The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Cwm Clydach


Mae Cwm Clydach, sy'n fyr ond eto'n drawiadol yr olwg, yn torri trwy gornel gogledd ddwyreiniol bellaf maes glo De Cymru, rhwng uwchdiroedd Gogledd Gwent i'r de a Mynydd Llangadog i'r gogledd. Mae llawr y cwrn yn disgyn i lawr yn serth o 350m uwchben SO ym Mryn-mawr yn y gorllewin, i 100m uwchben SO yng Ngilwern yn y dwyrain, mewn pellter o ychydig dros 5km.Anaml y mae'r cwrn dros 0.51km o led, ac mae ei ochrau yn esgyn yn serth iawn, yn glogwynog mewn mannau, i lethrau mwy graddol ar bob ochr uwchben tua 350m uwchben SO. Mae'r Afon Clydach yn plymio ac yn rhaeadru ei ffordd drwy'r cwrn i ymuno ag Afon Wysg yng Ngilwern lle mae'r cwrn yn agor allan yn ddramatig i ddyffryn Wysg.

Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.

Wrth i'r cwrn dorri ar draws maes glo de Cymru, mae'n amlygu haenau glo, clai a charreg haearn ac yna'n torri'n ddwfn i mewn i'r Calchfaen Carbonifferaidd. Mae'r strwythur daearegol hwn, ynghyd ag adnoddau a grym Afon Clydach, wedi sicrhau bod yr ardal wedi cael ei hymelwa ers y cyfnod cynhanesyddol o leiaf fel y gwelir wrth Graig y Gaer, caer o Oes yr Haearn wedi'i lleoli ar ben dibyn naturiol yn edrych dros ochr ogleddol y cwm. Roedd presenoldeb coetir ar gyfer darparu coed a golosg i danio ffwrneisi hefyd mae'n siwr yn ffactor allweddol wrth ddenu diwydiant cynnar i'r cwm. 0 safbwynt geomorffoleg, roedd serthni'r tir yn fantais i'r diwydiannau gweithiau haearn a llosgi calch cynnar, Ile y gellid adeiladu ffwrneisi ac odynnau calch yn strategol i mewn i ochrau'r cwm,gan hwyluso gosod deunyddiau i mewn iddynt o'r pen uchaf ac yna eu tynnu allan oddi tanynt.

Ategir tirwedd a golygfeydd dramatig Cwm Clydach gan ei gysylltiadau hanesyddol ac archaeolegol amrywiol, a'r amrywiaeth o dramwyfeydd sydd wedi defnyddio llwybr cyswllt naturiol y cwm, sy'n cysylltu ucheldiroedd angrhoesawgar Morgannwg ‚ dyffryn ffrwythlon Afon Wysg. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r tramwyfeydd yn gwasanaethu'r diwydiannau a dyfodd o fewn y cwrn yn bennaf, a gyflwynwyd yn gyntaf i'r cwm, yn 61 tystiolaeth ysgrifenedig hanesyddol, yn y 17eg ganrif, ond dylid disgwyl ymelwa o'r canoloesoedd, er na chafodd ei gofnodi. Ar yr adeg hon sefydlodd teulu Hanbury o Bontypwll ffwrnais ac efail Llanelli ar Ian ogleddol yr afon. Erbyn 1684, roedd y gweithfeydd hyn yn cynhyrchu llawer o haearn a golosg, a oedd yn sicrhau datblygiad cyflym yr yrnelwa a'r aneddiad cynnar yng Nghwm Clydach. Mae Ty Clydach gerllaw a adeiladwyd ym1693 gan Francis Lewis, clerc y ffwrnais, yn arddangos ei arfbais deuluol yn ymffrostgar uwchben y brif fynedfa i'r eiddo. Mewn mannau eraill yn y cwm, ac mewn cyferbyniad cymdeithasol, mae olion gweladwy tai y cyn weithwyr, gan gynnwys terasau'r gweithwyr haearn yn Ne Clydach.

Sefydlwyd Gwaith Haearn Clydach cyn 1795 er mwyn ymelwa golosg a gyflwynwyd bryd hynny fel y tanwydd ar gyfer ffwrneisi. Mae safle'r gwaith haearn yn gorwedd ger ffordd fodern A465 (T) Blaenau'r Cymoedd, gyda'r olion sydd wedi goroesi yn cynnwys dwy ffwrnais gerrig fawr, ynghyd ‚ sylfeini eu tai bwrw, cromen ac adeiladau cysylltiedig eraill. Ceir mynediad at y safle dros bont o haearn bwrw, Smart's Bridge, a ddyddiwyd i 1824. Parhaodd cynhyrchu yn y gwaith tan tua 1860, erbyn pryd 'roedd wedi datblygu'n ganolbwynt ar gyfer gweithgaredd yn y cwm. Erbyn 1841, cyflogwyd dros 1350 o bobl, gan gynnwys 133 o blant o dan 13 oed, gyda thua dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud ag echdynnu'r mwyn haearn a'r glo angenrheidiol yn uwch i fyny'r cwm. Yn ei flynyddoedd ynnar, cysylltwyd y gwaith yn agos ‚'r teulu Frere, a enillodd fri gwahanol pan aeth Syr Bartle Frere, a aned yrn 1815 yn Nhy Clydach, yn Uwch Gomisiynydd De'r Affrig, a heb yn wybod iddo helpu i ddechrau Rhyfel y Swlw.

Prif ddiwydiant y 19eg a'r 20fed ganrifoedd yn y cwrn oedd chwarelu calchfaen a gweithgynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol ac adeiladu. Roedd y gweithfeydd calch cyntaf wedi dechrau cynhyrchu ym 1785, yn Blackrock, ond agonvyd nifer o chwareli eraill drwy gydol y ganrif nesaf. Darparoddchwarel Llanelli galchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Clydach, ac, ymhen amser, calch ar gyfer ffermio a morter adeiladu. Caeodd o'r diwedd ym 1962. Adeiladwyd Gwaith Calch Clydach sy'n goroesi heddiw ym 1877 i ddarparu calch ar gyfer adeiladu traphont y rheilffordd. Mae ei odynau mawr, gyda bw‚u sugno dwbl ar gyfer pob siafft, yn enghreifftiau arbennig o dda sydd wedi goroesi.

Mae cysylltiadau a chludiant hefyd wedi ffurfio rhan holl bwysig yn natblygiad y cwm.Yn y 1790au, er mwyn cysylltu mwyngloddiau a chwareli ‚ gweithfeydd, adeiladwyd rheilffyrdd a thramffyrdd, a dynnwyd ‚ cheffylau i ddechrau. Rhoddwyd caniat‚d seneddol ar gyfer adeiladu Camlas Brycheiniog a'r Fenni ym 1793, ynghyd ‚ chyfundrefn dramffordd gysylltiol, gyda'r lein gyntaf yn rhedeg dnvy'r cwm. Mae'r gamlas yn croesi llawr y cwrn ger Gilwern ar arglawdd enfawr o bridd 25m o uchder,gydalr afon yn rhedeg mewn twnnel wrth ei waelod. Agorodd y gamlas rhwng Gilwern ac Aberhonddu ym 1801, ond ni wnaed y cysylltiad olaf ‚ Phontymoile i'r de tan 1812.

Gosodwyd tramffyrdd ac incleinau eraill er mwyn gwasanaethu pyllau penodol yn y cwm, ac o ganlyniad mae gan yr ardal y rhwydwaith dwysaf o lwybrau tramffyrdd cynnar sydd wedi goroesi yng Nghymru.Ategwyd y rhain ym 1862, gan Reilffordd un lein Merthyr,Tredegar a'r Fenni. Cafodd hon yn ei thro ei hymgorffori yn rhan o Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin, ym 1866, ac fe'i newidiwyd yn gyfundrefn lein ddwbl un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach. Roedd y llethrau serth yn golygu y gellir gosod y lein gyda chyfres o dwnelau, toriadau a thraphontydd yn unig. Mae'r lein, sydd bellach wedi ei datgymalu a'i chodi, yn aros fel nodwedd linellol amlwg a thrawiadol y gellir ei gweld ar ochr ddeheuol y cwm. Y ffordd A465(T) Blaenau'r Cymoedd bresennol, a adeiladwyd yn y 1960au. yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o gyfundrefnau ffyrdd sydd, ers y 18fed ganrif, wedi croesi'r cwrn fel llwybrau cyswllt pwysig.

Er gwaetha'r ffaith bod yr holl echdynnu mwynau a chalchfaen wedi dod i ben bellach, gan adael ychydig iawn o gyflogaeth o fewn y cwm, mae'r hen gymunedau sefydlog yn parhau i ffynnu. Mae digonedd o olion o'r cyn-ddiwydiannau ac o'r cyfundrefnau cyswllt, fel mae tystiolaeth a'r gael hefyd o'r cyn-amgylchiadau cymdeithasol, sy'n cynnwys nid yn unig tai, ond hefyd capeli a thafarndai sydd wedi goroesi. Mae dwyster ac amrywiaeth y safleoedd diwydiannol pwysig hyn a'r cyfundrefnau cludiant dilynol yn y cwrn yn cynrychioli microcosm bychan ac integredig o orffennol diwydiannol Cymru,a oedd, yn ei dro, yn dibynnu ar ddaeareg a daearyddiaeth rhyfeddol yr t~rweddg weledol a hanesyddol ysbrydoledig hwn.