The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

040 Scurlage a Berry


Ffoto o Scurlage a Berry

HLCA040 Scurlage a Berry

Tirwedd a chyn-ganolfannau maenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol (Scurlage Castle - lleyg; Berry - mynachaidd): caelun lled-reolaidd ôl-ganoloesol; anheddiad clystyrog canoloesol/ôl-ganoloesol Scurlage Castle sy'n llai o faint erbyn hyn ac anheddiad llinellol Berry; archeoleg greiriol a chladdedig; gweithgarwch echdynnu a phrosesu calchfaen. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Scurlage a Berry yn cyfateb fwy neu lai i ffi marchog ganoloesol Scurlage Castle a Maenor Berry a oedd yn eiddo i Farchogion Sant Ioan. Tybiwyd bod yr ardal, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, yn rhan o faenor Gymreig lawer helaethach, goroesodd olion yr ystâd fawr hon ar raddfa lawer llai ar ôl iddi gael ei rhannu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd. Lleolid yr ardal yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng nghantref Eginog, yn ddiweddarach rhannwyd yr ardal hon rhwng ffi marchog Scurlage Castle, a Berry a roddwyd i Farchogion Sant Ioan, a daeth yn ddaliad yng NGwyr Is Coed. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe yn Sir Morgannwg.

Mae anheddiad yn dyddio o'r Oes Haearn yng Nghoedwig Berry a darn arian Rhufeinig a ddarganfuwyd yn tystio i weithgarwch anheddu o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol o leiaf. Erbyn dechrau'r cyfnod canoloesol, mae'n debyg bod yr ardal yn rhan o uned neu faenor Gymreig helaethach Landimôr, a bod y daliad helaethach hwn wedi'i rannu erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif o ganlyniad i roddion i urddau crefyddol a chreu is-ffïoedd (Draisey 2002). Ymddengys fod ardal Scurlage a Berry fel endid ar wahân yn dyddio o tua 1202, pan symudodd y teulu Scurlage i Fro Gwyr a dod yn Arglwyddi Scurlage Castle. Mae Nicholl yn awgrymu efallai i'r teulu Scurlage ymsefydlu ar dir a oedd wedi'i gerfio allan o'r hyn a fuasai'n diriogaeth hen Briordy Cymreig Llangynydd (Nicholl 1936, 136-137). Ystyrir bod cyfeiriadau diweddarach sy'n honni bod yr ardal yn un o Ffïoedd Hynafol Gwyr yn annibynadwy (Nicholl 1936, 168; Draisey 2000, 14-15).

Mae Nicholl yn nodi mai etifeddes oedd yr olaf yn llinach y teulu Scurlage o Scurlage Castle, gwraig aelod o'r teulu Mansel, a etifeddodd, ar y cyd â'r teulu de Stakepole, eu heiddo yng nghanol y 14eg ganrif (Nicholl 1936, 136 a 185). Ac yntau'n ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg mae Rice Merrick yn nodi bod Scurlage yn un o Gestyll neu Ystâdau (Piles) Gwyr (James 1983, 116), yn ystod y cyfnod perthynai arglwyddiaeth Scurlage i Syr Edward Mansel, marchog (James 1983, 121).

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO gynllun yr anheddiad, nad yw wedi newid fawr ddim ar wahân i fân newidiadau a wnaed yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar ben hynny ymddengys na fu fawr ddim newid yn y patrwm caeau ychwaith ar wahân i rywfaint o weithgarwch cyfuno caeau. Mae patrwm caeau'r ardal gyfan yn ei le erbyn diwedd y 18fed ganrif (map ystâd 1785) ac ni nodir fawr ddim newidiadau drwy gydol y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif (map degwm dyddiedig tua 1840; argraffiad 1af, 2il argraffiad a 3ydd argraffiad map yr AO). Dangosir prif anheddiad amaethyddol Scurlage Castle fel grwp clystyrog o ffermydd ôl-ganoloesol ac adeiladau allan cysylltiedig wedi'u lleoli o fewn matrics o gaeau ac iardiau bach wrth gyffordd rhwng y ffordd o Landdewi i Port-Eynon a'r lôn/llwybrau i'r system gaeau gysylltiedig. Cynhwysai ffermydd ôl-ganoloesol yr anheddiad hwn ffermydd ac adeiladau allan Fferm Scurlage Court (Fferm Scurlage Castle ar fap ystâd 1785) a Fferm Scurlage Castle (Gorllewin) sydd wedi'u trefnu ar siâp L. Ychwanegwyd yr olaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae wedi'i gosod yn ôl ac i'r dwyrain o'r briffordd sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de. Dangosir hefyd rhes linellol hir Scurlage House (1785) neu Scurlage Castle, yr ymddengys fod yr olaf yn cynnwys olion y castell canoloesol a ddangosir fel darn byr o wal i'r gorllewin. Saif grwp o adeiladau min ffordd ag iardiau nas enwir ychydig ymhellach i'r gorllewin, bythynnod gweithwyr amaethyddol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg (nis dangosir ar fap ystâd 1785). Credir i Scurlage gael ei sefydlu ar anheddiad canoloesol cynharach a gall gynrychioli bentref canoloesol suddedig. Anheddiad ôl-ganoloesol llinellol Berry a leolir yn nherfynau de-ddwyreiniol yr ardal sy'n cynnwys Fferm Berry, Berry Hall, a Berry yw'r prif anheddiad arall ar argraffiad cyntaf map yr AO. Mae tystiolaeth map yr AO yn awgrymu y gall llawer o ffermydd ac adeiladau cysylltiedig yr anheddiad hwn fod wedi'u hymgorffori o fewn adeiladau amaethyddol y ffermydd helaethach sy'n dyddio o'r ugeinfed ganrif. Mae'r argraffiad cyntaf hefyd yn dangos pedair chwarel ac odynau calch cysylltiedig sydd wedi'u gwasgaru at ei gilydd trwy'r caelun, y mae pob un ohonynt yn segur. Mae'n debyg bod yr odynau hyn, am eu bod yn bell o brif linellau cyswllt a mannau llwytho llongau ar yr arfordir, yn gysylltiedig â gwelliannau amaethyddol ôl-ganoloesol lleol a ysgogwyd gan ystâd y teulu Mansel ac mae'n debyg eu bod yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.