The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

011 Llangynydd


Ffoto o Llangynydd

HLCA011 Llangynydd

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; canolfan eglwysig; priordy canoloesol; nodweddion cynhanesyddol gwasgaredig; diwydiant gwledig; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llangynydd yn cyfateb fwy neu lai i Faenorau canoloesol Llangennith West Town a Priors Town, ar wahân i ddarnau o dir comin a thir adferedig Morfa Llangynydd i'r gorllewin a thir amgaeëdig Kennexstone a Tankeylake i'r dwyrain. Lleolid ardal Llangynydd (Llangenydd) o fewn cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, o fewn Sir Morgannwg.

Sefydlwyd eglwys ganoloesol y Santes Fair a Cennydd Sant, sy'n cynnwys adeiladwaith yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif hyd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, ac fe'i cysegrwyd i Cennydd Sant a fu'n byw yn y 6ed ganrif. Y tu mewn i'r eglwys ceir heneb Gristnogol Gynnar (00059w), sydd yn ôl pob tebyg yn rhan o belydr croes yn dyddio o'r nawfed ganrif (RCAHMW 1976c, 46 rhif 905). Mae'r fynwent yn rhannol gromliniol, sy'n awgrymu iddi gael ei sefydlu yn gynnar. Ymddengys fod yr eglwys wedi'i lleoli ar safle eglwys glas, a oedd wedi'i dinistrio yn ôl pob sôn gan ysbeilwyr Llychlynnaidd yn 986 OC. Ar ddechrau'r 12fed ganrif rhoddwyd yr eglwys, a fu gynt yn drigfan i feudwy, rhyw Caradog i Abaty Sant Taurinus yn Evreux yn Normandi gan Henry de Beaumont (Bellomont), Iarll Warwick. Yn fuan ar ôl hynny sefydlwyd cell priordy Fenedictaidd ddibynnol fach a oedd ar wahân i'r eglwys (Orrin 1979, 40). Yn rhannol o ganlyniad i ddiwedd Gwrthryfel Glyn Dwr rhoddwyd y priordy dros dro ym 1406 i briordy Ewenni, er iddo gael ei roi i Goleg yr Holl Saint, Rhydychen, rhwng 1440 a 1442, ar ôl i'r Goron atafaelu priordai estron ym 1414 (Glamorgan County History Cyf III, 149-150; Williams 1949). Ym 1838, trosglwyddwyd buddiant Coleg yr Holl Saint trwy Ddeddf Seneddol i Thomas Penrice, Ysw, o Kilvrough.

Ni nodwyd lleoliad yr adeiladau mynachaidd; mae'n debyg eu bod wedi'u lleoli i'r de, lle y mae'r eiddo cyfagos wedi cadw'r enw College Farm/House, ac roeddynt wedi'u cysylltu â'r eglwys gan ddrws deheuol caeëdig, er bod Orrin (1979, 42), yn awgrymu bod y porth bwaog caeëdig yn wal ddwyreiniol y twr yn nodi'r fan lle y cyfarfyddai'r eglwys a chyn-gloestr. Cofnododd Merrick (gol James 1983, 118) ym 1578 fod yr eglwys wedi'i chysegru i'r Forwyn Fair a Cennydd Sant ar y cyd. Adferwyd yr eglwys yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwnaed y prif waith adfer ar yr eglwys gan y contractwyr y Mri Rosser o Reynoldston ym 1881-4, gan ddilyn cynllun JB Fowler. Atgyweiriwyd y twr, codwyd llawr corff yr eglwys tua 1.2 metr, adleoliwyd cofebau, gosodwyd ffenestri newydd, ac ailadeiladwyd y toeau (Newman 1995, 384; Orrin 1979, 43; Evans 1998). Gweithredai anheddiad Llangynydd, neu Prior's Town, fel canolfan blwyfol yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, ar gyfer plwyf helaeth a gwmpasai ardal ag arwynebedd o tua 1329 o erwau (Carlisle 1811).

Mae cyfeiriadau hynafiaethol yn sôn am adeilad hirsgwar bach yn dwyn yr enw The Temple (00061w) a leolid gerllaw'r Husk a hen lôn yn arwain i bentref Llangynydd yr ystyrid bod 'ganddo gapel anwes canoloesol neu gell yn perthyn i Farchogion y Deml' (Evans 2004).

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO graidd anheddiad cnewyllol, bach wedi'i leoli gerllaw ffin y tir comin cysylltiedig. Cynhwysai'r anheddiad yr eglwys o fewn ei mynwent a'r 'coleg' cyfagos i'r de, a threfniant llinellol byr o fythynnod ar y naill ochr a'r llall i gyn-dafarn y 'Welcome to Town' a leolir gyferbyn â'r eglwys, i'r de o'r lôn i West Town. I'r gogledd o'r lôn ceir Town House a'i res o adeiladau allan i'r de-ddwyrain o 'Ffald' y pentref a Thafarn y King's Head. Wedi'u gwahanu oddi wrth yr anheddiad gan gaeau i'r gorllewin ceir gwasgariad o fythynnod a ffermydd, sy'n cynnwys West Town, sydd wedi'i ganoli'n llac ar y groesffordd gerllaw Plenty Farm. Yn yr un modd roedd yr anheddiad hwn, yr oedd ganddo ei ffald ar wahân ei hun, Capel yn perthyn i'r Methodistiaid Wesleaidd (9624 Capel Methodist Calfinaidd Seion), ffynnon (Ffynnon Bullen) a gefail, wedi'i leoli gerllaw ffin y tir comin (map 25" yr Arolwg Ordnans taflen XXI-11 Arolygwyd 1878). Mae llwybrau cysylltiadau yn ymestyn o graidd yr anheddiad yn Priors Town a West Town, ac mae llwybrau yn arwain i'r tir comin i'r gogledd ac i'r dwyrain yn y drefn honno.

Lleolid anheddiad arall, sydd bellach yn anghyfannedd, yn Coety Green (01860w) gerllaw fferm Barraston Hall. Mae'r adeiladau, a adeiladwyd o glymfaen a thywodfaen coch yn arddangos y nodweddion archeolegol canlynol: ffenestri ar led a chanddynt linteli cerrig neu bren, lle tân mewn wal talcen a ffwrn fach. Mae'r RCAHMW yn awgrymu bod y safle yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol, ond gall strwythurau ddyddio o'r cyfnod canoloesol. Yn ôl traddodiad, gadawyd Coety Green yn yr ail ganrif ar bymtheg o ganlyniad i bla a gafwyd o'r cyflenwad dwr, er bod tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu efallai na chafodd ei adael tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.