The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

071 Tir Comin Pengwern


Ffoto o Tir Comin Pengwer

HLCA071 Tir Comin Pengwern

Tir comin agored: prysgwydd nas rheolir; llwybrau cysylltu; nodweddion dwr; archeoleg gladdedig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Pengwern yn cyfateb i'r tir comin agored a elwir yn Dir Comin Pengwern, sydd yn ei hanfod yn barhad o Fynydd Llwynteg tua'r gorllewin.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar roedd pobl wedi bod yn tresmasu ar Dir Comin Pengwern a Welsh Moors/Tir Comin Forest gerllaw o gyfeiriad ffermydd Cilibion a Llethrid, i ffurfio'r ffin orllewinol bresennol, tra ymddengys fod prosesau tebyg ar waith yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg ar hyd ffiniau gogleddol a dwyreiniol y tir comin, ac roedd ffiniau presennol yr ardal hon wedi'u sefydlu erbyn y ddeunawfed ganrif. I'r de mae'r tir comin yn ffinio gan mwyaf â phalis Parc-le-Breos, ar wahân i fân dresmasiadau rhwng pont Llethrid a Phengwern, ac yn Newclose, a oedd yn bodoli erbyn 1801. Ychydig a wyddom am archeoleg yr ardal, er bod nodweddion yn cynnwys twmpath (00895w) a chlostir (300305) o ddyddiad anhysbys a leolir tua chwr deheuol y tir comin. Nodwyd nodweddion posibl eraill o arolwg cyflym a wnaed o ddeunydd ffotograffig a dynnwyd o'r awyr a dengys efallai fod nodweddion clostiroedd/aneddiadau (a all ddyddio o'r cyfnod cynhanesyddol neu ganoloesol) yn goroesi mewn cyflwr creiriol; fodd bynnag, byddai angen ymchwilio i hynny trwy wneud arolwg maes. Hanner grôt arian (03221w) a grôt (03220w) yn dyddio o gyfnod Henry VI yn y bymthegfed ganrif yw'r unig ddarganfyddiadau cofnodedig y gellir eu dyddio o'r ardal hon. Buwyd yn defnyddio'r ardal ar gyfer pori anifeiliaid ers y cyfnod canoloesol o leiaf.