The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

030 The Vile


Ffoto o The Vile

HLCA030 The Vile

Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol: system caeau agored ganoloesol greiriol; ffiniau caeau traddodiadol; llwybrau troed a lonydd. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol The Vile gan y system o lain-gaeau sydd wedi goroesi mewn cyflwr da islaw pentref Rhosili ym mhen de-orllewinol pellaf Bro Gwyr o flaen Pen Pyrod. Yn ffinio â'r ardal hon i'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r de ceir tir ymylol agored (ymyl clogwyn) ac i'r gogledd-ddwyrain ceir ffordd y B4247.

Mae tystiolaeth archeolegol yn yr ardal o weithgarwch cyn y cyfnod canoloesol yn gyfyngedig i ychydig o ddarganfyddiadau o ddarnau o fflint sy'n dyddio o rywbryd yn ystod y cyfnod cynhanesyddol (02096w; 02097w). Nodwyd nodwedd heb ei dyddio ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr ar gyrion yr ardal gerllaw Mewslade.

Er bod olion llain-gaeau canoloesol i'w gweld mewn mannau eraill ym Mro Gwyr, mae'r ardal hon yn bwysig am ei bod yn cynnwys yr unig enghraifft greiriol sylweddol o system o lain-gaeau yn dyddio o'r cyfnod canoloesol sydd wedi goroesi ar y penrhyn; yn wir mae'n un o ddim ond nifer fach o ardaloedd sydd ar ôl ym Mhrydain gyfan. Felly mae ei chefndir hanesyddol yn gyfyngedig i ddatblygiad a hanes y cyfryw system gaeau. Mae'r enw The Vile yn deillio o hen ynganiad y gair 'field' ym Mro Gwyr (Lucas 2004); roedd y cyfryw gaeau wedi'u rhannu yn gyfres o leiniau cul, a elwid yn rhandiroedd, gan gloddiau. Roedd pob llain yn eiddo i unigolyn a gallai unigolyn fod yn berchen ar nifer o leiniau wedi'u gwasgaru ar draws yr ardal fel ffordd o rannu'r pridd gorau rhwng pentrefwyr; byddai hyn wedi cynnwys mynediad agored i dir pori ar y tir comin oddi amgylch, yn yr achos hwn, Twyn Rhosili a'r tir comin ar ben y clogwyn gerllaw. Ar ben hynny caniatâi hawliau cominwyr i bobl bori da byw ar The Vile ar ddarnau o dir a oedd yn gorwedd yn fraenar ar unrhyw adeg; digwyddai hynny hefyd ar ôl y cynhaeaf pan fyddai gwartheg yn pori gweddillion y cnwd (Emery 1974). Cytunir yn gyffredinol i'r system amaethyddol hon gael ei chyflwyno gan y Normaniaid, fodd bynnag mae Kissock (1991, 41-3) yn dadlau bod y cae agored yn Rhosili eisoes yn nodwedd ar y dirwedd cyn y Goresgyniad Normanaidd.

Mae'r cofnod cynharaf o weithgarwch rheoli yn The Vile yn dyddio o 1731, ac mae'n nodi cymysgedd o dir pori âr a thir pori cyffredin, wedi'u rheoleiddio trwy gytundeb ymhlith y llain-ddeiliaid (Emery 1975, 9-12). Datgelodd dadansoddiadau o dystiolaeth mapiau a thystiolaeth ddogfennol gan Davies (1956) y cynhwysai'r llain-ddeiliaid, ym 1780, chwe ffermwr o Rosili a saith o Middleton; amrywiai maint y daliadau o lai nag erw i 49 o erwau. Ni fu fawr ddim newid yng nghynllun y caeau a'r cloddiau rhwng 1780 a 1845, roedd y daliadau yn dal i fod yn union yr un fath ac roedd yr un teuluoedd yn byw arnynt. Dengys gwaith mapio'r ardal a wnaed o 1780 ymlaen yn glir y modd y datblygodd y caeau nes iddynt gyrraedd eu ffurf bresennol. Ym 1780 cynhwysai gaeau agored yn rhedeg i lawr esgair Pen Pyrod. Rodd yr ardaloedd ar y cyrion, yn arbennig yr un tua Bae Mewslade, eisoes wedi'u hamgáu, ond gellid gweld saernïaeth waelodol y lleiniau o hyd. Dengys cyfres o fapiau a atgynhyrchwyd gan Plunkett-Dillon a Latham (1986b) y modd yr amgaewyd yn raddol y mwyafrif o'r lleiniau a oedd ar ôl. Mae hyn i'w weld yn arbennig o glir ar ôl 1948, a dim ond un darn bach iawn o dir yng nghanol pen gorllewinol yr ardal a oedd yn dal i fod yn agored erbyn 1976. Ers hynny ehangwyd y caeau trwy eu cyfuno, fodd bynnag, digwyddodd hynny ar raddfa gymharol fach ac mae'r patrwm gwreiddiol at ei gilydd yn greiriol.

Gallai'r system gaeau fod wedi goroesi ar raddfa mor helaeth am y gall y rhaniadau gynrychioli'r rheiny a osodwyd mewn cyfnod diweddarach, yn ystod y ddeunawfed ganrif efallai, ar ôl i ffiniau gwreiddiol gael eu hadnewyddu ac wedyn eu cynnal a'u cadw. Hefyd o gofio natur anghysbell Rhosili tan ddechrau'r ganrif ddiwethaf a sicrhaodd na fu fawr ddim newid mewn arfer a dulliau amaethyddol, gyda thir yn aros o fewn y teulu o'r naill genhedlaeth i'r llall.