The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

026 Burry


Ffoto o Burry

HLCA026 Burry

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ôl-ganoloesol/canoloesol: patrwm caeau afreolaidd; aneddiadau strimynnog ôl-ganoloesol; ffermydd gwasgaredig; melino; a chysylltiadau anghydffurfiol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Burry yn cyfateb fwy neu lai i gyn-faenor Burry (a elwid hefyd yn Stembridge), gan gynnwys Burry Green; at ei gilydd mae'r ardal hon yn cynnwys patrymau caeau nad ydynt mewn cyflwr cystal ac mae ffiniau caeau yn tueddu i ddilyn ffiniau maenoraidd hirsefydlog. Mae tir a arferai berthyn i'r faenor ond nas cynhwysir yn yr ardal yn cynnwys darn o dir i'r gorllewin o Fairyhill, Stembridge ei hun a rhan o ddyffryn Burry/Cheriton.

Ychydig a wyddom am hanes cynnar yr ardal hon, fel sy'n wir yn achos ardal Ryer's Down gerllaw. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gynhanesyddol o Gefn Bryn yn awgrymu bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn ac yn ystod cyfnodau dilynol er nad oes gennym unrhyw wybodaeth am yr ardal tan y cyfnod canoloesol.

Ym 1306 cyhoeddodd William de Broes VII siarter yn manylu ar fuddion i 'all abbots, priors, Hospitallers, Templars, Knights, free tenants, and their tenants, and their men, both Welsh and English, within our English county of Gower', cynhwysai hyn faenor Steentebrugge (Stembridge). Roedd hon yn un o dair ardal ar ddeg a ddisgrifiwyd fel 'hen ffioedd marchog' yr honnid bod pob un ohonynt mewn bodolaeth trwy gyfraith ers cyn i Harri I farw ym 1135; fodd bynnag credir bod yr honiad hwn yn amheus, ac yn wir gall adlewyrchu uchelgeisiau tiriogaethol de Broes, yn hytrach na thystiolaeth ffeithiol. Mae'n debyg yn ystod y ddeuddegfed ganrif fod yr ardal yn rhan o diroedd a oedd yn gysylltiedig â Llangynydd o dan faenor helaethach Landimôr yng NGwyr Uwch Coed (h.y. bro'r Cymry) ac olynydd maenor Gymreig helaethach fyth yn dyddio o'r cyfnod cyn y Goresgyniad Normanaidd (Nicholl 1936, 173; Cooper 1998, 14-17; Draisey 2002, 14-15).

Nid oes fawr ddim arall wedi'i gofnodi ar gyfer yr ardal tan y cyfnod ôl-ganoloesol; fodd bynnag, gellir gweld rhai olion o'r system o lain-gaeu yn y dirwedd. Ym 1632 roedd tua 90% o'r tir yn dir âr a disgrifiwyd y gweddill fel dôl. Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd tir y faenor ym meddiant Syr Edward Mansel, a ddaliai faenorau Oxwich, Pen-rhys, Port Eynon, Pitton a Pilton, Westown yn Llangynydd, Llwyn-y-bwch a Chastell Scurlage, Walterston, Cillibion ac Ilston (Draisey 2002, 109-110). Yn arolwg Gabriel Powell dyddiedig 1764 cofnodir bod yr ardal ym meddiant Thomas Mansel Talbot ysw., plentyn bach ac fe'i disgrifir fel 'situate in the Parish of Langennith, and consists of about seven Freehold tenants and several tenants holding in Demense'.

Mae ffermydd gwasgaredig yn yr ardal yn cynnwys Fferm Burry Head (01725w; 18153) a Tilehouse sy'n dyddio o tua 1700 yn ogystal â rhai diweddarach megis Dunraven. Mae arwyddion bod gan Tile House (01644w; 20050; LB 22876 II), ar gwr Burry Green, statws uwch na ffermydd eraill yn yr ardal am y gall ei henw gyfeirio at y ffaith bod gan yr annedd do teils cerrig yn hytrach na tho gwellt. Nid yw lleoliad y maenordy yn hysbys am y gall fod mai safle Tile House oedd safle'r maenordy canoloesol ar un adeg, fodd bynnag, ni phrofwyd hynny er ei bod yn glir yn y cyfnod ôl-ganoloesol fod gan y daliad hwn lawer o ddylanwad yn yr ardal. Cynhwysai fferm Tile House, a oedd yn rhan o Ystad Pen-rhys, gyfanswm o gant a phedair ar hugain o erwau o dir amaeth ym 1786. Cymerodd Richard Gordon y ty ar brydles o ganol y ddeunawfed ganrif; daeth yn Siryf Morgannwg ym 1770 a bu farw ym 1780. Cynhwysai tenantiaid diweddarach Mr John Jones, John Gordon Ysw. a Mr George Beynon. Enwir Tile House fel Fferm Burry Green ar fap dyddiedig 1786. Dychwelodd y daliad i'r teulu Gordon ym 1841 ac arhosodd ym meddiant y teulu tan ganol yr ugeinfed ganrif gyda nifer uwch o erwau, sef dau gant ac ugain. Mae ychydig o fythynnod hefyd wedi'u gwasgaru o amgylch cyrion yr ardal gan gynnwys Bythynnod Burry Head (01726w; 18151, 18152).

Mae'r prif anheddiad wedi'i ganoli ar Burry Green, llain drionglog agored o laswellt yn cynnwys pwll, a leolid wrth groesffordd y prif lwybrau a redai trwy'r ardal. Mae'r anheddiad yn cynnwys datblygiadau yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, fodd bynnag, cymerwyd y tir o amgylch y lawnt ar brydles gan y teulu Gordon a enwyd eisoes o'r ail ganrif ar bymtheg. Dangosir nifer o fythynnod a Chapel Bethesda (01485w, 9623, LB 22875 II) ar argraffiad cyntaf map yr AO. Adeiladwyd y capel gyda chymorth ariannol yr Arglwyddes Diana Barham gan y Gymdeithas Galfinaidd ac fe'i hagorwyd ym 1814. Ym 1823 penodwyd William Griffiths fel y gweinidog Methodist Calfinaidd yn Burry Green, ar ôl hynny y lleoliad hwn oedd canolbwynt Methodistiaeth Calfinaidd ym Mro Gwyr a daethpwyd i alw Griffiths ei hun yn 'Apostol Gwyr', a bu'n gwasanaethu yma nes iddo farw ym 1861.

Mae'n debyg bod hanes hir i grefftau a diwydiant gwledig yn yr ardal ac mae gweithgarwch melino yn dyddio o'r cyfnod canoloesol os nad ynghynt. Fel arfer byddai daliadau maenoraidd yn ystod y cyfnod canoloesol wedi cynnwys o leiaf un felin. Lleolir nifer o felinau ar hyd Burry Pill/nant Burry ac mae ffrydiau melinau yn fforchio ohoni mewn gwahanol fannau. Dim ond un felin a geir yn yr ardal hon er ei bod yn rhan o gyfadail o felinau a nodweddion cysylltiedig. Ceir sôn yn gyntaf am Middle Mill (01562w), melin falu yd a yrrid gan ddwr yn Llawysgrifau Margam ym 1687 pan oedd wedi'i gososd ar brydles i Richard Else, fodd bynnag, mae'n debyg mai dyma safle melin gynharach. Ar ôl hynny cymerwyd y felin ar brydles gan George Evans o 1759 a William Thomas ym 1793. Arhosodd y felin ym meddiant y teulu Thomas wedyn tan 1942 pan gaeodd oherwydd cyfyngiadau yn ystod y rhyfel (Taylor 1991).

Mae aneddiadau yn yr ardal yn dal i fod yn brin ac ychwanegwyd nifer o anheddau modern ar hyd y ffordd gerllaw Burry Green.