The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifiad o'r tirwedd

Mynydd Margam


Bloc o uwchdiroedd nodedig yn Ne Cymru yw Mynydd Margam, ar ochrau de orllewinol Blaenau Morgannwg, Ile maent yn cyfarfod P'r Fro ac yn edrych dros ac yn goruchafu dros y gwastadedd arfordirol cul ger porthladd a thref ddiwydiannol fodern Port Talbot. Uwchben y gwastadedd arfordirol ychydig yn uwch na lefel y m6r, mae Ilethrau'r mynydd yn codi'n serth at gyfres o lethrau mwy graddol a llwyfandiroedd rhwng 200 a 300m uwchben SO, gyda chopaon lleol yn cyrraedd dros 300m uwchben SO, a'r mwyaf ohonynt yw Mynydd Margam ei hun, sydd 344m uwchben SO, ynghanol yr ardal. Rhannwyd a minfylchwyd y mynydd cyfan gan saw1 ceunant a chymoedd bychain coediog, bob un ‚ nant fechan yn codi mewn corstiroedd mawn ger y copaon. I'r gogledd ddwyrain,ffin yr ardal yw cwm Llynfi, isafon Afon Ogwr, ac i'r gogledd orllewin y ffin yw cwm coediog bychan Cwm Dyffryn. Y ffin deheuol yw Cwm Cynffig ym mhen Afon Cynffig, tra bod y ffin gorllewinol yn dilyn y draffordd M4 fodern sydd fwy neu lai yn dilyn ymyl y gwastadedd arfordirol.

Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.

Goruchafir y tirwedd hanesyddol a nodir yma gan lethrau serth deheuol Mynydd Margam, lleoliad strategol a oedd yn rheoli llwybrau cynnar i Orllewin Cymru,gan gynnwys y brif ffordd Rufeinig oedd yn cysylltu caerau Rhufeinig Caerdydd a Chastell-nedd. Mae llawer o'r ardal wedi ei choedwigo bellach, er yn archaeolegol mae wedi elwa ar yr astudiaethau tirwedd cynnar a gynhaliwyd yn y 1930au. Mae'r ardal yn dangos parhad, dwyster ac amrywiaeth preswyliad dynol. Roedd hyn yn wreiddiol wedi'i ganolbwyntio a'i wasgaru ar y mynydd ei hun, er yn ddiweddar, ac yn anghymesur, tyfodd yn gyflym gan ymwthio i mewn i gyfyngiadau cul y gwastadedd arfordirol, lle roedd y cyfyngiadau topograffegol naturiol a'r rhwystrau ffisegol rhwng Blaenau a Bro Morgannwg yn caniatau hynny.

Yn sefyll uwchben gwaelodlin coediog trwchus y cwm a'r isdir, ond eto yn hygyrch o'r tir uchel cyfagos, bu'r mynydd yn ganolbwynt gweithgaredd dynol ers Oes yr Efydd o leiaf, ac mae tystiolaeth o hyn i'w gweld yn nifer y carneddau a'r beddrodau - rhai sengl a rhai mewn grwpiau. Cynrychiolir Oes yr Haearn yn dda hefyd gan glwstwr anarferol o fryngaearau nodedig, amgaeadau, aneddiadau a'r traciau oedd yn eu cysylltu. Mae Mynydd y Castell, Caer Cwm Philip a'r Bwlwarcau yn ffurfio cadwyn o gadarnleoedd oedd yn amddiffyn y dramwyfa strategol bwysig ar draws lethrau deheuol y mynydd. Fodd bynnag, mae'r caerau yn ogystal wedi'u lleoli er mwyn manteisio ar y tir pori mynyddig i'r gogledd, ac, yn wir,gallailr ffurf gymhleth a'r amddiffynfeydd llawer is yn Y Bwlwarcau awgrymu mai prif swyddogaeth y safle oedd cadw da byw yn hytrach nac amddiffyn. Mae cwrs y brif ffordd Rufeinig yn dystiolaeth o'r cyfnod Rhufeinig a ddilynodd, a gofnodwyd yn Antonine Itinerary yr ail ganrif, yn ogystal ‚'r darganfyddiad o ddwy garreg filltir Rufeinig yn yr ardal. Heddiw, cedwir ei chwrs fwy na thebyg ar hyd llinell Water Street.

Cynrychiolir y cyfnod canoloesol cynnar yn dda gan yr ail-breswyliad a awgrymir o'r bryngaerau, a'r Garreg Bodvoc o'r 7fed ganrif wedi'i gosod ar feddrod o Oes yr Efydd ar y mynydd. I'r de orllewin, ym Margam ac Eglwys Nunnydd, mae cysylltiadau crefyddol cynnar pwysig.Yma mae clwstwr o safleoedd crefyddol a henebion Cerrig Cristnogol Cynnar Arysgrifedig, sy'n gysylltiedig ‚ chanolbwynt mynachaidd Cymreig cynnar.Tystiwyd i hyn gan yr abaty Sistersiaidd gwych ym Margam, y ty mynachaidd cyfoethocaf yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1147, ar safle y tybir iddo fod ar neu'n agos at ei ragflaenydd, a hefyd safle eglwysig bwysig yn Eglwys Nunnydd, cysegriad a gysylltir ‚ Santes Non fwy na thebyg, mam Dewi, Nawdd Sant Cymru. Mae casgliad pwysig o henebion Cerrig Cristnogol Cynnar Arysgrifedig, sy'n ymestyn o'r 6ed i'r 11eg ganrifoedd, a ddarganfuwyd o fewn neu'n agos at yr ardal a ddisgrifir yma, yn cael ei gadw yn Amgueddfa Gerrig Margam ger eglwys yr Abaty.

Dim ond rhan o eglwys yr Abaty a rhannau o adeiladau cyfagos sydd wedi goroesi o'r sefydliad hwn a fu unwaith yn wych - roedd yr ardal gyfan a ddisgrifir yma yn gorwedd o fewn maenol yr Abaty. Yn dilyn y Diddymiad, prynwyd llawer o eiddo'r Abaty gan Syr Rice Mansel ac arhosodd yn y teulu tan 1942. Seiliwyd ty 'r teulu ar adeiladau domestig yr Abaty, a addaswyd ac ychwanegwyd atynt mewn amrywiaeth o ddulliau adeiladu dros y cenedlaethau. Dymchwelwyd y ty ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac adeiladwyd plasty newydd, Castell Margam, yn y 1830au.Yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, y prif atyniadau ym Margam fu'r orendy Sioraidd gwych a adeiladwyd ym 1787-90 i ddarparu cartref ar gyfer casgliad o goed sitrws hynafol enwog a'r gerddi hamdden o'i amgylch a ddatblygwyd yn bennaf yn y 19eg ganrif. Lleolir y ty a'r gerddi mewn parc mawr ‚ waliau o'i gwmpas sy'n deillio o'r cyfnod Tuduraidd.Wedi cyfnod o'i esgeuluso, prynwyd Parc Margam ym 1974 gan Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg gynt, a ddechreuodd ar raglen gynhwysfawr o adnewyddu ac adfer.

Dangosir parhad arwyddocad milwrol yr ardal gan gastell canoloesol Llangynwyd yn nwyrain yr ardal, sef canolfan weinyddol Tir larll, arglwyddiaeth arglwyddi Morgannwg, a hefyd yn fwy diweddar, ar esgair ddeheuol Mynydd Margam, gan Safle Chain Home Low Radar a'r Graig Fawr, a adeiladwyd fel rhan o fesurau amddiffynnol yr Ail Ryfel Byd.Yn llenwi'r olygfa i'r de-orllewin ac ar hyn o bryd y tu allan i'r ardal a ddisgrifir yma, mae ardal Port Talbot a Gweithfeydd Dur enfawr Abaty Margam. Maent yn cynrychioli enghraifft o dirwedd newydd sydd yn gyferbyniad gweledol llwyr ac yn gwbl anghymesur ‚'r tinvedd cynharach gerllaw a ddisgrifir yma, a luniwyd yn fwy dirgel.