The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

076 Parc a Chwrs Golff Fairwood


Ffoto o Barc a Chwrs Golff Fairwood

HLCA076 Parc a Chwrs Golff Fairwood

Tirwedd wedi'i hailfodelu a gynlluniwyd i raddau helaeth: twristiaeth a hamdden; cyn-dirwedd amaethyddol; a choetir. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Parc a Chwrs Golff Fairwood yn cynnwys Ystâd a chwrs golff Fairwood.

Arferai'r ardal hon, a leolir rhwng Mynydd Llwynteg a Thir Comin Clyne, gynnwys tir amaethyddol o fewn tirwedd amaethyddol ehangach plwyf Llandeilo Ferwallt a gynhwysai yn bennaf ystâd Fairwood Lodge a Fferm Killay ond hefyd Killay Fach a Derllwyn a nodir ar y map degwm (1846). Cynhwysai'r system gaeau bryd hynny gaeau lled-reolaidd a grëwyd yn ôl pob tebyg trwy gyfuno system lain-gaeau ganoloesol, y mae olion ohoni i'w gweld ar y map degwm. Mae'n dra thebyg i Fairwood Lodge gael ei adeiladu gan William Jernegan tua 1827 ar gyfer John Nicholas Lucas o Stouthall. Dengys y map degwm estyniad i flaen yr ardd, feranda o bosibl a symudwyd ar ôl hynny. Ailadeiladwyd y rhes wreiddiol o adeiladau gwasanaethu ar yr ochr ogleddol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, efallai pan ymestynnwyd y tu blaen trwy ychwanegu dwy gilfach ychwanegol. Addaswyd Fairwood Lodge yn llety ar ffurf hostel ar gyfer cleifion ysbyty.

Erbyn hyn gelwir Fferm Killay Farm yn Faaram Court ac mae'n cynnwys cytiau cwn preswyl masnachol. Ymddengys fod yr adeilad presennol yn estyniad o'r hyn a ddangosir ar y map degwm, fodd bynnag, ni wyddom i ba raddau y mae strwythurau gwreiddiol wedi goroesi. Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO yr ardal fwy neu lai fel y mae ar y map degwm ac eithrio Derllwyn.

Aildirluniwyd yr ardal bron yn gyfan gwbl yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; y coetir a'r nodweddion dwr yw'r prif nodweddion sydd wedi goroesi. Agorodd Clwb Golff Fairwood ym 1968, sy'n cynnwys cwrs 6,658 llath, a chynhaliwyd Pencampwriaethau PGA Cymry yno ddwywaith. Adeiladwyd clwb newydd yn yr ardal yn ogystal â pharc carafannau.