The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

050 Traeth Bae Port Eynon

Ffoto o Draeth Bae Port Eynon

HLCA050 Traeth Bae Port Eynon

Tirwedd rynglanwol: traeth a graean bras; twyni tywod; mannau darganfod cynhanesyddol a Rhufeinig; ymwela ar y mr; masnach a thrafnidiaeth; a llongddrylliadau. Nôl i'r map

Cefndir Hanesyddol

Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Traeth Bae Port Eynon ceir terfynau tir amgaedig ac ymyl clogwyn ac fe'i lleolir rhwng y marc penllanw cymedrig a'r marc distyll cymedrig a ddangosir ar fap 1:10000 yr AO.

Mae'r dystiolaeth gynharaf ar gyfer yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol ar ffurf tyllwr carreg (00188w) a bwyell efydd socedog fechan (02620w). Mae'n debyg i'r bae gael ei ecsbloetio ar gyfer ffynonellau bwyd dros lawer o gyfnodau. Darganfuwyd darn arian Rhufeinig hefyd sy'n portreadu Tacitus.

Bu Port Eynon yn lleoliad pysgota poblogaidd ers cannoedd o flynyddoedd ac roedd yn enwog am ei dalfeydd o ddraenogiaid, mecryll ac wystrys yn arbennig. Roedd treillio am wystrys yn ddiwydiant pwysig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg; byddai llawer o sgiffiau wystrys yn llenwi'r bae bryd hynny, ac roedd yn ei anterth rhwng y 1830au a'r 50au (Edmunds 1979). Ymddangosodd nifer o 'borthladdoedd', a gynhwysai fel arfer lanfa unigol, yn ystod y cyfnod canoloesol ar hyd arfordir Bro Gwyr ac yn yr un modd ar hyd arfordir Swydd Ddyfnaint, a roddai fwy o fynediad ar gyfer masnachu mewn da byw, cynnyrch llaeth, yd a chalchfaen. Roedd y bae yn arbennig o gyfleus am fod y clogwyni calchfaen serth yn agos at y lan.

Ceir llawer o longddrylliadau yn y dyfroedd oddi amgylch, mae traeth Helwick yn fan arbennig o beryglus i longau. Collodd holl aelodau criwiau'r Brechin Castle (1847) a Glanrhyd (1938), eu bywydau pan drawsant yn erbyn y gefnen. Dywedir i lawer o gyrff gael eu golchi ar y traeth a dywedir i chwilotwyr glan mr chwilio cyrff y meirw am eitemau personol (Edmunds 1979).

Heddiw mae parciau carafannau a gwersylla gerllaw yn Horton a Port Eynon yn golygu bod yr ardal yn chwarae rl gynyddol ym maes twristiaeth.