The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

078 Clyne Castle


Ffoto o Clyne Castle

HLCA078 Clyne Castle

Ystâd fonedd ôl-ganoloesol, parc a gynlluniwyd, a thirwedd o goetir: ty bonedd, ac adeiladau ystâd cysylltiedig; gerddi a pharc coetir addurniadol; coetir hynafol a choetir arall: nodweddion rheoli coetir; olion diwydiannol; parc ceirw canoloesol; mân nodweddion amaethyddol a mân nodweddion trafnidiaeth creiriol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Castell Clyne yn Barc Hanesyddol Cofrestredig (PGW (Gm) 47 (SWA)). Ceir disgrifiad cynhwysfawr a manwl o'r ardal restredig yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Cadw 2000), tra disgrifiwyd ardal Coedwig Clyne a Fferm Clyne gerllaw (HLCA 077) yn fanwl yng ngwaith Leighton (1997); mae'r cyhoeddiadau hyn yn allweddol i ddeall y dirwedd hon ac maent yn cynnwys gwaith microddadansoddi a manylion ymhell y tu hwnt i gwmpas y prosiect cyfredol.

Mae Castell Clyne yn cynrychioli gwaith ailfodelu a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar y ty gwreiddiol 'Woodlands' a adeiladwyd ym 1791 gan Wyatt ar gyfer Richard Phillips. Ym 1799 fe'i prynwyd gan y Cyrnol (Cadfridog yn ddiweddarach) George Warde, a'i hail-enwodd yn 'Woodlands Castle', ac a'i hailadeiladodd yn yr arddull Gothig gastellaidd mewn tri chyfnod. Ymestynnwyd y ty i'r gogledd tua 1800; ym 1818 ychwanegwyd rhes o adeiladau domestig a swyddfeydd (a ddymchwelwyd ar ôl hynny pan oedd Berrington yn berchennog ar y ty) ac ym 1819-20 ail-fodelwyd prif floc y de yn yr arddull Gothig, gyda chyfranogiad William Jernegan, pensaer, efallai. Bu'r ystâd ym meddiant y teulu Berrington o 1832 hyd 1860, pan y'i prynwyd gan William Graham Vivian (1827-1912), aelod o'r teulu blaenllaw o ddiwydianwyr o Abertawe, ac fe'i hailenwyd yn Gastell Clyne ar ôl hynny. Ymestynnodd Vivian y ty gryn dipyn ac ychwanegwyd neuadd fawr ac adain ogleddol drillawr fawr, yn yr arddull Duduraidd. Yn ystod y cyfnod hwn newidiwyd tu blaen deheuol Gothig y ty er mwyn ei gysoni ag arddull adain y gogledd.

Erbyn hyn mae'r ty a'r ardal o'i amgylch yn perthyn i Brifysgol Abertawe, tra bod y parc yn perthyn i Gyngor Dinas Abertawe ac mae'n agored i'r cyhoedd. Mae wedi'i rannu'n ddwy ardal, sef Dyffryn Brock Hole ar ochr orllewinol y parc, sydd wedi'i orchuddio â choed i raddau helaeth, ac sy'n cynnwys casgliad pwysig o rododendronau, asaleas a llwyni addurniadol eraill o amrywiaeth eang o leoedd gan gynnwys America a Mynyddoedd Himalaia, a gardd gors, a'r gweddill sydd â naws parcdir tirluniedig, ac sy'n cynnwys dolydd, rhesi o goed a chasgliadau o blanhigion addurniadol. Crëwyd y brif fynedfa, o Ffordd Ystumllwynarth i'r dwyrain, ym 1860 ac mae ganddi borthordy a thramwyfa olygfaol yn arwain i'r ty. Ceir nifer o adeiladau atodol o fewn y parc, a adeiladwyd fel amwynderau ar gyfer y perchenogion.

Mae'r ardal restredig yn cynnwys Dyffryn Clyne, sydd hefyd yn goediog, ond dros system gaeau gynharach; mae dau gloddwaith posibl sy'n gysylltiedig ag adeiladau cynharach yma ac o fewn y parc. Ceir hefyd olion diwydiannol pwysig yn dyddio o'r cyfnod Tuduraidd ymlaen. Ymddengys fod rhan o'r goedwig yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, ond fe'i hymestynnwyd dros gaelun amaethyddol gwreiddiol. Mae'r olion diwydiannol yn cynnwys chwareli, pyllau cloch a gloddiwyd at ddibenion cloddio glo ar raddfa fach a lefel lo, olion systemau a yrrid gan rym dwr, tramffordd yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a rheilffordd (sydd bellach yn llwybr beiciau), a gwaith copr ac arsenig (Evans 2003a, Landmap Abertawe H18 Castell Clyne: SWNSHL419).

Yn wreiddiol ffurfiai Tir Comin a Choedwig Clyne ran ogleddol Maenor ddemên Ystumllwynarth a rhan o Landeilo Ferwallt, a oedd wedi'i gorchuddio â choedwig erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; mae'r olaf yn cyfeirio at ddefnyddio'r ardal ar gyfer gwarchod a hela helfilod, megis ceirw, o dan Gyfraith y Goedwig, yn hytrach nag at orchudd coed. Byddai'r goedwig wedi cynnwys parc, a chlostir lle y byddid wedi cadw'r ceirw a chyfeirir at hyn yn ôl pob tebyg yn yr enw lle 'Hen Barc' yn yr ardal gyfagos. Mae siarter De Breos ddyddiedig 1306 yn nodi'r bwriad i droi coetir Clyne yn barc; fodd bynnag, ni wyddom am unrhyw olion o balis sylweddol, fel ym Mharc le Breos. Mae Leighton yn awgrymu efallai na throwyd yr ardal yn barc yn ffisegol, a hynny am nifer o resymau, gan gynnwys prinder gweithwyr a'r ffaith y byddai wedi bod yn amhoblogaidd ymhlith y tenantiaid.

Cyn y 1860au cynhwysai'r ardal ran o ystâd Dugiaid Beaufort yn bennaf, ar ôl y dyddiad hwn ymgorfforwyd Fferm Clyne a Choedwig Clyne gerllaw yn ystâd Woodlands (Clyne) W Graham Vivian. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol buwyd yn defnyddio'r ardal at amrywiaeth o ddibenion yn amrywio o ffermio cwningod yn y ddeunawfed ganrif i gynhyrchu cynhyrchion coed, prysgoedio, llosgi golosg, coed ar gyfer adeiladu llongau ac ar gyfer y mwyngloddiau (Leighton 1997, 135-159; Mathews 1989, 38-44).

Buwyd yn defnyddio'r ardal at ddibenion diwydiannol ers y cyfnod canoloesol o leiaf a gwyddom fod gweithgarwch melino yn digwydd yn Clyne bryd hynny. Tra ceir gweithfeydd, megis Twmpathau Siafft Dyffryn Clyne (02883w; 275873; SAM GM455) yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, sydd fel arfer yn byllau cloch a gysylltir â gweithgarwch cloddio glo wyneb cyntefig, hefyd yn yr ardal. Mae gweithfeydd diweddarach yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y gellir eu hadnabod trwy eu twmpathau siafft mwy o faint a'u llwyfannau gweithio wedi'u gwasgaru ymhlith y gweithfeydd cynharach (Williams 1958, 17-21). Mae'r ardal yn cynnwys mynedfa lefel lo sydd mewn cyflwr da ac sydd bellach yn gofrestredig (01550w; 275876; SAM GM464) sy'n dyddio o tua 1840; mae'r safle wedi'i gysylltu ag arglawdd Camlas Coedwig Clyne gerllaw, a adeiladwyd ei hun tua 1800, trwy gloddiad byr. Cloddiwyd y safle yn rhannol gan y Comisiwn Brenhinol ym 1981.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg toddi metelau anfferrus oedd y prif ddiwydiant yn ardal Abertawe a rheolai'r rhanbarth ddiwydiant cynhyrchu copr y byd. Cynrychiolir y diwydiant hwn gan Waith Arsenig a Chopr Coedwig Clyne (01215w; 85177; SAM GM475), sy'n un o ryw 50 o weithfeydd toddi anfferus a leolir yn rhanbarth Abertawe, a'r un sydd wedi'i gadw orau. Bu'r gwaith, a adeiladwyd rhwng 1825 a tua 1840, yn gweithredu yn ysbeidiol tan 1860, ac ar ôl hynny buwyd yn defnyddio'r adeiladau fel siediau gwair. Gellir gweld y terasau lluosog sy'n nodweddiadol o'r cyfryw weithfeydd, ynghyd ag adeilad adfeiliedig uchel, pileri ar gyfer strwythur pren agored, ffwrneisi a system hir o ffliwiau a chyddwysyddion ar lethr bryn yn arwain at dwr mawr (Ivy Tower: 41109; LB 22562 II). Mae safleoedd diwydiannol diweddarach yn cynnwys Gwaith Glo Coedwig Clyne, sy'n cynnwys peiriant dirwyn llorweddol dau silindr bach a yrrid gan ager (02880w; 275878; SAM GM469), a adeiladwyd gan J Wild a'i Gwmni Cyf, Oldham, ac a batentwyd ym 1891. Efallai i'r peiriant hwn gael ei osod yn y 1890au neu ym 1912. Mae ei faint anarferol o fach yn adlewyrchu'r ffaith bod y gwaith glo yn gweithio dyddodion glo bas yn yr ardal hon (Mathews 1960, 28-31; Hughes a Reynolds 1988; Hughes 2000).