The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Gwyr


Mae penrhyn Gwyr yn ardal ddaearyddol wedi'i diffinio'n glir sy'n cynnwys amrywiaeth o dirweddau o glogwyni calchfaen serth a baeau tywodlyd tawel ar arfordir y de, pentiroedd hir, ysblennydd tua'r gorllewin, a thwyni tywod a chorsydd dw^ r heli ar hyd arfordir y gogledd. I mewn yn y tir, mae'r llwyfandir arfordirol tonnog, ysgafn yn ildio i fryniau a chefnau uwch, megis Cefn Bryn y pennaf, sy'n hollti'r penrhyn yn daclus yn ddau, er mai anaml y cyfyd y nodweddion hyn yn uwch na 180m uwchlaw SO. Yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon, y gyntaf ym Mhrydain (1956), ceir safleoedd archeolegol o'r mwyafrif o gyfnodau, o ogofâu Uwch Balaeolithig lle bu preswyliad, hyd at gestyll canoleosol a thirwedd gyda pharciau o'r 18fed ganrif, a cofadeiliau diwydiannol, sydd yn feicrocosm digymar o gyfoeth hanesyddol Cymru. Nodwyd isod y ddwy ardal fwyaf cyflawn, archeolegol gyfoethog, sydd wedi goroesi orau ar y penrhyn.

Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.

Gorllewin Gwyr

Mae amrywiaeth y ddaeareg a'r topograffeg yn ardal orllewinol y penrhyn yn rhyfeddol, ac yn dal cyswllt agos ag ymgais dyn i ecsbloetio'r ardal o'r cyfnod Uwch Balaeolithig hyd heddiw. Yn archeolegol, mae'r ardal yn enwog am yr olion Uwch Balaeolithig a gafwyd yn Ogof Longhole ac Ogofâu enwog Paviland a Deborah's Hole, sy'n edrych dros eu tiroedd hela ar wastadeddau arfordirol a orchuddiwyd gan y môr ers amser maith. Mae olion da o aneddiadau a cheyrydd o Oes yr Haearn yn nodweddion amlwg y pentir yn y Cnaf a Phen Thurba. Ceir enghreifftiau da hefyd o odynau calch ar hyd y rhan hon o'r arfordir, yn arbennig ym Mhen Thurba. Erys y ty^ halen ym Mhorth Einion, a gadwyd yn ddiweddar, yn enghraifft unigryw o waith halen arfordirol o'r 16eg ganrif.

Mae ardal Rhosili a Thwyndir Rhosili tua'r gorllewin yn archeoloegol gyfoethog iawn. Yn ychwanegol at geyrydd pentir ar bennau'r clogwyni, mae yn Nhwyndir Rhosili nifer o siambrau claddu Neolithig a charneddau o Oes yr Efydd. Ar waelod y Twyndir, mae safle pentref canoloesol coll a hen eglwys Rhosili, a gladdwyd o dan y tywod yn niwedd y cyfnod canoloesol. Er hynny, y nodwedd amlycaf i oroesi yw'r gyfundrefn caeau agored canoloesol ryfeddol, a adwaenir fel y Vile. Mae'r ardal hon o dir âr oddeutu 390ha, ac fe'i rhennir yn stribedi canoloesol nodweddiadol rhwng 180m a 230m o hyd, a 15m i 70m o led. Mae pob bwndel o stribedi, gyda maint ar gyfartlaedd o 0.6ha (1.5 erw), wedi'u trefnu'n flociau mwy neu lai sgwâr, a phob un ag enwau arbennig megis Sandyland, Priest Hay a Bramble Bush. Cedwir patrwm y caeau heddiw gan gloddiau o bridd heb eu trin a waliau cerrig sych oddeutu 1m o led, a wybyddir fel 'landshares'. Edrychant fel llwybrau ar godiad, ac yn wir, fe'u defnyddid fel llwybrau yn aml. Mae'r ffaith bod y gyfundrefn ganoloesol hon o gaeau agored, sydd bron yn unigryw, wedi goroesi yn fater o bwys cenedlaethol, yn arbennig gan fod bygythiad iddi o hyd o du gweithgareddau amgáu tir.

Ymhellach i'r gogledd, mae ardal Llangennydd, Lagadranta a Broughton, ardal o rostir isel, twyndir, twyni tywod a thir amaethyddol, a llawer ohono yn dir comin. Mae'r prif ddiddordeb archeolegol wedi'i ganoli o gwmpas Burry Holms, holm yw'r term Llychlynaidd am ynys. Ar yr ynys, mae caer bentir sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Y mae yno hefyd olion capel, sy'n arwydd y bu sefydliad crefyddol yma ers y Canol Oesoedd o leiaf. I mewn yn y tir, mae eglwys Llangennydd, sef y mwyaf ym Mhenrhyn Gwyr, wedi'i chysegru i Sant Cennydd, y dywed traddodiad iddo gael ei olchi i'r lan ar Burry Holms. I'r de o'r eglwys, gorweddai coleg a phriordy canoloesol, a oedd yn gwneud Llangennydd yn un o aneddfannau crefyddol mwyaf nodedig penrhyn Gwyr. Uwchben ac yn goruchafu Llangennydd o'r de ddwyrain, mae Twyndir Hardings, sydd â nifer o safleoedd cynhanesyddol pwysig, gan gynnwys dwy fryngaer o Oes yr Haearn sy'n agos at ei gilydd.

I'r gogledd, mae moryd Burry, ardal eang o gors dw^ r heli yn aber Afon Llwchwr. Dyma ganolfan aneddiadau cynnar, ac yr oedd gan lawer o'r bryniau neu'r pentiroedd sy'n edrych dros y foryd eu haneddiadau caerog eu hunain megis y Y Bwlwarc i'r de orllewin o Cheriton. Mae aneddiadau Llanmadog a Cheriton yn adlewyrchu'r dylanwadau Eingl- Normanaidd ar y tirwedd. Cydnabyddir Eglwys Sant Cadog yn Cheriton fel un o'r eglwysi prydferthaf o eglwysi Gwyr.

Cefn Bryn

Mae cefnen hir ac amlwg Cefn Bryn yn goruchafu'r gorwel dros lawer o benrhyn Gwyr. Cyfyd i 188m uwchben SO ac ymestyn 6.5km o'r dwyrain i'r gorllewin rhwng aneddiadau Penmaen a Stembridge. Dyma, yn ddiau, un o ardaloedd archeolegol cyfoethocaf De Cymru, gyda nifer fawr o gofadeiliau wedi goroesi ar grib a llethrau'r gefnen, ac yn rhoi tystiolaeth amlgyfnod o weithgaredd dynol, ers o leiaf y 4ydd neu'r 3ydd mileniwm cyn Crist.

Hwyrach mai siambr gladdu Neolithig gymunedol oedd Maen Ceti ger Reynoldston. Cloddiwyd aneddfan dros dro, yn dyddio yn gynnar o'r 3ydd mileniwm cyn Crist, yn agos i Maen Ceti, yng Ngharn Fawr, cofadail gladdu mwy diweddar o Oes yr Efydd. Er mai Maen Ceti, Carn Fawr a charneddi adeiledig eraill yw'r safleoedd cynhanesyddol amlycaf ar Gefn Bryn, mae digon o dystiolaeth bod clirio cerrig wedi digwydd ar raddfa fawr ar wyneb y gefnen ar gyfer amaethyddiaeth. Cofnodir clystyrau o garneddi bach ar y gefnen, canlyniad, mae'n debyg, i glirio cerrig cynhwysfawr: mae 200 yn hysbys ar hyn o bryd. Gwyddys am tua dwsin o safleoedd twmpathau llosg (tomennydd o gerrig maluriedig llosg, golosg a phridd wedi duo, dan orchudd o fawn), yn agos i lynnoedd neu ffrydiau lle bu iddynt hel, o bosibl, o ganlyniad i boethi cerrig i ferwi dw^ r ar gyfer coginio cymunedol ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Yn ystod Oes yr Haearn, mae tystiolaeth o aneddiadau dynol o gwmpas cyrion yr ardal mewn safleoedd megis y bryngaerau neu'r amgaeadau yn Stembridge, Reynoldston, Coed Crawley a Chilifor.

Bu gosod y gyfundrefn faenoraidd ar Gw^ yr yn y cyfnod canoloesol yn ddylanwad pwysig ar ddefnydd tir yng Nghefn Bryn, a oedd yn nhiriogaeth Brodoraeth Arglwyddiaeth Gwyr. Yn gyffredinol, tiroedd salach oedd yn y Frodoraeth, a gwastraff maenorol oedd Cefn Bryn, gyda hawliau comin wedi'u sefydlu drosto, ac wedi aros hyd heddiw. Yn y cyfnod ôl-ganoloesol, gwanethpwyd ymdrechion i wella gwerth amaethyddol y comin, fel y gellir gweld o'r prosesau o ddefnyddio odynau calch tywyrch i gynhyrchu calch er mwyn lleihau asidedd y pridd. Parhau wnaeth ymdrechion dyn i ecsbloetioir comin hyd heddiw, gyda chodi nifer o safleoedd gynnau milwrol, cronfeydd dwr a chwareli.