The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

022 Llanrhidian


Ffoto o Lanrhidian

HLCA022 Llanrhidian

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad cnewyllol; canolfan eglwysig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol neu'r cyfnod canoloesol a fu'n gwasanaethu fel canolfan blwyfol yn ddiweddarach; caelun ôl-ganoloesol yn cynnwys llain-gaeau canoloesol; ffermydd a bythynnod ôl-ganoloesol gwasgaredig; diwydiant gwledig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llanrhidian yn cynnwys craidd anheddiad a chanolfan blwyfol Llanrhidian a thirwedd amaethyddol yr ardal o'i amgylch. Mae ffiniau'r ardal yn dilyn tir adferedig morfa Llanrhidian i'r gogledd gan ymestyn i'r gorllewin i ffiniau is-faenor Leason, i ddilyn ymyl Tir Comin Cefn Bryn i'r de a therfyn tir maenor fynachaidd Cillibion i'r dwyrain ond nid yw'n cynnwys tir uchel Cil-Ifor. Lleolid yr ardal yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng nghantref Eginog, yn ddiweddarach roedd yr ardal yn rhan o Gwyr Uwch Coed, a ddelid o dan faenor Landimôr ac yn ddiweddarach ffi marchog Leason neu Weble. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe yn Sir Morgannwg.

Tybiwyd bod yr ardal, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, yn rhan o faenor lawer helaethach, goroesodd olion yr ystad fawr hon ar raddfa lawer llai ar ôl iddi gael ei rhannu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd. Credir mai Payn de Turbeville a etifeddodd yr uned Gymreig helaethach hon, ac i'r daliad helaethach hwn gael ei rannu o ganlyniad i roi tir i urddau crefyddol, fel na chynhwysai'r faenor ond is-faenorau gwasgaredig Rhosili, Landimôr a Llanrhidian erbyn y ddeuddegfed ganrif. Ymddengys fod ffin orllewinol yr ardal â Weble a Leason yn dyddio o 1304, pan roddodd John de Turbeville, arglwydd Landimôr bryd hynny, ran orllewinol is-faenor Llanrhidian i David de la Bere fel ffi marchog ar wahân (Nicholl 1936, 168, 173; Draisey 2002).

Mae'n debyg bod rhyw fath o anheddiad yn Llanrhidian yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, o gofio bod bryngaer bwysig wedi'i lleoli gerllaw yn Cil Ifor Top (HLCA 066). Mae Cooper yn awgrymu bod y safle yn ddelfrydol ar gyfer datblygu anheddiad, am fod dwy 'ffynnon ardderchog' wrth waelod y darren a gwahanol fathau o dir yn y cyffiniau, h.y. y lleoliad wrth ffin morfa aberol, llwyfandir uwch, tiroedd calchfaen i'r gorllewin a choetir asid a thir pori i'r dwyrain (Cooper 1998, 50).

Mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu, erbyn dechrau'r cyfnod canoloesol, fod cell fynachaidd wedi'i sefydlu yn Llanrhidian; ystyrir bod cyfeiriad yn llyfr Llandaf dyddiedig tua 650 yn nodi bod cellula yn bodoli ar y safle a oedd yn ddibynnol ar y brif ystad fynachaidd yn Rhosili (Davies 1979, 97). Darganfuwyd carreg gerfiedig Gristnogol Gynnar yn dyddio o'r 9fed ganrif a'r 10fed garnif, sef y Leper Stone fel y'i gelwir (00092w), y credir ei bod yn darlunio'r cyfarfod rhwng Sant Pawl a Sant Antwn yn yr anialwch. Mae'r garreg, yr ystyrir ei bod yn un bensaernïol, capan drws o bosibl, yn awgrymu bod yr eglwys a sefydlwyd cyn y Goresgyniad Normanaidd yn dra phwysig (RCAHMW, 1976c, 62-3 951). Mae siâp rannol gromliniol mynwent yr eglwys a'r ffaith ei bod wedi'i chysegru i Illtyd Sant a Rhidian Sant, cadarnhawyd y cysegriad i Illtyd Sant gan Merrick (James gol 1983, 119), hefyd yn awgrymu i'r eglwys yn Llanrhidian gael ei sefydlu yn gynnar. Darperir tystiolaeth bellach bod yr eglwys yn bwysig ar ddechrau'r cyfnod canoloesol gan heneb Gristnogol Gynnar a gollwyd bellach (01454w), carreg piler arysgrifedig y tynnwyd braslun ohoni gan yr hynafiaethydd, Edward Lhuyd sy'n dangos ei fod wedi'i lleoli i'r gorllewin o eglwys y plwyf.

Tua 1167 rhoddodd William de Turberville Eglwys Llanrhidian (00103w; 301495; LB 11533 II*) i Farchogion Sant Ioan. Mae'n debyg i'r gwaith o adeiladu'r eglwys bresennol ddechrau yn y 13eg ganrif o dan Farchogion Sant Ioan. Tybiwyd i'r gangell a'r twr gael eu hychwanegu yn y 14eg ganrif. Ym 1400 ceryddwyd Marchogion Sant Ioan gan Esgob Tyddewi am ganiatáu i'r eglwys ddadfeilio, a nodir bod y gangell yn adfeiliedig. Mae adeiladwaith anferth anarferol y twr, sy'n cynnwys ar ei ben sylfaen ar gyfer tân coelcerth, yn awgrymu iddo gael ei adeiladu pan oedd amddiffyn o'r pwys pennaf. Mae'r gangell, sy'n gogwyddo tua'r gogledd, yn cynnwys dwy ffenestr ganoloesol wreiddiol; mae gan ddwy ffenestr ddeheuol bennau teirdalen, ac mae gan ffenestr y dwyrain rwyllwaith Unionsyth syml. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yr eglwys mewn cyflwr gwael, a gwnaed gwaith adfer arni, a gynhwysai ddymchwel corff yr eglwys, rhwng 1855-58, gan y pensaer R K Penson o Abertawe. Gwnaed rhagor o waith adfer ym 1899-1901, a ganolbwyntiodd ar y gangell (Cooper 1998, 19-20; Newman 1995, 394; Orrin 1979, 47-50).

Ymddengys fod yr anheddiad a oedd wedi'i ganoli ar yr eglwys yn ddatblygedig iawn erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, a gwyddom fod melinau isaf ac uchaf yn weithredol erbyn 1375. Dengys y map ystad dyddiedig 1785 a'r map degwm dyddiedig tua 1840 yn glir fod elfennau o'r system gaeau ganoloesol a'r patrwm gwasgaredig o berchenogaeth tir wedi goroesi i mewn i'r 19eg ganrif. Ceisiwyd yn betrus ailadeiladu'r anheddiad canoloesol, gyda chymorth arolwg dyddiedig 1598: 'a cluster of small farms, a church, 2 mills, 2 springs and lanes leading to the marsh, to the common fields or to neighbouring communities'. Mae arolwg 1598 hefyd yn nodi hyd at 7 rhydd-ddeiliad yn y pentref, yr ystyrir ei fod yn adlewyrchu nifer y ffermydd yn yr anheddiad. Ymddengys y llain-gaeau a ddangosir ar y map dyddiedig 1785 a'r map degwm wedi'u ffosileiddio i ryw raddau o fewn y patrwm caeau cyfredol, yn wir ymddengys nad oes fawr ddim wedi newid ers arolwg map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1878. Ymddengys fod y caeau cyffredin sy'n gysylltiedig â Llanrhidian wedi'u trefnu'n gaeau uchaf ac yn gaeau isaf, ac mae'r caeau uchaf yn ymestyn i'r de o'r briffordd rhwng Llangynydd ac Abertawe, ac ystyrir bod cyfeiriadau dogfennol at ffermydd uchaf ac isaf yn Llanrhidian yn cyfeirio at y gwahaniaethu cynharach hwn. Mae cyfeiriad at '2 acres of land and salt meadow..' sy'n dyddio o 1400 yn awgrymu bod y caeau ar hyd ymylon arfordirol yn cael eu defnyddio, y 'Great Meadow' o bosibl i'r gogledd o'r anheddiad (Cooper 1998, 50). Nid yw craidd yr anheddiad wedi newid fawr ddim erbyn arolwg argraffiad 1af map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1878, ar wahân i'r ffaith bod yr anheddiad bellach yn cynnwys ychydig o fythynnod ychwangol, ysgol (bechgyn a merched), ysgol yr eglwys a sefydlwyd ym 1845, a Thafarn y Welcome to Town, gyferbyn â'r eglwys; dangosir y tafarn arall a safai yn yr anheddiad bryd hynny, sef Tafarn y Dolphin, in situ ar y map ystad dyddiedig 1785. Dengys y map yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r map yn dyddio o'r 19eg ganrif y pyllau melin a'r system o ffrydiau sy'n gysylltiedig â 2 felin yr anheddiad. Mae'r ficerdy a leolir ar wahân i'r de o'r briffordd i Langynydd hefyd wedi'i adeiladu erbyn arolwg map yr AO dyddiedig 1878.

Er y byddai'r rhan fwyaf o boblogaeth Llanrhidian wedi bod ynghlwm wrth amaethyddiaeth, fel cymuned i raddau helaeth, yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol, roedd ffyrdd eraill o ennill bywoliaeth, a gyflawnid yn aml ar y cyd ag amaethyddiaeth. Ceir cyfeiriadau cynnar at felino, a gweithgareddau megis gwneud esgidiau (ym 1595) gwneud cadeiriau (ym 1676) a gwehyddu (ym 1638 a 1744), ac erbyn canol y 19eg ganrif, dengys cofnodion cyfrifiad fod gan y pentref 2 felinydd, 4 gwniadwraig, 3 siopwr, gwerthwr llyfrau, 2 athro, 2 saer, 3 theiliwr, crydd, cowper, torrwr ceffylau, 2 dafarnwr neu fiteliwr a 3 gwehydd gwydd llaw, yn ogystal â gweithwyr amaethyddol, a glowyr. Mae ychwanegiadau diweddarach yn cynnwys Swyddfa Bost ym 1890 (Cooper 1998, 51).

Yn ddiddorol ddigon mae map ystad dyddiedig 1798 yn cyfeirio at ffair a gynhelid yn draddodiadol yng nghanol y pentref ar y tir diffaith uwchlaw'r groes yn Nhir y Merchant; mae'n sôn am hawl tenantiaid Tir y Merchant i godi tollau ar y stondinau a'r pebyll, a bod gan y daliad bwll llifio.

Mae'r cyfeiriad cyntaf at felino yn dyddio o'r 14eg ganrif (mae dogfen ddyddiedig 1323 yn cyfeirio at 2 felin a chored yn Landimôr a Llanrhidian, tra bod rhodd ddyddiedig 1375 yn cofnodi hanner yn y Nether (Isaf) Mill yn Llanrhidian sy'n eiddo i Meuric ap Philip), mae tystiolaeth ddogfennol hefyd yn nodi bod Richard Scurlage yn dal melin yn Llanrhidian ym 1400. Cyfeirir at felin ganoloesol Llanrhidian Lower Mill (00825w; 24947) unwaith eto mewn ewyllys ddyddiedig 1668 ac fe'i hailadeiladwyd yn ddiweddarach. Mae carreg ddyddio yn cofnodi i Lower Mill gael ei hadeiladu ym 1803 ar gyfer W M Evans, bonheddwr ac mae'n nodi mai John Beynon ac Evan Jenkin oedd y seiri maen ac mai William Edward a George Evans oedd y seiri coed. Ym 1847 cofnodwyd y perchenogion fel ysgutorion David Tenant, tra mai William Davis oedd y melinydd o 1844, yr oedd ei wraig weddw yn parhau â'r gwaith ar ddechrau'r 1860au. Cofnodir yr enw Willis hefyd yma ym 1850, a chofnodir John Willis, melinydd, o Lanrhidian yng nghyfeirlyfr 1868. Ers hynny bu'r felin ym meddiant y teulu Willis, a'i rhedodd tan tua 1950 (Cooper 1998, 32; Taylor 1991, 13). Delid y Felin Uchaf (01043w a 01488w; 24975), melin falu yd yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, o dan faenor Nicholaston ym 1632 gan John William Griffith a Phillip Robert, erbyn 1655 roedd y felin ym meddiant y teulu Gwyn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan y 19eg ganrif. Bu'r felin yn segur ers 1860 (Cooper 1998, 31-2).

Cyflogai'r felin wlân (40903) yn Staffel Haegr (a elwid hefyd yn Stavel Hager) a ddangosir ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1878, chwech o bobl, gan gynnwys y perchennog, George Dix, ym 1851, gan gynnwys gwehyddion, cribwyr, nyddwyr a chwiltiwr; credir i'r busnes teuluol hwn, a gynhyrchai nwyddau o safon yn ôl pob sôn, ddechrau gweithredu tua 1820 a pharhaodd tan 1904.

Cofnodir gweithgarwch cloddio calchfaen a gweithgarwch cynhyrchu calch mewn odynau lleol o'r 17eg ganrif o leiaf ac mae cofnod maenoraidd dyddiedig 1665 yn cyfeirio at dir comin 'Llanrhidian Hill and Alt Common', gan nodi hawl tenantiaid i 'dig stones for building and to make lyme for improving their lands' (Cooper 1998, 52). Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1878 grynhoad o chwareli bach ac odynau calch cysylltiedig (02490w-02493w) ar y darren galchfaen i'r gorllewin o ganol y pentref, yr ardal i'r gogledd o Ben-yr-allt. Mae'r un sydd agosaf at yr eglwys (02493w) yn odyn galch aelwyd eithaf mawr, wedi'i hadeiladu ar ochr isaf y ffordd.