The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

004 Tirwedd Amgaeëdig Coety


Ruined farmstead (middle centre): view to the southwest

HLCA004 Tirwedd Amgaeëdig Coety

Ardal a nodweddir gan dirwedd amaethyddol amgaeëdig ac aneddiadau cynddiwydiannol sy'n dyddio o bosibl o'r cyfnod canoloesol. Patrwm caeau datblygedig/afreolaidd creiriol gan mwyaf. Ffiniau caeau traddodiadol. Strwythurau domestig ac adeiladau amaethyddol. Nodweddion rheoli dwr.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tirwedd Amgaeëdig Coety yn adlewyrchu'r tir amgaeedig a'r dirwedd amaethyddol gynddiwydiannol sydd wedi goroesi. Ni fu unrhyw newid sylfaenol yn nhirwedd ardal ehangach y cwm a nodweddid gan aneddiadau ac amaethyddiaeth tan ddatblygiad y diwydiant haearn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r ardal hon yn enghraifft brin a phwysig o dirwedd amaethyddol sydd wedi goroesi a gysylltir yn agos â datblygiad diwydiannol cynnar ardal Blaenafon.

Ffurfiai 'Bedellaria' Ebouth Vaure a thiroedd rhyddfraint eraill graidd yr ardal hon ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Erbyn y ddeunawfed ganrif cynhwysai tua hanner yr ardal diroedd prydles, y mae'n debyg eu bod yn rhannol gynrychioli gweithgarwch tresmasu gan bobl ar dir a fu unwaith yn dir comin.

Erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol nodweddir patrwm anheddu'r ardal gan ffermydd gwasgaredig, y mae'n bosibl i rai ohonynt gael eu sefydlu ar ffermydd canoloesol cynharach. Noda tystiolaeth gartograffig nifer fawr o ddaliadau amaethyddol y mae'r mwyafrif ohonynt mewn cyflwr adfeiliedig ar hyn o bryd, sef: Pen Marc, Ty Rhona, Ty Rheinallt, Troed-y-coety-mawr, Coety Mawr, Coety Canol, High Meadow, Field Farm, Fferm Coety a Fferm Waun-Mary-Gunter; dim ond y ddwy olaf a feddiennir. Cymerwyd pob un o'r daliadau amaethyddol yn yr ardal ar brydles neu fe'u prynwyd gan Gwmni Blaenafon o 1780 ymlaen.

Effeithiodd gweithgareddau diwydiannol ar yr ardal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg; roedd y gweithgareddau diwydiannol hyn yn gysylltiedig yn bennaf â gweithgarwch cloddio ar raddfa fach am lo a mwyn haearn ac maent yn cynnwys Waun Avon Slope a phwll glo gerllaw Fferm Coety. Cynhwysai'r ardal nifer o siafftiau awyr hefyd a oedd yn gysylltiedig â lefelau tanddaearol. Chwaraeodd gweithgarwch rheoli dwr ran yn yr ardal hefyd: yn arbennig Pwll Coety, a adeiladwyd ym 1839, i gyflenwi dwr ar gyfer y peiriannau ager yn Forgeside. Datblygwyd y system rheoli dwr ymhellach ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan grëwyd cronfeydd dwr ychwanegol a ffrydiau cysylltiedig gerllaw Pwll Coety a hefyd gerllaw tai'r gweithwyr yn Forgeside. Mae Inclein Coety yn un o nodweddion trafnidiaeth ddiwydiannol bwysig yr ardal (SAM: MM279), ac fe'i hagorwyd cyn 1844 i gludo tywodfaen Pennant o Chwarel Coety er mwyn adeiladu tai newydd a gwaith arfaethedig Cwmni Haearn Blaenafon yn Forgeside. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio rhan uchaf yr inclein tua 1880 tra parhawyd i ddefnyddio'r rhan isaf i gludo glo o Bwll Glo Coety (Pwll Mawr) a lefel gyfagos i'r ffyrnau golosg yn Forgeside tan 1900. Fel arall ni fu fawr o newid yn nhirffurf yr ardal o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at heddiw.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Tirwedd Amgaeëdig Coety fel tirwedd amaethyddol yn cynnwys patrwm caeau datblygedig, afreolaidd a ffermydd gwasgaredig nodweddiadol a adeiladwyd o gerrig, sydd fel arfer yn amrywiadau ar res unigol o adeiladau yn adlewyrchu traddodiad y ty hir ac sydd wedi'u gosod yn groes i'r llethr - tirwedd amaethyddol sydd wedi goroesi ond sydd i raddau helaeth yn un greiriol bellach. Mae'r deunyddiau adeiladu traddodiadol yn cynnwys rwbel wedi'i osod yma ac acw a gwaith cerrig patrymog, a oedd yn wyngalchog yn wreiddiol yn ôl pob tebyg er bod brics wedi'u defnyddio mewn adeiladau diweddarach. Mae rhai adeiladau sydd wedi goroesi wedi'u rendro megis Waun Mary Gunter. Mae'n debyg mai gwellt oedd y deunydd toi traddodiadol, fodd bynnag, nid oes unrhyw enghraifft hysbys o adeilad â tho gwellt wedi goroesi, a llechi a haearn rhychog yw'r deunyddiau toi cyfredol.

Mae enghreifftiau o anheddau o gynllun uned ty hir yn cynnwys Shephard's Cottage, Coety Canol: bwthyn o gerrig ac ysgubor gyfagos ac ail fwthyn wedi'u trefnu i lawr y llethr ac iard gyfagos ac adeiladau allan i'r gogledd-orllewin; a Fferm Coety: ffermdy unllawr a hanner â ffrynt dwbl ac ysgubor ychwanegol ar draws y pen gogledd-ddwyreiniol ac ysgubor benty ddiweddarach ar draws pen isaf ysgubor ty hir. Mae addurniadau cyfnod sydd wedi goroesi yn y ffermdy olaf yn cynnwys twll grisiau strwythurol a gwaith coed tra chilfachog ac ar led ar ffenestri a gwaith coed wedi'i lifio ac wedi'i begio. Mae ffermydd uned llinellol eraill yn cynnwys Field Farm yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif: annedd unllawr a hanner o gynllun mynediad uniongyrchol a chanddi bopty yn y naill ben a beudy mawr yn y pen arall, ceir hefyd penty y tu cefn i'r ffermdy; a Thy Rheinallt: annedd unllawr a hanner â ffrynt dwbl a adeiladwyd o gerrig sy'n cynnwys ffenestri dormer, tafluniad tua'r cefn ac ysgubor hir estynedig a buarth ac adeiladau allan y tu ôl i'r ffermdy.

Mae ffiniau caeau traddodiadol hefyd yn nodweddiadol o'r ardal, yn arbennig waliau sych a chloddiau ag wyneb o gerrig. Mewn mannau, ychwanegwyd ffensys pyst a gwifrau at y ffiniau traddodiadol neu disodlwyd y ffiniau traddodiadol ganddynt. Mae nodweddion amaethyddol eraill yn yr ardal yn cynnwys odyn sychu. Byddai llwybrau troed, llwybrau a lonydd troellog wedi bod yn rhan integredig o'r ardal gynddiwydiannol.

Mae Inclein Chwarel Coety yn nodwedd trafnidiaeth bwysig a nodweddiadol (SAM: MM279). Mae'r inclein mewn cyflwr da o'r chwarel hyd at Bwll Glo Coety, a cheir cyfres o gloddiadau bas ac argloddiau. Mae'n bosibl bod olion claddedig anheddau gweithwyr diwydiannol (Bythynnod Inclein) sy'n gysylltiedig â'r inclein a gweithfeydd cloddio cyfagos wedi goroesi yn yr ardal.

Mae systemau helaeth o ddraeniau a ffrydiau yn nodweddiadol o'r ardal. Mae cronfa ddwr Pwll Coety a chronfa ddwr gyfagos wedi goroesi mewn cyflwr da ac mae ystyriaethau yn mynd rhagddynt o ran cofrestru Pwll Coety.