The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

048 Oxwich


Ffoto o Oxwich

HLCA048 Oxwich

Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chyn-ganolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: patrwm anheddu amrywiol (aneddiadau canoloesol sydd bellach yn llai o faint); adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; caelun amrywiol; ffiniau brodorol; strwythurau amddiffynnol amlgyfnod creiriol; ymyl clogwyn heb ei wella; coetir; a diwydiant gwledig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Oxwich yn cynrychioli fwy neu lai gyn-ffiff Marchog Oxwich ac eithrio'r morfa arfordirol a'r twyni tywod i'r gogledd-orllewin. Mae'r ardal yn cynnwys aneddiadau Oxwich, ac Oxwich Green, ynghyd â systemau caeau cysylltiedig, a ffermydd anghysbell. Ceir ardal fechan o goetir hynafol lled-naturiol a leolir ar y llethr sy'n wynebu'r gogledd-ddwyrain rhwng Norton a Chastell Oxwich. Ar wahân i'r ardaloedd arfordirol a choetirol i'r de ac i'r gogledd-ddwyrain, mae'r ardal yn ffinio â Phen-rhys i'r gogledd a Horton i'r gorllewin. Mae aneddiadau Oxwich ac Oxwich Green ill dau wedi'u dynodi fel ardaloedd cadwraeth (EV 9) yng Nghynllun Datblygu Unedol Abertawe.

Gwyddom fod nifer fawr o ogofâu ar hyd yr ymylon arfordirol, y darren galchfaen yng Nghlogwyni Slade ac Oxwich Point, gan gynnwys ogofâu Thornbush, Ramson's Hole ac Oxwich Point; ni ddarparodd yr un ohonynt unrhyw dystiolaeth eto o weithgarwch anheddu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Ni chofnodwyd fawr ddim tystiolaeth archeolegol ar gyfer yr ardal sy'n gynharach na'r cyfnod canoloesol ar wahân i gaer bentir a elwir yn Gastell Maiden Castle (00297w; 301333) a all fod yn gysylltiedig â gweithgarwch anheddu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol neu ar ddechrau'r cyfnodau canoloesol, ond mae angen cadarnhau hynny ymhellach. Mae'r safle, yr ystyrir ei fod yn un domestig, yn cynnwys ffos gylchog hirgron tua 5m o led, ac mae'n amgáu ardal ag arwynebedd o 0.2 ha ar dir sy'n graddol godi tua'r De-orllewin ac sy'n disgyn yn fwy serth ar ochrau eraill. Cafwyd nifer o ddarganfyddiadau damweiniol yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol hefyd.

Yn ystod y cyfnod canoloesol ffurfiai anheddiad Oxwich graidd ffiff Oxwich a ddelid ar y cyd â Port Eynon gan y teulu Delamare yng Ngwyr Is Coed (Nicholl 1936, 169). Mae siarter ddyddiedig tua 1230 yn cadarnhau rhodd o 10 erw o dir yn ffiff Oxwich gan Robert Delamare i Farchogion Sant Ioan, sy'n cyfeirio yn ôl pob tebyg at rodd wreiddiol yn dyddio o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Mae'n bosibl bod yr amddiffynfa gylch yn Norton (00166w; 93092; SAM GM157), ger Oxwich yn rhan o ddaliadau'r teulu Delamare; yn anffodus ychydig a wyddom am hanes safle Norton, amddiffynfa gylch rannol a chanddi lwyfan ty mewnol. Ystyrir bod Oxwich yn un o ddeuddeg o 'hen ffioedd marchog' a ddelid trwy wasanaeth milwrol cyn 1135, a restrir mewn siarter ddyddiedig 1306. Yn ystod hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg trosglwyddwyd Oxwich a Port Eynon i'r teulu Penres ym Mhen-rhys ac yn yr un modd ar ddiwedd y 14eg ganrif/dechrau'r 15eg ganrif fe'u trosglwyddwyd i'r teulu Mansel, ynghyd â Phen-rhys, ac erbyn y ddeunawfed ganrif i'r teulu Mansel Talbot. (RCAHMW 1991, 28-30, 120-121; Nicholl 1936,168-169; Draisey 2002, 14, 59, 69 ac 81).

Mae'n debyg i eglwys Illtud Sant (00299w; 303016; LB 11536 II*) oherwydd ei mynwent led-grwn a'r ffaith iddi gael ei chysegru cyn y Goresgyniad Normanaidd, gael ei sefydlu ar ddechrau'r cyfnod canoloesol. Mae ei lleoliad arfordirol i ffwrdd o unrhyw gnewyllyn anheddiad yn awgrymu efallai iddi ddechrau fel cell fynachaidd ar ddechrau'r cyfnod canoloesol. Ystyrir bod corff a changell y strwythur presennol sy'n cynnwys bwa Normanaidd yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif er bod maint bach y gangell, sy'n anarferol, yn codi'r posibilrwydd bod strwythur cynharach wedi'i ymgorffori. Mae'n amlwg bod corff yr eglwys yn cynnwys dau gyfnod adeiladu ac mae newid mawr yn lled corff yr eglwys yn ei chanol, na ellir ei weld ond o'r tu allan, ac mae waliau rhan ddwyreiniol corff yr eglwys yn llawer mwy trwchus na'r rhan orllewinol. Efallai i gorff yr eglwys gael ei ymestyn i'r gorllewin pan ychwanegwyd y twr, yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg efallai. Mae'r adeilad yn cynnwys cofebau diddorol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg gan gynnwys bedd a osodwyd yn y gangell, aelod o'r teulu de la Mare neu'r teulu Penrice efallai. Adferwyd yr eglwys i gryn raddau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Newman 1995, 481; Orrin 1979, 53-56).

Mae'n bosibl bod Castell Oxwich (00187w; 19994; SAM GM043; LB 11530 I) yn dal i gynnwys rhannau o strwythur canoloesol cynharach, a ymgorfforwyd yn y rhes ogledd-ddwyreiniol ddiweddarach, ac mae olion twr a leolir 150m i'r gogledd-ddwyrain (SAM GM472) hefyd yn awgrymu iddo gael ei sefydlu yn gynnar. Mae'r prif olion at ei gilydd yn dyddio o'r cyfnod Tuduraidd, ac ystyrir eu bod yn perthyn i dy Rhyfeddol Elisabethaidd o bwys cenedlaethol. Bu'r castell ym meddiant y teulu de la Mere tan y drydedd ganrif ar ddeg. Daeth i feddiant y teulu Penrice ac ar ôl hynny cyn 1459 i'r teulu Mansel a'i hailadeiladodd. Disgrifiwyd y teulu Mansel fel pobl a oedd yn perthyn i 'powerful gentry class whose lifestyle resembled that of past feudal magnates'.

Disgrifiwyd y castell gan Merrick ym 1578 fel 'lately re-edified or repaired by Sr. Ed: Mansell, kt.' ac mae'r un ysgrifennwr yn enwi Syr Rice Mansel fel adeiladwr y rhan gynharaf. Dehonglodd y Comisiwn Brenhinol hyn i olygu i'r rhes dde-ddwyreiniol gael ei hadeiladu gan Syr Rice Mansel yn y 1520au neu'r 1530au, ac i'r rhes ogledd-ddwyreiniol (sy'n cynnwys neuadd fawr a galeri hir, ynghyd â thwr i'r dwyrain) gael ei hychwanegu gan ei fab Syr Edward Mansel yn y 1560au neu'r 1570au. Fodd bynnag heriwyd y dehongliad hwn, ar sail tystiolaeth strwythurol. Rhoddodd y teulu Mansel y gorau i fyw yn y castell tua 1630 a dadfeiliodd y rhes ogledd-ddwyreiniol a'r twr i'r dwyrain wedyn. Parhaodd y rhes dde-ddwyreiniol i gael ei defnyddio fel ffermdy. Mae tystiolaeth strwythurol hefyd yn awgrymu yr arferai'r rhes dde-ddwyreiniol fod un llawr yn uwch nag ydyw yn awr. Erbyn hyn mae'r castell yng ngofal Cadw. Mae gan y rhes dde-ddwyreiniol do a gosodwyd grisiau modern a swyddfa ceidwad ynddi. Mae'r rhannau eraill yn adfeilion a atgyfnerthwyd (Davies 1997, 55-56; Newman 1995, 481-3; RCAHMW 1981, 63-76; Williams 1998).

Yn Oxwich Green, roedd Ffermdy Oxwich Green (00284w) yn dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, a ddinistriwyd erbyn hyn yn anffodus, yn dra phwysig. Cynhwysai'r ty mynediad uniongyrchol dwy uned hwn a chanddo simnai ochrol i'r neuadd ac i'r parlwr, neuadd agored yn wreiddiol â pharlwr lloriog ac o ran ei gynllun roedd yn debycach i dai a geid yn Sir Benfro neu Ogledd Dyfnaint (RCAHMW 1988, 731). Mae'n debyg bod llawer o'r ffermydd hyn o amgylch Oxwich Green megis fferm Western Slade (02182w), y cyfeirir ati yn yr arolwg Cromwellaidd o Fro Gwyr yn yr ail ganrif ar bymthag, yn dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol.

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, 1879, brif anheddiad Oxwich fel strimyn gwasgaredig o lai na hanner dwsin o fythynnod, yn ymestyn i'r gogledd-orllewin o'r rheithordy a bys hirgul o dir wrth waelod Coedwig Oxwich, sy'n cynnwys yr Eglwys, tua'r Capel Methodistaidd Cyntefig a'r tu hwnt iddo, a fferm Norton a safle'r amddiffynfa gylch yn edrych dros yr ardal. Yn eu hanfod mae'r caelun a'r anheddiad yn union yr un fath â'r hyn a ddangosir ar y map ystâd yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ar wahân i rywfaint o waith a wnaed i gyfuno rhai caeau llai o faint. Ymddengys yr anheddiad yn Oxwich Green i'r gorllewin fel prif anheddiad amaethyddol yr ardal, sy'n cynnwys clwstwr o ffermydd o amgylch lawnt bentref a lonydd sy'n rhoi mynediad i'r tir ffermio oddi amgylch, fel y'i dangosir ar y cyfan ar y cynllun ystâd o'r ardal sy'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif, gydag ychwanegiadau ar ffurf bythynnod a Chapel Methodistaidd Wesleaidd a adeiladwyd ym 1871, a chwadrangl o adeiladau fferm yn union i'r gogledd o fferm sylweddol Oxwich Green, yr adeiladwyd pob un ohonynt ar ymyl y ffordd neu o fewn ymylon y Lawnt. Mae ychwanegiadau eraill yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys gefail yng nghwr gogledd-ddwyreiniol yr anheddiad. Lleolir pob un o ffermydd yr ardal, a oedd yn ddatblygedig iawn erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, gerllaw'r llwybrau a sefydlwyd yn ôl pob tebyg erbyn y cyfnod canoloesol. Mae'r cynllun ystâd dyddiedig 1783 yn awgrymu ei bod yn ddigon posibl i ffermydd anghysbell Ganderstreet, Herronstreet, Eastern Slade, a Sladecross o bosibl, ddatblygu o aneddiadau neu bentrefannau amaethyddol canoloesol bach, ac i rai anheddau llai pwysig ddiflannu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gael eu disodli gan resi amaethyddol a adeiladwyd i'r pwrpas. Ymddengys mai'r fferm a'r adeiladau yn Norton a ddangosir ar argraffiad 1af map 25 modfedd yr AO yw'r rhai a ddangosir ar y cynllun ystâd dyddiedig 1783; erys y posibilrwydd y gallai llawer o'r adeiladau hyn fod wedi goroesi hyd heddiw ar ryw ffurf neu'i gilydd.

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae rhes linellol o adeiladau fferm wedi'i hychwanegu at anheddiad Oxwich Castle i'r de, a ffordd newydd yn arwain o orsaf gwylwyr y glannau yn Oxwich, heibio i Gastell Oxwich, i ymuno, ychydig i'r dwyrain o Fferm Ganderstreet, â'r lôn suddedig hynafol rhwng Oxwich ac Oxwich Green. Byddai cymharu'r cynllun ystâd yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, argraffiad 1af map yr AO a mapiau cyfredol yn dangos bod y mwyafrif llethol o ffermydd a bythynnod yr ardal wedi goroesi, ac ni fu fawr ddim newid yn y cynllun ers y ddeunawfed ganrif. Ni ellir diystyru'r posibilrwydd bod nodweddion pensaernïol diddorol wedi goroesi.

Disgrifiwyd datblygiad anheddiad llinellol Oxwich eisoes (Nuttgens 1979, 5-16). Nodweddir yr anheddiad yn bennaf gan fythynnod 'di-dir' bach yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, ac mae'n debyg ei fod yn ddatblygiad cymharol ddiweddar yn yr ardal; fe'i lleolir ar dir ymylol gerllaw'r twyni tywod a'r morfa, islaw'r tir gorau, bryd hynny, a lleoliad cyn-gaeau agored yr ardal ac i ffwrdd ohonynt. Mae gwell ymgeisydd ar gyfer canolbwynt yr anheddiad cynharach i'w weld yn Oxwich Green, gyda'i gnewyllyn o ffermydd ôl-ganoloesol trawiadol a mynediad haws, a leolir yn ganolog ar dir uwch wrth graidd y gyn-ardal o gaeau agored, ac sy'n cynnwys daliadau ôl-ganoloesol dibynnol yn ymestyn allan mewn ffordd nodweddiadol.

Yn y bôn mae patrwm y caelun cysylltiedig yn union yr un fath â'r un a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO, a'r cynllun ystâd dyddiedig 1785, er i gryn dipyn o waith gael ei wneud yn ystod yr ugeinfed ganrif i gyfuno caeau i ddarparu ar gyfer datblygiadau mewn arfer ffermio, a arweiniodd at golli gwrychoedd. Mae olion y cyn-gae agored canoloesol sy'n gysylltiedig ag anheddiad Oxwich i'w gweld o hyd yn y dirwedd fodern, fel olion ffosiledig llain-gaeau hirgul, y ceir mynediad iddynt o'r rhwydwaith o lonydd sy'n arwain o'r aneddiadau. Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO nifer fawr o odynau calch hefyd, y lleolir y mwyafrif ohonynt ar y llethrau arfordirol i'r de o Easternslade ac Oxwich Green. Mae'r darren galchfaen hon yn cynnwys nifer o ogofâu, er yr ymddengys na ddarganfuwyd unrhyw olion cynhanesyddol sy'n gysylltiedig â'r ogofâu hyn hyd yn hyn.