The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Gwyr

Themâu a phrosesau hanesyddol

Rhaniadau gweinyddol hanesyddol

Lleolir y dirwedd hanesyddol yn sir ôl-ganoloesol Morgannwg, yr ymddengys ei bod yn rhanbarth ffiniol cyn y goresgyniad Normanaidd, ac a oedd ar wahanol adegau yn rhan o Deyrnas Dyfed, ac a ddelid ar adegau eraill gan Deyrnas gynnar Glywysing, a enwyd ar ôl Brenin cynnar eponymaidd, Glywys; yn ystod y 10fed ganrif daeth Gwyr yn rhan o Forgannwg, a enwyd ar ôl ei brenin Morgan (Morcan) Hen (tua 930-74), Glamorgan yn ddiweddarach (Knight 1995). Yn ôl traddodiad roedd Glywysing neu Forgannwg wedi'i rhannu'n saith rhanbarth neu gantref gweinyddol, tra bod ffynonellau yn dyddio o'r 12fed ganrif yn maentumio i'r rhain gael eu henwi ar ôl meibion Glywys. Yn draddodiadol roedd pob cantref wedi'i rannu'n gwmwd, y cynhwysai pob un ystadau neu faenorau a gynhwysai nifer o drefi neu drefgorddau.

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar roedd Bro Gwyr yn rhan o gwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog; ymddengys fod penrhyn Gwyr yn ffurfio ardal a elwid yn Wyr Is Coed, tra gelwid yr ucheldiroedd yn Wyr Uwch Coed. Yn ddiweddarach defnyddiai'r Normaniaid y termau Lladin Gwyr subboscus a Gwyr supraboscus, ar gyfer y rhaniad hwn, er yr ymddengys i'r term subboscus ddod yn gyfystyr ag ardal Llanrhidian Uchaf yn unig, lle y parhaodd hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig i fod yn gryf (Cooper 1986 a 1998).

Tybiwyd hefyd bod yr ardal yn cynnwys ystâd neu faenor leyg ganoloesol gynnar yn seiliedig ar diroedd maenor ganoloesol ddiweddarach Landimôr, a safle ei heglwys yn Cheriton. Goroesodd olion yr ystâd neu faenor fawr ar raddfa lawer llai fel nifer o faenorau neu ffioedd gwasgaredig, a grëwyd ar ôl i'r ystâd gael ei rhannu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd; credir mai Payn de Turbeville a etifeddodd yr uned Gymreig helaethach hon, ac i'r daliad helaethach hwn gael ei rannu o ganlyniad i roi tir i urddau crefyddol, fel na chynhwysai'r faenor ond is-faenorau gwasgaredig Rhosili, Landimôr a Llanrhidian erbyn y ddeuddegfed ganrif (Draisey 2002; Cooper 1998). Efallai fod ardal Landimôr ei hun a oroesodd, ac ardaloedd eraill megis Llanrhidian, yn cynrychioli'r diriogaeth a arferai fod yn gysylltiad ag un neu ragor o drefgorddau'r gyn-faenor. Ar ben hynny, mae'n bosibl bod ffiniau maenor ddiweddarach Landimôr yn cynrychioli parhad rhaniad tir eithaf hynafol; a ategir efallai gan y ffaith bod ffiniau'r faenor ddiweddarach a phlwyf Cheriton, yn ymestyn yn fwriadol i gynnwys bryngaer y Bulwarks ym mhen dwyreiniol Bryn Llanmadog, a all fod wedi rhoi ei enw i Landimôr er bod bryngaer bwysig Cil Ifor yn bosibilrwydd hefyd. Hyd yma mae union natur tirwedd weinyddol ac eglwysig a thirwedd anheddu'r ardal yn fater o ddyfalu ar y gorau a byddai'n ddefnyddiol gwneud rhagor o ymchwil ac astudiaeth fanwl.

Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd ardal penrhyn Gwyr a'r AOHNE yn rhan o arglwyddiaeth ganoloesol Gwyr, a gynhwysai'r ardal a gwmpesir ar hyn o bryd gan awdurdod unedol Abertawe yn ogystal â phlwyf Llan-giwg a rhaniad Rhwngydwyclydach o blwyf Llansamlet (Morris 2000, 3). Un o nodweddion hanfodol yr arglwyddiaeth oedd y ffaith ei bod wedi'i rhannu'n Ardal Seisnig ac yn Ardal Gymreig, a ddaeth i gynrychioli dros amser yr iseldir (penrhyn Gwyr neu Wyr Is Coed (Subboscus)) a ddaeth dan ddylanwad yr Eingl-Normaniaid yn gynnar ac a gafodd oruchafiaeth yn y diwedd, a'r ucheldir (Gwyr Uwch Coed (Supraboscus)) lle y parhaodd y diwylliant Cymreig ar y cyfan a lle yr oedd cyfraith ac arferion Cymreig mewn grym. Lleolir Gwyr Uwch Coed yn gyfan gwbl y tu hwnt i ffiniau'r AOHNE. Ymddengys i'r Eingl-Normaniaid gipio rheolaeth ar benrhyn Gwyr yn llawer mwy graddol nag yr awgrymwyd yn aml yn y gorffennol, ffaith a guddir gan honiadau gwleidyddol a thiriogaethol y teulu de Breos yn ystod y 14eg ganrif. Mae tystiolaeth sy'n awgrymu mai dim ond y ffioedd marchog hynny gerllaw craidd bwrdeistref Normanaidd Abertawe a sefydlwyd yn gynnar, neu a oedd yn dyddio o'r 11eg ganrif, mewn gwirionedd, er enghraifft Pen-rhys, Penmaen, neu Nicholaston. Ar y llaw arall ymddengys na ddaeth llawer o'r ffioedd i'r gorllewin ac i'r gogledd, megis Landimôr a Llanmadog dan reolaeth Eingl-Normanaidd tan wahanol ddyddiadau rhwng dechrau a chanol y 12fed ganrif. Unwaith yr oedd y rheolaeth hon wedi'i sefydlu, ymddengys i'r broses o gipio rheolaeth ar agweddau cyfreithiol, ieithyddol a diwylliannol gan yr Eingl-Normaniaid ddigwydd ar wahanol gyflymderau, yn aml gan ymestyn yn raddol i guddio dylanwadau Cymreig brodorol; i ddechrau, er enghraifft, ymddengys fod Cyfraith Cymru a Lloegr yn weithredol ochr yn ochr. Ar ben hynny ymddengys fod y rhaniad rhwng Gwyr Is Coed a Gwyr Uwch Coed, rhwng yr Ardal Seisnig a'r Ardal Gymreig, newid yn raddol dros amser, wrth i Gyfraith Lloegr a Saesneg ddod yn fwy blaenllaw.

Mae'n debyg oherwydd ansawdd da y tir amaethyddol yn ne a gorllewin Bro Gwyr, i lawer o'r aneddiadau a'r canolfannau gweinyddol gael eu sefydlu erbyn dechrau'r cyfnod canoloesol, os nad diwedd y cyfnod cynhanesyddol. Yn wir mae'n dra thebyg bod llwyfandir Gwyr yn cynnal poblogaeth eithaf mawr o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen: mae'n bosibl bod pobl wedi parhau i fyw mewn rhai o geyrydd pentir ac aneddiadau amddiffynedig Gwyr o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol hyd ddechrau'r cyfnod canoloesol, megis yn Stembridge, yn wir mae'n bosibl i rai o'r safleoedd hyn gael eu haddasu ar ôl i'r Eingl-Normaniaid feddiannu Bro Gwyr er mwyn iddynt wasanaethau fel canolfannau maenoraidd, o gofio eu lleoliad ymysg y tir gorau. Mae safleoedd lle y gall hynny fod wedi digwydd yn cynnwys y gaer bentir amddiffynedig yn North Hill Tor (HLCA014), y clostir yn Reynoldston (HLCA037) a Berry (HLCA040), lle y ceir olion cynhanesyddol a diweddarach yn agos at gilydd. Mae'n bosibl i'r amddiffynfeydd cylch yng Nghil Ifor (HLCA066), Norton Camp, Oxwich (HLCA048), ac ym Mountybrough, Pen-rhys (HLCA046), hefyd ddatblygu o aneddiadau cyn-Normanaidd, ac nad oeddynt yn aneddiadau newydd eu sefydlu.

Mae ffiniau plwyfi a maenorau yn defnyddio nodweddion ffisegol yn y dirwedd, ac maent yn debygol o fod yn nodweddion hirbarhaol a cheidwadol yn y dirwedd (Seyler 1924 a 1925; Morris (gol) 2000). Am y rheswm hwn mae llawer o ffiniau'r ardaloedd cymeriad wedi mabwysiadu hen ffiniau maenorau neu blwyfi, lle y gellir gweld bod y rhain at ei gilydd yn adlewyrchu amrywiadau cyfatebol mewn cymeriad.

Yn ôl i'r brig

Safleoedd ac aneddiadau angladdol a defodol cynhanesyddol

Mae Bro Gwyr yn cynnwys peth o'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch anheddu dynol yng Nghymru ac mae darganfyddiadau yn arwydd o rywfaint o weithgarwch anheddu o'r cyfnod Paleolithig (tua 200,000 CC - tua 10,000 CC). Dengys darganfyddiadau o ogof Pen-y-fai (HLCA029) fod pobl yn defnyddio'r ardal yng nghanol y trydydd mileniwm CC, a dyma un o'r safleoedd pwysicaf ar gyfer deall datblygiad y cyfnod Paleolithig Uchaf Cynnar ym Mhrydain yn gyffredinol. Byddai'r ogof wedi bod yn agos i'r haen-iâ, a thua 30km o'r môr, ac fe'i defnyddid yn ôl pob tebyg fel tiriogaeth hela estynedig. Mae'r gladdedigaeth ym Mhen-y-fai (sef y 'Red Lady') yn bwysig ar lefel Ewropeaidd; mae'r gladdedigaeth hon yn awgrymu bod i'r ogof ryw fath o bwysigrwydd crefyddol arbennig. Mae hefyd tystiolaeth bod ogofâu eraill wedi'u defnyddio (Pen Pyrod, Long Hole) ar yr hyn sydd bellach yn arfordir deheuol Bro Gwyr, ond a oedd bryd hynny yn ymyl llwyfandir, ac yn Cat Hole yn Llethrid Cwm (HLCA064), a darganfuwyd bwyell law yn Rhosili (Lynch ac eraill 2000, 8-9, 11-12, 18-21).

Mae natur gweithgarwch anheddu yn yr ardal bob amser wedi'i chyfyngu gan ei thopograffi a'i phriddoedd, a sicrhaodd fod gwahaniaeth pendant rhwng yr iseldiroedd ar y naill law, sy'n cynnwys gwastatir amaethyddol is penrhyn Gwyr a'r gwastatir arfordirol a gysylltir ag aberoedd Afon Llwchwr, ac ar y llaw arall y darnau uwch o dir uchel, sy'n cynnwys cyfres o esgeiriau, ac yn wir y tiroedd mynyddig, sy'n ffurfio Bro Gwyr ac eithrio'r penrhyn, i'r gogledd-ddwyrain a'r tu hwnt i'r AOHNE ei hun. Mae gwahaniaeth hinsoddol hefyd rhwng penrhyn Gwyr a gweddill Bro Gwyr, ac mae'r llain arfordirol yn un o ardaloedd gorau Ynysodd Prydain, tra bod yr ucheldiroedd rai wythnosau ar ei hôl o ran aildyfiant yn y gwanwyn. Ar ben hynny nodweddir yr ucheldiroedd, gan gynnwys tiroedd comin ucheldirol penrhyn Gwyr, bellach gan briddoedd cymharol anffrwythlon a datblygiad mawn, ond nid oes digon o wybodaeth ar gael i nodi a yw hyn i'w briodoli i broses o ddihysbyddu pridd a achoswyd gan weithgarwch amaethyddol cynharach, a waethygwyd gan ddirywiad yn yr hinsawdd ar ddiwedd yr Oes Efydd, megis mewn rhannau eraill o Brydain. Cyn y cyfnod Neolithig, byddai tir wedi cael ei ddefnyddio yn dymhorol. Darparodd Penrhyn Gwyr dystiolaeth glir o anheddu agored yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (tua 10,000 CC - tua 4000 CC), er enghraifft yn Burry Holms, yn ogystal â thystiolaeth i ogof Cat Hole gael ei hailddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn. Mewn cyferbyniad mae'r unig dystiolaeth o bresenoldeb dynol yn ystod yr un cyfnod yn yr ucheldiroedd i'r gogledd yn cynnwys gwasgariadau o arteffactau (Lynch ac eraill 2000, 30-1).

Cynrychiolir y cyfnod Neolithig (tua 4000 - tua 2000 CC) yn bennaf gan feddrodau siambrog, a oedd yn gladdfeydd cyffredin ar gyfer cymunedau cyfan yn ôl pob golwg. Mae henebion Neolithig yn gyffredin yn hanner gorllewinol Bro Gwyr ac mae'n rhaid eu bod yn cynrychioli poblogaeth sylweddol, er ei bod yn anodd dod o hyd i olion aneddiadau. Er i amaethyddiaeth gael ei chyflwyno yn ystod y cyfnod Neolithig, nid yw'n glir o bell ffordd a fyddai hyn yn digwydd ar raddfa fawr, ac mae'n bosibl bod yr economi yn dal i ddibynnu i gryn raddau ar hela a chasglu bwydydd eraill yn y gwyllt (Pollard 1997, 8-9). Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth o systemau caeau cyfoes.

Datgelodd deunydd ffotograffig a dynnwyd o'r awyr feingylch posibl (SAM GM580), heneb gloddiog a chanddi ffos y tu mewn i'r clawdd, yn Newton (HLCA039). Ystyrir ei bod yn nodwedd ddefodol sy'n nodweddiadol o'r cyfnod Neolithig (Ffotograffau a dynnwyd o'r awyr: RCAHMW 1964 a 1992).

Cynrychiolir dau draddodiad o adeiladu beddrodau ym Mro Gwyr. Mae beddrod Parc le Breos yn enghraifft ardderchog o fath o feddrod a oedd yn gyffredin yn ne-orllewin Prydain ac a elwir yn feddrod o fath Cotswold-Hafren oherwydd ei ddosbarthiad; nodweddid y math hwn o feddrod gan gwrt blaen yn y naill ben i dwmpath hir, a roddai fynediad i gyntedd canolog â siambrau ochr. Cynhwysai'r math arall slab neu faen enfawr unigol yn gorwedd ar ben slabiau unionsyth enfawr (orthostatau), a ffurfiai ochrau'r siambr neu'r siambrau claddu, a oedd wedi'i orchuddio o leiaf yn rhannol gan dwmpath yn wreiddiol. Maen Ceti neu Garreg Arthur (SAM GM003) yng Nghefn Bryn, yn Nicholaston, yw'r enghraifft orau o'r math hwn o feddrod. Ceir un arall ar Dwyni Tywod Penmaen (SAM GM123), a phâr ar ochr Twyn Rhosili.

Cynrychiolir yr Oes Efydd (tua 2000 CC - tua 600 CC) gan safleoedd angladdol a defodol, a phrin yw'r wybodaeth am weithgarwch anheddu a defnydd amaethyddol. Ystyrir i'r meysydd carneddau, sy'n cynnwys grwpiau o garneddau bach, a geir ar y mwyafrif o'r esgeiriau ucheldirol ac sy'n gyffredin iawn ar Gefn Bryn, gael eu creu trwy glirio tir ar gyfer amaethyddiaeth, ond fel arfer nid oes ganddynt arwyddion o gaeau cynlluniedig yn gysylltiedig â hwy, ac efallai fod iddynt ddiben defodol.

Mae beddrodau cyffredin y cyfnod Neolithig yn cael eu disodli gan grugiau crwn a charneddau llai o faint; cynlluniwyd y rhain ar gyfer claddu unigolyn neu grwp bach, ac ystyrir eu bod yn cynrychioli newid mewn strwythur cymdeithasol. Adeiladwyd carneddau cylch a chanddynt glawdd cerrig allanol a thu mewn agored (Ward 1988) hefyd; mae'n bosibl bod y rhain yn cyflawni dibenion tebyg i gylchau cerrig, na wyddom am unrhyw enghreifftiau ohonynt ym Mro Gwyr. Ar benrhyn Gwyr, megis mewn mannau eraill, mae pwyslais ar leoli'r henebion hyn ar dir uchel; ymddengys i Gefn Bryn, Hardings Down, Bryn Llanmadog a Thwyn Rhosili, lle y ceir y prif grynoadau, gael eu trin yn yr un ffordd â'r ucheldir mewndirol (Evans a Lewis 2003), ac mewn cymhariaeth ceir dwysedd llawer llai o safleoedd yn yr ardaloedd is. Ystyrir bod y crynoadau nodweddiadol hyn o henebion angladdol ar hyd esgeiriau ucheldirol Bro Gwyr, megis ym Mryn Llanmadog (HLCA012), lle y mae 14 o garneddau (a oedd yn grwp o 19 yn wreiddiol) wedi goroesi, yn fynwentydd gwasgaredig yn dyddio o'r Oes Efydd a leolir o fewn tirwedd ehangach yn dyddio o'r Oes Efydd; efallai yr ystyrid bod yr ardaloedd ucheldirol hyn yn 'fynyddoedd cysegredig'. Mae'r math hwn o heneb hefyd yn nodweddiadol o dir uchel ar hyd yr ymylon arfordirol, megis yr un yn Burry Holms (HLCA006; 00023w).

Cynyddodd gweithgarwch adeiladu henebion defodol gryn dipyn yn ystod yr Oes Efydd fel y tystia deugain neu ragor o garneddau a leolir ar hyd esgair Cefn Bryn (HLCA038). Mae henebion Cefn Bryn, strwythurau angladdol sy'n nodweddiadol o'r cyfnod, yn perthyn i dirwedd ddefodol ehangach yn dyddio o'r Oes Efydd sy'n cynnwys Bryn Llanmadog (HLCA012) a Thwyn Rhosili (HLCA023); ymddengys i'r ardaloedd ucheldirol a'r esgeiriau chwarae rôl bwysig mewn defodau ac efallai o ran diffinio tiriogaethau. Efallai fod canlyniadau'r gwaith cloddio a wnaed yn y 'Great Cairn Ring Cairn' (SAM GM196), gerllaw Maen Ceti (HLCA038), a ailadeiladwyd bellach, yn ategu'r ddamcaniaeth olaf; cofnodwyd bod y safle yn "forum for wider ceremonials of symbolic practice" (Ward 1981) yn hytrach na storfa ar gyfer y meirw. Ni ddatgelodd gwaith cloddio a wnaed ar ail garnedd gylch (Ward 1982) ar y tir comin unrhyw dystiolaeth o gladdu ychwaith.

Mae'n bosibl bod olion dynol a ddarganfuwyd mewn ogofâu, megis y rhai yn Ogof Three Chimneys (SAM GM087), Burry Holms (HLCA006), yr ystyrir ei bod yn esgyrnfa, hefyd yn dynodi gweithgarwch angladdol defodol yn dyddio o'r Oes Efydd. Fodd bynnag, nodweddid y tir isel gan bresenoldeb meini hirion, yn arbennig yng ngorllewin Bro Gwyr, y mae'n debyg eu bod yn fwy cyffredin nag ydynt yn awr (RCAHMW 1976a, 121-2).

Ar y cyfan prin yw'r dystiolaeth o weithgarwch anheddu yn yr Oes Efydd, er y ceir nodweddion megis y domen ysbwriel yn Burry Holms (00036w; HLCA 006), a thwmpathau llosg, math enigmatig o safle yn dyddio o'r cyfnod, ar Gefn Bryn (e.e. SAMs GM543; GM436; GM544), ac mewn mannau eraill, er enghraifft ger Llangynydd (HLCA011) ac ar Dwyn Rhosili (HLCA023). Ystyrir bod y safleoedd hyn, sy'n cynnwys twmpathau o gerrig llosg, a golosg a leolir mewn ardaloedd dan ddwr neu'n agos at ffynonellau dwr yn dwmpathau coginio neu wledda, ond yn yr un modd gallai agwedd ddefodol fod wedi perthyn iddynt; mae dehongliadau eraill yn cynnwys safleoedd sawnau neu chwysdai.

Y fryngaer a'i his-ddosbarth, y gaer bentir lle yr amddiffynnid safle ar ddwy neu dair ochr gan lethrau neu glogwyni serth naturiol ac ar yr ochr arall neu'r ochrau eraill gan amddiffynfeydd o waith dyn, fel y'i cynrychiolir ym Mro Gwyr, yw anheddiad nodweddiadol yr Oes Haearn (tua 600 CC - tua OC 50). Mae'r rhain yn arbennig o gyffredin ar arfordir deheuol Bro Gwyr. Erbyn hyn gwyddom fod bryngeyrydd yn perthyn i Ddiwedd yr Oes Efydd ond, am na wnaed unrhyw waith cloddio i'r safonau diweddaraf, ni chadarnhawyd hynny yn achos Bro Gwyr eto. Er bod gan rai bryngeyrydd a cheyrydd pentir amddiffynfeydd cadarn, mewn rhai eraill mae'n debyg bod y cloddiau a'r ffosydd o'u hamgylch yn dynodi ffiniau llawn cymaint ag yr oeddynt yn gweithredu fel amddiffynfeydd. Mae'n debyg y byddai'r ceyrydd mwy o faint, megis Cil Ifor (SAM GM124; HLCA066), sydd ag arwynebedd o ryw 3ha, a'r Bulwark (SAM GM061), Bryn Llanmadog (HLCA012) wedi darparu rhyw fath o ganolbwynt rhanbarthol, neu fod ganddynt swyddogaeth weinyddol. Mae enghreifftiau o aneddiadau yn dyddio o'r cyfnod yn amrywio o'r bryngeyrydd amlgloddiog mawr y cyfeiriwyd atynt uchod i glostiroedd amddiffynedig llai o faint; megis gwersyll Reynoldston o fewn HLCA037 (00161w; 94607; SAM GM195), yr ymddengys fod pobl wedi parhau i fyw yno i mewn i'r cyfnod Rhufeinig, a'r tri chlostir rhestredig (SAM GM060) ar Dwyn Hardings (HLCA025), y datgelodd un ohonynt, bryngaer fach (00025w; 301323), sylfeini dau lwyfan cwt led-grwn a chrochenwaith yn dyddio o'r Oes Haearn. Mae safleoedd llai adnabyddus yn cynnwys dau glostir cloddwaith a gofnodwyd ger Cilonnen (00235w; 00946w), o fewn HLCA067.

Mae enghreifftiau o geyrydd pentir yn cynnwys saith safle, y mae gan y mwyafrif ohonynt un clawdd, o fewn HLCA029, gan gynnwys, caer Castell Lewes (SAM GM470; 00140w), Gwerysll Pen-y-Fai (SAM GM128), Caer Old Castle (SAM GM193; 00139w), Horse Cliff (SAM GM192), a Phen Pyrod (SAM GM492). Mae enghreifftiau da o fathau amlgloddiog yn cynnwys Thurba Head (SAM GM127) a'r Knave (SAM GM128), y mae'r ddwy ohonynt o fewn HLCA029. Mae safleoedd pentir arfordirol eraill yn cynnwys yr un a leolir ar Burry Holms (SAM GM088; HLCA006) (HLCA 060, SAM GM132) ac eraill ar hyd yr ymylon arfordiriol gogleddol o amgylch Tor-gro a North Hill Tor (HLCA014), er y dadleuwyd bod y gwersyll yn North Hill (SAM GM062) yn dyddio o'r cyfnod canoloesol (RCAHMW).

Ymddengys fod bryngeyrydd, a chlostiroedd amddiffynedig yn gyffredinol, yn ddosbarth parhaol o heneb, am fod rhywfaint o dystiolaeth bod pobl wedi parhau i fyw ynddynt i mewn i'r cyfnod Rhufeinig a ddilynodd (tua 50 OC - tua 400 OC), ac mewn rhai achosion o leiaf ar ôl hynny yn ôl pob tebyg. Darparodd y gaer bentir yn dyddio o'r Oes Haearn (SAM GM126) yn Bishopston Valley (HLCA084) a gloddiwyd gan Aubrey Williams ym 1939, dystiolaeth a awgrymai fod gweithgarwch anheddu wedi parhau i mewn i'r cyfnod Rhufeinig, ar ffurf crochenwaith yn dyddio o'r ganrif 1af a'r 2il ganrif OC. Mewn mannau eraill, er enghraifft yng Ngwersyll Stembridge, mae hyd yn oed yn bosibl i safleoedd y nodwyd eu bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol barhau i gael eu meddiannu hyd ddechrau'r cyfnod canoloesol, neu iddynt gael eu hailfeddiannu o leiaf; cadarnhaodd astudiaeth geoffisegol a gwaith arolygu a wnaed yn ddiweddar gan Brifysgol Cymru, Casnewydd, fod llwyfannau i'w cael o fewn rhan fewnol clostir amddiffynedig Stembridge (Kissock 2006, sylw personol).

Prin yw'r dystiolaeth i benrhyn Gwyr gael ei Rufeineiddio ar raddfa fawr yn dilyn goresgyniad y Rhufeiniaid, ac mae'n debyg na fu fawr ddim newid yn ffordd o fyw trigolion yr ardal. Yn Scurlage, New Henllys, a Lower Harding's Down, datgelodd prosiectau sydd wrthi'n cael eu cyflawni gan Brifysgol Cymru, Casnewydd, ar Fro Gwyr, gan gynnwys geoffiseg a gwaith cloddio, nodweddion aneddiadau unionlin a chrwn sy'n dwyn i gof, er enghraifft, yr anheddiad yn Whitton sy'n dyddio o ddiwedd yr Oes Haearn/y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig (Kissock 2006, sylw personol), math o anheddiad sy'n seiliedig ar y traddodiad brodorol. Y gaer yng Nghasllwchwr a safle enigmatig nad yw ond yn hysbys o fosäig yn Eglwys Ystumllwynarth yw'r safleoedd agosaf y gwyddom amdanynt y mae llawer o baraffernalia materol diwylliant Rhufeinig yn gysylltiedig â hwy. Ymddengys fod anheddiad sifil y tu allan i'r muriau yn gysylltiedig â'r gaer yng Nghasllwchwr, ond mewn gwirionedd ni ellir dweud pa fath o anheddiad ydoedd o ddarganfyddiadau damweiniol ac arsylliadau, a wnaed y tu allan i'r amddiffynfeydd (Pearson 2002, 21).

Mae'n debyg i ffordd o fyw ei drigolion gael ei Rhufeineiddio gryn dipyn yn fwy na ffordd o fyw'r trigolion yng nghefn gwlad oddi amgylch. Megis cynt, byddai'r economi yn yr Oes Haearn ac yn y cyfnod Rhufeinig wedi bod yn seiliedig ar amaethyddiaeth, ond ni nodwyd hyd yma unrhyw dystiolaeth sydd wedi goroesi ar gyfer y dirwedd bryd hynny. Mae systemau caeau cynhanesyddol o unrhyw ddisgrifiad yn brin yn ne-ddwyrain Cymru, ac mae gwaith a wnaed yn yr iseldir rhwng Port Talbot ac Afon Gwy yn awgrymu efallai eu bod yn gyfyngedig i gaeau bach neu badogau gerllaw aneddiadau (tir âr) yng nghanol darnau helaeth o dir heb ei rannu (tir allan) (Evans 2001, 34). Ni wnaed unrhyw waith cymaradwy yn achos Bro Gwyr, nac ychwaith ardal awdurdod unedol Abertawe.

O dan y cyfryw amgylchiadau, mae'n debyg i unrhyw aneddiadau newydd gael eu creu trwy amgáu tir a arferai fod yn agored. Mae gan lawer o'r caeau cyntaf a amgaewyd ffurf gromliniol nodweddiadol, am mai dyma'r siâp fwyaf economaidd ar gyfer cae pan nas cyfyngir gan ffactorau eraill, megis ffiniau sy'n bodoli eisoes neu'r angen i greu caelun yr un pryd (er y bydd angen cymryd nodweddion topograffaidd i ystyriaeth wrth gwrs).

Yn ôl i'r brig

Tirweddau amaethyddol a thirweddau anheddu

Prin yw'r dystiolaeth uniongyrchol o'r defnydd a wneid o'r dirwedd amaethyddol bresennol yn y cyfnod cynhanesyddol. Defnyddid ogofâu yn Llethrid Cwm (HLCA064) yn y cyfnod Mesolithig a'r Oes Efydd, at ddibenion claddu yn ddiweddarach. Mae'r meini hirion a geir mewn clystyrau yng ngogledd a gorllewin y penrhyn hefyd yn dyddio o'r Oes Efydd, megis y rhai a leolir gerllaw Old Walls (HLCA020), olion grwp yr ymddengys ei fod cynnwys llawer mwy o feini hirion yn wreiddiol; cofnododd RCAHMW (1976a, 121-2) ddamcaniaeth efallai eu bod yn gysylltiedig â llwybrau cynnar, ond ni lwyddodd i'w phrofi. Cynrychiolir y cyfnod cynhanesyddol diweddarach a'r cyfnod Rhufeinig gan nifer fawr o glostiroedd bach, ond hyd y gwyddom nid yw'r un ohonynt yn gysylltiedig â nodweddion yn y dirwedd ehangach, megis caeau.

Gellir olrhain caelun y rhan fwyaf o Fro Gwyr yn ôl i system caeau agored y cyfnod canoloesol, (Flatres 1951; Kissock 1986). Y farn gyffredin yw i'r caeau agored gael eu cyflwyno yn gyntaf gan y Normaniaid (Emery 1971, 155), er bod Kissock (1991) wedi dadlau y gallant ddyddio o'r cyfnod cyn y goresgyniad Normanaidd. Fodd bynnag, er gwaethaf y gred draddodiadol i aneddiadau cnewyllol Bro Gwyr gael eu sefydlu o fewn eu systemau caeau agored o randiroedd yn y cyfnod pan oedd Gwyr o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid, mae rhesymau cymhellol dros awgrymu i'r patrymau anheddu hyn, o leiaf fel yr ymddangosant yng ngogledd a gorllewin penrhyn Gwyr, gael eu sefydlu yn gynnar ac iddynt ddatblygu o bosibl o batrymau anheddu Cymreig cynharach a oedd wedi goroesi, y ceir modelau ar eu cyfer yn y Cyfreithiau Cymreig. Mewn gwirionedd mae bodolaeth rhandiroedd yn gysylltiedig â threfi (aneddiadau) maenol rydd. Mae tir cnewyllol neu dir corddlan, amrywiad ar dir etifeddol sy'n cynnwys lleiniau bach neu ddrylliau wedi'u trefnu yn rheiddiol o amgylch rhyw fath o gnewyllyn, yn fath o drefniant o randiroedd a all fod wedi cael rhyw ddylanwad ar aneddiadau'r ardal: gerddi cyffredin oedd y rhain, a ddelid yn aml gan is-denantiaid. Gallai'r cnewyllyn fod yn fynwent, gyda thir eglwysig yn cael ei rannu gan frodyr er enghraifft. Yn yr un modd byddai tenantiaid caeth wedi dal cyfrannau cyfartal o dir cyfrifedig yn gyfnewid am gyd-rwymedigaethau a rhoddion cymunedol i'r faerdref ar ffurf taliad mewn nwyddau, gwasanaethau neu arian (Jones 1989).

Mae'n debyg i aneddiadau Rhosili (HLCA031; HLCA013), Llangynydd (HLCA011), Llanrhidian (HLCA022), Port Eynon (HLCA044), a Llanmadog (HLCA007) ddatblygu i ddechrau fel aneddiadau cnewyllol wedi'u canoli ar eglwysi canoloesol cynnar. Mae patrwm tebyg i'w weld yn Llanddewi, maenor Esgobol, lle y ceir tystiolaeth o anheddiad canoloesol anghyfannedd gerllaw'r eglwys. Dechreuodd Llandeilo Ferwallt, maenor Esgobol arall, fel anheddiad cnewyllol hefyd, er bod hynny wedi'i guddio rywfaint bellach gan y twf anghymesur a gafwyd yn yr 20fed ganrif. Mae anheddiad Pen-rhys (Mounty Brough), wedi'i ganoli ar ei eglwys, y mae'n ddiddorol nodi y gall ddyddio o'r cyfnod cyn y goresgyniad Normanaidd, ac ar amddiffynfa gylch, y credir unwaith eto iddo gael ei sefydlu gan y Normaniaid, ond ni chadarnhawyd hynny.

Ystyriwyd mai'r cyfnod canoloesol yw'r cyfnod cynharaf y gellir olrhain rhannau sylweddol o'r dirwedd fodern iddo; er y gall hynny fod yn wir ar hyn o bryd, mae'n ddigon posibl y bydd gwaith ymchwil/astudio pellach yn y dyfodol yn taflu rhagor o oleuni ar y mater ac yn caniatáu ail-greu tirweddau canoloesol cynnar Bro Gwyr i ryw raddau. Yn ddiau y Vile, ardal o lain-gaeau sy'n dal i fodoli yn Rhosili ac sydd o bwys cenedlaethol; ffiniau'r parc hela canoloesol y gellir eu gweld o hyd ym Mharc le Breos, er i ardal y parc ei hun gael ei rhannu'n gaeau yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, ac yn y cyfnod Ôl-ganoloesol (Leighton 1999), yw'r tirweddau creiriol pwysicaf ym Mro Gwyr yn dyddio o'r cyfnod canoloesol. Y Vile yw'r unig enghraifft o gae agored canoloesol sydd wedi goroesi i raddau helaeth, er nad oes unrhyw gofnodion sy'n gynharach na'r 18fed century. Er gwaethaf y gred gyffredinol i'r patrwm hwn gael ei gyflwyno gan y Normaniaid i gymryd lle'r anheddiad gwasgaredig yr ystyrir ei fod yn cynrychioli'r patrwm anheddu nodweddiadol mewn ardaloedd o dan reolaeth y Cymry, mae'n debyg bod rhyw fath o weithgarwch anheddu yn digwydd yn yr ardal cyn hynny, a dadleuodd Kissock (1991, 41-3) fod cae agored yn Rhosili eisoes yn nodwedd o'r dirwedd gyn-Normanaidd hon. Awgrymodd Davies (1978, 135; 1979, 97, 124) hefyd efallai mai Rhosili yw'r Lann Cingulan y cyfeirir ato yn Llyfr Llandaf, y mae ei gyd-destun yn nodi bod yn rhaid ei fod wedi'i leoli ym Mro Gwyr, fodd bynnag mae ystâd gyfagos Lann Gemei, y nodir bod ei ffiniau yn rhedeg 'o esgair y Bryn, sy'n rhannu'r tir heb ei aredig a'r cae, i mewn i'r môr, ac [o'r un esgair] hyd at ffynnon Afon Diwgurach; ar hyd [Afon Diwgurach] i lawr at y môr (Evans 1893, 140, 368) yn cyd-fynd yn well â'r topograffi.

Yn wreiddiol roedd y Vile a systemau caeau agored eraill wedi'u rhannu yn lleiniau a oedd wedi'u gwahanu gan gloddiau o dyweirch, a elwir yn rhandiroedd neu'n ddrylliau, (ymddengys i'r system hon ddatblygu o'r defnydd a wneid o raniadau degwm, lle y defnyddir y gair i nodi daliad tir mewn cae cymunedol a oedd yn dal heb ei amgáu yn gyfan gwbl o'r system caeau agored). Ymddengys fod y dull o reoli systemau caeau agored, megis rhai'r Vile, ac mewn mannau eraill (e.e. Llangynydd a Llanrhidian) wedi'i nodweddu gan gymysgedd o dir âr a thir pori cyffredin, a reolid trwy gytundeb ymhlith deiliaid y lleiniau; ymddengys i'r daliadau hyn gael eu gweithio gan y gymuned gyfan (Emery 1974, 7-12). Lle y cyflwynwyd ffiniau modern i ddisodli'r cloddiau neu ychwanegu atynt, mae'r rhain yn cynnwys gwrychoedd wedi'u plannu ar ben y cloddiau, a ffensys pyst a gwifrau, a rhai waliau cerrig.

Drwy astudio'r mapiau degwm gwelwn, yn y mwyafrif o blwyfi, fod o leiaf rhai ardaloedd bach o lain-gaeau wedi goroesi tan ail chwarter y 19eg ganrif ar ffurf a oedd yn debyg i'r Vile (h.y. heb unrhyw ffiniau parhaol ar y tir rhwng lleiniau, a dangosir eu bod wedi'u rhannu gan linellau dotiog ar y map); ceir hefyd ardaloedd bach o gaeau hirgul y mae'n amlwg eu bod yn lleiniau amgaeëdig. Mae'r lleiniau nas rhannwyd o fewn dolydd amgaeëdig, sydd i'w gweld ger Llethrid, yn enghraifft. Nodwyd 'Vile' arall (a adwaenir fel y Vile) lle y ceir llain-gaeau gweddilliol, a leolir rhwng Llangynydd a Burry Green (Morris 1998, 135), mae Morris hefyd yn darparu rhestr fer o leoliadau eraill ym Mro Gwyr lle y mae arwyddion o gyn-leiniau agored. Mae rhai elfennau o lain-gaeau wedi goroesi, er enghraifft i'r gogledd o bentref Llanmadog (SS442936), neu yn Llanrhidian Uchaf, rhwng Eglwys Llanyrnewydd a Chefn Bychan (SS855948); nid oes unrhyw wahaniaeth amlwg yn hyn o beth rhwng de a gorllewin Bro Gwyr a seisnigeiddiwyd i raddau helaethach a gogledd-ddwyrain Bro Gwyr lle y dengys yr enwau lleoedd bod yr iaith Gymraeg wedi goroesi i raddau helaethach. Mae Llandeilo Ferwallt yn enghraifft arbennig o ddiddorol (HLCA086), lle y dengys y map degwm glytwaith o gaeau hirgul mewn blociau yn rhedeg fwy neu lai ar onglau sgwâr i'w gilydd. Er bod gan y mwyafrif o'r rhain ffiniau soled, ceir rhai lle y defnyddiwyd llinellau dotiog ar gyfer y ffiniau, sy'n dangos eu bod yn lleiniau yn wreiddiol. Mae caeau unigol i'w gweld o hyd, ac maent fwyaf amlwg i'r dwyrain o Fferm Longash Farm (SS581887) ac i'r de o bentref Murton (SS588887), ond mae'r patrwm cyfan yn dal i fod yn dra amlwg a llywiodd ddatblygiad aneddiadau yn y rhan hon o'r plwyf yn ail hanner yr 20fed ganrif, mae'r un peth yn wir am ddatblygiad aneddiadau yn yr 20fed ganrif yn Southgate, Pennard. Mewn cyferbyniad, mae'r ardal i'r gogledd o ffordd y B4436, tua Cilâ Uchaf, Wernllath (HLCA080) yn fwy afreolaidd ac mae'n cynrychioli tir ar Fynydd Llwynteg a Thir Comin Clyne a amgaewyd fesul dipyn (HLCA074 a HLCA079, yn y drefn honno). Nodweddir Llanrhidian Uchaf (HLCA067) hefyd gan weithgarwch amgáu a chlirio coetir (asartio) a gyflawnwyd fesul tipyn; ymddengys fod hyn yn cynrychioli yn bennaf gynnydd mewn gweithgarwch anheddu ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, yn hytrach nag unrhyw syniad o'r daliad gwasgaredig 'traddodiadol Cymreig', am yr ymddengys fod y systemau amaethyddol hyn i'r gogledd-orllewin o'r ardal yn cynnwys anheddiad cnewyllol a chyn-gae agored.'

Lle roedd system caeau agored ar waith, mae'n debyg bod anheddiad cnewyllol yn gysylltiedig â hi, a'r anheddiad cnewyllol yw'r brif ffurf nodweddiadol ym mhenrhyn Gwyr o hyd yr ymddengys ei fod yn cyferbynnu â phlwyfi ucheldirol Llandeilo Talybont a Llangyfelach, y tu hwnt i ffiniau'r AOHNE, lle yr ymddengys mai aneddiadau anghnewyllol yw'r norm, ac i ffermydd gael eu creu trwy amgáu tir fesul tipyn. Yr hyn sy'n dipyn o syndod yw bod tystiolaeth hefyd ar fap degwm Llanrhidian o rai ardaloedd o randiroedd, yn Wernffrwd, Rallt, Llanmorlais a mannau eraill yn Llanrhidian Uchaf (HLCA067). Mae tystiolaeth ddogfennol yn dyddio o'r cyfnod canoloesol hefyd yn cyfeirio at systemau caeau agored yn gweithredu yn yr ardal (Cooper 1986; 1988).

Ceir aneddiadau gwasgaredig anghnewyllol yn ardal penrhyn Gwyr (Subboscus), er enghraifft yn Llanrhidian Uchaf (HLCA067), lle yr ymddengys fod dylanwad y Cymry wedi parhau ar ei gryfaf. Fodd bynnag efallai y byddai dweud i'r aneddiadau gwasgaredig gyfateb i 'Draddodiad Cymreig' neu ddylanwad Cymreig, neu fel arall, yn gorsymleiddio pethau. Ymddengys fod aneddiadau gwasgaredig ym mhenrhyn Gwyr yn ymateb demograffig, o leiaf yn rhannol, i newid cymdeithasol a ffyniant economaidd a nodwyd ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, a achosodd newidiadau o ran amaethyddiaeth a phatrymau anheddu.

Y fferm yw'r brif uned o raniad tir yn y caelun fel y mae heddiw; at ei gilydd mae gan y ffermydd hyn gynllun afreolaidd. Ymddengys i'r mwyafrif o ddaliadau gael eu hamgáu o gaeau agored y cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol, proses a oedd wedi'i chwblhau fwy neu lai erbyn i'r mapiau degwm gael eu llunio yn y 1830au a'r 1840au. Ymddengys i eraill gael eu hamgáu o dir comin, neu dir a arferai berthyn i faenorau mynachaidd (gweler 6.4, isod), neu dir nas dyrannwyd, megis ym mharc ceirw canoloesol Parc le Breos. Amrywiai'r polisi o rannu caeau o fewn ffermydd unigol. Mewn rhai ffermydd mae wedi'i seilio'n agos ar y lleiniau unigol, y gellir adnabod rhai ohonynt heddiw, ac y gellid adnabod llawer mwy adeg llunio'r mapiau degwm. Mewn ffermydd eraill ymddengys i ailarolwg cyfan gael ei gynnal, fel bod caeau o fewn y fferm benodol honno yn rheolaidd. Trydydd opsiwn oedd creu caeau bach afreolaidd eu siâp; gwelir hyn amlaf yn y rhannau mwy bryniog o'r penrhyn, yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain, ond mae atchweliad map yn nodi'n glir mai'r caeau agored oedd wrth wraidd y patrwm hwn o gaeau bach afreolaidd eu siâp. Cofnodir gweithgarwch tresmasu ar dir comin o'r 16eg ganrif, a gallai amrywio o gaeau uned sengl o 3 erw, hyd at flociau o 120 erw. Ceid ardaloedd helaeth o'r rhain yn rhannau gogleddol a dwyreiniol penrhyn Gwyr. Buwyd yn tresmasu ar dir at amrywiaeth o ddibenion, rhai amaethyddol yn bennaf (tir âr yn ogystal â thir pori a dolydd) ond gallent gynnwys gweithgarwch cloddio glo neu felinau dwr. (Emery 1971, 155-8; Robinson 1968). Gellir adnabod ardaloedd bach o gaeau ar y morfa heli, megis er enghraifft yn Landimôr (HLCA015; Locock 1996a, 11). Gwrychoedd o wahanol fath yw'r mathau mwyaf cyffredin o ffin, yn arbennig cloddiau ac arnynt wrychoedd a gwrychoedd â choed. Ychydig iawn o ddefnydd a wneir o waliau cerrig.

Ymddengys i fodelau Eingl-Normanaidd ddylanwadu i ryw raddau ar weithgarwch anheddu, megis y caelun, er y gall fod yn seiliedig ar fodelau brodorol cynharach, a chynhwysai yn wreiddiol bentrefi bach wedi'u cnewyllu ar un canolbwynt, ynghyd â phentrefannau llai o faint a ffermydd anghysbell. Ymddengys fod pentref Oxwich (HLCA048), yn annodweddiadol, am ei fod yn ddatblygiad strimynnog (Nuttgens 1979, 7-9), fodd bynnag byddai dadansoddi'r dirwedd ymhellach yn awgrymu ei bod yn fwy tebygol mai Oxwich Green a leolir yn agosach i'r castell canoloesol diweddar a thrigfan gaerog Castell Oxwich, sy'n cynnwys cnewyllyn o ffermydd wedi'u lleoli o amgylch 'lawnt' agored, a nifer o 'bentrefannau' anghysbell oedd craidd yr anheddiad canoloesol cynharach. Roedd y broses amgáu, a chyfuno daliadau, fel y digwyddodd o amgylch Oxwich Green, yn aml yn gysylltiedig â chryn dipyn o gynnwrf cymdeithasol ac afleoli poblogaeth, a arweiniodd at gynyddu nifer y bobl dlawd ddi-dir. Ymddengys i anheddiad strimynnog presennol Oxwich ddatblygu o ganlyniad i weithgarwch tresmasu ar hyd cwr Morfa Oxwich (HLCA054), ac mae'n bosibl iddo ddatblygu yn rhannol o ganlyniad i weithgarwch amgáu.

Ledled Bro Gwyr ymddengys i aneddiadau cnewyllol grebachu neu ymddengys iddynt gael eu gadael o blaid aneddiadau o fewn daliadau newydd eu cyfuno, er enghraifft yn Kennexstone a Tankeylake (HLCA016). Efallai i'r broses hon ddechrau ar ddiwedd y cyfnod canoloesol, o ganlyniad i'r Pla Du neu wrthryfel Glyn Dwr. Nid yw'n glir i ba raddau y cynhwysai'r broses hon, a ddigwyddodd yn y cyfnod canoloesol yn hytrach na'r cyfnod ôl-ganoloesol, aneddiadau yn crebachu neu'n cael eu gadael; erbyn i'r mapiau degwm gael eu harolygu, ychydig iawn o'r systemau caeau a oedd ar ôl i'w hamgáu. Nodwyd aneddiadau anghyfannedd ym mhob rhan o ogledd a gorllewin Bro Gwyr yn arbennig, er enghraifft yn Llanelen (HLCA067), Coety Green (HLCA011), ac yn Llanddewi (HLCA034), ymhlith eraill. Mae'n debyg bod aneddiadau gwledig anghyfannedd eraill yn aros i gael eu darganfod, er enghraifft arweiniodd gwaith a wnaed yn ddiweddar gan Brifysgol Cymru, Casnewydd, at nodi cyfres o lwyfannau sy'n gysylltiedig yn ôl pob tebyg â phentref canoloesol anghyfannedd/suddedig yn New Henllys (HLCA033; Kissock 2006, sylw personol).

Ymestynnwyd y mwyafrif o bentrefi Bro Gwyr, a oroesodd i mewn i'r cyfnod ôl-ganoloesol, ar ôl hynny gan ddatblygiadau strimynnog yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ac erbyn hyn mae rhai wedi tyfu'n aneddiadau sylweddol. Mae'r newidiadau mwyaf i'w gweld ym Mhennard, a arferai fod yn bentref gwasgaredig a oedd wedi'i ganoli'n fras ar ei eglwys (HLCA061), a ddatblygodd yn ddiweddarach ganolbwynt yn Southgate (HLCA062), ar hyd y ffordd rhwng y cwrs golff a'r clogwyni. Mae gwaith mapio o'r 18fed ganrif hyd heddiw yn caniatáu dilyn datblygiad systemau caeau agored, megis yr un yn y Vile yn Rhosili, ac yn wir systemau eraill, megis y rhai a nodwyd yn Llanrhidian (HLCA022), Leason (HLCA020), Llangynydd (HLCA011), Port Eynon (HLCA044), Horton (HLCA045), ac mewn mannau eraill. Yn gyffredinol mae tystiolaeth gartograffig yn mapio'r broses o raddol amgáu tir ar y cyrion yn gyntaf, er bod y broses o gyfuno daliadau, mewn llawer o achosion, wedi hen ddechrau erbyn canol y 19eg ganrif, os nad diwedd y 18fed ganrif. Er enghraifft gellir priodoli'r ffaith bod system y Vile wedi goroesi hyd yn gymharol ddiweddar yn rhannol i'w natur anghysbell ac agweddau ceidwadol, yn wir yn y fan hon roedd y broses amgáu a chyfuno yn dal heb ei chwblhau yn y 1970au; rhwng 1780 a 1845 ni nodwyd fawr ddim newid ym mhatrwm anheddu'r gwahanol ddaliadau a rennid rhwng ffermwyr o Rosili a Middleton lle yr amrywiai'r daliadau o ychydig o dan erw i 49 erw (Davies 1956). Ymddengys mai graddol amgáu'r mwyafrif o leiniau, ynghyd â chyfuno daliadau yn arbennig tua diwedd y 19eg ganrif a chyfuno caeau i greu rhai mwy o faint trwy symud rhaniadau, fel arfer yn ystod yr 20fed ganrif, oedd y norm.

Nid oedd y gwaith o amgáu plwyfi caeau agored Bro Gwyr wedi'i chwblhau'n llwyr pan luniwyd y mapiau degwm rhwng 1838 a 1848; roedd ardaloedd helaeth o lain-gaeau agored wedi goroesi, a oedd naill ai wedi'u hamgáu'n gaeau hirgul neu a oedd yn dal i weithredu fel rhandiroedd. Gellir gweld rhai o'r caeau hirgul hyn o hyd, er bod gweithgarwch gwaredu ffiniau wedi tueddu i guddio eu tarddiad. Gellir adnabod elfennau eraill o'r dirwedd hanesyddol hefyd, yn arbennig parc hela canoloesol Parc le Breos a'r faenor fynachaidd yn Walterston Leighton 1999, 76; Toft 1996), ond mae'r rhain wedi mynd trwy'r un prosesau â'r rhai a ffurfiodd y caelun mewn mannau eraill yn yr ardal. Mae'r prosesau hyn yn cynnwys amgáu'r tir diffaith a thresmasu ar y tir diffaith, sef y tiroedd comin mewndirol a'r clogwyni a'r morfeydd heli. Cynhwysai'r dirwedd hefyd ychydig o ardaloedd o goetir, y lleolir rhai ohonynt ar lethrau serth y cymoedd, sy'n torri ochr ddeheuol y penrhyn.

Yn yr 20fed ganrif cliriwyd rhai gwrychoedd yn ardaloedd amaethyddol Bro Gwyr, gan newid y caelun, er bod caeau yn dal i fod yn fach yn ardaloedd mwy bryniog gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Bro Gwyr, lle y mae'r tir yn llai addas ar gyfer peiriannau amaethyddol ar raddfa fawr; mae caeau bach hefyd wedi goroesi i gryn raddau o amgylch Llandeilo Ferwallt lle nad yw'r un cyfyngiadau topograffaidd yn berthnasol.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau eglwysig

Mae cryn dipyn o lenyddiaeth sy'n cysylltu clostiroedd cromliniol â safleoedd eglwysig canoloesol cynnar (e.e. Thomas 1972, Brook 1992), a cheir nifer o eglwysi o fewn AOHNE Bro Gwyr lle y gallai'r fynwent gynrychioli'r fath glostir cynnar. Daw'r enghreifftiau mwyaf argyhoeddiadol o'r safleoedd hynny lle y mae tystiolaeth arall ar gyfer eglwys gynnar, megis yn eglwys hynafol Teilo Sant yn Llandeilo Ferwallt, a all ddyddio o'r 6ed ganrif. Mae Llangynydd yn eglwys gynnar arall, ac yma ymddengys y fynwent fel hanner hirgrwn a amgylchynir i raddau helaeth gan ffyrdd (arwydd posibl arall i'r eglwys gael ei sefydlu'n gynnar). Mae'n bosibl bod rhai o'r mynwentydd cynnar hyn wedi'u lleoli yng nghanol clostiroedd cromliniol mwy o faint, a all gynrychioli ffin y nawdd neu'r lloches gysylltiedig; ceir safle posibl o'r math hwn ym Mhennard (HLCA061). Fodd bynnag, mae'r cyfryw batrymau cromliniol hefyd yn nodweddiadol o gaeau a grëwyd o dir comin neu ddarnau eraill o dir nad oedd wedi'u hamaethu, y gellid eu creu unrhyw bryd hyd at ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol; gellir tybio i gae gael ei greu fel hyn pan y'i lleolir ar gwr tir comin. Cofnodir rhai safleoedd eglwysig cynnar ym Mro Gwyr, a'u hystadau cysylltiedig, yn Llyfr Llandaf, casgliad o siarteri yn ymwneud â rhoddion tir i esgobaeth Llandaf erbyn y 12fed ganrif; mae'r rhain yn cynnwys Llandeilo Ferwallt, ac yn llai sicr, Penmaen, Pennard a Rhosili (Davies 1979, 97-8, 124; Evans 1893, 140, 144, 145, 239). Hyd yma, ni chadarnhawyd yr un o ffiniau'r siarter ar lawr gwlad, ond efallai fod potensial ar gyfer adnabod yma elfennau o'r dirwedd bresennol fel rhai sy'n dyddio o'r cyfnod cyn y goresgyniad Normanaidd (Kissock 1991; 2001). Dadleuwyd y gall daliadau eglwysig cynnar, megis Lann Cinuur yn Llandeilo Ferwallt (HLCA086), a nodwyd gyda'r ystad esgobol a ddelid gan esgobaeth Llandaf (Davies 1979, 97-8), fod wedi goroesi wedi'u ffosileiddio yn y systemau caeau sydd wedi goroesi (Kissock 1991).

Mae arwyddion o'r nodwedd eglwysig ganoloesol gynnar yn gyffredin ledled penrhyn Gwyr; Eglwys Madog Sant, Llanmadog (HLCA007), a'i mynwent rannol gromliniol er enghraifft, er ei bod yn dyddio yn bennaf o'r ddeuddegfed ganrif, ystyrir iddi gael ei sefydlu yn llawer cynharach gan Madog Sant. Mae cysegriadau Cymreig canoloesol cynnar yn cynnwys yr un i Cadog yn Cheriton (HLCA018), yn ôl pob tebyg yr eglwys wreiddiol a oedd yn gysylltiedig â maenor gynnar Landimôr, yn ddiweddarach rhwng 1135 a 1230, rhoddwyd yr eglwys yn Cheriton ynghyd â'r eglwysi yn Llanrhidian a Rhosili i Farchogion Sant Ioan. O ran dau anheddiad Rhosili (HLCA013 a HLCA031), ystyrir mai'r ddwy ystad gyffiniol, Lann Cingulan a Lann Gemei, y cyfeirir atynt yn Llyfr Llandaf , yw'r rhain; mae Davies (1978, 135; 1979, 124) yn awgrymu mai Lann Cingulan oedd Rhosili. Fodd bynnag, mae'r topograffi yn cyd-fynd orau os mai Lann Cingulan yw'r Burrows, y nodir bod ei ffiniau yn rhedeg 'between the two ditches towards the sea and upwards along the two ditches to the mountain along the Cecin, the boundary of Llan Gemei' (Evans 1893, 144, 369), ac os mai Lann Gemei yw pentref Rhosili. Mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu erbyn dechrau'r cyfnod canoloesol fod cell fynachaidd wedi'i sefydlu yn Llanrhidian (HLCA022); ystyriwyd bod cyfeiriad yn Llyfr Llandaf dyddiedig tua 650 yn nodi bod cellula i'w chael ar y safle a oedd yn ddibynnol ar y brif ystad fynachaidd yn Rhosili (Davies 1979, 97). Unwaith eto ategir y dystiolaeth ddogfennol gan olion ffisegol ar y safle carreg gerfiedig yn dyddio o'r 9fed-10fed ganrif (sydd hefyd yn awgrymu ei fod yn safle pwysig a chanddo ryw ddiddordeb pensaernïol) a siâp rannol gromliniol ei mynwent, yn ogystal â'r ffaith iddi gael ei chysegru i'r Seintiau Cymreig Illtud a Rhidian.

Roedd y feudwyfa ar y môr yn nodweddiadol o Gristnogaeth ganoloesol gynnar, a sefydlid yn aml i ddarparu encil unig. Mae'r anheddiad mynachaidd/meudwyfa ganoloesol (SAM GM473) ar Burry Holms (HLCA006) a adwaenid fel 'the church of the isle' neu 'the hermitage of St. Kenydd-atte-Holme' yn enghraifft o'r cyfryw safle. Cofnodwyd i Henry Iarll Warwick, arglwydd Abertawe a Gwyr, roi Burry Holms yn ogystal ag eiddo arall yng ngogledd-orllewin Bro Gwyr i Abaty St Taurin yn Evreux, Normandi rhwng 1095 a 1115 (Savory 1984). Er bod y prif strwythurau sydd wedi goroesi yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif hyd y bedwaredd ganrif ar ddeg, datgelodd gwaith cloddio a wnaed yn y 1960au dystiolaeth o hen anheddiad sefydledig yn dyddio o'r cyfnod cyn y goresgyniad Normanaidd; cynhwysai'r olion yn y safle eglwys, anheddau cysylltiedig, neuadd, ac ystafell ddosbarth bosibl.

Mae'r eglwys yn Llangynydd hefyd wedi'i chysegru i Cenydd Sant a fu'n byw yn y 6ed ganrif (HLCA011); mae croes yn dyddio o'r nawfed ganrif (RCAHMW 1976c, 46 rhif 905) i'w gweld o hyd ar y safle hwn ac mae ganddo fynwent rannol gromliniol, sy'n awgrymu iddo gael ei sefydlu yn gynnar. Ystyrir mai Llangynydd oedd safle eglwys glas, a ddinistriwyd yn ôl pob sôn yn ystod cyrch gan Lychlynwyr ym 986 OC. Erbyn dechrau'r 12fed ganrif rhoddwyd yr eglwys, y bu'r meudwy, Caradog yn byw ynddi gynt, i Abaty St.Taurinus yn Evreux yn Normandi gan Iarll Warwick. Yn fuan ar ôl hynny sefydlwyd cell priordy Fenedictaidd fach a safai ar wahân i'r eglwys ac a oedd yn annibynnol arni (Orrin 1979, 40). Priodolir sefydlu eglwys Cadog Sant (Cattwg), Port Eynon (HLCA044), i Cenydd Sant, un o genhadon Cadog Sant, hefyd, yn y 6ed ganrif neu'r 7fed ganrif.

Mae'r union effaith a gafodd rhoi eglwysi ac eiddo arall i'r gwahanol urddau mynachaidd ar y dirwedd heb ei hastudio'n fanwl eto o ran Bro Gwyr. Er enghraifft rhoddwyd nifer o eglwysi gogledd a gorllewin Bro Gwyr i Farchogion Sant Ioan, rhwng y 12fed ganrif a'r 14eg ganrif. Efallai i gynllun cyfredol rhai aneddiadau, megis Llanmadog (HLCA007) a Cheriton (HLCA018), gael ei ddylanwadu gan roddion tir i urddau mynachaidd, er bod angen gwneud rhagor o waith astudio manwl i gadarnhau hyn.

Mae ardal Llanddewi (HLCA034) yn bwysig fel canolfan eglwysig hirsefydlog sy'n dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol fel y tystia clostir cromliniol ei mynwent a'r ffaith iddi gael ei chysegru i Dewi Sant (Evans 2003). Dywedir i'r eglwys yn Llanddewi sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg gael ei hadeiladu gan Henry de Gower, Esgob Tyddewi (1328-47) ynghyd â chastell neu balas, fodd bynnag, ymddengys i'r palas, y cyfeirir ato yn Ystadau Dewi Sant, gael ei adael yn anghyfannedd (Orrin 1979). Dyfalwyd bod cloddwaith a leolir 450m i'r de-orllewin (00160w; 305468; SAM GM334) o'r eglwys ar ddarn trionglog o dir comin yn agos i ganol yr ardal yn gysylltiedig â safle'r palas dywededig, fodd bynnag, mae eraill yn nodi ei fod yn glostir yn dyddio o'r Oes Haearn, sy'n amheus (SAM disgrifiad).

Mae arwyddion eraill o'r dirwedd eglwysig ganoloesol gynnar yn cynnwys Croes Biler yn dyddio o'r nawfed ganrif (SAM GM089) a geir ger Stouthall, Reynoldston (HLCA037); mae'n bosibl bod y groes hon yn nodi ffin ystad eglwysig, a oedd wedi'i chanoli o bosibl ar Landdewi, neu Langynydd. Credir bod eglwys St George a leolir gerllaw yn Reynoldston (HLCA037) yn sefyll ar safle'r eglwys ganoloesol a sefydlwyd gan Syr Reginald de Breos yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Ymddengys i faenorau mynachaidd a thir maenoraidd gael rhywfaint o effaith ar y dirwedd, er na ddadansoddwyd y dirwedd sy'n gysylltiedig â maenorau Bro Gwyr yn fanwl eto. Yn aml ymddengys fod y tirweddau hyn wedi gweld cryn dipyn o welliannau amaethyddol, yn arbennig y rhai sy'n gysylltiedig â'r Urdd Sistersaidd megis yn HLCA043, Pen-y-fai a Monksland, a ffurfiai faenorau Abaty Castell-nedd. Cynhwysai'r faenor fynachaidd, y cyfeirir ati yn Nhrethiant y Pab Nicholas IV ym 1291 un gweddgyfair o dir âr a dwy felin. Byddai'r gwahanol faenorau, megis y rhai a oedd yn gysylltiedig ag Abaty Sistersaidd Castell-nedd, wedi cael dylanwad pwysig ar ddatblygiad tirwedd yr ardal o ran amaethyddiaeth ac aneddiadau; datblygwyd arferion magu da byw (gwartheg ac yn arbennig ddefaid) ymhellach pan oedd yr ardal o dan reolaeth fynachaidd (Owen 1989, 213; Cowley 1986; Williams 1990 a 2001). Ceir tiroedd mynachaidd eraill yng Nghilibion (HLCA070) a Walterston (HLCA063), sy'n gysylltiedig unwaith eto ag Abaty Sistersaidd Castell-nedd. Mewn mannau eraill, mae caeau rheolaidd o faint mawr i ganolig i'w gweld mewn cysylltiad â chyn-dir maenorau mynachaidd megis yn Lunnon (HLCA065) a Berry o fewn HLCA040, yr oedd yr olaf yn un o Faenorau eglwysig Marchogion Sant Ioan. Ni wyddom sut yn union y ffurfiwyd y tirweddau sy'n gysylltiedig â'r daliadau mynachaidd hyn, fodd bynnag mae'n bosibl i rai gael eu ffurfio trwy amgáu/cyfuno'r ystadau mynachaidd ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol wrth iddynt gael eu hailddosbarthu yn dilyn y Diwygiad Protestannaidd yn yr 16eg ganrif.

Ceir nifer o gapeli siantri yn yr ardal gan gynnwys Capel Backingston yn Llandeilo Ferwallt (HLCA086) a cheir cyfeiriadau hefyd at leoliad capel rhydd Henllys yn Llanddewi (HLCA033 neu efallai HLCA034), a arolygwyd ym 1545 a 1547 gan gomisiynwyr a benodwyd gan Harri'r VIII. Nid yw lleoliad capel Henllys yn hysbys bellach (Evans 2003a).

Mae cysylltiadau hanesyddol ag Anghydffurfiaeth yn nodwedd amlwg o weithgarwch anheddu ôl-ganoloesol ym Mro Gwyr, yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain sy'n fwy diwydiannol; cynrychiolir y nodwedd hon yn ffisegol gan gapeli, ysgolion Sul a thai cwrdd. Mae capeli anghydffurfiol, megis y rhai o fewn Llanrhidian Uchaf (HLCA067): Capel y Bedyddwyr Tirzah, Llanmorlais, Capel Annibynnol Crwys, Y Carmel, Capel Methodist Calfinaidd Penuel, Llanmorlais, ac Ystafell Genhadaeth Dewi Sant, Wernffrwd at ei gilydd yn nodweddiadol o aneddiadau gogledd-ddwyrain Bro Gwyr, ac maent yn adlewyrchu twf mewn aneddiadau diwydiannol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir y cysylltiad anghydffurfiol yn ne Bro Gwyr hefyd, er enghraifft yn Ilston (HLCA072) sy'n bwysig o ran anghydffurfiaeth gynnar ac fel y man lle y sefydlodd John Miles eglwys gyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru ym 1649; defnyddiai'r gynulleidfa o Fedyddwyr eglwys y plwyf tan y Diwygiad (Williams 1999, 11-18), a Burry Green (HLCA026) lle y mae capel Bethesda, a agorodd ym 1814, yn enwog am ei gysylltiad â'r Arglwyddes Diana Barham a'r Gymdeithas Galfinaidd a'r pregethwr enwog o Fro Gwyr, William Griffiths. Mae cysylltiadau cryf rhwng Oxwich (HLCA048), a Horton (HLCA045) ymhlith ardaloedd eraill a Methodistiaeth Wesleaidd. Er enghraifft, gwyddom i'r pregethwr Methodistaidd enwog John Wesley ymweld ag Oxwich ar nifer o achlysuron yn ystod ail hanner y 18fed ganrif.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau amddiffynnol

Prin yw'r tirweddau ym Mro Gwyr, y gellir dweud eu bod yn wirioneddol amddiffynnol, er bod gan nifer nodweddion neu elfennau amddiffynnol. Mae clostiroedd amddiffynedig cynhanesyddol, gan gynnwys ceyrydd pentir a bryngeyrydd (gweler 6.2 uchod), yn ffurfio elfennau nodweddiadol o ardaloedd arfordirol ac ardaloedd o dir comin, yr ymdrinnir â hwy yn fanylach mewn mannau eraill, am nad yw eu natur amddiffynnol ond yn rhan o'r darlun. Mae ardaloedd cymeriad lle y mae bryngeyrydd cynhanesyddol yn nodwedd yn cynnwys HLCA012 (y Bulworks, Bryn Llanmadog a HLCA066 (Cil Ifor); yn hyn o beth mae clostir(oeddd) mawr posibl a nodwyd ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn ystod y prosiect cyfredol yn union i'r de-orllewin o'r ail gaer hefyd o ddiddordeb.

Ymddengys fod ceyrydd pentir, sy'n cynnwys safleoedd arfordirol a mewndirol, yn nodweddu nid yn unig y cyfnod cynhanesyddol, ond hefyd y cyfnod canoloesol cynnar ac o bosibl dechrau'r cyfnod ar ôl y goresgyniad Normanaidd, ynghyd â chlostiroedd amddiffynnol syml ar ffurf amddiffynfeydd cylch. Mae'n ddigon posibl i safleoedd amddiffynnol barhau i gael eu defnyddio neu iddynt gael eu hailddefnyddio, clostiroedd ac amddiffynfeydd cylch yn benodol, er bod diffyg gwaith cloddio diweddar yn golygu bod yr union gronoleg a manylion yn gyfyngedig, neu'n fater o ddyfalu ar y gorau; dylid cofio nad oes angen priodoli'r amddiffynfa gylch fel math o safle o reidrwydd i'r Eingl-Normaniaid yn unig. Dengys y dosbarthiad o amddiffynfeydd cylch gydberthynas gref â thir gwell llwyfandir penrhyn Gwyr; nid yw'n debyg na fyddai'r tir hwn wedi cael ei ddefnyddio ar ddechrau'r cyfnod canoloesol. Oherwydd hynny a'r prinder tystiolaeth o weithgarwch anheddu ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, ar wahân i safleoedd eglwysig a'r posibilrwydd i geyrydd pentir barhau i gael eu meddiannu neu iddynt gael eu hailfeddiannu, ni fyddai'r posibilrwydd bod gan aneddiadau canoloesol cynnar yr un canolbwyntiau, â'r rhai a ddatblygwyd o dan reolaeth Eingl-Normanaidd, o reidrwydd yn anarferol, ac ni ddylid ei ddiystyru. Yn wir mae barn yn aml wedi'i rhannu o ran a ellir ystyried bod clostir amddiffynedig penodol yn perthyn i'r cyfnod cynhanesyddol, dechrau'r cyfnod canoloesol, neu'r cyfnod canoloesol, megis y cloddwaith yn Llanddewi (SAM GM334; HLCA034), y safle pentir yn North Hill Tor (SAM GM062; HLCA014), neu safle pentir mewndirol Pencynes yn Stembridge (SAM GM125; HLCA020). Gallai cronoleg y safle yn Berry (HLCA040), er enghraifft, lle y ceir clostir amddiffynedig (SAM GM178) y tybir ei fod yn dyddio o'r cyfnod cynhaneysddol, gerllaw safle â ffos o'i amgylch, yr ystyrir ei fod yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, o ddiddordeb. Mae ardaloedd cymeriad lle y gwyddom fod ceyrydd pentir a chlostiroedd amddiffynedig sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol neu o gyfnod diweddarach fel a ganlyn HLCA014, HLCA020, HLCA025, HLCA029, HLCA034, HLCA040, HLCA042, HLCA048 a HLCA049, HLCA055, HLCA058, HLCA060, HLCA064, HLCA067, a HLCA084.

Mae cronoleg datblygiad clostiroedd amddiffynnol yn amddiffynfeydd cylch, fel y nodwyd uchod, at ei gilydd heb ei phrofi, ac ni wnaed unrhyw waith cloddio ar amddiffynfa gylch ym Mro Gwyr yn ddiweddar. Cynhwysai'r gwaith cloddio mwyaf diweddar a wnaed yn y 1960au archwiliadau a wnaed ar yr amddiffynfa gylch yng nghastell Penmaen (SAM GM129), a ddyddiwyd i ddiwedd y ddeuddegfed ganrif; datgelodd gwaith cloddio a wnaed ar amddiffynfa gylch Mounty Brough (SAM GM053) ym 1927 olion llwyfan ymladd posibl. Mae Old Castle, i'r gogledd o Landeilo Ferwallt (SAM GM154; HLCA080), a gloddiwyd yn rhannol ym 1899 gan WL Morgan (RCAHMW 1991, 81-3 CR1), yn ddiddorol i ryw raddau oherwydd ei leoliad wrth y ffin rhwng tir a fu unwaith yn dir comin a'r cae agored sy'n gysylltiedig â Llandeilo Ferwallt (HLCA080); mae hyn yn awgrymu efallai i leoliad gael ei ddewis yn arbennig i reoli'r defnydd a wneid o'r tir comin a ffin y faenor i'r gogledd. Yn yr un modd gall lleoliad yr amddiffynfa gylch yn Norton (SAM GM157; HLCA048), amddiffynfa gylch anghyflawn a chanddi lwyfan ty mewnol ger Oxwich, yng nghwr gogleddol y faenor/ffi hefyd adlewyrchu swyddogaeth amddiffyn tiriogaeth. Yn anffodus ychydig a wyddom am hanes y safle hwn, y mae'n bosibl ei fod yn rhan o ddaliad y teulu de la Mare, ynghyd â Chastell Oxwich ei hun.

Awgrymir i safle amddiffynnol cynharach, sef bryngaer Cil Ifor (HLCA066), gael ei ailddefnyddio yn ystod y cyfnod canoloesol, gan y ffaith i amddiffynfa gylch (SAM GM124) gael ei hadeiladu yn ne-ddwyrain y safle o fewn y rhagfuriau. Awgrymwyd efallai mai'r safle hwn neu'r gaer bentir/amddiffynfa gylch (SAM GM062) ar North Hill Tor yw lleoliad castell y teulu Tuberville nas lleolwyd.

O gestyll cerrig diweddarach Bro Gwyr efallai mai Castell Pen-rhys (SAM GM047; HLCA047) yw'r un sydd â'r nodweddion amddiffynnol amlycaf. Credir i'r castell hwn gael ei sefydlu gan y Normaniaid, ac mae'n dyddio o'r 13eg ganrif o leiaf, ond nid oes ganddo fawr ddim manylion y gellir eu dyddio. Difrodwyd y safle, a adawyd o blaid Castell Oxwich ar ddiwedd y cyfnod canoloesol, gan Cromwell yn yr 17eg ganrif, ac yn ddiweddarach, yn ystod y 18fed ganrif, fe'i trowyd yn adfail pictiwrésg.

Mae strwythurau canoloesol diweddarach, megis cestyll cerrig Weble (SAM GM010; HLCA020), a sefydlwyd yn y 14eg ganrif gan y teulu de la Bere, ac Oxwich (SAM GM043; SAM GM472; HLCA048), a all gynnwys darnau o strwythur canoloesol cynharach, sy'n gysylltiedig â'r teulu de la Mare, yn cynrychioli anheddau caerog yn hytrach na chestyll go iawn, er eu bod yn cynnwys elfennau amddiffynol clir (Newman 1995; RCAHMW 2000). Efallai fod y cestyll yn Scurlage (HLCA040), a Llanddewi (HLCA034), nad oes fawr ddim ohonynt ar ôl bellach, yn cynnwys trigfannau caerog llai o faint ar y gorau, er mai prin yw'r manylion. Gellir gweld Castell Bovehill, Landimôr (HLCA019), a adeiladwyd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol heb unrhyw ragflaenydd amlwg ar yr un safle, yn y cyd-destun hwn hefyd.

Yn ystod y 18fed ganrif sefydlwyd magnelfeydd ar Ynys a Bryn y Mwmbwls (HLCA042), ac unwaith eto ym 1860 mewn ymateb i'r bygythiad y byddai'r Ffrancwyr yn ymosod, ac ailatgyfnerthwyd yr ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae nodweddion amddiffynnol yn dyddio o'r ugeinfed ganrif yn cynnwys y safle Radar Isel Chain Home yn Oxwich Point (HLCA048) a nodweddion a sefydlwyd ar Fynydd Llwynteg, gan gynnwys erodrom fel rhan o amddiffynfeydd yr Ail Ryfel Byd (HLCA074 a HL075).

Yn ôl i'r brig

Tirweddau a Orchuddiwyd â Thywod

Mae proses naturiol erydu arfordirol a gorchuddio tir â thywod wedi cael effaith dra phwysig ar Fro Gwyr; ffurfiodd crynoadau o dywod wedi'i chwythu gan y gwynt ardaloedd o dwyni tywod glan môr mewn nifer o leoedd ar hyd arfordir De Cymru, y rheolwyd eu dosbarthiad yn bennaf gan dopograffi arfordirol a phrifwyntoedd y gorllewin. Fe'u ceir fel arfer mewn baeau; a chyfyngir arnynt gan faint y bae a thirwedd y gefnfro. Dengys tystiolaeth hanesyddol fod y prosesau gorchuddio tir â thywod yn weithredol iawn ar ddiwedd y cyfnod canoloesol, yn ystod y 13eg ganrif hyd y 15fed ganrif, pan waethygodd yr hinsawdd a phan gafwyd cynnydd amlwg o ran gorchuddio tir â thywod o ganlyniad i stormydd, glaw trymach a llanwau annormal, y cyfan yn digwydd gyda'i gilydd. Arweiniodd yr amgylchiadau hyn at erydu twyni tywod arfordirol a symud deunydd i ganol y tir. Cafodd prosesau tebyg gryn effaith ar dirweddau arfordirol mewn mannau eraill yng Nghymru, megis ym Merthyr Mawr a Chynffig yng Ngorllewin Morgannwg, ac ymhellach i ffwrdd yn Llanddwyn neu Gwningar Niwbwrch ar Ynys Môn, lle yr effeithiwyd ar y tiroedd a oedd yn gysylltiedig ag anheddiad Llys/maerdref Rhosyr yn dyddio o'r 12fed/13eg ganrif.

Gellir ystyried mai'r broses gorchuddio tir â thywod yw gwrthwyneb y broses amgáu/asartio, am iddi newid tir amgaeëdig yn dir comin i bob pwrpas. Ymddengys mai dim ond yn y rhannau hynny o'r arfordir, yr effeithiwyd arnynt gan brosesau gorchuddio tir â thywod o'r 13eg ganrif ymlaen, y digwyddodd hyn ac mae'r dystiolaeth orau o hyn i'w gweld ar arfordir y de ym Mhenmaen a Phennard, ac arfordir y gorllewin ger Rhosili ond mae'n bosibl iddo effeithio ar y gogledd-orllewin yn Llangynydd hefyd ac o amgylch cyrion Llanmadog.

Ceir tair enghraifft nodedig ym Mro Gwyr o brosesau gorchuddio tir â thywod yn ystod y cyfnod hwn, sef yr aneddiadau a'r safleoedd eglwysig canoloesol yn Nhwyni Tywod Penmaen, Twyni Tywod Pennard (HLCA058) a Rhosili Isaf (o fewn HLCA013). Mae ardaloedd tirwedd hanesyddol twyni tywod Penmaen a Phennard hefyd yn cynnwys olion henebion cynhanesyddol, gan gynnwys beddrod siambrog Neolithig a charneddau posibl yn dyddio o'r Oes Efydd. Dyfalwyd mai'r ardal hon yw safle dau bentref canoloesol anghyfannedd, am ei bod yn cynnwys olion dau gastell a dwy eglwys yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif hyd y drydedd ganrif ar ddeg. Gwyddom fod y twyni tywod ym Mhennard eisoes yn bodoli erbyn 1316. Yn raddol gorchuddiwyd mwy a mwy o dir â thywod nes iddi gael ei gadael yn y diwedd rywbryd yn yr unfed ganrif ar bymtheg; digwyddodd yr un peth ym Mhenmaen hefyd. Roedd y twyni tywod yn enwog am fod yn dir comin ac felly mae'n debyg iddynt gael eu defnyddio at ddibenion pori anifeiliaid o'r cyfnod ôl-ganoloesol a hefyd fel cwningar. Mae cryn dipyn o botensial ar gyfer astudio archeoleg gladdedig yn Nhwyni Tywod Penmaen a Phennard ac mae potensial mawr ar gyfer astudio tirweddau claddedig yn ymwneud â'r cyfnod Neolithig a'r Oes Efydd; fodd bynnag ni wyddom pa mor helaeth yw'r olion canoloesol yn yr ardal hon er ei bod yn debyg ei bod yn cynnwys rhagor o olion.

Mae cyfeiriadau yn dyddio o'r 7fed ganrif hyd y 10fed ganrif yn Llyfr Llandaf yn cyfeirio at ddwy ystâd eglwysig (Llan Cyngualan a Llan Gemei), y credir eu bod wedi'u lleoli o fewn plwyf Rhosili; cysylltwyd yr anheddiad yn Rhosili (HLCA013) a orchuddiwyd â thywod â'r un mwyaf gorllewinol o'r ystadau eglwysig hyn, sef Llan Cyngualan, er na phrofwyd y cysylltiad hwnnw eto). Mae dryswch ynghylch sut yn union y datblygodd y ddau anheddiad yn Rhosili, y pentref presennol (HLCA031), a'r anheddiad a orchuddiwyd â thywod (HLCA013), yn deillio o'r ffaith bod dwy eglwys; sef Eglwys y Santes Fair, ym Mhentref Rhosili (HLCA 031) ac un arall yn yr ardal a orchuddiwyd â thywod (310526), a gloddiwyd yn y 1980au. Yn ôl traddodiad lleol roedd drws Romanésg yr eglwys bresennol (o fewn HLCA031) wedi'i symud i'r eglwys a orchuddiwyd â thywod sy'n awgrymu i anheddiad presennol Rhosili (HLCA031) gael ei sefydlu o ganlyniad uniongyrchol i'r pentref isaf yn cael ei orchuddio â thywod. Fodd bynnag, ni phrofwyd y senario hwn ac mae'r un mor bosibl y gallai'r ddwy eglwys fod wedi bodoli ar yr un pryd (Evans 1998). Hefyd, mae'n amheus a fu'r anheddiad a orchuddiwyd â thywod a'i eglwys yn dyddio o'r 12fed ganrif, erioed yn bentref; ac awgrymwyd y gellid dehongli'r safle (o leiaf pan oedd yn tynnu at ei derfyn) fel maenor fynachaidd, (Locock 1996b). Credir i'r broses o orchuddio tir â thywod ddigwydd yn Rhosili yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a dengys tystiolaeth ei bod yn broses gyflym mewn cyferbyniad â Phenmaen a Phennard.

Lleolir ardaloedd eraill ym Mro Gwyr sydd wedi'u gorchuddio â thywod bellach ac sydd heb ddatgelu unrhyw olion archeolegol eto, yn bennaf ar hyd yr arfordir gogledd-orllewinol, ond fe'u gwelir hefyd ar arfordir deheuol Bro Gwyr. Nid astudiwyd natur na dyddiad y broses gorchuddio tir â thywod yn yr ardaloedd hyn eto. Mae potensial mawr ar gyfer archeoleg gladdedig yn yr ardaloedd hyn o gofio'r amgylchiadau addas ar gyfer goroesi a'r hyn y gallwn ei gasglu o ardaloedd tebyg mewn mannau eraill. Mae'r cyfryw ardaloedd a nodwyd wrth nodweddu tirwedd hanesyddol yr AOHNE yn cynnwys: Twyni Tywod Whiteford (HLCA003), Twyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend (HLCA009) a Thwyni Tywod Oxwich a Nicholaston (HLCA053). Yn Nhwyni Tywod Whiteford, mae presenoldeb olion canoloesol yn agos i wyneb y tywod neu ar wyneb y tywod yn awgrymu y gall olion ôl-ganoloesol fod wedi'u claddu yno a bod y twyni tywod yn bodoli cyn y cyfnod hwn.

Yn ôl i'r brig

Tir comin

Mae tiroedd comin Cefn Bryn (HLCA038), Ryer's Down (HLCA017), Bryn Llanmadog (HLCA012), Hardings Down (HLCA025), a Thwyn Rhosili (HLCA025), yn dra gwahanol i'r tiroedd comin is, oherwydd eu natur ucheldirol amlwg; maent i gyd yn fryniau neu'n esgeiriau (er bod darnau o dir is wedi'u hatodi i Fryn Llanmadog a Chefn Bryn), ond maent yn gymharol isel, o gymharu ag ucheldiroedd go iawn. Yn eu hanfod ardaloedd ydynt sy'n anaddas ar gyfer ffermio tir âr, na fu'n rhan o'r broses gyffredinol o amgáu'r tir ffermio oddi amgylch. Fel arfer mae'r tiroedd comin hyn yn cynnwys crynhoad mawr o henebion cynhanesyddol, yn arbennig rhai angladdol; yr unig eithriad yw Ryer's Down, lle na nodwyd yr un heneb gynhanesyddol (Plunkett Dillon a Latham 1987c, 22). Ymddengys i gribau Bryn Llanmadog a Thwyn Rhosili yn arbennig gael eu defnyddio yn yr Oes Efydd fel mynwentydd gwasgaredig. Fodd bynnag, am na chloddiwyd yr un o'r henebion yn archeolegol, nid oes modd gwybod faint o amser a gymerodd i'r mynwentydd hyn gyrraedd eu ffurf bresennol. Fodd bynnag, nid ymddengys ei bod yn afresymol rhagdybio efallai yr ystyrid eu bod yn 'fynyddoedd cysegredig'. Roedd defnydd defodol o Dwyn Rhosili wedi'i sefydlu eisoes cyn yr Oes Efydd, trwy adeiladu dau feddrod siambrog a elwir yn Sweyne's Howes ar ei lethr ddwyreiniol. Ar ben hynny ceir dau feddrod siambrog Neolithig ar Gefn Bryn, ond er bod nifer fawr o garneddau angladdol go iawn yn dyddio o'r Oes Efydd a rhai eraill efallai yr oedd eu prif ddiben yn un mwy defodol nag angladdol (Ward 1987, 1988), mae presenoldeb hyd yn oed ragor o garneddau bach nas dyddiwyd yn golygu na allwn fod yn sicr ynghylch ffurf y dirwedd yn ystod yr Oes Efydd. Disgrifir y rhain weithiau fel carneddau clirio, ond nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw system gaeau gysylltiedig, ac efallai fod iddynt swyddogaeth ddefodol yn lle hynny.

Mae tystiolaeth o ddefnydd tir arall yn ystod y cyfnod cynhanesyddol yn llai cyffredin. Ceir cylchau cytiau a chloddiau a waliau clostiroedd nas dyddiwyd ar Dwyn Rhosili, a allai ddyddio o'r cyfnod cynhanesyddol, er y gallant ddyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol hefyd (Plunkett Dillon a Latham 1986c, 13-5). Cynrychiolir yr Oes Haearn gan fryngeyrydd a Bryn Llanmadog, er na nodwyd unrhyw nodweddion tirwedd cysylltiedig hyd yma.

Yn y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol roedd y tiroedd comin yn rhan o system amaethyddol integredig lle'r oedd gan bob pentref ei gaeau agored o'i amgylch a mynediad i dir comin at ddibenion pori anifeiliaid (Emery 1971, 156). Cofnodir rhywfaint o weithgarwch tresmasu o'r 16eg ganrif ymlaen, ond roedd ar raddfa gymharol fach o gymharu â thresmasiadau ymhellach i'r gogledd, a chynhwysai yn bennaf gaeau unigol a amgaewyd o'r tir diffaith (Emery 1971, 156-7), er i ddarnau helaethach o dir gael eu hamgáu o bryd i'w gilydd, megis fferm Hillend a amgaewyd o Dwyn Rhosili rhwng 1847 pan luniwyd y map degwm a 1885, sef dyddiad argraffiad 1af map 6" yr AO. Cofnodwyd rhywfaint o weithgarwch cloddio hefyd. Ychydig iawn o safleoedd ar y tiroedd comin sy'n dyddio o gyfnodau yn dilyn y cyfnod cynhanesyddol, er bod cyfres o osodiadau amddiffynnol ar Dwyn Rhosili yn dyddio yn bennaf o'r Ail Ryfel Byd. Mae'r ardal yn dal i gynnwys rhostir a ddefnyddir ar gyfer tir pori garw.

O'r tiroedd comin is mae Tiroedd Comin Welsh Moor a Forest (HLCA069), Tir Comin Pengwern (HLCA071), Mynydd Llwynteg (HLCA074), Tir Comin Barlands (HLCA085), a Thir Comin Clyne (HLCA079), yn cynnwys llain o dir sy'n ymestyn ar draws cwr de-orllewinol dyddodion y maes glo, y crynhoad mwyaf o dir comin is a adawyd yn agored pan sefydlwyd systemau caeau'r ardal. Ceir tiroedd comin is eraill sy'n fwy anghysbell, megis Mynydd-bach-y-Cocs (HLCA068), a darnau eraill o dir comin, yr ystyrid eu bod yn rhy fach i ymdrin â hwy fel ardaloedd ar wahân, fel yn achos olion tir comin yn Pilton Cross a Pilton Green (o fewn HLCA032) a Rallt a Wern Fabian, er enghraifft (o fewn HLCA067). Yn wahanol i'r tiroedd comin uwch, y cyfeiriwyd atynt uchod, mae'r tiroedd comin a leolir yn yr ardal is bron yn ddi-dor, er y ceir ffriddoedd a grëwyd o'r tir comin yma ac acw, yn arbennig o amgylch Wernllath (HLCA080) rhwng Mynydd Llwynteg a Thir Comin Clyne, Planhigfa Cilibion a'r ardal ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd o amgylch Pont Carterford, yr amgaewyd pob un ohonynt cyn map Yate a luniwyd ym 1799. Efallai fod rhai o'r ffriddoedd hyn, yn arbennig yr un yn Wernllath, yn gysylltiedig â gweithgarwch tresmasu a fu'n destun cwyn(ion) gan Iarll Caerwrangon yn y 1590au (Robinson 1968, 372, 375, 379). Ymddengys fod gweithgarwch tresmasu ar dir a fu unwaith yn dir comin, ar hyd cwr gogleddol Tiroedd Comin Welsh Moor a Forest (HLCA069), a Thir Comin Pengwern (HLCA071), ac ochr orllewinol Mynydd Llwynteg (HLCA067) fel y dengys gwaith dadansoddi gwrychoedd, tystiolaeth ddogfennol ac episodau adeiladu ffermydd, yn nodwedd nodedig o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, ac mae ffiniau ffriddoedd crwm mawr yn gysylltiedig â ffermydd a sefydlwyd yn yr ardal hon, megis Bryncoch, Little Hills, Wimblewood, a Fferm Fairwood Corner (HLCA067). Mae'r nodweddion hyn sy'n nodweddiadol o weithgarwch tresmasu ar borfa agored yn y cyfnod ôl-ganoloesol bellach yn nodi terfynau tir comin.

Erbyn hyn fe'u defnyddir ar gyfer tir pori garw, ond ceir ardaloedd o brysgwydd a choed. O gymharu â'r tiroedd comin uwch, nid oes fawr ddim tystiolaeth i'r tiroedd comin is gael eu defnyddio yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Heddiw mae'r ardal yn dal i gynnwys rhostir a rhywfaint o brysgwydd a choed, ac mae'n dal i gael ei defnyddio ar gyfer tir pori garw.

Yn ôl i'r brig

Parciau ceirw a choetir

Gwyddom fod dau barc ceirw yn bodoli ym Mro Gwyr yn ystod y cyfnod canoloesol: yr un mwyaf adnabyddus yw Parc le Breos, a oedd yn gysylltiedig ag Arglwyddiaeth y Gororau yng Ngwyr, ac a sefydlwyd ym 1221-32, ac a fu'n gweithredu fel parc ceirw tan tua 1400, er ei fod yn llai o faint ar ôl i'r teulu de Breos golli ei rym ym 1320 (Leighton 1999); ceid parc ceirw arall yng nghoedwig Clyne a chyfeirir ato yn siarter de Breos ddyddiedig 1306. Mae elfennau o'i balis canoloesol i'w gweld o hyd ym mharc ceirw Parc le Breos (sydd wedi'i rannu bellach rhwng HLCA064 a HLCA065). Yr enw lle 'Hen Barc' a thystiolaeth ddogfennol yw'r unig dystiolaeth sydd gennym ar gyfer y parc arall yn Clyne, a chredir ei fod wedi'i leoli rywle rhwng HLCA077 a HLCA078, ond credir ei bod yn annhebyg iddo erioed gael ei droi'n barc yn ffisegol (Leighton 1997).

Ceir ardaloedd helaeth o goetir yng Nghoedwig Clyne (HLCA078) ac yn ardal Hen Barc gerllaw (HLCA077), o fewn Parc le Breos (HLCA064), a hefyd o fewn Parc Pen-rhys a Phen-rhys (HLCA047 a HLCA046), ac i raddau yng Nghilibion (HLCA070). Mae arwyddion o goetir a arferai fod yn helaethach i'w gweld ar lethrau isaf Cefn Bryn (o fewn HLCA020, HLCA022 a HLCA028), gan gynnwys gweddillion coetir, gwrychoedd sy'n cynnwys llawer o goed, ac enwau lleoedd yn cynnwys elfennau yn ymwneud â choetir. O fewn Llanrhidian Uchaf (HLCA067) dangoswyd bod y matrics tra amlwg o goetir a chaeau wedi deillio o gymysgedd o weithgarwch asartio, h.y clirio coetir, a gweithgarwch amgáu tir agored. Digwyddodd y broses hon o greu ffermydd yn bennaf cyn tua 1300 ac ar ôl tua 1550, a bu cynnydd amlwg mewn gweithgarwch clirio yn ystod hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg.

Mewn mannau eraill mae Coetir Hynafol wedi goroesi yn bennaf yn y dyffrynnoedd afon cysgodol, megis yn HLCA018 Cheriton a Burry Pill, Bishop's Wood (HLCA041), Ilston (HLC072), Cwm Ilston (HLCA073), a Bishopston Valley (HLCA086) ac ar lethrau clogwyni arfordirol, er enghraifft pen coediog y clogwyn ym Mae Oxwich (HLCA049), Coedwig Nicholaston (HLCA055), ac ar hyd y lan ogleddol o amgylch Tor-gro a North Hill Tor (HLCA014).

Yn ôl i'r brig

Patrwm anheddu

Mae Bro Gwyr wedi'i hanheddu'n gymharol ddwys gan gyfres o bentrefi cnewyllol a phentrefannau, a rhwydwaith o ffermydd sydd at ei gilydd yn fach. Mae'r nifer fawr o bentrefi cnewyllol yn arbennig o nodedig. Mae gan lawer o'r rhain nodweddion arbennig megis man agored neu lawntiau, megis Reynoldston (HLCA037), Llangynydd (HLCA011), Llanmadog (HLCA007), Oxwich Green (HLCA048), a Burry Green (HLCA026); mae llawer wedi'u grwpio o amgylch eglwys ganoloesol. Mae'r patrwm cnewyllol hwn mor gryf fel ei fod yn awgrymu y gall eglwysi anghysbell ddynodi safleoedd pentrefi canoloesol anghyfannedd. Mae eglwys ym mhentrefi Llanrhidian (HLCA022), Llangynydd (HLCA007), Llanmadog (HLCA007), Rhosili (HLCA031), Llanddewi (HLCA034), Pen-rhys (HLCA046), Port Eynon (HLCA044), Reynoldston, (HLCA037), ac Ilston (HLCA072). Lle y ceir lawnt bentref neu fan agored mae'n bosibl bod iddo fwy nag un tarddiad hanesyddol: mae gan rai o'r aneddiadau hyn eglwys ganoloesol hefyd; mae aneddiadau eraill, megis Burry Green, lle na cheir eglwys ganoloesol, ac efallai iddynt gael eu sefydlu trwy broses anffurfiol o ffurfio anheddiad, er enghraifft trwy dresmasu ar dir comin. Ceir awgrym o weithgarwch tresmasu yn y patrwm anheddu a welir ar gyrion Reynoldston (HLCA037), Penmaen (HLCA057), a Nicholaston (HLCA056), ymhlith eraill. Gall lleoliad adeiladau roi rhyw syniad o'r math o anheddiad: yn Southgate (HLCA062) a Llandeilo Ferwallt (HLCA086) er enghraifft ceir cyfres o dai wedi'u gosod ar onglau sgwâr i'r ffordd; gall hyn fod yn arwydd o weithgarwch tresmasu diweddar ar yr hyn a oedd o bosibl yn ddaliadau heb eu cyfuno a berthynai i system caeau agored a oedd yn dal yn weithredol. Gwelir y patrwm hwn mewn mannau eraill ar gyrion tirweddau a orchuddiwyd â thywod, er enghraifft yng Nghynffig, a gall gynrychioli twf aneddiadau yn y cyfnod ôl-ganoloesol, neu gall hyd yn oed nodi bod aneddiadau newydd wedi'u sefydlu yno yn dilyn cyfnod o orchuddio tir â thywod a arweiniodd at leoliadau aneddiadau gwreiddiol yn cael eu gadael. Ymddengys i aneddiadau eraill gael eu ffurfio fel pentrefannau fferm, neu o aneddiadau tresmaswyr: mae enghreifftiau o'r rhain yn cynnwys Three Crosses, a West Town, Llangynydd (HLCA011), ac unwaith eto, bydd enghreifftiau eraill.

Mae lleoliad aneddiadau yn aml yn nodedig hefyd, a cheir ffermydd yn ymestyn ar hyd ymyl tir âr a thir comin neu dir pori agored. Mae hyn yn arbennig o glir er enghraifft o amgylch Nicholaston (HLCA056) ac uwchlaw Llanrhidian (HLCA022). Ymddengys fod rhai pentrefi wedi'u lleoli ar yr ymylon hyn, megis Reynoldston (HLCA037) a Llanmadog (HLCA007).

Cafodd Abertawe gryn ddylanwad ar ffurf aneddiadau ym mhen dwyreiniol Bro Gwyr. Yma mae pob un o'r pentrefi yn cynnwys cryn dipyn o ddatblygiadau maestrefol yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif (Llandeilo Ferwallt, Kittle, Southgate ym Mhennard). Nodweddir y maestrefi hyn gan ambell dy mewn arddull celfyddyd a chrefft, tai a adeiladwyd rhwng y ddau ryfel byd, filâu bychan, tai pâr a byngalos.

Yn ôl i'r brig

Economi aneddiadau

Mae patrwm y pentrefi lle y ceir eglwys a'r pentrefannau fferm yn awgrymu ar y cyfan y câi aneddiadau eu cynnal gan weithgarwch amaethyddol traddodiadol, ond ceir aneddiadau eraill lle y mae sail ddiwydiannol yn debygol, neu lle y mae nifer o gapeli, er enghraifft, yn darparu tystiolaeth anuniongyrchol o fewnlifiad o bobl ar ddiwedd y 18fed ganrif - 19eg ganrif a oedd yn gysylltiedig â diwydiant, er enghraifft Burry Green (HLCA026), Llan-y-tair-Mair (HLCA035), Llanmorlais a Wernffrwd (y mae'r ddau ohonynt yn HLCA067). Gall aneddiadau a ddatblygodd yn anffurfiol, megis Murton (HLCA086), hefyd awgrymu hyn.

Cafwyd dylanwad arall ar batrymau anheddu ar ddiwedd y 19eg ganrif a pharhaodd drwy gydol yr 20fed ganrif: sef twristiaeth a glan y môr. Efallai mai Port Eynon (HLCA044) yw'r enghraifft orau o hyn, lle y mae cymeriad pensaernïol rhai o'r tai yn awgrymu iddynt gael eu defnyddio fel llety yn gynnar, fel y tystia enwau tai hefyd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng twristiaeth a maestrefoli yn gysylltiedig ag Abertawe: gellid priodoli'r cwr maestrefol yn Llangynydd (HLCA011) er enghraifft i'r naill neu'r llall.

Yn ôl i'r brig

Y Proffil Adeiladu

Cronolegau adeiladu: i ryw raddau mae cronoleg hir o adeiladu ym Mro Gwyr a cheir cestyll canoloesol a rhai tai canoloesol diweddar neu Duduraidd pwysig, ond mae adeiladau brodorol cynnar yn gymharol brin. Mae'r mwyafrif o'r adeiladau traddodiadol yn dyddio o'r 18fed ganrif - 19eg ganrif ac maent yn perthyn i'r traddodiad Sioraidd. Dyma sy'n cyfrannu'n bendant at gymeriad aneddiadau yn yr ardal. Fe'i nodweddir gan gynllunio cryno, ffasadau cymesur neu led-gymesur a chanddynt 2 neu 3 rhes o ffenestri ar ddau lawr. Ceir amrywiaeth ehangach o dai yn dyddio o ddiwedd 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, yn ôl pob tebyg o dan ddylanwad twristiaeth a thwf Abertawe.

Hierarchaethau cymdeithasol: mae tystiolaeth dda o dai uchel eu statws yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu o gyfnod diweddarach, ond mae'n un o nodweddion amlwg Bro Gwyr mai prin iawn yw'r tai uchel eu statws yn gyffredinol, ac felly mae'r ystod o fathau o dai yn eithaf cyfyngedig. Felly mae tai bonedd mawr yn gymharol anarferol, ond mae bythynnod bach yn gymharol anarferol hefyd. Nodweddir Bro Gwyr yn bennaf gan dai Sioraidd o faint canolig i fach; mae Ffermdy Crwys, Llanrhidian Higher, Ffermdy Plenty, Llangenydd, a Fferm Big House, Llanmadog yn enghreifftiau arbennig o dda o'r math hwn o dy.

Pen-rhys, Oxwich, Weble, Fairy Hill, Stout Hall, a Chil-frwch yw prif dai bonedd yr ardal; ac eithrio Oxwich a Weble, mae'r tai hyn yn dyddio o'r 18fed ganrif - 19eg ganrif. O dan y tai hyn gellir rhestru cyfres o filâu (Fairwood Lodge, Cwrt Herbert, Glynhir, a Clyne Castle). Adeiladwyd y ddwy olaf fel cartrefi diwydianwyr: tra bod y ddau gyntaf hefyd yn dai heb fawr ddim cysylltiad â thir.

Fodd bynnag prin iawn yw dylanwad amlwg ystadau tirfeddiannol ar y broses adeiladu, er enghraifft, parhaodd y patrwm adeiladu i fod yn un brodorol hyd yn oed gerllaw plasty (Pen-rhys, er enghraifft). Mae eithriadau amlwg i hyn yn cynnwys y dafarn a'r ysgol yng Nghil-frwch, ac mae'n amlwg bod rhai adeiladau fferm sy'n perthyn i ystadau (e.e. Fferm Plas Pen-rhys). Mae dylanwad ystadau ar bensaernïaeth yn fwy amlwg yn yr eglwysi, a cheir nifer o enghreifftiau o fonheddwyr yn noddi gwaith adfer yn ystod y 19eg ganrif (Llanrhidian, Rhosili, Llanddewi, Pen-rhys).

Prin yw'r enghreifftiau o adeiladau brodorol llai o faint, ond mae enghreifftiau cynnar yn cynnwys Bwthyn Henbury, Southgate, a Hareslade, y mae'r olaf yn dy uned sengl yn dyddio o'r 17eg ganrif. Mae eraill yn cynnwys Margaret's Cottage, The Nook a Bwythyn Briardene yn Oxwich. Mae'r rhain i gyd yn dai lloriog bach; mae gan yr hen fwthyn yn nhiroedd Bwthyn Underhill, Pen-rhys un llawr ond ymddengys iddo gael ei adeiladu gan ystâd. Mae'n eithaf posibl i rai eraill o'r tai bychain hyn gael eu hadeiladu neu eu noddi gan ystadau hefyd am na fyddai'n anarferol cael ystadau yn gweithio fel noddwyr adeiladau yn yr arddull frodorol.

Yn ôl i'r brig

Datblygiad pensaernïol

Adeiladau brodorol cynnar: gellir adnabod math o dy rhanbarthol sy'n nodweddiadol o Fro Gwyr erbyn yr 17eg ganrif; ei nodweddion arbennig oedd ei gynllun a'i ffurf, a chynhwysai fynedfa yn y talcen ac estyniadau allanol yn cynnwys gwelyau a grisiau. (Y tu mewn, mae'r blwch angladdol yn cysylltu'r math hwn o adeilad â Gorllewin Lloegr). Mae enghreifftiau o'r math hwn o dy yn ddigon prin ond maent yn cynnwys Fferm Tyle House, Llangynydd (17eg ganrif - 18fed ganrif), Overton House ac Old House, Fferm Delvid (a adeiladwyd mor ddiweddar â 1750 efallai). Ceir hefyd gyfres o dai neuadd, gan gynnwys Ffermdy Glebe sy'n dyddio o'r 14eg ganrif, Cheriton; roedd Ffermdy Great Pitton, ac Old Henllys yn neuaddau lloriog yn dyddio o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif.

Mae adeiladau tebyg i'r rhain yn perthyn yn bendant i draddodiad brodorol, ac mae'n ddiddorol nodi'r modd y cyflwynwyd dylanwadau pensaernïol 'bonheddig' i arddulliau adeiladu lleol. Mae ffermdy Pitt yn enghraifft dda sy'n dangos y broses hon fel ty wedi'i gynllunio'n ganolog yn dyddio o'r 17eg ganrif. Mae'r arddull Sioraidd, a fu'r prif ddylanwad ar adeiladau yn yr ardal o ganol y 18fed ganrif drwodd hyd ganol y 19eg ganrif yn rhoi cymeriad lleol cryf, ond nid yw'n arddull ranbarthol mewn gwirionedd. Mae pensaernïaeth fonheddig yn fwy amlwg byth yn y defnydd a wnaed o benseiri ar gyfer adeiladu tai bonedd o ganol hyd ddiwedd y 18fed ganrif.

Yn ôl i'r brig

Deunyddiau adeiladu

Cerrig yw'r prif ddeunydd adeiladu, ac megis mewn ardaloedd eraill sy'n defnyddio cerrig, y ffactorau hollbwysig sy'n effeithio ar gymeriad adeiledig yr ardal yw amrywiadau o ran y ffynonellau o gerrig, ac amrywiadau o ran y modd y trinnir y cerrig eu hunain ac wyneb y cerrig. Mae Bro Gwyr yn cynnwys calchfaen yn bennaf, er ymddengys fod cerrig adeiladu eraill mewn rhai ardaloedd (e.e. clobynfaen tywodfaen (?) yn ardal Llanmadog). Mae cryn amrywiaeth yn deillio yn bennaf o'r defnydd gwahaniaethol a wneir o wyngalch a rendr, ac ymddengys ei bod yn arferol iawn i adeiladau domestig gael eu gwyngalchu o leiaf. Gwahaniaethwyd yn aml rhwng adeiladau domestig ac adeiladau amaethyddol o ran y modd y'u gorffennwyd, ac mae'r rhain yn amrywiadau cynnil, y dylid eu nodi; gallai'r mathau hyn o wahaniaethau fod yn elfen amhrisiadwy o ganllawiau cynllunio ar gyfer addasu adeiladau fferm. Mae tuedd ddiweddar i dynnu gorffeniad adeiladau yn destun gofid, a gall fod yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o dechnegau adeiladu traddodiadol. Llechi yw'r prif ddeunydd toi, er y ceir rhai enghreifftiau o doeau gwellt sydd wedi goroesi. Ar ben hynny gwnaed rhywfaint o ddefnydd o deils a phanteils, ond mae'r defnydd hwn yn lleol iawn, er enghraifft ym mhentref Pen-rhys (HLCA046).

Yn ôl i'r brig

Ffermydd

Erbyn hyn prin yw'r hen ffermdai ac adeiladau fferm sydd wedi'u cadw mewn cyflwr da ym Mro Gwyr, a cheir llawer o'r cyfryw adeiladau a addaswyd yn ddiweddar. Mae gwaith rhestru wedi nodi rhai o'r enghreifftiau gorau o'r hyn sydd wedi goroesi, (yn Fferm Crwys, Llanrhidian Uchaf - ffermdy cynlluniedig bach; Fferm Plas Pen-rhys - fferm a gynlluniwyd gan ystâd; Fferm Pitt, Pen-rhys, fferm fin ffordd linellol). Er hynny mae'n amlwg bod grwpiau eraill o adeiladau fferm a chanddynt gymeriad traddodiadol da, a all haeddu cael eu diogelu neu eu cofnodi mewn rhyw ffordd (Fferm Pitt Sogs, Pen-rhys, The Beeches, Horton, Fferm Betlands, Llanddewi, Fferm Hills Reynoldston, ac eraill ym Middleton, a ger Port Eynon).

O dystiolaeth sydd wedi goroesi mae modd awgrymu i welliannau amaethyddol gael dylanwad mawr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gyflwynwyd iardiau fferm o gynllun da ar ffermydd cymysg, fel y dengys ysguboriau yd a beudai mewn iardiau sydd fel arfer yn fach. Ymddengys i ffermydd llai o faint gael eu cynllunio fel rhesi llinellol lle'r oedd y ffermdy a'r adeiladau fferm mewn llinell. Un nodwedd anarferol yw rhes yn cynnwys ty ac ysgubor, er enghraifft yn Old Henllys, a Corner House, Rhosili, ac enghraifft fwy anarferol byth o ysgubor ynghlwm wrth eglwys yn Llangynydd.

Mae'r cwt mochyn cromennog crwn yn fath o adeilad amaethyddol lleol sy'n nodedig ac yn gymharol brin: mae un enghraifft wedi'i rhestru (Pill House, Llanmadog).

Yn ôl i'r brig

Ystadau a Pharcdir Ôl-ganoloesol

Mae Bro Gwyr yn cynnwys nifer o ystadau bonedd. O'r ystadau hyn efallai mai Parc Pen-rhys (HLCA047), cartref y teulu Mansel Talbot, y perchennog tir mwyaf ym Mro Gwyr yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ac efallai'r un mwyaf dylanwadol, yw'r un bwysicaf. Mae'r safle hwn yn hen ganolfan grym gweinyddol lleol sefydledig, a lleolid ei rhagflaenwyr caerog canoloesol gerllaw. Adeiladwyd canolbwynt y parc, sef Plasty Castell Pen-rhys sy'n rhestredig (LB I, 11531), ym 1773-7 ar gyfer Thomas Mansel Talbot, yn unol â chynllun Anthony Keck, pensaer, o King's Stanley, Swydd Gaerloyw. Mae cofnodion yn cyfeirio at gerrig Bath a cherrig 'a gludwyd o'r chwareli ym Margam'. William Gubbings a fu'n gyfrifol am y gwaith maen a Thomas Keyte am y gwaith plastro. Mae nodweddion eraill yn cynnwys parc a gerddi tirluniedig yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif sy'n cynnwys coetir amgaeëdig, pyllau pysgod, a gerddi llysiau â waliau o'u hamgylch, ynghyd ag amrywiaeth trawiadol o adeiladau ystad atodol sydd mewn cyflwr da, megis orenfa, stablau a phorthordai. O fewn yr ardal ceir llain helaeth o dir ffermio cysylltiedig a ail-fodelwyd, adeiladau ystad a chaeau mawr rheolaidd eu siâp. Pan gynhwysir pentref cyfagos Pen-rhys (HLCA046) nad yw wedi newid fawr ddim, ychwanegir at eu gwerth fel grwp, fodd bynnag, yn rhyfedd ddigon hepgorwyd Parc Pen-rhys o'r Gofrestr o Barciau a Gerddi.

Mae tai bonedd eraill yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif sydd â pharcdir neu diroedd cysylltiedig yn cynnwys Fairyhill (HLCA027), Stouthall (HLCA036), a Maenor Cil-frwch (HLCA082), mae gan Clyne Castle (HLCA078), a fu'n gartref i ddiwydiannwr, diroedd parcdir hefyd. Mae pob un wedi'i gynnwys yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi. Ymddengys i Barc Fairwood, Fila yn yr arddull Raglywiaethol, lle y ceir cwrs golff bellach (HLCA076) gael ei adeiladu gan William Jernegan tua 1827 ar gyfer John Nicholas Lucas o Stouthall.

Ceir nifer o ystadau maenoraidd yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol ym Mro Gwyr, gan gynnwys Castell Oxwich (o fewn HLCA048), Bovehill neu Gastell Landimôr (o fewn HLCA019), a Chastell Weble (o fewn HLCA020); ymddengys fod y rhain wedi cadw cysylltiad cryf â'u haneddiadau gerllaw, a thirweddau amaethyddol; roedd pob un o'r uchod yn ardal amaethyddol unwaith eto erbyn y 18fed ganrif, ac am y rheswm hwn nid ymdriniwyd â hwy ar wahân. Mae'r un peth yn wir am ganolbwyntiau maenoraidd llai pwysig megis Maenor Nicholaston (o fewn HLCA056), a thai bonedd/diwydianwyr llai o faint, megis Cwrt Herbert (HLCA086), a Glynhir (o fewn HLCA067), a fethodd â datblygu i bob pwrpas ac a arhosodd yn fach mewn cymhariaeth.

Yn ôl i'r brig

Datblygiadau diwydiannol a thrafnidiaeth

Amaethyddiaeth fu prif weithgarwch yr ardal erioed, ac mae'n dal i fod, ac mae crefftau a diwydiannau gwledig yn un o nodweddion aneddiadau'r ardal, a amlygir gan efeiliau a phyllau llifio. Cynrychiolir diwydiant i raddau helaeth gan weithgarwch cloddio glo yn y rhannau gogleddol a dwyreiniol o Fro Gwyr, a gweithgarwch cloddio a llosgi calch yn y de (Toft 1988). Roedd y diwydiant gwlân yn ddiwydiant cartref ar y cyfan, er bod melin wedi'i chofnodi yn Staffel Haegr, Llanrhidian (HLCA022; Cooper 1998, 82-3). Cynhyrchid halen yn Port Eynon (HLCA044) o'r 16eg ganrif, ac roedd pysgodfa wystrys yma yn y 19eg ganrif. Ymddengys mai Port Eynon oedd yr unig bentref â chei; roedd nifer fawr o lanfeydd bach mewn mannau eraill ar yr arfordir, ond byddai'r cychod hyn wedi glanio ar y traeth pan fyddai'n benllanw a llwytho pan fyddai'n llanw ar drai.

Parhaodd de a gorllewin Bro Gwyr i fod yn ardaloedd amaethyddol i raddau helaeth, ar wahân i weithgarwch cloddio a phrosesu calchfaen i'w ddefnyddio'n lleol at ddibenion amaethyddol ac i'w allforio, tra effeithiodd gweithgarwch cloddio dyddodion glo i'r gogledd-ddwyrain o Gefn Bryn ar blwyf Llanrhidian (y rhaniad Uchaf), yn ogystal â'r ardal o amgylch Casllwchwr, a'r ucheldiroedd y tu hwnt. Dechreuodd y diwydiant glo ddatblygu yn yr Oesoedd Canol; rhoddodd siarter 1306 yr hawl i fwrdeiswyr gloddio glo at eu defnydd eu hunain (Williams 1990, 7), tra dangosodd gwaith cloddio yn Llanelen (HLCA067) i ddiwydiant (llosgi golosg, cynhyrchu haearn, cloddio glo) chwarae rôl bwysig yn economi amaethyddol gymysg y rhanbarth drwy gydol y cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, ystyrir bod gweithgarwch cloddio glo yn ystod y cyfnod yn digwydd ar raddfa gymharol fach ac nid ymddengys iddo effeithio ryw lawer ar y dirwedd; ymddengys i weithgarwch cloddio masnachol ddechrau ar raddfa fach ar ddiwedd yr 16eg ganrif (Cooper 1986, 19), ond mae ei brif gyfnod datblygu yn dyddio o ail hanner y 18fed ganrif (Williams 1980, 157). Lleolid pyllau glo cynharaf yr ardal yn yr ardal rhwng Wernffrwd a Chilonnen ac mae gweithgarwch cloddio glo afreolaidd yn yr ardal (HLCA067) wedi'i nodi drwy gydol y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, yn seiliedig ar gymysgedd o dyllau cnwd cyntefig bas, pyllau cloch a phyllau slant.

O'r 18fed ganrif cloddiwyd gweithfeydd pyllau dyfnach o amgylch Llanmorlais a Wernffrwd, er bod llifogydd yn broblem fawr. Yn ystod y 19eg ganrif bu pyllau glo'r ardal ar eu colled oherwydd cystadleuaeth gynyddol gan byllau glo yn agosach i Abertawe, megis o amgylch Cilfái a Chasllwchwr, ac nid tan ddyfodiad y rheilffordd yn yr ardal yn y 1860au yr adfywiwyd gweithrediadau glo. Roedd y diwydiant glo yn ei anterth rhwng 1880 a 1914 (Cooper 1986; Cooper 1998). Gwyddom fod cyfanswm o 16 o weithfeydd glo yn weithredol yn yr ardal (sydd wedi'i dynodi bellach fel yr AOHNE) cyn i'r un olaf gau yn ystod y 1950au. Ychydig sydd wedi'i gofnodi bellach am nodweddion tirwedd sydd wedi goroesi sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo ar wahân i dy injan ym Mhenllwyn Robert sy'n dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif; ymddengys fod y mwyafrif yn dyddio o'r cyfnod diweddar ac nid ymddengys iddynt gael eu harchwilio'n fanwl. Unwaith eto nid oes fawr ddim tystiolaeth o seilwaith trafnidiaeth cysylltiedig yr ardal, a gynhwysai ffordd halio yn dyddio o'r 18fed ganrif, a thramffyrdd diweddarach yn nyffryn Morlais yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif (Cooper 1986; Cooper 1998). Cofnodwyd gweithfeydd glo cynnar eraill yn Nyffryn Clyne (Williams 1958, 17-21; Leighton 1997, 135-59), lle y buwyd yn manteisio ar adnoddau coedwigol, er enghraifft buwyd yn llosgi golosg hefyd. Mae'r gwaith cemegol yn Llethrid (HLCA070) sy'n dyddio o'r 19eg ganrif hefyd o ddiddordeb, a gysylltir yn agos â safle llosgi golosg a choetir oddi amgylch; roedd hwn yn fusnes hollol ddiwydiannol, yn hytrach nag un amaeth-ddiwydiannol.

Yn ardal calchfaen de, gogledd a gorllewin Bro Gwyr, wrth reswm roedd gweithgarwch llosgi calch yn bwysig: adlewyrchir hyn yn y nifer fawr o odynau calch - y mae rhai ohonynt yn rhestredig. Ymddengys i'r diwydiant llosgi calch sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol, ffynnu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, yn arbennig yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif yn unol â gwelliannau mewn amaethyddiaeth. Fodd bynnag o ddiwedd y 19eg ganrif ymddengys bod y diwydiant yn dirywio'n ddifrifol am fod mwy o wrteithiau artiffisial ar gael, fel mai ychydig a barhaodd i weithredu ar ôl troad y 19eg ganrif / 20fed ganrif. Mae'r nodwedd hon yn gyffredin mewn ardaloedd gwledig, er nad yw'n syndod bod crynoadau arbennig i'w cael ar hyd y brigiadau arfordirol, lle y gellid allforio calchfaen a chynhyrchion calch yn hawdd i rannau eraill o Gymru, Dyfnaint ac ymhellach i ffwrdd (Toft 1988b). Mae enghreifftiau eraill o ddiwydiannau gwledig yn cynnwys melinau yd a yrrid gan ddwr, y mae rhai ohonynt yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, yn Cheriton (HLCA0180), Llanrhidian (HLCA022), ac yn Park Mill yng Nghwm Ilston (HLCA073).

Roedd yr elfen bwysig arall o economi'r ardal, sef y diwydiant llongau, wedi'i chanoli yn bennaf ar aber Afon Tawe yn Abertawe ei hun, ac felly nid yw'n rhan o'r astudiaeth hon. Fodd bynnag ceid hefyd gyfleusterau llongau llai o faint yn Port Eynon (HLCA044), ar hyd arfordir gogledd Bro Gwyr yn Llanrhidian (HLCA022), Wernffrwd, Llanmorlais, ac mewn mannau eraill (HLCA067). Calchfaen oedd y prif allforyn o'r arfordir deheuol, ond cyflawnid hyn yn bennaf o draethau agored, er enghraifft ym Mae Pwlldu (Craig 1980, 466, 484; Locock 1996, 16). Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol allforiodd Gogledd Bro Gwyr, ynghyd â chalchfaen, lo yn arbennig, o weithfeydd glo Wernffrwd a Dyffryn Morlais o fewn Llanrhidian Uchaf (Cooper 1986).

Gwelodd yr 20fed ganrif ddirywiad cyffredinol mewn diwydiant trwm, a gyflymodd tua diwedd y ganrif. Dioddefodd y diwydiant glo yn arbennig oherwydd amgylchiadau daearegol anodd, a arweiniodd at gau pyllau, ac yn y pen draw at byllau glo dwfn yn cael eu disodli gan weithfeydd glo brig, a oedd yn opsiwn mwy cost-effeithiol (Humphrys 1971). Gellir olrhain dirywiad y diwydiant glo yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif yn y dystiolaeth o fapiau.

Yn ôl i'r brig

Twristiaeth a Hamdden

Nodweddir dwy ardal dirwedd yn arbennig gan hamdden yn dyddio o'r ugeinfed ganrif ac mae'r ddwy ohonynt yn gyrsiau golff: nodwyd Cwrs Golff Bae Langland HLCA059, a Pharc a Chwrs Golff Fairwood HLCA076. Er bod rhyw effaith ar batrymau anheddu, er enghraifft yn Port Eynon (HLCA044), Horton (HLCA045) a Llangynydd (HLCA011) wedi'i nodi o ddiwedd y 19eg ganrif fel canlyniad uniongyrchol i ddatblygiad y 'diwydiant' hamdden arfordirol, o ran yr ardaloedd cymeriad sy'n ffinio ag arfordir Bro Gwyr cafodd twristiaeth a hamdden yr effaith fwyaf ar y cyrchfannau ffasiynol sydd agosaf i Abertawe, a ddatblygodd yn ystod y cyfnod rhwng canol a diwedd y cyfnod Fictoraidd a'r cyfnod Edwardaidd, megis Bae Langland (HLCA081) gyda'i Filâu Fictoraidd a datblygiadau diweddarach glan môr a'r Mwmbwls gyda'i bier a adeiladwyd ym 1898, a oedd yn ei anterth ar ddechrau'r 20fed ganrif (HLCA042). Mae datblygiadau mwy diweddar yn cynnwys parciau carafannau sydd bellach yn nodweddu Llangynydd, Broughton a Thwyni Tywod Hillend (HLCA009), Horton (HLCA045) ac Oxwich (HLCA048), yn arbennig.

Yn ôl i'r brig