The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

034 Llanddewi


Ffoto o Llanddewi

HLCA034 Llanddewi

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol a maenor eglwysig ganoloesol: caelun lled-reolaidd datblygedig; ffiniau traddodiadol; cysylltiadau eglwysig a chysylltiadau â dechrau'r cyfnod canoloesol; anheddiad canoloesol anghyfannedd; a nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Llanddewi gan ffiniau hirsefydlog Maenor Llanddewi a oedd yn eiddo i Esgob Tyddewi. Mae'r ffiniau hefyd yn diffinio ardal sy'n cynnwys caeau ychydig yn fwy o faint o gymharu â'r dirwedd ehangach.

Mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol fel y tystia darganfyddiadau sy'n dyddio o'r cyfnod hwn, gan gynnwys ysgrafelli a naddyn (00880w) a bwyell o garreg gaboledig yn dyddio o'r Oes Efydd (00176w).

Ychydig a wyddom am hanes cynnar yr ardal, fodd bynnag, mae'n debyg bod Llanddewi yn ganolfan eglwysig hirsefydlog. Mae'r ffaith ei bod wedi'i chysegru i Dewi Sant a'r fynwent gromliniol (Evans 2003), sydd ill dau yn dangos pa mor bwysig oedd yr ardal cyn i'r Normaniaid gyrraedd Bro Gwyr, yn awgrymu i Landdewi gael ei sefydlu ar ddechrau'r cyfnod canoloesol. Arolygwyd Siantri neu gapel rhydd Henllys yn Llanddewi (05291w; 01457w; 11802) ym 1545 a 1547 gan gomisiynwyr a benodwyd gan Harri VIII; hyd y gwyddom nid oes olion o'r Siantri wedi goroesi (Evans 2003a) ac efallai ei fod wedi'i leoli naill ai o fewn yr ardal hon neu yn ardal gyfagos Henllys (HCLA 033). Dywedir i'r eglwys sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg (00185w; 400408; LB 22793 II*) yn Llanddewi gael ei hadeiladu gan Henry de Gower, Esgob Tyddewi (1328-47) ar y cyd â chastell neu balas, fodd bynnag, ymddengys i'r palas gael ei adael oherwydd diffyg dwr yn yr ardal, cyfeirir at hyn yn Ystadudau Tyddewi (Orrin 1979: 37, SAM GM334 disgrifiad). Tybiwyd bod cloddwaith 450m i'r de-orllewin (00160w; 305468; SAM GM334) o'r eglwys ar lain drionglog o dir comin gerllaw canol yr ardal yn ymwneud â safle'r palas uchod, fodd bynnag, mae eraill yn ei ddisgrifio fel clostir yn dyddio o'r Oes Haearn, sy'n amheus (SAM disgrifiad).

Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr anheddiad canoloesol yn Llanddewi yn helaethach, mae olion anheddiad anghyfannedd (00856w; 400409) i'w gweld i'r gogledd-orllewin o'r eglwys. Ni wyddys pa mor helaeth yw'r olion na pha fath o olion ydynt nac ychwaith pryd y gadawyd yr anheddiad. Erbyn map degwm 1841, roedd yr ardal yn dal i fod ym meddiant Esgob Tyddewi, fodd bynnag, cwmpasai Llanddewi blwyf mwy o faint y mae Merrick, ac yntau'n ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn nodi ei fod yn cynnwys tair arglwyddiaeth neu faenor: Llanddewi (yr HLCA hon) yn perthyn i Esgob Tyddewi, Scurlage yn perthyn i Syr Sir Edward Mansel a Henllys yn perthyn i Henry Mansel.

Mae aneddiadau a ddangosir ar y map degwm yn gyfyngedig i'r eglwys a'r brif fferm (Llanddewi Castle) gyferbyn sydd â chlwstwr o adeiladau allan cysylltiedig. Credir bod y prif ffermdy (19155) sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg wedi'i leoli ar olion castell neu faenordy caerog a'i fod yn cynnwys yr olion hynny (00173w; 00174w; 02211w), sy'n awgrymu efallai fod 'palas' Henry de Gower wedi'i leoli rywle arall. Dywed Merrick ac yntau'n ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg 'Within the lordship of Llanddewi was an old castle of that name' (James 1983: 121). Mae'n bosibl bod y ty presennol yn cynnwys rhywfaint o adeiladwaith yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg Llanddewi oedd maenordy Phillip Mansel ac fe'i hailadeiladwyd yn ystod y cyfnod hwn (Morris 1998).

Dangosir nifer o chwareli ar argraffiad cyntaf map yr AO, ac mae odyn galch sydd mewn cyflwr gweddol dda (02462w) yn gysylltiedig ag ardal a gloddiwyd ychydig i'r gorllewin o'r briffordd (A4118). Mae'n debyg bod odynau calch eraill yn gweithredu yn yr ardal o'r cyfnod ôl-ganoloesol pan arweiniodd newidiadau mewn arfer amaethyddol at gynnydd yn y defnydd o galch fel gwrtaith, cynyddodd y gweithgarwch hwn yn sylweddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel y digwyddodd mewn mannau eraill ym Mro Gwyr.