The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

029 Pen Pyrod a Chlogwyni De-orllewin Bro Gwyr


Ffoto o Ben Pyrod a Chlogwyni De-orllewin Bro Gwyr

HLCA029 Pen Pyrod a Chlogwyni De-orllewin Bro Gwyr

Parth rhynglanwol, ymyl arfordirol agored a thirwedd a nodweddir gan ymylon clogwyni: ogofâu, aneddiadau a darganfyddiadau cynhanesyddol; nodweddion arforol; prosesu amaeth-ddiwydiannol; cysylltiadau hanesyddol; storïau a chwedlau; a rheoli da byw. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen Pyrod a Chlogwyni De-orllewin Bro Gwyr yn cwmpasu llethr serth y clogwyn yn ogystal â phen agored y clogwyn o Rosili i Fae Oxwich ac mae'n cynnwys Pen Pyrod.

Ceir nifer o ogofâu yn y clogwyn ar hyd y darn hwn o arfordir; darparodd rhai o'r ogofâu hyn dystiolaeth o anheddu a hyd yn oed weithgarwch defodol yn dyddio o'r cyfnod Paleolithig. Ogof Pen-y-Fai yw'r un enwocaf (SAM GM504; 00118w; 300251), a elwir fel arall yn Goat's Hole; un o'r safleoedd cynhanesyddol pwysicaf ym Mhrydain, lle y datguddiwyd olion claddedigaeth yn dyddio o'r Cyfnod Paleolithig Uchaf a elwir yn 'The Red Lady of Paviland' yn ystod gwaith cloddio ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir gwyddom mai ysgerbwd gwryw yn ei ugeiniau canol ydyw, a ddyddiwyd gan ddefnyddio'r dull dyddio radiocarbon i tua 28000 Cyn y Presennol. Cadarnheir tystiolaeth o weithio ifori yng ngrwp ogofâu Pen-y-Fai gan arteffactau sy'n gysylltiedig â'r gladdedigaeth; canfuwyd dros ddeugain o ffyn ifori silindrig a darnau o fodrwyau ifori gerllaw cawell yr asennau ynghyd â chryn dipyn o gregyn môr gerllaw'r glun. Ar ben hynny mae'n bosibl bod esgyrn chwe unigolyn a ganfuwyd yn Ogof Mewslade (00116w) yn dyddio o'r cyfnod Paleolithig am eu bod yn gysylltiedig â nifer o esgyrn o famaliaid diflanedig.

Ceir tystiolaeth o weithgarwch domestig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod Mesolithig yn yr ardal ac mae enghreifftiau yn cynnwys ogof Foxhole (04797w-04802w; 300253); lle y datguddiwyd aelwyd bosibl ynghyd â fflint wedi'i weithio a deunydd o domen ysbwriel. Darganfuwyd casgliadau o ddarnau o fflint yn rhychwantu nifer o gyfnodau; mae'r rheiny sy'n dyddio o'r cyfnod Paleolithig yn ogof Pen-y-Fai yn eithriadol o ran eu safon a'u pwysigrwydd; mae ogof Mewslade yn darparu enghreifftiau o ddarganfyddiadau Mesolithig (00115w; 305515). Darganfuwyd fflintiau Neolithig a chladdedigaeth bosibl yn ogof Red Fescue (02215w). Mae archeoleg yn dyddio o'r Oes Efydd yn llai sylweddol ac ni cheir ond nifer fach o ddarganfyddiadau.

Pennau'r clogwyni eu hunain a fu'n ganolbwynt i weithgarwch yn ystod yr Oes Haearn; lleolir saith caer pentir y gwyddom amdanynt ar hyd y darn hwn o arfordir. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed ar rai o'r safleoedd hyn dystiolaeth bod pobl wedi parhau i'w defnyddio i mewn i'r cyfnod Rhufeinig, er enghraifft darganfuwyd crochenwaith yn dyddio o'r cyfnod rhwng y ganrif 1af CC a'r ganrif 1af OC yn Horse Cliff (00138w; SAM GM192). Gall rhai o'r rhain ddyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol hefyd neu efallai eu bod yn cael eu hailddefnyddio bryd hynny.

Prin yw'r dystiolaeth uniongyrchol o weithgareddau canoloesol yn yr ardal, ac eithrio Pen Pyrod, mae'n debyg y defnyddiwyd pennau'r clogwyni ar gyfer tir pori a thir comin yn ystod y cyfnod hwn. Efallai i'r ogofâu eu hunain gael eu defnyddio gan fasnachwyr; er na phrofwyd hynny. Mae gan Culver Hole (SAM GM325; 00193w; 37514) yn arbennig gysylltiadau canoloesol, y credir ei fod yn gysylltiedig â'r castell yn Port Eynon y ceir sôn amdano mewn achos cyfreithiol ym 1396 rhwng Iarll Warwick a Syr John De Mowbray. Fodd bynnag, nid yw lleoliad y castell yn hysbys; mae rhai adroddiadau yn awgrymu mai'r ogof ei hun oedd y castell o gofio ei natur gaerog. Gwyddom i'r ogof gael ei defnyddio fel colomendy y mae'n debyg ei fod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol yn wreiddiol. Mae 'Culver' yn hen air am golomen a cheir nifer o dyllau nythu, sy'n rhan annatod o'r strwythur, ar y wal fewnol. Mae chwedlau eraill yn honni bod y strwythur yn gadarnle ar gyfer smyglwyr gan gynnwys John Lucas y dywedir iddo adeiladu dwy dramwyfa yn cysylltu Culver Hole â'r Salt House yn Port Eynon (Edmunds 1979).

Gellir ystyried bod Pen Pyrod, y tybir bod yr enw yn tarddu o'r gair Daneg wurm neu orm sy'n golygu draig neu sarff, yn debyg o ran natur i Burry Holms fel pentir a cheir tystiolaeth o anheddu amlgyfnod gan gynnwys caer bosibl yn dyddio o'r Oes Haearn ac anheddiad canoloesol anghyfannedd, nad yw ei union natur yn hysbys. Mae Pen Pyrod, sy'n ynys pan fo'n benllanw, wedi'i gysylltu â'r tir mawr gan sarn garegog pan fo'r môr ar drai. Mae darganfyddiadau gwasgaredig ac olion tomenni ysbwriel (00109w, 01140w) yn dyddio o'r cyfnod rhwng y cyfnod Paleolithig a'r cyfnod canoloesol. Yn debyg i'r prif ymyl arfordirol ceir caer bentir yn dyddio o'r Oes Haearn (SAM GM492; 00110w; 305465); a leolir ar gopa'r pentir mewnol. Ceir olion anheddiad anghyfannedd a all ddyddio o'r cyfnod canoloesol ar y pentir mewnol (02081w). Defnyddid Pen Pyrod ar gyfer pori defaid hefyd. Roedd y teulu Talbot yn arbennig o hoff o'r defaid hyn; ymddengys fod cig y defaid yn arbennig o dyner oherwydd y borfa hallt (Edmunds 1979).

Defnyddid wynebau'r clogwyni at ddibenion cloddio efallai o'r cyfnod canoloesol ond yn sicr o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Nodir hyn yn arolwg Cromwell dyddiedig 1650. Mae nifer o odynau calch yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'u gwasgaru ar hyd yr arfordir. Dyma'r cyfnod pryd y gwelwyd cynnydd yn y defnydd o galch fel gwrtaith amaethyddol. O ganlyniad bu cynnydd mewn gweithgarwch cloddio a llosgi calch ar lwyfandir calchfaen Bro Gwyr.

Mae'r ardal hon wedi gweld mwy o longddrylliadau nag unrhyw ran arall o arfordir Bro Gwyr. Chwythid llongau a oedd yn hwylio trwy'r sianel ar y creigiau mewn tywydd drwg; nodwyd dros ddeg ar hugain sy'n dyddio yn bennaf o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif er bod llawer mwy wedi'u llongddryllio dros y blynyddoedd, yn arbennig os gallwn gredu'r hyn a ddywedir am longddryllwyr drwg-enwog Rhosili.

Yn debyg i'r rhan fwyaf o arfordir Bro Gwyr, ceir nodweddion yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd yn yr ardal hon; o fewn ffiniau Old Castle ceir olion yr hyn yr ystyrir ei fod yn fan tanio rocedi (05677w). Fodd bynnag, byddai hefyd wedi chwarae rôl wrth rybuddio llongau yn ystod cyfnodau o heddwch o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen o leiaf a gerllaw ceir olion twr a ddefnyddid gan wylwyr y glannau.