The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

024 Caelun Thistleboon


Ffoto o'r Caelun Thistleboon

HLCA024 Caelun Thistleboon

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/ canoloesol: darganfyddiadau cynhanesyddol; hamdden a thwristiaeth. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Caelun Thistleboon yn cynrychioli olion olaf tir amaethyddol gerllaw anheddiad Thistleboon, y Mwmbwls. Mae'r ffin yn dilyn terfyn yr AOHNE o amgylch y caelun sydd wedi goroesi yn Thistleboon gerllaw pen y clogwyn.

Cafwyd ychydig o ddarganfyddiadau cynhanesyddol yn yr ardal gan gynnwys llafnau a naddion yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (00896w) a bwyell siert gaboledig yn dyddio o'r cyfnod Neolithig (03189w). Darganfuwyd un gwrthrych Rhufeinig hefyd.

Arferai'r ardal fod yn rhan o dirwedd amaethyddol ganoloesol ehangach a gynhwysai aneddiadau clystyrog, ffermydd gwasgaredig a system o lain-gaeau agored wedi'u hintegreiddio â mynediad agored i'r tir comin gerllaw ar bennau'r clogwyni, Trwyn y Mwmbwls ac efallai Tir Comin y Clun. Yn y cyfnod ôl-ganoloesol tyfodd aneddiadau a leolid gerllaw yn y Mwmbwls a Newton a chyfunwyd caeau i greu caeau mwy o faint, fodd bynnag, olion llain-gaeau canoloesol yw elfen amlycaf yr ardal o hyd ar Argraffiad cyntaf map yr AO.

Safai Fferm Thistleboon ar gwr y Mwmbwls erbyn 1879 ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r ardal hon ac ar gyrion yr ardal i'r dwyrain lleolid Fferm Lewinhill, Bythynnod Marepool a Planch. Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y tir yn perthyn i wahanol bobl gan gynnwys Dug Beaufort, T Penrice, J. H. Vivian Ysw a J. T. Nicholl ymhlith eraill; a ddangosir ar fap dyddiedig 1829. Dengys gwybodaeth o'r map hwn fod y llain-gaeau canoloesol gweddilliol yn perthyn i wahanol berchenogion ac felly eu bod yn dal i gael eu dal fel rhandiroedd bryd hynny. Datblygwyd ardaloedd Thistleboon, y Mwmbwls, Langland, Newton ac Ystumllwynarth oddi amgylch ar raddfa fawr yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Fodd bynnag, mae'r system gaeau yn yr ardal hon wedi goroesi'n gyfan ac yn ddigyfnewid ers argraffiad 1af y map ar wahân i'r ffaith bod rhai ffiniau caeau wedi diflannu. Mae'n ddiddorol nodi bod y lleiniau i'r dwyrain o'r ardal yn dal i ddilyn ffiniau'r system gynharach o lain-gaeau. Erbyn hyn defnyddir yr ardal fel man hamdden ac ar gyfer twristiaeth gan gynnwys maes criced a chabanau gwyliau.