Gelli-gaer

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Gelli-gaer


Mae ardal dirwedd Tir Comin Gelli-gaer yn enghraifft sy'n mynd yn fwyfwy prin o ardal o rostir fynyddig uchel sydd wedi gorosi yn Ne-ddwyrain Cymru, ardal lle y ceir adnawdd archeolegol amrywiol tra chyfoethog. Mae'r Tir Comin a'r ardal a leolir yn union i'r de-ddwyrain tua 8 km o hyd ac 1 km o led ac mae'n ymestyn o anheddiad hynafol canolog Gelli-gaer i'r de-ddwyrain hyd at gopaon Pen Garnbugail a Mynydd Fochriw yn y gogledd-orllewin. Mae pen y gefnen y mae'r Tir Comin yn ymestyn drosti yn graddol godi o ryw 250m uwchben OD yn Gelli-gaer i dros 470m uwchben OD ar gopaon crwn Pen Garnbugail a Mynydd Fochriw. Fodd bynnag, ar y naill ochr a'r llall i'r Tir Comin, a'r tu allan i'r ardal a ddisgrifir yma, mae'r llethrau'n disgyn yn serth i Gwm Bargoed i'r gorllewin ac i Gwm Bargoed Rhymni i'r dwyrain, sef dwy isafon i brif gymoedd afon Taf ac afon Rhymni.

Mae'r ardal yn amrwyio gryn dipyn o lwyfandir rhostirol y Tir Comin i'r gogledd-orllewin, lle y ceir ffermydd unig a phorfa amgaeëdig wedi'i gwella ar ei lethrau gorllewinol a'i lethrau dwyreiniol, i dir ffermio amgaeëdig y de-ddwyrain a phentref gwledig dymunol Gelli-gaer sydd erbyn hyn gerllaw tirwedd drefol a diwydiannol yn bennaf sy'n perthyn i Gwm Rhymni. Mae'r dirwedd yn amrywio o ran ei ffurf a'i chynnwys archeolegol a hanesyddol, sy'n tystio i gyfnod di-dor o anheddu yn yr ardal hon sy'n dra nodedig.

Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.

Mae pentref Gelli-gaer yn cynnwys craidd yn dyddio o'r cyfnod cyn y Chwyldro Diwydiannol, sydd wedi'i ganoli o amgylch Eglwys gynnar Catwg Sant ac olion twmpath castell, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif yn ôl pob tebyg. Mae cyrion gogleddol Gelli-gaer yn cynnwys cloddweithiau ac olion claddedig safleoedd milwrol Rhufeinig a nodweddion cysylltiedig. Yng nghanol y cyfadail saif olion gweladwy a sylweddol caer o gerrig sy'n perthyn i ddechrau'r ail ganrif. Mae'r gaer hon, y mae ei henw Rhufeinig wedi'i golli, wedi'i lleoli ar safle uchel a strategol ar esgair lydan Cefn Gelli-gaer. Mae hefyd wedi'i lleoli o bobtu i linell y brif ffordd Rufeinig sy'n rhedeg i'r de o Aberhonddu, trwy Dir Comin Gelli-gaer i Gaerffili a Chaerdydd. Gellir olrhain darn o'r ffordd sydd mewn cyflwr da am gryn bellter ar ochr ddwyreiniol Pen Garnbugail. I'r gogledd-orllewin o'r gaer ceir cloddwaith hirsgwar mawr sy'n amgáu ardal o ryw 2.4ha, sy'n cynrychioli olion caer gynharach a mwy o faint, a adeiladwyd fel rhan o'r ymgyrchu a'r gorsafu milwrol gan y Rhufeiniaid yn ystod y ganrif gyntaf yn Ne Cymru. Ychwanegir ymhellach at y dimensiwn Rhufeinig sylweddol sydd yn yr ardal dirwedd hon gan olion o leiaf pedwar cloddwaith Rhufeinig sydd mewn cyflwr da a leolir 2 km i'r gogledd ar y Tir Comin, a oedd yn orsafoedd ymarfer milwrol bach yn ôl pob tebyg.

Mae tirwedd y Tir Comin i'r gogledd o Gelli-gaer yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o safleoedd archeolegol, sy'n tystio i gyfnod hir a di-dor o anheddu ac o weithgarwch dynol. Yn y milenia cyn y cyfnod Rhufeinig, cynrhychiolir gweithgarwch cynhanesyddol gan feddrodau a safleoedd defodol yn perthyn i'r Oes Efydd, y mae nifer sylweddol ohonynt wedi'u lleoli ar Ben Garnbugail, a chan safleoedd cytiau ac aneddiadau yn perthyn i'r Oes Haearn a'i dilynodd.

Mae Eglwys Capel Gwladys a'i chloddweithiau cysylltiedig yn tystio i'r ffaith bod pobl yn anheddu yn yr ardal dirwedd hon yn ystod y cyfnod Ôl-Rufeinig. Mae'r safle, y cyfeirir ato ym Muchedd Gwynllyw Sant sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, mewn cyd-destun sy'n awgrymu ei fod yn eithaf hynafol bryd hynny, yn cynnwys sylfeini'r eglwys hirsgwar sydd o gerrig sych, tua 6m wrth 12m, sy'n cynnwys twr gorllewinol, corff yr eglwys a'r gangell, wedi'u lleoli o fewn clostir. Darganfuwyd slab croes garw â chroes gylch wedi'i hendorri arno ar y safle ym 1906 ac yn ôl pob tebyg mae'n dyddio o'r 8fed ganrif neu'r 9fed ganrif. Fe'i cedwir ym mhorth yr eglwys blwyf ddiweddarach yn Gelli-gaer. Mae'n bosibl bod clostir allanol yn cynrychioli'r anheddiad a gysylltir â Chapel Gwladys. Ar sail archeolegol mae bron yn sicr mai traddodiad diweddarach a ddatblygodd yn yr ardal yw'r arfer o gysylltu Catwg Sant â Maen Catwg, sef carreg gefn-nod o'r Oes Efydd a saif heb fod ymhell i'r gogledd-ddwyrain o Gelli-gaer.

Prawf pellach o anheddu di-dor yn yr ardal hon yw'r castell o gloddweithiau, a adwaenir fel Twyn Castell, a adeiladwyd yn Gelli-gaer. Priodolir y gwaith o adeiladu'r castell bach hwn i arglwyddi Cymreig cymydau mynyddig Senghennydd. Yn ôl pob tebyg mae'r castell yn dyddio o'r 12fed ganrif yn ogystal â'r eglwys Gelli-gaer a leolir ar dir ychydig yn uwch i'r gorllewin. Mae'r castell a'r eglwys, a leolir yn agos at y ceyrydd Rhufeinig, yn cynrychioli nid yn unig craidd Rhufeinig anheddiad Gelli-gaer, ond hefyd maent yn adlewyrchiad o newid cymhleth mewn patrymau anheddu.

Cynrychiolir aneddiadau canoloesol gwledig yn yr ardal yn dda gan ddau grwp pwysig o dai llwyfan. Lleolir y naill grwp ar ochr ddwyreiniol y Tir Comin ac mae'n nodedig am mai dyma'r grwp mwyaf o'r cyfryw safleoedd yn Ne-ddwyrain Cymru, a'r llall, yn Ninas Noddfa, ar lethrau gorllewinol Pen Garnbugail. Datgelodd y gwaith cloddio a wnaed ar safle'r ail grwp gan yr Arglwyddes Aileen Fox ym 1936 fod gan y tai hirsgwar hyn waliau o gerrig a thyweirch a bod y tai wedi'u hadeiladu yn nodweddiadol ar lwyfannau a dorrwyd i mewn i'r llethr yn y naill ben a'u bod wedi'u hadeiladu i fyny uwchlaw'r llethr naturiol yn y pen arall. Darganfu gwaith cloddio a wnaed ar ôl hynny ym 1938 ar safle'r grwp cyntaf grochenwaith yn dyddio o'r 13eg ganrif neu'r 14eg ganrif, ond ni ddarganfuwyd fawr ddim arall, sy'n awgrymu bod y trigolion wedi byw bywyd syml a thlawd. Roedd gwaith yr Arglwyddes Fox ar y safleoedd hyn yn archeolegol bwysig am ei fod yn cydnabod y tþ llwyfan fel math nodweddiadol o safle, term sydd wedi'i ddefnyddio'n eang ers hynny, ac yn wir sy'n dal i gael ei ddefnyddio, ar gyfer strwythurau tebyg yng Nghymru. Roedd ei gwaith hefyd yn bwysig yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol am mai'r gwaith cloddio hwn oedd yr archwiliad pwysig cyntaf o anheddiad canoloesol brodorol Cymreig yn y wlad.

Erbyn heddiw, mae'n bosibl gweld bod y Tir Comin dan fygythiad ar bob ochr gan nifer o ffynonellau modern; serch hynny, mae'r crair pwysig hwn a'r dirwedd hanesyddol amrywiol at ei gilydd yn dal yn gyfan, er ei bod yn enghraifft sy'n mynd yn fwyfwy prin ar yr esgeiriau rhwng cymoedd De Cymru. Mae'r amrywiaeth eang o aneddiadau, o ran dyddiad a chymeriad, sy'n cynrychioli themâu milwrol, sifil a chrefyddol, yn adnawdd archeolegol a hanesyddol o gryn bwysigrwydd a photensial.