The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

051 Kittle


Ffoto o Kittle

HLCA051 Kittle

Tirwedd ôl-ganoloesol yn bennaf a chyn-ganolfan faenoraidd: ffermydd gwasgaredig ac anheddiad clystyrog bach; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; llwybrau cysylltu; coetir; a mannau darganfod. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Kittle yn cynrychioli'r ardal fawr o gaeau a gyfunwyd o fewn tirwedd amaethyddol sydd fel arall yn bur ddigyfnewid sy'n cyfateb i raddau helaeth i gyn-ffi Kittle ac eithrio Kilvrough.

Mae'r dystiolaeth gynharaf ar gyfer yr ardal yn dyddio o'r Oes Efydd; casgliad mawr o wrthrychau efydd yn bennaf a ddarganfuwyd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Langrove (00308w). Mae darganfyddiadau eraill yn cynnwys dolen efydd Rufeinig (03185w) yn ogystal â chrochenwaith a broetsh efydd yn dyddio o'r ail ganrif a ddarganfuwyd yn chwarel Barland (01150w). Darganfuwyd ceiniog Edward III (03218w) yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn fferm Kilvrough.

Yn ystod y cyfnod Canoloesol ffurfiai'r ardal hon ffi Normanaidd Kittle, a ymgorfforwyd yn ddiweddarach ym maenor a phlwyf Pennard. Nid oes fawr ddim tystiolaeth ddogfennol ar gyfer yr ardal tan yr ail ganrif ar bymtheg pan geir cyfeiriad at weithgarwch cloddio sy'n nodi y gallai tenantiaid 'Manor of Pennard, Fee of Llonnon and Kittle ... may freely by the custome of the said Lordshippe tyme out of minde there used without any licence of the Lord of the said Mannor Digge and break up all manner of Stone at their pleasures' (Harding 2000, 14). Ceir llawer o chwareli ac olion odynau calch yn yr ardal heddiw y mae'r mwyafrif ohonynt yn cynrychioli cynnydd mewn gweithgarwch gwella tiroedd amaethyddol a ysgogwyd gan yr ystâd leol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Parhaodd y ffi i gael ei harolygu ynghyd â maenor Pennard yn y ddeunawfed ganrif ac yn ei Survey of Gower 1764 mae Gabriel Powell yn nodi ei bod yn cynnwys tiroedd rhydd-ddaliadol a thiroedd daliadaeth gopihowld, sy'n wahanol i'r sefyllfa ym 1745 pan oedd yr holl dir yn dir daliadaeth gopihowld. Ar ben hynny dywedir i denantiaid yr ardal dalu ffi am y fraint o bori eu da byw ar dir comin gerllaw (Harding 2000, 11).

Dengys tystiolaeth gartograffig fod yr ardal wedi'i rhannu'n rhandiroedd yn dyddio o'r cyfnod canoloesol. Dangosir rhai ar fap degwm 1848 o amgylch ardaloedd Great Highway a phentref Kittle. Cyfunwyd y system gaeau yn raddol mewn blynyddoedd olynol ac ar hyn o bryd prin yw'r olion o lain-gaeau o gymharu ag ardaloedd Pennard a Llandeilo Ferwallt oddi amgylch.

Erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd anheddiad bach wedi datblygu fel Pentref Kittle, a gynhwysai yn ei hanfod glwstwr o fythynnod o amgylch lawnt bentref wrth y groesffordd ym mhen gogleddol dyffryn Llandeilo Ferwallt ar gyrion tir comin Barland (a ddangosir ar fap degwm 1848). Cynhwysai aneddiadau eraill yn yr ardal wasgariad o ffermydd, erbyn 1848 cynhwysai'r rhain, Langrove (02437w; 19125; 19127), Great Highway (18860), Fferm Kilvrough a Kittle Hill (01491w; 19110 sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r ddeunawfed ganrif) a Great Kittle (18100). Gwyddom fod Great Kittle yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf a gall fod mai'r fferm hon oedd prif breswylfa a daliad ffi Kittle cyn hynny. Mae Great Kittle yn gysylltiedig â'r teulu Gronow y gwyddom ei fod wedi ymsefydlu yn yr ardal ers 1533 o leiaf ac a ystyrid yn deulu bonedd eilradd bryd hynny (Morris 1998). Ymddengys fod tir ffermio Kittle Hill wedi'i gerfio allan o'r coetir yng ngogledd yr ardal hon.

Dengys newidiadau a nodwyd rhwng argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO a'r map degwm na fu fawr ddim newid yn yr anheddiad ar wahân i rai bythynnod a thafarn yn Kittle Green a ffermdy 'newydd' a ychwanegwyd yn Great Kittle. Ar ôl hynny ni fu unrhyw newid yn yr anheddiad tan ail hanner yr ugeinfed ganrif pan sefydlwyd aneddiadau newydd yn ardal pentref Kittle, sydd bellach yn cynnwys eiddo sengl â gerddi bach yn bennaf. Mae fferm Kittle Hill wedi tyfu hefyd, ac erbyn hyn hi yw'r fferm bwysicaf yn yr ardal ynghyd â fferm Kilvrough. Erbyn hyn mae'r ardal i'r gogledd o Langrove yn cynnwys datblygiad Parc Canisland.