The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

079 Tir Comin Clyne


Ffoto o'r Tir Comin Clyne

HLCA079 Tir Comin Clyne

Tir comin agored: llwybrau cysylltu; hamdden; nodweddion dwr; archeoleg gladdedig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Clyne yn cynnwys tir comin iseldirol a elwir fel arfer yn Dir Comin Clyne, yr un mwyaf gorllewinol o grwp o diroedd comin sy'n cynnwys Welsh Moor, Tir Comin Forest, Tir Comin Pengwern, a Mynydd Llwynteg, sy'n ffurfio strimyn o dir yn gorwedd ar draws cwr de-orllewinol y dyddodion Glo, nas amgaewyd pan gynlluniwyd y systemau caeau cyfagos.

Erbyn hyn defnyddir yr ardal ar gyfer tir pori garw, ond ceir ardaloedd o brysgwydd a choed. Yn wahanol i Diroedd Comin Ucheldirol Bro Gwyr i'r gogledd ac i'r gorllewin, mae Tir Comin Clyne a'r Tiroedd Comin Ucheldirol eraill yn dal i fod bron yn ddi-dor, er y ceir ffriddoedd a grëwyd o'r tir comin yma ac acw, yn arbennig o amgylch Wernllath rhwng Mynydd Llwynteg a Thir Comin Clyne, Planhigfa Cilibion a'r ardal ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd o amgylch Pont Carterford, yr amgaewyd pob un ohonynt cyn map Yate a luniwyd ym 1799. Efallai mai rhai o'r ffriddoedd hyn, yn arbennig yr un yn Wernllath, yw'r caeau y bu Iarll Caerwrangon yn cwyno yn eu cylch yn y 1590au (Robinson 1968, 372, 375, 379). Heddiw mae'r ardal yn dal i gynnwys rhostir a rhywfaint o brysgwydd a choed, ac mae'n dal i gael ei defnyddio at gyfer tir pori garw.

Mae'r unig archeoleg a gofnodwyd yn rhan o felin law (00246w) a chlostir crwn sy'n cynrychioli yn ôl pob tebyg dalwrn ymladd ceiliogod yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol (54488; 00330w); darn hirgrwn o dir isel â chlawdd o boptu iddo sy'n mesur tua 12m wrth 6m yn fewnol, a thua 16m ar draws y clawdd o'r naill grib i'r llall, a cheir dau fwlch mynediad a leolir gyferbyn â'i gilydd yn y clawdd wedi'u halinio o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain. Dangosir pwll graean ar argraffiad cyntaf map yr AO a buwyd yn defnyddio'r rhan fwyaf o'r ardal fel cwrs golff o'r ugeinfed ganrif o leiaf. Sefydlwyd a chofrestrwyd y Clwb fel cwmni cyfyngedig ym 1920; cynlluniwyd y cwrs gan y Mri H S Colt a Harries, sef y penseiri golff mwyaf blaenllaw bryd hynny ac nid yw wedi newid fawr ddim ers hynny (http://www.clynegolfclub.com/introduction.htm). Nodwyd nodweddion posibl ychwanegol o ffotograffau a dynnwyd o'r awyr, fodd bynnag mae angen astudio'r rhain ymhellach.