The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

049 Pen Clogwyn Bae Oxwich


Ffoto o Ben Clogwyn Bae Oxwich

HLCA049 Pen Clogwyn Bae Oxwich

Ymyl pen clogwyn coediog: coetir hynafol; nodweddion amddiffynnol domestig cynhanesyddol; a gweithgarwch amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Pen Clogwyn Coediog Bae Oxwich gan y llain o goetir hynafol sy'n ymestyn ar hyd ymyl clogwyn ym Mae Oxwich.

Lleolir y coetir ar ymyl clogwyn serth sy'n wynebu'r gogledd-ddwyrain ac sy'n edrych allan dros fae Oxwich islaw llwyfandiroedd cymharol wastad Oxwich. Mae'r ardal hon wedi goroesi fel un o'r ychydig leiniau o goetir hynafol sydd ar ôl mewn lleoliad ar ben clogwyn.

Mae olion caer bentir Castell Maiden ar gyrion yr ardal ychydig uwchlaw Oxwich Point wedi goroesi'n rhannol; ni wyddom beth oedd union faint y gaer oherwydd yr holl lystyfiant sy'n ei gorchuddio. Yn ddiau mae'n lleoliad amddiffynnol ac mae'n awgrymu efallai fod yr ardal yn llai coediog gerllaw'r gaer yn ystod yr Oes Haearn. Ni chofnodwyd fawr ddim nodweddion eraill yn yr ardal ar wahân i'r rhai sy'n ymwneud â gweithgarwch cloddio a chynhyrchu calch yn y cyfnod ôl-ganoloesol, yn debyg i ardaloedd coediog eraill ym Mro Gwyr, mae'n debyg bod y cyfryw weithgareddau yn gyffredin yn ystod y cyfnod canoloesol er na cheir unrhyw dystiolaeth uniongyrchol yn yr ardal gymeriad hon. Nodir chwareli ar hyd ymyl y clogwyn ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO. Gall gweithfeydd tebyg ddyddio o'r cyfnod canoloesol a gall cerrig o'r clogwyni hyn fod wedi cyfrannu ar adeiladu'r eglwys gerllaw, y gwyddom iddi gael ei hadeiladu o galchfaen lleol. Lleolir odyn galch (04786w, LB 22546 II) sy'n dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng ngogledd yr ardal; roedd yr odyn galch hon a gofnodwyd gan Toft (1988b) yn segur erbyn canol yr ugeinfed ganrif.