Cadw

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Tirweddau Hanesyddol yng Nghymru

Location map of GGAT area

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent wedi cyfrannu at waith yn edrych ar gymeriad hanesyddol yr ardaloedd a ddiffinnir gan Gofrestr Tirweddau Hanesyddol Cymru.

Mae hyn yn rhan o brosiect ar gyfer Cymru gyfan a noddir gan Cadw a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac amlinellir y cefndir isod. Y gobaith yw y bydd yn bosibl ystyried pob tirwedd yn y gofrestr yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf ac yna ehangu'r gwaith i'r rhannau hynny o Gymru sydd 'heb eu cofrestru'. Mae'r dudalen ganlynol yn rhoi blas o'r gwaith a wnaed hyd yma yn ardal Morgannwg-Gwent.

Yr ardal a amlinellir mewn glas yw Morgannwg-Gwent, sy'n cael ei astudio fel rhan o'r rhaglen Disgrifio Tirweddau Hanesyddol ar gyfer Cymru gyfan.

Ardaloedd Tirwedd Hanesyddol sydd yng Nghofrestr Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru CCW / Cadw /ICOMOS UK Rhan 2.1 a Chofrestr Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru CCW / Cadw /ICOMOS UK Rhan 2.2. Yr ardaloedd a ddangosir mewn goch yw'r rhai yr edrychir arnynt yn fanwl ar hyn o bryd fel rhan o'r rhaglen Disgrifio Tirweddau Hanesyddol yng Nghymru. Bydd y map hwn yn cael ei diwygio pan fyddant ardaloedd ychwanegol yn cael ei astudio. Cliciwch ar y llun islaw er mwyn cysylltu â'r Dirwedd Hanesyddol priodol neu dewiswch ardal o'r ddewislen.

Map of Historic Landscape Areas Gwyr Y Rhondda Merthyr Tudful Gelli-gaer Blaenafon Gwastadeddau Gwent Mynydd Margam Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam Cwm Clydach Llancarfan Dyffryn Gwy Isaf

Mae'r grymoedd naturiol a'r gweithgaredd dynol a fu'n gweithredu ar y cyd dros y chwe mil o flynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu at y broses o gynhyrchu tirwedd o harddwch ac amrywiaeth hynod yng Ngymru, ased cenedlaethol sy'n hanfodol i ni o ran ein hunaniaeth genedlaethol a hefyd o ran ein lles a'n 'hymdeimlad o berthyn i le'unigol. Gellir gweld ymhobman yr amrywiaeth a'r olion a adawyd ar y tirwedd gan weithgaredd dynol, o henebion cerrig enigmatig y cyfnod cynhanesyddol a chestyll ac abatai gwych y cyfnod canoloesol, i'r nodweddion eithaf cyffreddin a nodweddiadol fel ffiniau caeau a all yn aml fod yn hen iawn. Ond nid dim ond golgyfeydd deniadol neu gofnod o'r gorffennol yn unig yw'r tirwedd; mae hefyd yn darparu lle I ni fyw, gweithio a chynnal ein hunain ynddo, drwy gyfrwng amaeth, coedwigaeth, twristiaeth ac ati, oll yn brosesau sy'n llunio, ac a fydd yn parhau i lunio'r tirwedd.

Bu cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a chyfoeth ffabrig hanesyddol y tirwedd yn thema ac yn neges ganolog y gofrestr anstatudol, Cofrestr O Dirweddau O Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru y cyhoeddwyd y rhan gyntaf ohoni, sy'n cwpasu trideg chwech o dirweddau 'eithriadol' ym mis Ionawr 1998. Caiff y Gofrestr ei llunio fel menter ar y cyd rhwng Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd(ICOMOS) sy'n gweithio mewn cydweithrediad a phedair Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymru, y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac awdurdodau unedol Cymru.

Y Gofrestr o Dirweddau o Ddoddordeb Hanesyddol yw'r cam cyntaf, trosolwg cenedlaethol o gynnwys hanesyddol tirwedd Cymru. Y cam nesaf, mor hanfodol i'r broses o lywio'r modd y gellir rheoli agweddau ar y tirwedd cenedlaethol, yw trefnu bod gwybodaeth fwy manwl ar gael ynglyn a chymeriaid y tirwedd hwn ar lefel fwy lleol. Cyflawnir hwn drwy broses a elwir yn nodweddiad tirweddau hanesyddol a ddatblygwyd yng Nghymru ar y cyd a Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru. Golyga hyn nodi ardaloedd o gymeriad hanesyddol y gellir eu diffinio a'u mapio'n ddaearyddol, yn ol yr hyn a benderfynir gan ystod a dosbarthiad y nodweddion archeolegol a hanesyddol sy'n goroesi a'r prif fathau o batrymau defnydd tir hanesyddol neu 'themau' hanesyddol sydd wedi llunio'r ardal. Nodir nodweddion hanesyddol allweddol yr ardal felly ynghyd ag argymhellion ar gyfer eu rheoli'n gadarnhaol.

Mae'r adroddiad hwn yn un o gyfres o ymarferion nodweddiad tirweddau hanesyddol yr ymgymerir ag ef gan Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru gyda chymorth grant gan Cadw. Bydd yr astudiaethau hyn yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar yr ardaloedd hynny a nodwyd yn y Gofrestr O Ddiddordeb Hanesyddol, er y caiff ei dderbyn bod modd disgrifio tirwedd Cymru gyfan, mewn un ffordd neu'r llall, fel un hanesoddol.Mae gwybodaeth yn cael ei pharatoi ar ffurf sy'n cydweddu a methodoleg asesu tirweddau a gwneud penderfyniadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef LANDMAP. Bydd ar gael i ystod eang o sefydliadau a chaiff ei fwydo i fentrau amrywiol er mwyn diogelu a rheoli cefn gwlad Cymru, yn bennaf y cynllun agri-amgylcheddol sef, Tir Gofal. Caiff ei weld hefyd yn gwneud cyfraniad arbennig o bwysig i'r broses o godi ymwybyddiaeth a dwyshau'r ymdeimlad o arbenigrwydd lleol.

Cydnabydda'r Gofrestr O Dirweddau O Ddiddordeb Hanesyddol a'r ymarfeirion nodweddiad hyn yn llawn natur ddeinamig y tirwedd sy'n parhau i esblygu. Hyrwyddant y farn mai nid trwy rwystro newid neu ffosileiddio'r tirwedd y mae diogelu treftadaeth y gorffennol yn y tirwedd, ond yn hytrach drwy lywio'r broses o newid, gan greu tirweddau'r dyfodol heb o anghenraid aberthu tirweddau gorau'r gorffennol.

Richard Avent and Richard Kelly

Cadw a Cyngor Cefn Gwlad Cymru