The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

072 Llanilltud Gwyr


Ffoto o Lanilltud Gwyr

HLCA072 Llanilltud Gwyr

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol; coetir; anheddiad cnewyllol; ffermydd canoloesol; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol; cysylltiadau crefyddol hanesyddol; a llwybrau cysylltu. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llanilltud Gwyr yn cynnwys tir amgaeëdig Llanilltud Gwyr; i'r dwyrain ceir palis Parc-le-Breos ac i'r gogledd o Kittle o amgylch rhannau uchaf Cwm Ilston, cwm nant Pennard Pill. Yn ffinio â'r ardal i'r gogledd ac i'r gorllewin ceir tir comin agored a Maes Awyr Abertawe.

Mae'r archeoleg gynharaf a gofnodwyd ar gyfer yr ardal hon yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig; mae darganfyddiadau (00243w; 02270w) yn cynnwys claddedigaeth (02779w) a chelc arian bath cysylltiedig yn cynnwys naw deg un o ddarnau arian yn dyddio o'r drydedd ganrif. Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth bellach o weithgarwch anheddu yn yr ardal tan y 6ed ganrif efallai pan honnir i eglwys Illtud Sant gael ei sefydlu. Dadleuir bod Llanilltud Gwyr yn gysylltiedig â'r Lann Cingualan a gofnodir yn siarteri Llandaf am fod y disgrifiad o'r ffiniau yn cyd-fynd yn agos â'r ardal (Morgan 1899), fodd bynnag ni dderbynnir hyn yn eang (Evans 1998). Er iddi gael ei chysegru'n gynnar i Illtud Sant, mae'r cyfeiriad cyntaf at eglwys (00247w) yn Llanilltud Gwyr yn dyddio o 1119, lle y cyfeirir ati fel 'Llan Illdut', a Llanilltud Ferwallt oedd enw Cymraeg llawn y pentref, a gyfieithwyd fel 'St Illtyd near Fairwood' (Orrin 1979).

O'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, cynhwysai Llanilltud Gwyr dri daliad bach yng Ngwyr Is Coed a leolid rhwng ffioedd Lunnon a Kittle a Mynydd Llwynteg, yn ôl pob tebyg y daliadau hyn oedd Llanilltud Gwyr ei hun, Bryn-afel a Courthouse a barnu yn ôl eu lleoliadau ar y map o ffiniau maenoraidd a luniwyd gan Seyler (1924). Mae'r eglwys bresennol (00247w; 400050; LB 11524 II*) yn dyddio o'r cyfnod hwn ac ym 1221 fe'i rhoddwyd gan John de Breos i Farchogion Sant Ioan o Jerwsalem; parhaodd o dan eu nawdd nes iddi gael ei throsglwyddo i'r goron pan ddiddymwyd y mynachlogydd ym 1540 (Orrin 1979). Erbyn hynny ymestynnai plwyf Llanilltud Gwyr dros ardal helaethach na'r HLCA hon, a chynhwysai Lunnon (rhan o Barc le Breos) a Fairwood. Mae pentrefannau o fewn y plwyf y cyfeirir atynt gan Rice Merrick ac a leolir o fewn yr ardal dirwedd hon yn cynnwys Moorhouse a Bryn-afel a'r annedd 'hynafol' yn Courthouse (00245w; 18421) hefyd, ac anheddiad Llanilltud Gwyr yn y canol. Mae Merrick yn nodi bod Courthouse ym meddiant Thomas ap Owen mab Henry ap Owen, ond ei fod ym meddiant y teulu Delabere cyn hynny; gwyddom i Morgan ap Owen brynu Courthouse a thiroedd cysylltiedig ym 1441 (Nield 1981). Roedd y teulu Bowen (fel y daethpwyd i alw'r teulu Owen) wedi hen ymsefydlu yn Courthouse, gadawodd Henry Bowen i fynd i Iwerddon i ymladd ym myddin Cromwell yn y 1640au a chofnodir cysylltiadau teuluol â Moorhouse yn arolwg Powell (1764).

Roedd yr ail ganrif ar bymtheg yn gyfnod o gynnwrf crefyddol a chryfhawyd sefyllfa'r Bedyddwyr. Ym 1649 sefydlodd John Miles eglwys gyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru yn Llanilltud Gwyr. Deuai'r gynulleidfa o Fedyddwyr yn Llanilltud Gwyr o bob rhan o Fro Gwyr ac o mor bell i ffwrdd â Llwchwr hyd yn oed. O 1649 hyd 1660 bu Bedyddwyr Llanilltud Gwyr yn cyfarfod yn eglwys plwyf Illtud Sant, lle mai Miles oedd y rheithor neu'r gweinidog (Gregor 1995) tan yr Adferiad.

Mae ffiniau cromliniol yr ardal hon yn arwydd o amgáu tir trwy dresmasu ar y coetir a'r tir comin. Mae'r caeau o amgylch y prif aneddiadau yn fwy rheolaidd ac maent yn cynrychioli prif gaeau âr y daliadau sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol o leiaf. Mae Kissock (1991) yn honni i gaeau sy'n ffurfio grwp crwn yn yr ardal ehangach o amgylch Courthouse gael eu hasartio yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac y gallant gynrychioli "the one hundred and twenty acres in the Forest of Fayerwood (sic) which the Earl of Worcester claimed had been illegally taken from him sometime before 1590" (Kissock 1991, 133). Mae llawer o'r tir ar hyd ffiniau'r ardal yn dal i fod yn dir garw ac yn goetir. Erbyn 1764, daliai Iarll Warwick farwniaeth Bryn-afel a Llanilltud Gwyr a'r prif rydd-ddeiliaid yn yr ardal hon oedd yr Iarll, Mrs Dawkins yn Courthouse a Richard Bowen ym Moorhouse.

Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg prynwyd eglwys Llanilltud Gwyr gan Thomas Penrice a'i hadferodd yn yr arddull Gothig. Mae'r prif anheddiad yn Llanilltud Gwyr wedi'i ganoli'n llac ar yr eglwys a lawnt y pentref ac mae'n cynnwys nifer o fythynnod a thyddynnod. Efallai i aneddiadau o amgylch Bryn-afel a Moorhouse (Moorlakes bellach) grebachu ers cyfnod Merrick, er bod y rhain ynghyd â fferm Courthouse yn cynrychioli cyfanswm yr aneddiadau anghysbell yn yr ardal hon. Ni fu fawr ddim newid yn y dirwedd ers cyhoeddi argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO map, ar wahân i chwarel fawr rhwng Bryn-afel a Llanilltud Gwyr, a effeithiodd ar y dirwedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llystyfiant wedi aildyfu dros yr ardal hon bellach ac mae'n warchodfa natur ar hyn o bryd. Mae aneddiadau a sefydlwyd yn ddiweddarach yn gyfyngedig i rai byngalos a adeiladwyd yng nghanol Llanilltud Gwyr.