The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

035 Maenor Llan-y-tair-Mair


Ffoto o Maenor Llan-y-tair-Mair

HLCA035 Maenor Llan-y-tair-Mair

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun lled-reolaidd datblygedig; ffiniau nodedig; cysylltiadau eglwysig canoloesol; anheddiad strimynnog a nodweddion amaethyddol ôl-ganoloesol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; nodweddion angladdol/defodol cynhanesyddol; a llwybrau cysylltu. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Maenor Llan-y-tair-Mair gan ffiniau hirsefydlog Maenor Llan-y-tair-Mair, sy'n cynnwys canolbwynt eglwysig canoloesol Llan-y-tair-Mair.

Mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol fel y tystia tri maen hir sydd wedi goroesi yr ystyrir eu bod yn dyddio o'r Oes Efydd. Yn ddiau roedd un o'r rhain (00084w; 305528; SAM GM150) yn rhan o aliniad o dri maen hir yn ymestyn o'r gogledd i'r de a leolid mewn cae a elwir yn Sheep Lays a ddangosir ar fap ystad dyddiedig 1784 (Morris 1960, 65) a leolir bron yn union i'r de o Higher Mill, Burry; mae dau o'r meini hir bellach ar goll. Mae ail faen hir (00085w; 305529; SAM GM134) a leolir i'r gorllewin ohonynt bellach ar ei gorwedd a gall fod yn gysylltiedig â'r tri arall yn ogystal â meini hir eraill y mae'n bosibl eu bod wedi'u lleoli yn yr ardal yn wreiddiol. Cloddiwyd y maen hir hwn gan Savory a Rutter ym 1948, fodd bynnag, ni loffwyd unrhyw wybodaeth am y maen ar wahân i'r ffaith yr ymddangosi ei fod wedi'i symud yn ddiweddar ar ôl i bot jam a photel wydr modern gael eu darganfod. Lleolir maen hir arall (00157w; 305470; SAM GM191) ychydig i'r gogledd o Eglwys y Santes Fair/Eglwys Sant Maurice yn Llan-y-tair-Mair.

Ychydig a wyddom am hanes cynnar yr ardal hon, fodd bynnag, mae'n bosibl y perthynai'r ardal yn wreiddiol i faenor Gymreig helaethach Landimôr cyn iddi gael ei rhannu gan y Normaniaid (Cooper 1998). Delid Llan-y-tair-Mair fel ffi marchog o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf ac efallai y perthynai bryd hynny i Gruffydd Gwyr a all fod wedi derbyn yr ardal fel gwobr am gefnogi Llywelyn (Draisey 2002, 54). Darganfuwyd ceiniog Edward I (01131w) yn dyddio o'r cyfnod hwn yn yr ardal. Yn ystod y cyfnod Canoloesol roedd yr anheddiad yn Llan-y-tair-Mair yn fwy amlwg; rhoddwyd eglwys y Santes Fair (00168w; 305469; SAM GM156) yn Llan-y-tair-Mair (sydd bellach yn adfail) gan Henry de Beaumont, Iarll Warwick i Abaty Sant Taurin, Evreux, Normandi yn y ddeuddegfed ganrif (Orrin 1979). Llan y Tayre Mayre (Llan y Tair Mair) oedd yr hen enw Cymraeg am yr ardal a dywedir bod yr enw hwn yn cyfeirio at ferched Anna, mam y Forwyn Fair, y dywedir iddi briodi dair gwaith ac iddi gael merch o bob priodas o'r enw Mair (Orrin 1979). O'r bedwaredd ganrif ar ddeg roedd yr eglwys yn eiddo i Esgob Tyddewi a gasglai ddegymau o'r ardal, fodd bynnag, erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd yr eglwys wedi mynd yn adfail, ac eto roedd yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer claddedigaethau tan y ddeunawfed ganrif (Gibbs 1970). Ceir cyfeiriadau hefyd at y ffaith bod yr eglwys wedi'i chysegru i Sant Maurice, fodd bynnag, mae dilysrwydd y ffynonellau hyn yn amheus (Gibbs 1970). Ychydig a wyddom am natur yr anheddiad yn ystod y cyfnod canoloesol er ei bod yn debyg mai'r eglwys oedd y prif ganolbwynt.

Mae Merrick ac yntau'n ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn cofnodi bod plwyf Llan-y-tair-Mair yn eiddo i Robert Thomas. Erbyn arolwg Gabriel Powell dyddiedig 1764 roedd yr ardal yn eiddo i'r Arglwyddes Charlotte Edwin, rywbryd ar ôl llunio'r map degwm (1846) daeth plwyf Llan-y-tair-Mair yn rhan o blwyf Llanddewi. Dengys y map degwm y prif anheddiad, sy'n cynnwys nifer o fythynnod a ffermydd bach, wedi'i glystyru o amgylch yr hyn a oedd o bosibl yn lawnt bentref i'r gorllewin o'r eglwys. Mae'r tir wedi'i gyfuno ar y cyfan er bod nifer o lain-gaeau i'w cael o hyd gerllaw'r brif ardal anheddu hon. Ad-drefnwyd yr ardal hon erbyn cyhoeddi argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, gwnaed y ffordd yn gulach a disodlwyd lawnt y pentref gan adeiladau a lleiniau gardd ar gyfer bythynnod. Roedd yr efail (41189) yn dal yno, fodd bynnag, disodlwyd ffermydd llai o faint gan rai mwy o faint megis yn Fferm Fairfield a Hillcrest i'r de o'r ffordd a fferm Knelston Hall ychydig i'r de-orllewin o'r eglwys; y mae ei henw yn awgrymu y gall fod yn fferm gynharach a ailadeiladwyd, fferm gynharach a sefydlwyd o bosibl ar safle ffermydd canoloesol cynharach. Roedd rhywfaint o waith pellach wedi'i wneud i gyfuno'r caeau erbyn y cyfnod hwn.

Cynhwysai aneddiadau anghysbell a ddangosir ar y map degwm ffermydd wedi'u gwasgaru ar hyd ffin ogleddol yr ardal gerllaw'r nant, cynhwysai hyn res yn Whitewell (01645w; 28035), Burry, y cyfadail o amgylch Higher Mill a daliad i'r gorllewin o Burry nad yw'n bodoli bellach. Erbyn argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, roedd y cyfadail yn Higher Mill wedi ehangu ychydig i gynnwys rhes siâp U, bron, a rhes linellol i'r dwyrain a gardd; roedd Whitewell hefyd wedi'i hehangu tua'r dwyrain ac ychwanegwyd rhes arall at yr adeilad i'r de. Higher Mill (02120w; 24939) oedd melin maenor Henllys, ac mae'n debyg bod y felin hon, a oedd wedi hen ymsefydlu erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, yn dyddio o'r cyfnod canoloesol. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y felin hon yn llawysgrifau Margam dyddiedig 1658. Ym 1715 fe'i trosglwyddwyd ynghyd â thiroedd eraill i'r Arglwydd Mansel o Fargam. Bu'r felin yn gweithredu fel melin yd tan 1907 (Taylor 1991) ac roedd yn rhan o gyfadail o felinau a ddefnyddiai Burry Pill efallai o'r cyfnod canoloesol ymlaen. Lleolid rhai daliadau eraill ar hyd y ffin â Reynoldston, gan gynnwys Bwthyn Frogmoor.

Mae aneddiadau ac adeiladau amaethyddol ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi yn cynnwys Fferm Knelston Hall, Bwthyn Forge, Bwthyn Knelston, Whitewell, Burry (Fferm Burry Dairy bellach), Fferm Burry a Fferm Lake, y mae'r mwyafrif ohonynt yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n bosibl bod rhai nodweddion yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd wedi goroesi ym mwthyn Frogmoor a Fferm Fairfield er bod angen gwneud rhagor o waith arolygu i weld a yw hynny'n wir. Mae Providence, Capel y Bedyddwyr, a adeiladwyd ym 1858 a'r mans (18638; LB 22792 II) hefyd yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Perswadiodd Samuel a Hannah Wilson o Fferm Fairfield Gymdeithas Genhadol Gartref Bedyddwyr Morgannwg i noddi'r gwaith o adeiladu'r capel; yn ystod y cyfnod hwn daeth Llan-y-tair-Mair yn ganolfan i waith cenhadol y Bedyddwyr ym Morgannwg o dan y Parch JG Phillips a'r Parch David Evans (LB disgrifiad).

Cyfunwyd rhai caeau eraill ers argraffiad cyntaf map yr AO, fodd bynnag, mae olion cyn-system o lain-gaeau i'w gweld o hyd yn y dirwedd bresennol ac mae'r patrwm caeau at ei gilydd yn cynnwys caeau hir hirsgwar. Ni fu fawr ddim newid yn yr anheddiad rhwng argraffiad cyntaf a thrydydd argraffiad map yr AO ar wahân i ysgol a ddangosir ar y trydydd argraffiad. Mae datblygiadau mwy diweddar yn cynnwys yn bennaf nifer o fythynnod, er enghraifft, Dingle Bank, White Stile, Orchard Green, Well Park, Forge Acre, y Tors ar hyd y priffyrdd trwy'r pentref. Ar ben hynny mae fferm Hillcrest wedi'i dinistrio ac mae anheddau llai o faint wedi cymryd ei lle, mae Fferm Fairfield a fferm Knelston Hall wedi ehangu ac mae ysgol newydd wedi'i hadeiladu gerllaw'r hen ysgol. Mewn mannau eraill yn yr ardal mae Fferm Burry Dairy a Fferm Lake wedi'u hehangu, mae gan yr olaf barc carafannau gerllaw hefyd. Mae'r prif lwybrau yn yr ardal yn union yr un fath â'r rhai a ddangosir ar y map degwm ac at ei gilydd maent yn ffurfio ffiniau'r ardal ynghyd â lôn werdd sy'n rhedeg o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain yr ymddengys ei bod yn rhan o brif lwybr trwy'r ardal sy'n rhedeg o Oxwich i Cwm Ivy.

Dangosir nifer o chwareli ar argraffiad cyntaf map yr AO, ac odyn galch yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol pan arweiniodd newidiadau mewn arfer amaethyddol at gynnydd yn y defnydd o galch fel gwrtaith, cynyddodd y gweithgarwch hwn yn sylweddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel y digwyddodd mewn mannau eraill ym Mro Gwyr.