The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

045 Horton


Ffoto o Horton

HLCA045 Horton

Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chanolfan is-faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol; pentrefan wedi'i glystyru'n organig; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; diwydiant gwledig - echdynnu prosesu echdynnu a chrefftau gwledig; ac archeoleg gladdedig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Horton yn cynrychioli fwy neu lai gyn-is-faenor Horton sy'n cynnwys y prif anheddiad, a leolir ychydig i'r gogledd o'r bae, ynghyd â'r system gaeau gysylltiedig. Mae'r ardal yn ffinio â maenor Port Eynon i'r gorllewin, Oxwich i'r dwyrain a Scurlage i'r gogledd, a Phen-rhys i'r Gogledd-orllewin. Mae'r rhan fwyaf o Horton wedi'i dynodi fel ardal gadwraeth (EV 9) yng Nghynllun Datblygu Unedol Abertawe, a cheir darn hirgul o dir comin yn ymestyn i'r gorllewin ac i'r de-ddwyrain o'r anheddiad. I'r de mae'r ardal yn cynnwys darn o dir comin arfordirol, gan gynnwys estyniad dwyreiniol o system twyni tywod sy'n wynebu Port Eynon.

Ni chofnodwyd fawr ddim tystiolaeth archeolegol ar gyfer yr ardal sy'n gynharach na'r cyfnod canoloesol ac eithrio dau dyllwr fflint, y dyddiwyd un ohonynt yn betrus i'r cyfnod Paleolithig. Gall cae ôl cnwd diddyddiad (309485) a nodir ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr i'r dwyrain o Fferm Moorcorner ymwneud â gweithgarwch anheddu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, ond mae angen cadarnhau hynny ymhellach. Mae darganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol o'r ardal gyffredinol yn digwydd yn fwyfwy aml ac maent yn nodi hanes hir o ddefnyddio'r dirwedd.

Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd anheddiad Horton yn rhan o ffiff Mounty Borough (ffiffiau Pen-rhys a Horton yn ddiweddarach) a ddelid gan y teulu de Penres (Draisey 2002, 19; Nicholl 1936,168-169). Mae nifer fawr o roddion tir sydd wedi goroesi o'r cyfnod 1290-1320 y delir y mwyafrif ohonynt yn llawysgrifau Pen-rhys ac Abaty Margam. Ymddengys i Syr Robert de Penres, a fu'n gomisiynydd rheng nifer o weithiau ar ran Edward II ac yn arglwydd Pen-rhys, is-enffeodu ffiff Horton i William o Lanismael cyn 1300 (Draisey 2002, 69).

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol parhaodd ystâd Pen-rhys yn brif berchennog tir yr ardal, erbyn y ddeunawfed ganrif roedd ym meddiant y teulu Mansel-Talbot. Mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu bod prif fferm ôl-ganoloesol yr anheddiad, sef Great House, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf, ac mae'n bosibl iddi gael ei sefydlu ar fferm ganoloesol gynharach. Roedd Great House yn gysylltiedig â'r teulu Lucas yn ystod y cyfnod hwn, ac ymddengys iddo gael ei ddefnyddio yn aml fel 'ty agweddi' nes iddo ddod yn brif annedd i'r teulu Lucas o Horton a Port Eynon tua 1703, ar ôl iddynt adael Salt House yn Port Eynon (02189w). Ymddengys fod yr adeiladau yn Great House yn perthyn i'r ddeunawfed ganrif o ran eu harddull; byddai hynny yn cyd-fynd â phenderfyniad i ailadeiladu'r fferm, a wnaed unwaith y daeth y safle yn brif annedd i'r teulu (RCAHMW 1988, 415).

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, 1879, aneddiadau mewn clwstwr clòs o amgylch cyffordd dwy ffordd yn rhedeg o'r gogledd i'r de, ni chofnodir fawr ddim datblygiadau ar 2il argraffiad map yr AO, 1898, nac ar y 3ydd argraffiad ym 1915, mae'r rhan fwyaf yn digwydd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif ar ffurf gwaith mewnlenwi a wnaed i'r gogledd ac i'r de o'r ardal a gwaith i adnewyddu rhai bythynnodd a fodolai eisoes yng nghraidd yr ardal. Mae ychwanegiadau mwy diweddar eraill at yr ardal yn cynnwys y gwahanol wersylloedd gwyliau, a safle carafannau i'r gogledd o'r anheddiad. Mae bythynnod a ffermydd craidd yr anheddiad at ei gilydd yn wynebu'r ffyrdd neu'r lonydd eilradd, er bod y patrwm a grëir at ei gilydd yn ddamweiniol. Dengys cynllun ystâd 1785 ac argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO anheddau'r pentref wedi'u lleoli o fewn matrics o gaeau datblygedig afreolaidd eu siâp, sy'n ffinio ag ochr ogleddol y tir comin llinellol sy'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin. Ar wahân i fferm Great House ymddengys mai Westernside, y Grange, a Fferm Bank (a symudwyd bellach), yw'r prif ffermydd adeg arolwg argraffiad cyntaf map yr AO ac ymddengys eu bod i gyd ar yr un ffurf ag a ddangosir ar gynllun ystâd 1785. Ar ben hynny dangosir y ddwy res o adeiladau fferm yn Fferm Beeches, a dwy annedd i'r gorllewin, y gelwir yr agosaf ohonynt yn Fwthyn Poplar bellach. Ymddengys fod y teulu Tucker, a oedd enwog am eu cefnogaeth weithredol i Fethodistiaeth Wesleaidd ers 1769, yn gysylltiedig â'r daliad o tua 1741 ac mae tystiolaeth ddogfennol yn dyddio o ganol y 1790au yn nodi mai 'bwthyn newydd ei godi', adeilad to gwellt deulawr hir oedd preswylfa'r teulu Beeches bryd hynny. Yn ddiweddarach tua 1870, adeiladwyd ffermdy presennol Beeches (a ddangosir ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO) i'r gogledd-ddwyrain (Nielson 1991).

Byddai cymharu'r cynllun ystâd yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, argraffiad 1af map yr AO a mapiau cyfredol yn dangos bod y mwyafrif o'r ffermydd hyn wedi goroesi o leiaf o ran eu cynllun. Ni ellir diystyru'r posibilrwydd bod nodweddion pensaernïol diddorol wedi goroesi. Mae cyfran o'r anheddau llai o faint yn yr ardal a ddangosir ar y map yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif hefyd yn ymddangos ar argraffiad 1af map yr AO hefyd ac ymddengys eu bod wedi goroesi hyd heddiw ar ryw ffurf neu'i gilydd, gan gynnwys Bwthyn Ashtree, ac efallai'r bythynnod a adwaenir fel Bwthyn Rock, Bwthyn Myrtle, Bwthyn Skysea, Bwthyn Briars a Hillcrest hefyd, er mai dim ond trwy wneud rhagor o archwiliadau maes y gellir cadarnhau hynny. Dengys y map degwm dyddiedig tua 1840 ac argraffiad cyntaf map yr AO rai ychwanegiadau yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg megis Bwthyn Longcroft, Bwthyn Castle Hill, y Knoll, a Chapel y Methodistiaid Wesleaidd, a nodwyd gan Samuel Lewis yn ei Eiriadur Topograffig dyddiedig 1833, a hefyd y Mans a oedd yn gysylltiedig ag ef.

Mae dwy lôn arall yn ymestyn i'r de trwy'r pentref, sy'n cydgyfarfod ac yn ymwahanu wedyn i ganiatáu mynediad i'r tir comin ar hyd ymyl orllewinol yr esgair, i'r Tir Comin arfordirol, a'r môr. Mae'r anheddiad isaf a leolir tuag at y môr yn estyniad o'r anheddiad cynharach ymhellach i fyny'r llethr ac mae'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dechreuodd anheddiad ddatblygu yma pan sefydlwyd daliadau o ddechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys Bwthyn Swn-y-môr, y Gables, Bwthyn Shore, Robin's Rest, a Sunnybank (y dangosir pob un ohonynt ar y map degwm dyddiedig tua 1840 ac argraffiad 1af map 25 modfedd yr AO), bythynnod fel arfer a leolir o fewn un neu ddau gae neu'n agos atynt. Mae estyniad ychwanegol i'r dwyrain o Sunnybank yn ei le erbyn ail argraffiad map yr AO, a nodir gan Seabeach, Seabank, Sea Lodge a'r Dingle (18559). Mae'r Hollies a Brig-y-don (Talbot Lodge yn ddiweddarach) hefyd yn dyddio o'r cyfnod hwn.

Ni fu fawr ddim newid yn y caelun cysylltiedig o ran ei batrwm ers argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, ac yn wir y cynllun ystâd dyddiedig 1785, ar wahân i rywfaint o waith a wnaed i gyfuno caeau. Mae olion y cyn-gae agored canoloesol sy'n gysylltiedig ag anheddiad Horton i'w gweld o hyd yn y dirwedd fodern, fel llain-gaeau hirgul ffosiledig, y ceir mynediad iddynt o'r llwybrau sy'n arwain i'r gogledd o'r anheddiad.

Darparai'r diwydiant cloddio calchfaen a'i gludo ar longau, ynghyd â masnach pysgota'r glannau ac amaethyddiaeth, a diwydiannau crefft/cartref gwledig eraill, gyflogaeth ar gyfer trigolion Horton a'r ardaloedd o'i amgylch. Roedd o leiaf ddwy odyn galch yn ardal y tir comin hirgul, gan gynnwys y safle a elwir yn Kiln Bank (02465w), ychydig i'r de o ganol y pentref, yr ymddengys ei fod wedi'i ddinistrio bellach. Mae gan yr odyn galch i'r gorllewin chwarel gysylltiedig y nodir ei bod yn hen ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO; am eu bod yn agos at yr arfordir, gallai'r nodweddion hyn fod yn gysylltiedig â'r fasnach arfordirol mewn calchfaen, yn ogystal â gwelliannau amaethyddol i'r tir oddi amgylch. Daeth y fasnach mewn calchfaen a gloddiwyd o Fro Gwyr i ben erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, am fod gwrteithiau masgynyrchedig eraill ar gael ac oherwydd effeithiau'r rheilffordd ar longau arfordirol. Erbyn cyhoeddi ail argraffiad map yr AO, dim ond safle clawdd yr odyn nas defnyddid a ddangosir gyda'i chwarel gerllaw.