The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

023 Twyn Rhosili


Ffoto o Dwyn Rhosili

HLCA023 Twyn Rhosili

Tir comin agored: tirwedd angladdol a defodol a nodweddion anheddu cynhanesyddol; a nodweddion yn ymwneud â dwr. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyn Rhosili yn cynnwys tir comin agored ar arfordir gorllewinol Bro Gwyr sy'n edrych dros Fae Rhosili.

Mae Twyn Rhosili yn cynnwys tir uchel sy'n cyrraedd uchafswm uchder o 190m DO ac sy'n disgyn yn serth i'r gorllewin, ac esgair yn ymestyn o'r gogledd i'r de sy'n disgyn yn fwy graddol i'r dwyrain. Mae'n amlwg i'r ardal hon chwarae rôl bwysig mewn gweithgareddau dynol o'r cyfnod Neolithig ymlaen. Lleolir dau feddrod siambrog (SAM GM207; 93012, 93013; 00121w, 00122w) sy'n dyddio o'r cyfnod hwn, a elwir yn Sweyne's Howes ar lethr ddwyreiniol y twyn.

Gwnaed cryn ddefnydd o'r ardal i leoli henebion defodol yn yr Oes Efydd fel y tystia'r fynwent helaeth o grugiau a leolir yn bennaf ar gwr y twyn. Mae'r ardal yn cynnwys hyd at ugain carnedd y gwyddom amdanynt sy'n nodweddiadol o strwythurau beddrodol, gan gynnwys carneddau cylch, o wahanol faint y mae'r enghreifftiau gorau yn eu plith yn gofrestredig (GM194, GM498). Mae'r henebion hyn yn perthyn i dirwedd ddefodol ehangach yn dyddio o'r Oes Efydd gan gynnwys Bryn Llanmadog yn ogystal â thir uchel arall ym Mro Gwyr; gall fod yr ystyrid bod yr ardaloedd ucheldirol hyn yn 'fynyddoedd cysegredig'.

Mae dau naddyn carreg (00149w, 02098w) a thwmpath llosg (SAM GM476; 00021w; 305560), a all fod yn ddefodol ei natur hefyd, yn awgrymu bod pobl yn byw yn yr ardal ar ddechrau'r cyfnod cynhanesyddol. Mae cylch cytiau (SAM GM487; 00144w; 305524) ar y llethr ddwyreiniol yn awgrymu bod pobl yn byw yn yr ardal yn yr Oes Haearn. Cyflwynwyd gwahanol ddehongliadau o'r heneb hon; mae'r rhain yn cynnwys y posibilrwydd ei fod yn glostir caerog neu 'cashel' (Ward 1987) neu'n garnedd cylch hyd yn oed (Edith Evans cyf pêrs). Lleolir wal derfyn (00147w) yn rhedeg o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin gerllaw ac er ei bod yn eithaf hynafol ni wyddom pryd yn union y cafodd ei hadeiladu. Gall ffin derfyn arall, sy'n ymestyn ar draws y brif esgair o'r dwyrain i'r gorllewin, fod yn gysylltiedig ag arfer amaethyddol cynnar ar y twyn, sy'n dyddio o bosibl o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol trwy gydweddiad (Ward 1987).

Yn ystod y cyfnodau Canoloesol roedd y tir comin agored yn rhan o system amaethyddol, a gyfunai randiroedd âr ar y tir is â mynediad agored i'r tir comin, a ddefnyddid gan y pentrefwyr fel tir pori ar gyfer da byw. Mae enghraifft o'r rhandiroedd a oedd yn gysylltiedig â Thwyn Rhosili wedi goroesi mewn cyflwr da ar y Vile (HLCA030). Gall caeau ar y Twyn y nododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod eu dyddiad yn ansicr fod yn gysylltiedig ag arfer amaethyddol yn ymestyn i'r tir comin; gall dôl Bessie gynrychioli ymdrechion i ffensio darnau o dir o ansawdd gwell, fodd bynnag, mae hynny'n ansicr.

Bu pobl yn tresmasu ar diroedd comin Bro Gwyr o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen; ymddengys i hyn ddigwydd fesul tipyn ac ar raddfa fach ar Dwyn Rhosili o gymharu â mannau eraill ym Mro Gwyr. Un enghraifft yn yr ardal hon yw'r caeau o amgylch Ffynnon Talgarth (Plunkett-Dillon a Latham 1987b), ychydig i'r de-ddwyrain o'r tir comin a hefyd o amgylch Fernhill a nodir ar Argraffiad 1af map yr AO. Mae'r ardal yn dal i gael ei defnyddio at ddibenion pori.

Defnyddiwyd llawer o rannau o arfordir Bro Gwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan y fyddin at ddibenion hyfforddi a gwylio. Mae safle amddiffyn gwrthawyrennol ('Gorsaf Isel Chain Home' 02320w; 310203), a leolid ar y llethr orllewinol yn edrych dros Fae Rhosili yn un o gyfres o orsafoedd radar a arferai sefyll ar hyd yr arfordir.