The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

043 Pen-y-fai a Monksland


Ffoto o Ben-y-fai a Monksland

HLCA043 Pen-y-fai a Monksland

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf a chyn-dir maenor fynachaidd: caeau amrywiol; anheddiad canoloesol a chaelun cysylltiedig; cysylltiadau eglwysig a nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen-y-fai a Monksland yn diffinio ffiniau Maenorau Sistersaidd canoloesol 'Pamlond' (Pen-y-fai), a Monksland, sy'n cynnwys caeau o dir wedi'i wella sydd at ei gilydd yn fwy o faint na'r rhai a nodir yn yr ardaloedd oddi amgylch.

Prin yw'r dystiolaeth archeolegol o'r ardal; mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol fel y tystia darganfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod hwnnw, gan gynnwys ysgrafell a naddion fflint (00801w, 00802w, 00886w, 00889w), fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw wybodaeth arall sy'n dyddio o'r cyfnod cyn y cyfnod canoloesol.

Perthynai maenor fynachaidd 'Pamlond' y ceir sôn amdani yn gyntaf yn nhrethiad y Pab Nicholas IV ym 1291 (00900w) i Abaty Castell-nedd a chynhwysai un gweddgyfair o dir âr a dwy felin. Nodir ei bod wedi'i lleoli o fewn ffioedd Cnoyl (Llan-y-tair-Mair) a Cistremons. Goroesodd y daliad mynachaidd hwn tan adeg Diddymu'r Mynachlogydd, pan y'i cofnodir fel 'Pamlond' a oedd yn werth 15s yn y Valor. Nid oes gennym fawr ddim gwybodaeth bellach ar hyn o bryd am y faenor fynachaidd. Ar ôl Diddymu'r Mynachlogydd trosglwyddwyd y tir ei hun i'r goron a rywbryd ar ôl hynny fe'i delid gan y teulu Talbot; yn arolwg Gabriel Powell o Fro Gwyr ym 1764, roedd y tir yn eiddo i 'Y Gwir Anrh Iarll Talbot' ac roedd yn dal i gael ei alw yn Faenor Paviland, a gynhwysai chwe daliad tir a ddelid o'r Ddemên. Roedd yr ardal hon yn rhan ar wahân o blwyf Penmaen. Mae olion llain-gaeau canoloesol yn arwydd o ffermio yn ystod y cyfnod hwn ac mae'n bosibl i adeiladau'r faenor wreiddiol barhau i gael eu defnyddio am gryn dipyn o amser.

Ar hyn o bryd lleolir ffermdy yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg (01636w) ar safle'r gyn-faenor; nid yw'r un adeilad mynachaidd wedi goroesi er y gall pedwar cae bach a ddiffinnir gan gloddiau i'r dwyrain ac i'r gogledd-ddwyrain o'r ty ddyddio o'r cyfnod canoloesol. Mae'r ardal yn cynnwys fferm ôl-ganoloesol arall yn Pylewell. Ni fu fawr ddim newid yn yr ardal ers y cyfnod canoloesol ar wahân i weithgarwch cyfuno caeau. Heddiw mae'r caeau yn fwy o lawer na'r rhai a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO a chrëwyd nodweddion dwr diweddarach.