The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

>

077 Hen Barc


Ffoto o Hen Barc

HLCA077 Hen Barc

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol sy'n cynnwys: caelun amrywiol, ond sydd at ei gilydd yn afreolaidd; ffiniau traddodiadol; anheddiad ôl-ganoloesol gwasgaredig a nodweddion cysylltiedig; parc ceirw canoloesol; rheoli coetir; a nodweddion diwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Hen Barc yn cynnwys tir rhannol amgaeëdig i'r gorllewin o Barc Gwledig Dyffryn Clyne ac i'r gogledd o Dir Comin Clyne, ac mae'n cynrychioli tir y buwyd yn tresmasu arno yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, proses a ddechreuodd o bosibl yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg neu cyn hynny.

Nodwyd hanes a datblygiad yr ardal yng ngwaith Leighton (1997). Yn wreiddiol ffurfiai Tir Comin a Choedwig Clyne ran ogleddol Maenor ddemên Ystumllwynarth a rhan o Landeilo Ferwallt, ystâd eglwysig o'r seithfed ganrif hyd y ddeunawfed ganrif. Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg gelwid yr ardal hon yn goedwig; yn hytrach na chyfeirio at orchudd coed, mae'r olaf yn cyfeirio at ddefnyddio'r ardal ar gyfer gwarchod a hela helfilod (megis ceirw). Dyma oedd heldir arglwydd lleol y faenor yn ddarostyngedig i Gyfraith y Goedwig. Byddai'r goedwig wedi cynnwys parc, a chlostir lle y byddid wedi cadw'r ceirw a chyfeirir at hyn yn ôl pob tebyg yn yr enw lle 'Hen Barc'. Mae siarter De Breos ddyddiedig 1306 yn nodi'r bwriad i droi coetir Clyne yn barc; fodd bynnag, ni wyddom am unrhyw olion o balis sylweddol, fel ym Mharc le Breos. Mae Leighton yn awgrymu efallai na throwyd yr ardal yn barc yn ffisegol, a hynny am nifer o resymau, gan gynnwys prinder gweithwyr a'r ffaith y byddai wedi bod yn amhoblogaidd ymhlith y tenantiaid.

Ymddengys enw Fferm Clyne yn gyntaf ar gynllun dyddiedig 1760 ac fe'i disgrifir yn gyntaf yn arolwg Powell dyddiedig 1764, a nodir y daliad yn gyntaf ar fap dyddiedig 1770. Mae David Leighton yn nodi bod yr olaf yn bwysig am na fodolai'r fferm a elwir yn Fferm Clyne heddiw bryd hynny; mewn gwirionedd adeiladwyd y rhain ar safle newydd rhwng 1779 a 1784. Ar ben hynny roedd y daliad yn helaethach ym 1770 nag ydyw heddiw, a chynhwysai gaeau ar hyd Mill Lane o amgylch Bwthyn Underhill, yn ardal Coedwig Clyne a sefydlwyd yn ddiweddarach (HLCA 078 Castell Clyne) a chaeau gerllaw Afon Clyne. Mae Leighton yn nodi bod pedwar adeilad cyfannedd, anheddau'r tenantiaid y nodir eu bod yn 'a tenement of lands known as Clyne Farm' mewn arolwg dyddiedig 1764 efallai. Mae'r ddau adeilad mwyaf gorllewinol gerllaw'r Tir Comin bellach yn adfeilion, mae pobl yn dal i fyw yn y lleill, sef Bwthyn Underhill a rhif 11, Mill Lane. Mae Leighton yn nodi mai'r sefyllfa ym 1770 oedd bod fferm Clyne yn cynnwys cydgasgliad o leiniau cydgysylltiedig a lleiniau ar wahân ynghyd â nifer o fythynnod, nifer fach o anheddau gwasgaredig wedi'u gosod mewn tirwedd a oedd eisoes wedi'i hamgáu, cyn i'r brif fferm gael ei sefydlu yn y 1780au (Leighton 1997, 144-145). Mae Leighton yn awgrymu er y gallai'r dirwedd amgaeëdig yn fferm Clyne fod wedi cael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol, ei bod yn debyg i batrwm caeau'r ardal ddatblygu o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen ac y gallai fod cyfeiriadau ato mewn arolwg a gomisiynwyd ym 1583. Yn ddiau erbyn Arolwg Seneddol 1650 roedd lleiniau o dir âr a doldir wedi'u sefydlu yn Fferm Clyne, a nodir mai Afon Black Pill i'r gogledd a choedwig Clyne i'r de yw ffin y daliad, er ymddengys fod y tir wedi parhau i fod yn dra choediog. Er gwaethaf tystiolaeth o weithgarwch amgáu tameidiog, ymddengys ei bod yn debyg i'r daliad gael ei gyfuno dros gyfnod cymharol fyr rhwng 1720 a 1779. Mae Leighton yn dod i'r casgliad i Fferm Clyne fynd trwy broses amgáu a effeithiodd ar dir a arferai fod yn ddarostyngedig i'r hawl tramwy gyffredin, proses a welwyd mewn mannau eraill yng Nghymru a Lloegr rhwng canol yr ail ganrif ar bymtheg a chanol y ddeunawfed ganrif (Leighton 1997, 135-159).

Cyn y 1860au cynhwysai'r ardal ystâd Dugiaid Beaufort yn bennaf, ar ôl y dyddiad hwn ymgorfforwyd Fferm Clyne a Choedwig Clyne gerllaw yn ystâd Woodlands (Clyne) W Graham Vivian. Ychwanegwyd planhigfeydd bach o goed coniffer at fferm Clyne yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.