The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

080 Wernllath

Ffoto o Wernllath

HLCA080 Wernllath

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf: patrwm caeau amrywiol, sydd at ei gilydd yn afreolaidd; gweithgarwch tresmasu yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; anheddiad ôl-ganoloesol gwasgaredig a nodweddion cysylltiedig; a nodweddion canoloesol creiriol gan gynnwys amddiffynfa gylch ganoloesol. Nôl i'r map

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Wernllath yn cynrychioli darn o dir amgaeëdig tua phen gorllewinol Tir Comin Clyne ac mae'n cynnwys tir o fewn plwyf Llandeilo Ferwallt a darn bach o dir sydd bellach wedi'i amgáu i'r gorllewin o Dir Comin Clyne, a leolir o fewn ffiniau Plwyf Ystumllwynarth. Lleolir y rhan fwyaf o'r ardal o fewn hen faenor Llandeilo Ferwallt, daliad eglwysig yng Ngwyr Is Coed. Cyn i Fro Gwyr gael ei had-drefnu gan y Normaniaid, byddai'r ardal wedi bod yn rhan o Gwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.

Mae'r nodweddion tirwedd cynharaf yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod canoloesol ac maent yn cynnwys yr amddiffynfa gylch rannol yn dyddio o'r cyfnod canoloesol a beili Old Castle (00244w; 305586; SAM GM154) a nodweddion cloddwaith canoloesol eraill sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth. Cloddiwyd Old Castle ei hun yn rhannol ym 1899 gan WL Morgan (RCAHMW 1991, 81-3 CR1). Mae nodweddion amaethyddol cyfoes yn cynnwys cloddweithiau sy'n gysylltiedig â systemau caeau canoloesol creiriol yn Wernllath (02083w; 02086w; 24310); fel arfer mae'r rhain yn llain-gaeau cul sydd tua 200-300m o hyd ac yn 30m o led (RCAHMW 1982, 309).

Fodd bynnag ymddengys i ran helaeth o gaelun yr ardal gael ei hamgáu o dir comin yn arbennig yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg fel y dengys tystiolaeth ddogfennol o weithgarwch tresmasu a gofnodwyd gan Iarll Caerwrangon yn y 1590au (Robinson 1968, 372, 375, 379).

Roedd Wernllath, pentrefan bach a ddelid fel maenor trwy ddaliadaeth Sarsiantaeth Fawr, yn ganolfan bwysig ar gyfer anghydffurfiaeth o adeg y rhyfel cartref a rhagdybiwyd mai dyma gartref Henry a Mary Griffiths, arweinwyr yr achos anghydffurfiol yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, er na phrofwyd y cysylltiad hwn, parhaodd y ffermdy yn Lower Wernllath i gael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd gweddïo tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Morris 1998; Rogers 1967). Dengys map degwm 1843 fod pentrefan Wernllath yn cynnwys pedair fferm gyfannedd, yn union fel yr oedd adeg asesiad treth dir 1766. Ymddengys fod chwedlau lleol nas profwyd yn awgrymu bod yr anheddiad hwn, ar un adeg, dair gwaith gymaint ag ydyw yn awr a'i fod yn cynnwys tafarn. Gwyddom fod Lower Wernllath ym meddiant rhyw Mr George Ace a bod James Webborn yn byw yno adeg Asesiad Treth Dir 1766 ac iddi gael ei throsglwyddo i'r teulu Snead ym 1773. Ym 1843 cynhwysai'r daliad 53 erw, yr oedd 31 ohonynt yn dir âr, 17 yn dir pori neu'n ddoldir, a 5 yn goetir. O ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg delid y fferm gan aelodau'r o'r teulu Hopkin fel tenantiaid.