The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

039 Newton


Ffoto o Newton

HLCA039 Newton

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf: caelun amrywiol ac aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig; archeoleg gynhanesyddol a chanoloesol gladdedig, gan gynnwys safle defodol cofrestredig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Newton yn cynnwys tir amaethyddol amgaeëdig sy'n gysylltiedig â Morfa Newton a Pilton. Mae tystiolaeth enwau lleoedd a thystiolaeth gartograffig yn awgrymu bod tirwedd amgaeëdig yr ardal at ei gilydd yn cynrychioli proses ddiweddarach o amgáu tir diffaith a sefydlu aneddiadau newydd erbyn dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol ar gyrion Maenor Henllys.

Fodd bynnag mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol fel y tystia darganfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod hwnnw, gan gynnwys ysgrafelli fflint a naddion a naddyn wedi'i ail-weithio. Trwy astudio ffotograffau o'r ardal a dynnwyd o'r awyr ym 1964 darganfu RCAHMW heneb ar ffurf meingylch, heneb sy'n nodweddiadol o'r cyfnod Neolithig (RCAHMW); mae'r heneb hon (SAM GM580; 00123w; 309758) yn cynnwys ffos sy'n 5m o led ac yn 53m ar ei thraws, a chanddi ddau smotyn tywyll a thrydydd smotyn sy'n llai eglur ar yr ochr ddwyreiniol, sy'n awgrymu bod cylch o bump neu chwech o dyllau mawr 7m y tu mewn i ymyl y ffos. Daethpwyd i'r casgliad i gylch llydan o liw goleuach gael ei greu trwy lefelu clawdd o fewn y cylch mewnol, ac mae'n bosibl bod mynedfa tua 5m o led ar yr ochr orllewinol. Tynnwyd ffotograffau ohoni gan yr RCAHMW unwaith eto ym 1992, a'r tro hwn datgelwyd dau dwll ychwanegol i'r gorllewin o'r rhai a nodwyd ym 1964.

Fel arall ychydig a wyddom am hanes cynnar yr ardal, er bod tystiolaeth o weithgarwch anheddu yn ailymddangos yn ystod y cyfnod canoloesol ar ffurf o leiaf un adeilad canoloesol hirsgwar (RCAHMW 1982, 361 MI 4). Lleolir yr olaf ar gwr gorllewinol ardal a nodweddir gan gaelun datblygedig o gaeau llai o faint, gan gynnwys olion llain-gaeau, y mae'n debyg eu bod yn cynrychioli tir diffaith a amgaewyd yn gynnar. Nid astudiwyd hanes tirwedd yr ardal hon yn fanwl eto, ac ni fu'r ardal yn destun arolwg maes cynhwysfawr ychwaith; efallai y bydd astudiaethau yn y dyfodol yn gwella ein dealltwriaeth o'r modd y datblygodd y dirwedd yma.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol gwelodd yr ardal, ynghyd â'r rhan fwyaf o Fro Gwyr, newidiadau mawr yn ei thirwedd amaethyddol a'i phatrymau daliadaeth. Y teulu Mansel oedd y prif berchennog tir yn yr ardal bellach a'r perchennog tir mwyaf ym Mro Gwyr. Ymddengys fod y dirwedd amgaeëdig bresennol yn yr ardal yn ymwneud yn rhannol â gweithgarwch cyfuno daliadau yn ystod y ddeunawfed ganrif a gweithgarwch tresmasu a ddechreuodd o bosibl yn gynharach yn ystod yr 16eg ganrif neu'r 17eg ganrif, fodd bynnag mae angen gwneud rhagor o ymchwil fanwl i gadarnhau hynny. Byddai'r ffaith bod fferm Newton, prif fferm yr ardal, yn dyddio o ganol y 18fed ganrif a'r ffaith bod y caeau agosaf ati o fewn yr ardal yn fwy o faint yn ategu'r honiad hwn.

Mae gan y ty yn Newton (01641w; 19455) nifer o nodweddion pensaernïol nodedig. Mae'r simnai fewnol yn wynebu'r cyntedd; i'r chwith o'r simnai ceir y grisiau allanol â sangfeydd pren ac i'r dde eu 'mynedfa i'r cyntedd'. Mae gan yr adeilad barwydydd o waith maen; nid oes ond ychydig o enghreifftiau o'r nodwedd hon ym Mro Gwyr fodd bynnag mae llawer wedi goroesi i'r dwyrain. Ceir hefyd trawstiau agored, a chanddynt broffiliau canolig a phantiog ag ysnoden. Ar y trawstiau hyn ceir mowldiau pigfain addurniadol.

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO a mapiau ystâd cynharach na fu fawr ddim newid yn y system gaeau o'r ddeunawfed ganrif, ar wahân i ychydig o waith a wnaed i gyfuno'r caeau neu'r llain-gaeau llai o faint yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Gall darnau o dir pori garw amgaeëdig a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO, yn arbennig i'r gogledd ac i'r gorllewin o'r ardal, gynrychioli'r cyn-dir diffaith neu'r tir comin agored, a arferai fod yn gyffredin yn yr ardal; cadarnheir hynny i raddau gan dystiolaeth enwau lleoedd o amgylch cyrion yr ardal megis Morfa Pilton, Morfa Kimley ac yn ddiweddarach fferm Keen Moor. Mae mapiau a argraffwyd yn ddiweddarach yn dangos sut y cafodd y tir pori yn yr ardal ei wella'n raddol. Yn ogystal â nodi patrwm caeau datblygedig amrywiol yr ardal, dengys argraffiad cyntaf map yr AO nifer o fân nodweddion amaethyddol megis pyllau, llwybrau a ffosydd, ond hefyd strwythurau anghysbell, a all fod yn dai anifeiliaid neu'n ysguboriau maes.

Dangosir fferm Newton fel rhes helaeth o adeiladau a leolir o fewn cyfres o iardiau hirsgwar bach a pherllannoedd. Ymddengys nad oes fawr o wahaniaeth rhwng cynllun presennol y fferm a'r hyn a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO; mae fferm Newton yn ffurfio rhes siâp L ag adain ogleddol o adeiladau allan a cheir strwythur ar wahân i'r dwyrain ar draws iard, rhes i'r gorllewin ac adeilad pellach i'r de. Dangosir odyn galch a hen chwarel gysylltiedig gerllaw i'r gogledd-ddwyrain o Newton ar argraffiad cyntaf map yr AO, y nodir bod y ddau yn hen ar yr ail argraffiad, dinistriwyd yr odyn galch (02456w) yn ôl y dystiolaeth ddogfennol. Pilton Moor yw'r fferm arall a nodwyd bryd hynny, daliad cymharol fach ar ochr ogledd-ddwyreiniol y Lawnt neu'r tir comin yn Pilton Cross, fferm yn cynnwys rhes siâp L y mae beudy ynghlwm wrthi.