The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

025 Twyn Hardings


Ffoto o Dwyn Hardings

HLCA025 Twyn Hardings

Tir comin agored: clostiroedd amddiffynedig a nodweddion anheddu cynhanesyddol; llwybrau; a henebion defodol/angladdol cynhanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyn Hardings yn cynnwys tir comin agored afreolaidd ei siâp a leolir i'r de-ddwyrain o Langynydd.

Mae Twyn Hardings yn fryn sy'n codi i uchafswm uchder o 152m OD. Mae'r tir yn graddol ddisgyn i'r gogledd-ddwyrain ac mae'n fwy serth i'r gorllewin. Nid oes unrhyw archeoleg gofnodedig cyn yr Oes Efydd. Lleolir un garnedd y gwyddom amdani (00020w), sy'n dyddio o'r Oes Efydd ar ael dde-ddwyreiniol y bryn. Mae'n bosibl bod carneddau eraill yn dal heb eu darganfod yn yr ardal o gofio'r rhai o safon a ddarganfuwyd ar esgeiriau tiroedd comin eraill ym Mro Gwyr, yn arbennig Bryn Llanmadog, Twyn Rhosili a Chefn Bryn.

Bu Twyn Hardings yn ganolbwynt i weithgarwch yn ystod yr Oes Haearn. Lleolir tri chlostir (SAM GM060) ar y copa a llethr ogledd-orllewinol y bryn. Mae'r safle mwyaf gorllewinol wedi'i amddiffyn yn dda, ac mae'n debyg ei fod yn fryngaer fach (00025w; 301323); fe'i cloddiwyd ym 1962 a darganfuwyd sylfeini dau lwyfan yn perthyn i gytiau lled-grwn a darn o grochenwaith yn dyddio o'r Oes Haearn.

Efallai fod rhyw ddefnydd wedi'i wneud o'r safleoedd hyn yn ystod y cyfnod canoloesol, am y ceir nifer o glostiroedd sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r cyfnod canoloesol fel ychwanegiadau at y rhagfuriau. Roedd y tir comin agored yn rhan o system amaethyddol, a gyfunai randiroedd âr ar y tir is â mynediad agored i'r tir comin, a ddefnyddid gan y pentrefwyr fel tir pori ar gyfer da byw. Bu pobl yn tresmasu ar diroedd comin Bro Gwyr o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, ymddengys i'r rhan fwyaf o'r gwaith i amgáu'r ardal hon gael ei wneud o'r ddeunawfed ganrif ymlaen yn arbennig y gwaith a wnaed i amgáu Druid's Moor; a leihaodd arwynebedd y tir comin yn gyffredinol. Gallai ffermydd ar gwr y tir comin megis East, Middle a West Cathan a Druid's Lodge ddefnyddio'r tir comin at ddibenion pori yn ogystal â thir isel âr. Cafodd tresmasiadau ar dir eu gwella yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'r ardal hon yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer pori da byw.