The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

031 Rhossili a Middleton


Ffoto o Rhossili a Middleton

HLCA031 Rhossili a Middleton

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad organig cnewyllol sy'n cynnwys datblygiadau strimynnog diweddarach; caelun amrywiol; llain-gaeau canoloesol; ffiniau traddodiadol; canolfan eglwysig; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; nodweddion diwydiannol gwledig a nodweddion prosesu diwydiannol; a chysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Rhosili a Middleton yn cyfateb fwy neu lai i Faenor ganoloesol Rhosili, ac eithrio'r darn o dir comin yn Nhwyn Rhosili i'r gogledd a system gaeau The Vile i'r gorllewin. Lleolid yr ardal yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.

Ceir cyfeiriad posibl at Rosili yn llyfr Llandaf dyddiedig tua 650; mae Davies (1979, 97) yn ystyried bod testun y siarter hon yn awgrymu bod prif ystad fynachaidd yn Rhosili a chelloedd dibynnol mewn mannau eraill, mae ail siarter ddyddiedig tua 925 yn cyfeirio at sefydliad mynachaidd Rhosili. Cymerir yn ganiataol i'r teulu Turberville ddal Rhossili, un o ddaliadau gwasgaredig Maenor Landimôr, nes iddynt gael eu dadfeddiannu gan William de Breos II yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Ceir y cofnod cyntaf o Eglwys y Santes Fair yn Rhosili (00153w) ar ôl i'r Normanaiid gyfeddiannu'r ardal, pan roddodd William de Turberville yr eglwys yn Rhosili, ynghyd â'r eglwysi yn Landimôr a Llanrhidian i Farchogion Sant Ioan yn Slebets yn Sir Benfro rhwng 1135 a 1230. Credir i'r eglwys gael ei chysegru i'r Forwyn Fair, cysegriad a gadarnhawyd gan Merrick (gol James 1983, 118), yn y ddeuddegfed ganrif (Davidson ac eraill 1987, 257; Evans 2003-04). Parhaodd Marchogion Sant Ioan i benodi'r rheithoriaid nes i'r urdd gael ei diddymu ym 1540, ar ôl hynny nes i'r eglwys gael ei datgysylltu ym 1920, câi'r rheithoriaid eu penodi gan y Goron.

Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg credir bod Rhosili yn cynnwys dau anheddiad annibynnol a'u gwahanol eglwysi, fel yr awgrymir mewn disgrifiad o briodas a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod 1217-1220; nododd y gwaddol 'Landymore, Rhossili the greater and the lesse'. Profodd tystiolaeth archeolegol fod anheddiad is yn bodoli (HLCA 013; SAM GM414) a gynhwysai eglwys. Ymddengys i'r ddau anheddiad a'u heglwysi gydfodoli tan ddiwedd y cyfnod canoloesol Tra bod adeiladwaith eglwys y Santes Fair at ei gilydd yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn cynnwys bwa cangell ardderchog yn yr arddull Normanaidd yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif; mae'n bosibl i'r nodwedd olaf ddod o'r eglwys Isaf, damcaniaeth a ategir gan draddodiad lleol, a chadarnhaodd gwaith cloddio fod gwaith maen nadd fel pe bai ar goll o wal cangell yr eglwys hynaf (gweler HLCA013 am ragor o fanylion). Dengys deial haul â bysedd sydd wedi'i grafu ar gapfaen colofn chwith y bwa Normanaidd ei fod yn ddrws allanol ar un adeg.

Mae eglwys ganoloesol y Santes Fair (LB 11547 II*), a adferwyd i raddau helaeth, yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae'n cynnwys drws deheuol Normanaidd ardderchog yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, sy'n unigryw ym Mro Gwyr. Mae'r canlynol yn seiliedig ar y disgrifiad adeilad rhestredig a ffynonellau eraill.

Ystyrir na chynhwysai'r eglwys ond corff a changell yn wreiddiol ac mae nodweddion canoloesol cynnar yn cynnwys ffenestr ochr isel a'r tir sy'n gogwyddo ychydig i'r de o echel y gangell. Mae'r eglwys wedi'i hadeiladu o waith maen tywodfaen clobynnog lleol a naddwyd â bwyeill ar wahân i gerrig nadd (cyfuniad o dywodfaen a chalchfaen öolithig) y ffenestri a'r drysau. Ymddengys fod twr y gorllewin yn ychwanegiad, sy'n cau ffenestr orllewinol lefel uchel gynharach ac mae ganddo do trumiog croes heb ganllawiau a ffenestri agen yn y clochdy i'r gogledd ac i'r de a simnai gron. Mae ffenestr y dwyrain mewn Arddull addurnedig a chanddi ddwy brif ffenestr bumdalen a ffenestr bedeirdalen yn y pen. Y ffenestr hon yw'r unig un â label-mowld ac mae ganddi bennau cerfiedig fel terfyniadau. Mae ffenestri gogleddol a deheuol y gangell yn ffenestri llansed llydan â theirdalen ar eu pen. Mae'r ffenestr ochr isel yn wal ddeheuol y gangell yn ffenestr ganoloesol a ail-agorwyd, a chanddi bwynt pigfain bychan. Mae'r tair ffenestr i'r gogledd o gorff yr eglwys a phump i'r de i gyd yn ffenestri llansed llydan plaen.

Mae gan y portsh fwa allanol hanner crwn plaen. Y drws mewnol yw nodwedd arbennig Eglwys y Santes Fair: bwa â dwy res o golofnau, mae'r rhes fewnol yn blaen ar wahân i siamffr cilbost â meini bargodol uchaf addurniadol. Mae'r rhes allanol wedi'i haddurno â dau gylch o sieffrynau sy'n pwyntio allan a siafftiau cilfachau â chapfeini cerfiedig. Label-mowld dant ci â phen cerfiedig hirgrwn bach sydd bellach ychydig i'r chwith o'r canol; pennau cerfiedig fel terfyniadau. Mae pen y terfyniad chwith yn fwy treuliedig; mae'r pen ar y dde yn fwy o faint a gall ddyddio o gyfnod diweddarach. Ceir hefyd deial haul â bysedd yn abacws y cabidwl chwith.

Mae llun a dynnwyd ym 1855 gan Caroline Lucas yn awgrymu bod yr eglwys yn dra adfeiliedig erbyn y cyfnod hwn ac adferwyd yr eglwys ar raddfa helaeth o ganol y 19eg ganrif ymlaen. Miss Talbot o Ben-rhys a dalodd am lawer o'r gwaith adfer hwn. Rhoddwyd to newydd ar yr eglwys a gosodwyd llawr newydd y tu mewn; ailadeiladwyd y portsh; ychwanegwyd y ddwy ffenestr ym mhen gorllewinol corff yr eglwys, ffenestr yn wal ddeheuol y twr ac ail-agorwyd y ffenestr ochr isel a gosodwyd gwydr ynddi; trowyd gwaelod y twr yn festri hefyd. Atgyweiriwyd y toeau llechi â chribau teils ymhellach ym 1970, a chodwyd sgrîn yng ngorllewin corff yr eglwys i ehangu'r festri (Lucas 1982; Newman 1995, 541; Orrin 1979, 77-80).

Mae'r fynwent yn Rhosili (05252w) yn fynwent rannol gromliniol, heddiw ac ar fap degwm 1847, lle y'i dangosir wedi'i lleoli yn hanner gogleddol bloc cromliniol sydd â ffyrdd ar bobtu iddo; ymddengys yn debygol ei bod yn llenwi'r bloc cyfan yn wreddiol, a rannwyd wedyn gan ffin syth gan adael y fynwent mewn un rhan ohono yn unig. Mae'n disgyn o'r gorllewin i'r dwyrain, ac mae'n uwch na'r ardal o'i hamgylch yn y gorllewin. Mae'r ffin bresennol o rwbel patrymog, sy'n ffurfio wal gynhaliol yn y pen gorllewinol; ceir dwy giât sengl, wedi'u cysylltu gan lwybr ar ochr ddeheuol yr eglwys (Edith Evans, 2003-04).

Mae'r disgrifiad isod yn ymwneud yn bennaf ag anheddiad Rhosili Uchaf. Mae'r ardal wedi'i chanoli ar bentref Rhosili, anheddiad organig cnewyllol sydd wedi'i ganoli yn ei dro ar ei eglwys ganoloesol, sef Eglwys y Santes Fair, a phentrefan Middleton, datblygiad strimynnog neu glwstwr cnewyllol sydd wedi'i ganoli ar gyffordd rhwng y prif lwybr o'r dwyrain i'r gorllewin i Rhosili ac isffordd i dir comin agored Twyn Rhosili. Mae'r ddau anheddiad wedi'u cysylltu bellach gan ddatblygiadau strimynnog yn dyddio o ddiwedd yr ugeinfed ganrif, sy'n cynnwys bythynnod ymddeol a filâu yn bennaf. Yn ystod y cyfnod rhwng y ddeunawfed ganrif a'r ugeinfed ganrif roedd yr ardal gyfan bron yn rhan o ddaliadau'r teulu Talbot o Ben-rhys.

Ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO nid yw Rhosili fawr mwy na grwp bach o fythynnod a ffermydd i'r de-orllewin ac i'r gogledd-ddwyrain o fynwent gromliniol eglwys y Santes Fair sy'n ymestyn o Fwthyn Harepits yn y gorllewin, trwy Fferm Ash Tree, Fferm Rhossili a Fferm Bay i adeiladau fferm Little Hill House yn y gogledd gerllaw'r lôn sy'n ymestyn o'r 'Green', ychydig i'r gogledd-orllewin o'r eglwys i dir comin agored Twyn Rhosili. Dangosir hefyd nifer o nodweddion sy'n ymwneud â diwydiant gwledig yr ardal, megis pwll llifio yn y 'Green', chwarel i'r gorllewin o Fwthyn Harepits, a hen odyn galch i'r gogledd. Ni chofnodir fawr ddim newidiadau ar ail argraffiad map yr AO, ar wahân i fân ychwanegiadau yn cynnwys gorsaf gwylwyr y glannau (Hen Fythynnod Gwylwyr y Glannau bellach) a rhes o dri adeilad sy'n cynnwys Bwthyn Wormshead i'r gorllewin o Fwthyn Harepits. Adeiladwyd Bythynnod Gwylwyr y Glannau sy'n ddiweddarach ar y llwybr i Worms Head yn ystod y 1930au. Erbyn hyn mae'r bythynnod yn gartref i Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ar droad y 19eg ganrif - 20fed ganrif cynhwysai pentrefan Middleton tua dwsin o fythynnod gwyngalchog deulawr a chanddynt ffenestri sgwâr bach a thoeau llechi neu wellt, gan gynnwys siop, Swyddfa Bost, gefail a Thafarn y Ship a oedd yn gysylltiedig â'r Is-swyddog Edgar Evans (1876-1912) a aeth gyda'r Capten Scott i Begwn y De ac a fu farw ar y daith yn ôl. Caewyd Tafarn y Ship ar ddechrau'r 1900au ar ôl i ddeiseb ddirwest a ysbrydolwyd gan y Methodistiaid gael ei chyflwyno i Arglwyddes y Faenor, Miss Talbot o Ben-rhys. Cynhwysai pentrefan Middleton, fel y'i dangosir ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, anheddiad a oedd ychydig yn fwy na Rhosili ei hun, er nad oedd ganddo ganolfan blwyfol, ac yn ogystal â Thafarn y Ship ym mhen gorllewinol yr anheddiad, cynhwysai nifer o ffermydd wrth y groesffordd, sef Fferm Jessamine, Middleton Hall, a bwthyn ac adeiladau allan, a ddymchwelwyd bellach i wneud lle i ledu'r ffordd. I'r dwyrain ymestynnai datblygiadau strimynnog ar hyd ochr ddeheuol y ffordd hyd at Fwthyn Mewslade (Swyddfa Bost ar 2il argraffiad map yr AO), tra lleolid bwthyn (a elwir bellach yn Riverside) a thy o'r enw Old Farmhouse i'r gogledd o'r groesffordd ac i'r gorllewin o'r lôn i'r tir comin. Ychydig i'r gogledd ceir pwll llifio, nifer o fythynnod a gefail. Mae'r lôn yn parhau fel llwybr ar hyd cwr tir comin trwy Fwthyn Middleton Hall i grwp o fythynnod yn Fernhill Top a leolir o fewn caeau a gymerwyd o'r tir comin. Dangosir Talgarth's Well ychydig i'r de. Erbyn cyhoeddi ail argraffiad map 25 modfedd yr AO roedd Capel y Methodistiaid Wesleaidd (a adeiladwyd ym 1887) wedi'i adeiladu yng nghwr dwyreiniol yr ardal, yr un pellter fwy neu lai o Middleton a Pitton. Mae'r ail argraffiad yn cofnodi gefail wrth y groesffordd ac ysgol a ychwanegwyd ar gwr deheuol y tir comin.