derasau llinellol gydag ychwanegiadau trydydd cam gan gynnwys ystad ar ochr y bryn; tai a godwyd yn bennaf gan y lofa - enghreifftiau da o dai glofaol ôl-ddeddfwriaethol; anheddiad glofaol preswyl heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol; cysylltiadau hanesyddol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 019 Pont-y-gwaith, Tylorstown a Stanleytown
Ardal anheddu glofaol cyfansawdd yn cynnwys tri anheddiad 'pen pwll' ail gam cysylltiedig a oedd yn gysylltiedig â dwy/tair glofa; aneddiadau preswyl gyda stoc tai sy'n dyddio'n bennaf o'r 1880au ymlaen, gan gynnwys tai a godwyd gan y lofa, heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol a datblygiadau masnachol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA019)

Stanleytown, golygfa i'r dwyrain o safle uwchlaw Tylorstown.

(Ffoto: GGAT HLCA020)

Glynrhedynog o gyfeiriad Blaenllechau, golygfa o'r gogledd ddwyrain.

HLCA 020 Blanllechau a Glynrhedynog
Ardal anheddu glofaol cyfansawdd yn cynnwys dau anheddiad cam cyntaf cysylltiedig a oedd yn gysylltiedig ag un lofa; enghraifft brin o aneddiadau pen pwll cynnar a godwyd gan y lofa yn y Rhondda Fach; Glynrhedynog: anheddiad cam cyntaf cnewyllol cywasgedig o derasau llinellol a gynlluniwyd yn ôl patrwm grid a phatrwm strimynnog, gydag ychwanegiadau ail gam yn bennaf; Blaenllechau: anheddiad terasog llinellol cam cyntaf ar ochr y bryn, a oedd yn rhesi unigol yn wreiddiol, gyda datblygiad strimynnog ac ychwanegiadau ail gam; aneddiadau preswyl gyda thai nodweddiadol ac eiddo masnachol wedi'i addasu, gan gynnwys tai a godwyd gan y lofa, clwb adeiladu a thai hapfasnachol; adeiladau diddorol yn dyddio o'r 19eg ganrif, h.y. Capel Tre-Rhondda a Sefydliad y Gweithwyr; mynwent fawr yn gwasanaethu'r ardal; canolfan fasnachol gymharol ddatblygedig (Glynrhedynog yn unig).
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 021 Y Maerdy
Anheddiad glofaol pen pwll ail gam; lleoliad ym mlaen y cwm; yn benodol gysylltiedig ag un lofa; anheddiad cnewyllol cynlluniedig; craidd ail gam o dai teras unffurf, tai a godwyd gan y lofa a chyfleusterau hamdden; datblygiadau preswyl yn bennaf heb lawer o ddatblygiadau masnachol gydag ychwanegiadau trydydd cam gan gynnwys datblygiad strimynnog; hunaniaeth neilltuol ar wahân i'r gymuned gyfagos; tirwedd ddiwydiannol wedi'i hadfer.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA021)

Y Maerdy: Tai teras talcen sengl nodweddiadol, Griffiths Street.


(Ffoto: GGAT HLCA022)

Golygfa o'r awyr yn dangos ymyl ogleddol Blaenllechau, mae'r Ffaldau i'r dde.

HLCA 022 Ffaldau
Tirwedd amaethyddol greiriol; ffiniau caeau amlwg; rhan ar wahân o dir Cynllun Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel (HLCA) 023 Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon


Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 023 Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm
Tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol; ffiniau caeau amlwg; tystiolaeth a ddogfennwyd o arferion amaethyddol ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; anheddu ucheldirol ôl-ganoloesol (tai hirion); tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ac echdynnu mwynau, glo yn bennaf; coetir hynafol a choedwigaeth fodern.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA023)

Blaenllechau: Fferm ôl-ganoloesol a thai allan.

(Ffoto: GGAT HLCA024)

Llethrau caeëdig Mynydd Ty'n-tyle, golygfa o'r dwyrain.

HLCA 024 Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Gorllewinol y Cwm
Tirwedd angladdol cynhanesyddol; tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol; ffiniau caeau amlwg; tystiolaeth a ddogfennwyd o arferion amaethyddol ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; anheddu ucheldirol canoloesol; ffermdai ucheldirol ôl-ganoloesol (tai hirion); tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ac echdynnu mwynau, glo yn bennaf; coetir hynafol a choedwigaeth fodern.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 025 Mynachdy Penrhys
Tirwedd ucheldirol; ardal graidd i faenor ganoloesol a safle pererindota; arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol a chrefyddol; system gaeau ôl-ganoloesol greiriol a ffermdy(ai); prin oedd y dylanwad diwydiannol ar y dirwedd; cysylltiadau cynnar; tystiolaeth ddogfennol; tai cymdeithasol modern, coedwigaeth a hamdden.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA025)

Golygfa o'r awyr o'r ardal gymeriad gyda'r Rhondda Fawr yn y cefndir.

(Ffoto: GGAT HLCA026)

Mynydd Brith-weunydd yn dangos y tomenni a'r cwrs golff gyda Llwynypia yn y cefndir.

HLCA 026 Mynydd Brith-weunydd a Mynydd Troed-y-rhiw
Tirwedd ucheldirol; tirwedd angladdol cynhanesyddol; coridor cysylltiadau cynnar; rhan o gyn faenor fynachaidd ganoloesol; ffiniau amlwg a chynnar o bosibl; tirwedd ddiwydiannol helaeth.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 027 Brith-weunydd a Throed-y-rhiw
Tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol; ffiniau amlwg a chynnar o bosibl; rhan o gyn faenor Sistersaidd ganoloesol; anheddu ucheldirol ôl-ganoloesol (tai hirion); coridor cysylltiadau cynnar; ôl coetir hynafol ac enwau caeau Coedcae; tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ag echdynnu mwynau, glo yn bennaf.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA027)

Troed-y-rhiw: lloc ôl-ganoloesol a thomenni uwchlaw Ynys-hir.

(Ffoto: GGAT HLCA028)

Golygfa o'r awyr o Fynydd Dinas gan ddangos coetir gweddilliol a chopa wedi'i hadfer/tirlunio'n rhannol.

HLCA 028 Mynydd Dinas a Mynydd Cymer
Ffridd mynyddig neu ucheldirol; nodweddion amaethyddol greiriol; defnydd angladdol cynhanesyddol; anheddu ôl-ganoloesol, amaethyddol a diwydiannol; tirwedd ddiwydiannol ucheldirol helaeth.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 029 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol, greiriol yn bennaf; ffiniau caeau amlwg; anheddu a thirwedd angladdol cynhanesyddol; anheddu ac amaethu canoloesol ucheldirol; amaethu a ffermdai ôl-ganoloesol (tai hirion yn bennaf, yn nodweddiadol o'r rhanbarth); tystiolaeth ddogfennol o arferion ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; tirwedd ddiwydiannol helaeth gyda nodweddion yn dyddio o gyfnodau cynnar y broses o echdynnu mwynau.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA029)

Coetir cymysg a lloc ôl-ganoloesol yng Nghwm-y-fforch, Treorci.

(Ffoto: GGAT HLCA030)

Golygfa o'r awyr o Gronfa Ddwr Lluest-wen a rhannau uchaf y Rhondda Fach.

HLCA 030 Ucheldiroedd y Rhondda
Ffridd ucheldirol, yn rhannol goediog; tirwedd aml-gyfnod ac aml-swyddogaeth; tirwedd anheddu cynhanesyddol ac angladdol; coridor cysylltiadau cynnar; adeiladweithiau milwrol Rhufeinig a chanoloesol; ffiniau gweinyddol canoloesol cynnar; anheddiad ucheldirol canoloesol; tirwedd ddiwydiannol ôl-ganolesol; tirwedd amaethyddol ucheldirol greiriol; tystiolaeth ddogfennol ac enwau llefydd.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 031 Ucheldiroedd y Rhondda (Mynydd Ton - Mynydd Penygraig)
Ffridd ucheldirol, â choedwigaeth rannol; tirwedd aml-gyfnod ac aml-swyddogaeth; tirwedd anheddu cynhanesyddol ac angladdol; coridor cysylltiadau cynnar; adeiladweithiau milwrol; ffiniau gweinyddol canoloesol cynnar; anheddiad ucheldirol canoloesol; tirwedd ddiwydiannol ôl?ganoloesol; tirwedd amaethyddol ucheldirol greiriol; tystiolaeth ddogfennol ac enwau llefydd.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA031)

Golygfa o'r awyr o'r ucheldiroedd uwchben Cwm Clydach gan ddangos coedwigaeth yr ugeinfed ganrif.

(Ffoto: GGAT HLCA032)

Golygfa o'r ardal gymeriad o Fwlch-y-Clawdd, gan ddangos natur agored y dirwedd.

HLCA 032 Parc Cwm Brychinog
Ffridd ucheldirol, ychydig o goedwigaeth; tirwedd angladdol cynhanesyddol; anheddiad cynhanesyddol; coridor cysylltiadau cynnar; ffiniau gweinyddol canoloesol cynnar; parc hela canoloesol; nodweddion amaethyddol creiddiol; tystiolaeth ddogfennol ac enwau llefydd; tirwedd ddiwydiannol ôl-ganoloesol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 033 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm (Cwm Lan - Nant-y-Gwiddon)
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloeso/ôl-ganoloesol, greiriol yn bennaf; ffiniau caeau amlwg; tirwedd ac anheddu angladdol cynhanesyddol; amaethu ac anheddu canoloesol ucheldirol; amaethu a ffermdai ôl-ganoloesol (tai hirion yn bennaf, yn nodweddiadol o'r rhanbarth); tystiolaeth ddogfennol o arferion ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; tirwedd ddiwydiannol helaeth gyda nodweddion yn dyddio o gyfnodau cynnar y broses o echdynnu mwynau.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA033)

Tirwedd a fu gynt yn gaeëdig ar lethrau Mynydd y Gelli a Mynydd Llwynypia.

(Ffoto: GGAT HLCA034)

Llun 54. Fferm Gelli-Faelog, adfail daliad ôl-ganoloesol uwchben Tonypandy.

HLCA 034 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm (Mynydd Penygraig)
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol greiriol yn bennaf, yn debyg i HLCA 029, o bosibl â gwreiddiau canoloesol; ffiniau caeau amlwg; mân nodweddion echdynnu diwydiannol.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

HLCA 035 Mynydd-y-Glyn
Ffridd fynyddig neu ucheldirol; tirwedd amaethyddol a diwydiannol ucheldirol greiriol; gwaith adfer a choedwigo modern.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


(Ffoto: GGAT HLCA035)

Mynydd-y-Glyn, gan ddangos ardal o waith tirlunio a choedwigaeth.

(Ffoto: GGAT HLCA036)

Lloc ôl-ganoloesol islaw fferm Cilely.

HLCA 036 Cilelái a Rhiwgarn
Tirwedd amaethyddol greiriol; ffiniau amlwg; tresmasu canoloesol; anheddu canoloesol posibl a nodweddion amaethyddol cysylltiedig.
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 


Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
Nôl i'r prif fap HLCA015 Blaenrhondda HLCA016 Blaen-cwm HLCA014 Ty-newydd HLCA013 Treherbert HLCA011 Treorci HLCA012 Cwm-parc HLCA032 Parc Cwm Brychinog HLCA009 Ystrad a Phentre HLCA010 Ton Pentre a'r Gelli HLCA033 Rhondda Fawr: Ochrau Caeedig y Cwm (Cwm Lan - Nant-y-Gwiddon) HLCA008 Llwynypia HLCA006 Tonypandy HLCA005 Trealaw HLCA007 Cwm Clydach HLCA003 Pen-y-graig HLCA031 Ucheldiroedd y Rhondda (Mynydd Ton - Mynydd Penygraig) HLCA034 Rhondda Fawr: Ochrau Caeedig y Cwm (Mynydd Penygraig) HLCA029 Rhondda Fawr: Ochrau Caeedig y Cwm HLCA026 Mynydd Brith-weunydd a Mynydd Troed-y-rhiw HLCA004 Trewiliam HLCA027 Brith-weunydd a Throed-y-rhiw HLCA001 Y Porth: Mynedfa i Gymoedd y Rhondda HLCA028 Mynydd Dinas a Mynydd Cymer HLCA036 Cilelai a Rhiwgarn HLCA036 Cilelai a Rhiwgarn HLCA035 Mynydd-y-Glyn HLCA002  Hafod HLCA025 Mynachdy Penrhys HLCA017 Ynyshir HLCA018 Wattstown HLCA019 Pontygwaith, Tylorstown a Stanleytown HLCA024 Rhondda Fach: Ochrau Caeedig Gorllewinol y Cwm HLCA020 Blaenllechau a Ferndale HLCA021 Y Maerdy HLCA023 Rhondda Fach: Ochrau Caeedig Dwyreiniol y Cwm HLCA022 Ffaldau HLCA023 Rhondda Fach: Ochrau Caeedig Dwyreiniol y Cwm HLCA030  Ucheldiroedd y Rhondda