The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

047 Parc Pen-rhys


Ffoto o Barc Pen-rhys

HLCA047 Parc Pen-rhys

Canolfan faenoraidd ganoloesol, tirwedd weinyddol ac amddiffynnol ac ystâd fonedd ôl-ganoloesol: castell canoloesol; ty bonedd ôl-ganoloesol o fewn lleoliad parcdir cyfoes; ffermydd ac adeiladau amaethyddol ôl-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Parc Pen-rhys yn cynrychioli craidd ystâd Pen-rhys, canolbwynt canoloesol ac ôl-ganoloesol diweddarach cyn-faenor neu Arglwyddiaeth Pen-rhys sy'n cynnwys castell cerrig a thy bonedd yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol.

Ni chofnodwyd fawr ddim tystiolaeth archeolegol ar gyfer yr ardal sy'n gynharach na'r cyfnod canoloesol ar wahân i ysgrafell yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol a ddarganfuwyd drwy ddamwain (00162w). I ddechrau lleolid canolfan weinyddol maenor/arglwyddiaeth Pen-rhys i'r de yn yr amddiffynfa gylch o fewn anheddiad Pen-rhys, a elwid yn Mounty Borough, y credir iddi gael ei sefydlu ym 1099 gan Henry de Beaumont. Roedd Pen-rhys yn un o ddeuddeg o 'hen ffioedd marchog' a ddelid trwy wasanaeth milwrol cyn 1135, a restrir mewn siarter ddyddiedig 1306 (RCAHMW 1991, 29-30, 113-115; Draisey 2002, 19; Nicholl 1936,168-169). Ymddengys i'r ganolfan weinyddol gael ei symud yn ystod y ddeuddegfed ganrif i safle'r castell cerrig o fewn yr ardal. Arhosodd y teulu de Penres ym Mhen-rhys tan ddechrau'r 15fed ganrif, pan drosglwyddwyd yr arglwyddiaeth i'r teulu Mansel trwy briodas. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol parhaodd ystâd Pen-rhys yn brif berchennog tir yr ardal; erbyn y ddeunawfed ganrif roedd yr ystâd ym meddiant y teulu Mansel Talbot.

Credir i'r castell cerrig ym Mhen-rhys (00170w; 11543) gael ei sefydlu gan y Normaniaid, ond nid oes yno odid ddim manylion y gellir eu dyddio. Ymddengys fod llawer o'r gwaith maen yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, gan gynnwys ffenestr â seddau yn y porthdy gogledd-orllewinol sy'n edrych dros y ward. Gadawyd y castell o blaid Castell Oxwich ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dadfeiliodd. Difrodwyd y safle gan Cromwell yn yr ail ganrif ar bymtheg. Pan gafodd ei ysgythru gan Buck tua.1735 roedd gan y llenfur a oedd wedi goroesi greneliadau o hyd. Mae'n debyg i'r adfeilion gael eu lleihau i greu effaith bictiwrésg ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, unwaith yr oedd y plasty gerllaw wedi'i adeiladu.

Adeiladwyd canolbwynt y parc, sef Plasty Castell Pen-rhys (01502w; 19670; LB 11531 I), ym 1773-7 ar gyfer Thomas Mansell Talbot, yn unol â chynllun Anthony Keck, pensaer, o King's Stanley, Swydd Gaerloyw. Mae cofnodion yn cyfeirio at gerrig Caerfaddon a cherrig 'brought from the quarries at Margam'. William Gubbings a fu'n gyfrifol am y gwaith maen a Thomas Keyte am y gwaith plastro. Gosodwyd dwy fantell simnai a gafaelwyd gan Talbot tra oedd yn teithio yn yr Eidal yn y ty ym 1780. Mae'r fantell simnai yn y Parlwr wedi'i llofnodi 'Cesere Aguatti Romano', gwnaed y fantell simnai yn yr Ystafell Giniawa gan Carlo Albacini, ac mae'n cynnwys garlantau o efydd lliw aur gan Louis Valadier. Mae cynllun y ty yn seiliedig ar goridor asgwrn cefn, y gellir ei weld ar lefel yr islawr ac ar y lloriau uchaf, ond nid ar y llawr gwaelod lle mai echel y fynedfa, ynghyd â chyntedd a pharlwr, yw'r prif nodweddion. Nid yw'r grisiau yr un mor amlwg. Mae cynllun y plasty yn debyg i gynllun y ty mwy uchelgeisiol a adeiladwyd ar gyfer John Symmons ym Mharc Slebets, Sir Benfro, y priodolir ei gynllun i Keck hefyd. Ymestynnwyd y ty gryn dipyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond dymchwelwyd yr estyniadau rhwng 1967-8 (Newman 1995, 508-9; RCAHMW 1981, 293-303).

Yn ei hanfod mae patrwm parcdir cysylltiedig a chaelun amgylchynol tir craidd yr ystâd yn union yr un fath â'r hyn a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO, a'r cynllun ystâd dyddiedig 1785, ni fu fawr ddim newid yn y caeau drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Ceir coetir hynafol o hyd yn yr ardal i'r de, sef rhan ogleddol Coedwig Mill.