The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

044 Port Eynon


Ffoto o Port Eynon

HLCA044 Port Eynon

Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol: caelun amrywiol; anheddiad organig cnewyllol ac aneddiadau gwasgaredig; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; archeoleg gladdedig; nodweddion arfordirol ac arforol; diwydiant gwledig -echdynnu prosesau a chrefftau gwledig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Port Eynon yn cynrychioli cyn-faenor Port Eynon sy'n cwmpasu'r prif anheddiad ar ymyl y bae, a phentrefan cyfagos Overton, ynghyd â'r system gaeau gysylltiedig. Mae'r ardal yn ffinio â chyn-Faenor Pen-y-fai i'r gorllewin, Horton i'r dwyrain a Scurlage yn y gogledd. Mae rhan o Port Eynon wedi'i dynodi fel ardal gadwraeth (EV 9) yng Nghynllun Datblygu Unedol Abertawe.

Ni chofnodwyd fawr ddim tystiolaeth archeolegol ar gyfer Port Eynon sy'n gynharach na'r cyfnod canoloesol ar wahân i wasgariadau fflint yn y Bae, yng nghlogwyni Overton, ac mewn mannau eraill. Mae'r Glamorgan County History (Cyf. II) yn nodi bod y darganfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig neu'r cyfnod Neolithig fodd bynnag dim ond disgrifiad byr ohonynt a roddir yn y Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR) fel arfau cynhanesyddol, grwp o 21-30 o arfau amrywiol yr ystyrir eu bod yn rhai domestig.

Bu Port Eynon yn lleoliad pysgota poblogaidd ers cannoedd o flynyddoedd ac roedd yn enwog am ei dalfeydd o ddraenogiaid, mecryll ac wystrys yn arbennig. Ymddangosodd nifer o 'borthladdoedd', a gynhwysai fel arfer lanfa unigol, yn ystod y cyfnod canoloesol ar hyd arfordir Bro Gwyr ac yn yr un modd ar hyd arfordir Swydd Ddyfnaint, a roddai fwy o fynediad ar gyfer masnachu mewn da byw, cynnyrch llaeth, yd a chalchfaen. Roedd y bae yn arbennig o gyfleus oherwydd agosrwydd y clogwyni calchfaen serth at y lan a'r galw am galchfaen, ac roedd yn hawdd cyrraedd tir ffermio cyfagos ar hyd y system ffyrdd sefydledig. Mae ysguboriau ôl-ganoloesol gerllaw yn Fferm Moorcorner (02675w) a Fferm Newhouse (02676w) a ddefnyddid i storio yd wedi goroesi'n gyfan.

Yn ystod y cyfnod canoloesol cofnodir i Syr Edward Mansel adeiladu porthladd fodd bynnag mae'n fwy tebyg iddo wella'r cyfleusterau a fodolai eisoes. Roedd Mansel wedi ymdrechu i ddal ei afael ar yr ardal oherwydd hen hawl oedd gan y teulu iddi, yn ddiau roedd ei photensial ar gyfer masnach yn ddeniadol ac elwai o'i hawl i godi tollau ar longau yn dod i'r porthladd ac o eiddo a achubwyd o longddrylliadau achlysurol.

Tybir i eglwys Cadog Sant (Cattwg) gael ei sefydlu yn y 6ed ganrif neu'r 7fed ganrif gan Cennydd Sant, un o genhadwyr Cadog Sant. Mae adeiladwaith yr eglwys yn dyddio yn bennaf o'r 14eg ganrif, yr 16eg ganrif a'r 19eg ganrif er ei bod yn ddigon posibl bod y sylfeini yn dyddio o'r 13eg ganrif. Ceir sôn am yr eglwys ym 1230 ac fe'i hildiwyd i'r goron o Farchogion Sant Ioan ym 1540. Nid tan 1861 yr adferwyd ac yr ehangwyd yr eglwys, a gwnaed rhagor o waith adfer ar ôl hynny ym 1901 ac ym 1932. Mae cynnwys yr eglwys ar wahân i'r bedyddfaen yn dyddio o'r cyfnod Fictoraidd neu'n ddiweddarach. Mae ei mynwent yn glostir rhannol gromliniol, sy'n awgrymu iddi gael ei sefydlu yn gynnar, ac mae wedi'i lleoli yng nghanol y pentref.

Adeiladwyd y Salthouse (SAM GM471) ar gyfer John Lucas a'i wraig yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg gan ei dad David; atgyfnerthodd John y ty yn ddiweddarach gan hybu'r chwedl am ei yrfa fel smyglwr a môr-leidr. Yn ôl pob sôn roedd gan y safle goridor cyfrinachol fel ffordd o ddianc, er mai prin yw'r dystiolaeth o'r coridor hwn. Fodd bynnag mae gan Port Eynon lawer o storïau am smyglo; yn ôl pob sôn roedd cymaint ag wyth ecseismon wedi'u gorsafu yn y bae ar un adeg. Datblygwyd y Salthouse yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg i greu'r strwythur diwydiannol 3 uned a bu'n prosesu dwr hallt tan ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent y safle rhwng 1986 a 1988 er mwyn astudio technoleg gwneud halen yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae'r safle yn cynrychioli enghraifft gynnar iawn o'i fath, a dim ond yn ystod y ddeunawfed ganrif y daeth y broses yn gyffredin; dim ond dyrnaid y gellir eu priodoli i'r cyfnod hwn yng Nghymru. Yn ddiweddarach buwyd yn defnyddio'r adeilad fel bythynnod ar gyfer pysgotwyr wystrys, am mai'r fasnach honno oedd un o'r prif gyflogwyr yn Port Eynon. Roedd cloddio calchfaen yn fusnes proffidiol arall; lleolir nifer o odynau mewn cyflwr amrywiol yn yr ardal gymeriad hon.

Mae'r eglwys yn cynnwys nifer o arysgrifau coffa; yr un enwocaf yw'r gofeb (00182w; LB 22790 II) yn y fynwent i drychineb Bad Achub Port Eynon ym 1916, pan gollodd tri dyn lleol eu bywydau.. Mae'r orsaf bad achub yn dal i sefyll mewn cyflwr da, er iddi roi'r gorau i weithredu fel gorsaf bad achub ym 1968 pan symudodd y gwasanaeth i Horton gerllaw; erbyn hyn mae'r adeilad yn hostel ieuenctid.

Ymhlith adeiladau ôl-ganoloesol yr ardal mae Ty Overton (02674w; 19,552; LB 18050 II), a adeiladwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg ac sy'n cynnwys gwaith datblygu a wnaed yn y ddeunawfed ganrif, o gryn ddiddordeb; mae sgiw a blwch angladdol sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r ddeunawfed ganrif i'w gweld o hyd yn y ty. Mae'r nodwedd olaf yn eithriadol o brin, dim ond un o dri sydd wedi goroesi ym Mro Gwyr, ac mae'n nodwedd a gysylltir yn amlach â Dyfnaint. Felly, mae'n pwysleisio'r cysylltiadau diwylliannol rhwng Bro Gwyr a gorllewin Lloegr ar hyd llwybrau masnach hirsefydlog.

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, 1879, anheddiad cnewyllol o amgylch yr eglwys yn Port Eynon, ac yn Overton, ni chofnodir fawr ddim datblygiadau ar 2il argraffiad map yr AO, 1898, nac ar y 3ydd argraffiad ym 1915, mae'r rhan fwyaf yn digwydd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif ar ffurf y tai o amgylch ochr ogleddol eglwys Cadog Sant, ar hyd y darn byr o ffordd tuag at Overton, er bod Overton yn dal i fod yn anheddiad ar wahân ar hyn o bryd gyda chaeau fferm New House yn gweithredu fel rhwystr gwyrdd. Mae ychwanegiadau mwy diweddar eraill at yr ardal yn cynnwys y gwahanol wersylloedd gwyliau, dau o amgylch Port Eynon a'r llall tua Scurlage ar ffin ogleddol yr ardal.

Adeg arolwg argraffiad cyntaf mapiau'r AO, cynhwysai'r anheddiad yn Port Eynon nifer o fythynnod a ffermydd o amgylch yr eglwys ganoloesol a oedd wedi'i lleoli o fewn ei mynwent led-grwn; mae tai yn ymestyn mewn strimyn i'r de ar hyd y ffordd, ac mae'r tai at ei gilydd yn wynebu'r stryd, er y ceir rhai sydd wedi'u gosod ar ongl sgwâr o fewn lleiniau llinellol cul. Mae lôn fach yn ymestyn i'r dwyrain, heibio i Dafarn y Ship, a bythynnod eraill tua'r twyni tywod a thir comin arfordirol. I'r gogledd o'r eglwys mae lôn igam-ogam yn arwain i'r gogledd-ddwyrain i ddarn llinellol cul o dir comin amgaeëdig sy'n ymestyn i mewn i'r ardal gyfagos (HLCA 045) ac anheddiad Horton; nodweddir yr ardal hon gan dir garw a brigiadau calchfaen a chwareli calchfaen. O fewn yr HLCA gerllaw mae'r chwareli hyn yn gysylltiedig ag odynau calch. I'r gogledd-orllewin o ganol y pentref, ychydig i'r de o'r gyffordd â'r lôn i Overton ceir yr efail leol, a leolir ar wahân a chryn bellter o'r anheddiad ei hun. Ymhellach i'r gogledd ceir ysgol y pentref (Bechgyn a Merched).

I'r gorllewin o Port Eynon, mae anheddiad Overton i'r gorllewin o Fferm New House yn cynnwys gwasgariad o fythynnod a ffermydd wedi'u lleoli o amgylch ymyl ei lawnt, mae'r rhain yn cynnwys fferm Overton ym mhen gorllewin y lawnt. Dangosir o leiaf ddwy fferm ac adeiladau cysylltiedig ar hyd y llwybr sy'n arwain i'r gogledd o'r lawnt.

Ni fu fawr ddim newid yn y caelun cysylltiedig o ran ei batrwm ers argraffiad cyntaf map yr AO, ar wahân i rywfaint o waith a wnaed i gyfuno caeau; ymddengys i'r newid mwyaf ddigwydd yn yr ardal i'r gogledd o'r llwybr rhwng Fferm Margam a Fferm Moor Corner, a'r lôn i Hangman's Cross, ardal yr ymddengys iddi gael ei hamgáu yn gynharach o dir comin rhostirol, am fod ganddi gynllun unionlin cynlluniedig mwy rheolaidd. Mae olion y cyn-gae agored canoloesol sy'n gysylltiedig ag aneddiadau Port Eynon ac Overton i'w gweld o hyd yn y dirwedd fodern, fel llain-gaeau hirgul ffosiledig, y ceir mynediad iddynt o'r llwybrau sy'n arwain i'r gogledd o'r ddau anheddiad. I'r gogledd o Fferm Hills ceir ardal sy'n cynnwys caeau hirsgwar rheolaidd iawn; gall y ffin i'r de o Fferm Hills nodi'r ffin rhwng y cyn-gae agored a'r dolydd neu'r tir bryniog cysylltiedig i'r gogledd. Ceir o leiaf ddwy chwarel ac odynau calch cysylltiedig yn ardal y cyn-rostir yng ngogledd yr ardal, y nodir eu bod yn hen ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO; mae'n debyg bod y nodweddion hyn yn ymwneud â gwelliannau amaethyddol a wnaed i'r tir oddi amgylch.

Ymddengys fod cloddio calchfaen a'i gludo ar longau, ynghyd â masnach pysgota'r glannau, yn bwysig i drigolion Port Eynon a'u bod wedi darparu cryn dipyn o swyddi ac incwm. Ymddengys fod y gweithgarwch cloddio wedi'i leoli yn bennaf ar hyd yr ymylon arfordirol cyfagos ac mae'n debyg iddo gael ei gyflawni rhwng mis Ebrill a mis Medi. Byddai'r cerrig a gloddiwyd fod wedi cael eu cludo i lawer i'r lan ar gerti pan fyddai'r llanw ar ddistyll a'u llwytho ar gychod erbyn y distyll dilynol. Darperir olion gweladwy o'r fasnach hon â Dyfnaint (Barnstable a Bideford yn bennaf) gan ardaloedd o falast llongau (cerrig a meini glas-gwyrdd) ar y blaen traeth gerllaw. Mae Lewis yn cofnodi ym 1833 bod plwyf Port Eynon yn 'abounds in limestone, procured in large quantities for export and also supplying neighbouring districts'.

Daeth y fasnach mewn calchfaen a gloddiwyd o Fro Gwyr i ben ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn ôl pob tebyg am fod gwrteithiau mwy soffistigedig ar gael ac am fod rheilffyrdd wedi dechrau disodli llongau. Cludwyd y llwyth olaf o galchfaen ar gyfer Dyfnaint ar fwrdd y 'Roe' yn haf 1876.