The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

009 Ardal Gloddio Cefn Garnyrerw a Phen-ffordd-goch


Aerial photograph over Hill's Pits, courtesy of RCAHMW.

HLCA 009 Ardal Gloddio Cefn Garnyrerw a Phen-ffordd-goch

Tirwedd ddiwydiannol greiriol a ddisgrifir fel tir comin ucheldirol agored a'r brif ardal gloddio gynnar ym Mlaenafon ar gyfer glo, mwyn haearn, clai tân a chalchfaen. Rhwydweithiau a nodweddion trafnidiaeth pwysig a systemau rheoli dwr dwys. Nodweddion tresmasu yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ardal Gloddio Cefn Garnyrerw a Phen-ffordd-goch yn cynnwys y tir comin ucheldirol agored sydd wedi goroesi o fewn terfynau brigiad gogledd-ddwyreiniol maes glo De Cymru, na fu'n destun gwaith mwyngloddio brig yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Mae gweithgarwch cloddio mwynau yn yr ardal hon yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg o leiaf; ceir ardal eithriadol yn cynnwys olion gweithgarwch stripio lleiniau a sgwrio ym Mhen-ffordd-goch (SAM: MM227) lle y cloddiwyd mwyn haearn o frigiadau ar ben y bryn. Mae'r ffyrdd dynesu at fwyngloddiau mynedfa a agorwyd cyn 1812 a'r tomenni sy'n gysylltiedig â hwy i'w gweld o hyd o amgylch Pen-ffordd-goch. Mae nodweddion eraill a gadwyd yn y rhan hon o HLCA009 yn cynnwys ffrydiau, argaeau tawelu, sgwrfeydd, lefelau, twmpathau siafftiau, llwybrau a ffurfiannau tramffyrdd. Gellir dyddio'r nodweddion hyn yn hawdd am fod gweithgarwch sgwrio wedi dod i ben erbyn 1817 pan adeiladwyd y gronfa ddwr i wasanaethu gwaith haearn Garn Ddyrys. Gwyddom i'r teulu Hanbury o Bont-y-pwl weithio rhan o'r ardal hon yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, gan gynnwys y gweithfeydd glo a mwyn haearn i'r gorllewin o Abergavenny Road (SAM: MM297), lle y mae llawer o nodweddion a gloddiwyd â llaw wedi goroesi. Lleolir chwarel haearnfaen mewn cyflwr da yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yng ngogledd yr ardal yng Ngharreg Maen Taro (SAM: MM295).

Mae gweithfeydd cloddio diweddarach yn y HLCA hon yn amlygu datblygiadau mewn technoleg fwyngloddio. Mae'r rhain yn cynnwys New Pit, Balance Pit a Hill's Pit; mae'r olaf, a agorwyd ym 1839 i weithio dyddodion glo a haearnfaen, wedi cadw simnai gerrig (Rhestredig: Gradd II). Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gweithiwyd nifer fawr o lefelau, chwareli a phyllau ledled yr ardal; cynhwysai'r rhain lefel Peggi (clai) a'r lefel a'r chwarel haearnfaen ger Tir Abraham-Harry.

Yn gysylltiedig â'r nodweddion cloddiol hyn roedd system rheoli dwr gymhleth a rhwydwaith tramffyrdd helaeth ac mae olion sylweddol yn gysylltiedig â'r ddau wedi goroesi yn y dirwedd drwyddi draw. Darparai'r system rheoli dwr ddwr ar gyfer y gwaith haearn a systemau cydbwyso dwr y pyllau glo lleol. Croesai un o'r llwybrau trafnidiaeth cynharaf yn yr ardal y mynydd ger Pen-ffordd-goch o Bwll Du i'r gwaith haearn; fe'i disodlwyd gan lwybr mwy effeithlon a haws pan adeiladwyd twnnel Pwll Du a fesurai 2,400 metr o hyd o'r gweithfeydd cloddio cynharach tua 1815 i gludo deunyddiau crai trwy Hill's Tramroad a Phwll Du trwy'r mynydd i'r gwaith haearn. Lleolir y mynedfeydd deheuol a gogleddol i'r twnnel yn HLCA006 a HLCA011, yn y drefn honno.

Cludid calchfaen o chwareli ar y Blorens trwy'r ardal hon i'r gwaith haearn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen. Wrth i faint y nwyddau a oedd yn cael eu cludo gynyddu, roedd angen llwybrau trafnidiaeth newydd. Ym 1850, cynlluniodd Thomas Dyne Steel, peiriannydd yn gweithio i Gwmni Blaenafon, reilffordd led safonol â dwy inclein, sef Inclein Dyne Steel (SAM: MM280), a redai rhwng New Pit a Chwarel Pwll Du. Adeiladwyd tramffyrdd hefyd yn New Pit, Pen-ffordd-goch, a Hill's Pits, lle y defnyddid inclein dramffordd wedi'i gwrthbwyso o'r 1840au i gludo glo i'r gwaith haearn. Mae peiriant brêc yr olaf wedi goroesi (SAM: MM222).

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Yn ei hanfod mae Ardal Gloddio Cefn Garnyrerw a Phen-ffordd-goch yn dirwedd ddiwydiannol greiriol, agored a nodweddir yn bennaf gan olion sydd wedi goroesi yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg. Mae gweithfeydd cloddio nodweddiadol yn cynnwys olion cynnar gweithgarwch stripio lleiniau a sgwrio, chwareli, gweithfeydd glo, pyllau cloch a mwyngloddiau drifft. Tomenni gwastraff yn dyddio o wahanol gyfnodau a gysylltir â'r gweithfeydd cloddio yw nodweddion amlycaf yr ardal.

Mae strwythurau adeiledig yn gysylltiedig â'r gweithfeydd cloddio hyn yn elfen nodweddiadol allweddol o'r dirwedd sy'n ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r gweithrediadau diwydiannol a gyflawnid gynt yn yr ardal; mae cyflwr presennol y nodweddion hyn yn amrywio. Mae enghreifftiau pwysig yn cynnwys ty'r peiriant brêc ar inclein dramffordd Hill's Pits, un o ddim ond dau y gwyddom amdanynt yn Ne Cymru sydd wedi cadw rhannau o'r peirianwaith brecio a dirwyn ac olion storfa bowdwr i'r gogledd o Garn Road (Rhestredig: Gradd II).

Mae trafnidiaeth yn nodwedd bwysig o'r ardal a gynrychiolir gan systemau tramffyrdd ac incleins; er enghraifft mae cloddiadau ac argloddiau Inclein Dyne Steel i'w gweld o hyd ac maent yn nodweddion amlwg yn y dirwedd. Mae llawer o nodweddion trafnidiaeth eraill wedi goroesi mewn cyflwr da, gan gynnwys rhannau o dramffordd chwareli'r Blorens, tramffordd Pen-ffordd-goch i Bwll Du, tramffordd Ty'r Abraham Harry a thramffordd Balance Pit. Mae cwrs twnnel Pwll Du, sy'n bwysig am mai hwn yw'r twnnel hwyaf ar unrhyw dramffordd ym Mhrydain lle y tynnid y tramiau gan geffylau, yn croesi'r ardal. Mae llwybrau a lonydd nas dyddiwyd, a gysylltai weithfeydd cloddio ac ardaloedd o fynydd-dir y bu pobl yn tresmasu arnynt â phrif rwydwaith trafnidiaeth y dyffryn yn rhoi cyfrif am weddill y nodweddion trafnidiaeth.

Nodweddir yr ardal hefyd gan nifer fawr o nodweddion rheoli dwr: mae cronfeydd dwr wedi goroesi yn Ball's Pond, Hill's Pits, New Pit a Balance Pit mewn cyflwr da, y mae gan rai ohonynt eu ffrydiau cysylltiedig. Nid yw rhai o'r cyn-gronfeydd dwr ym Mhwll Mawdy a Nant Llechan mewn cystal cyflwr ond serch hynny maent yn dal i fod yn nodwedd bwysig o'r dirwedd.

Mae gweithgarwch anheddu a thresmasu ar raddfa fach sy'n rhannol gysylltiedig â datblygiad diwydiannol cynnar yr ardal yn dal i fod yn nodwedd bwysig ond ar wahân o'r ardal. Dangosir y cae yn Nhir Abraham-Harry ar fapiau yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'n debyg ei fod yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif neu o gyfnod cynharach. Ceir tystiolaeth o adeiladweithiau mewn nifer o safleoedd: Rhes Garn yr Erw lle y ceir ffiniau caeau a llwyfannau adeiladau; Hill's Pits lle y ceir olion bythynnod o gerrig nadd bras a lleiniau cysylltiedig o dir; ac yn New Pit, lle y mae llwyfannau adeiladau hefyd wedi goroesi.

Mae gan yr ardal gysylltiadau hanesyddol pwysig trwy ei chysylltiadau â HLCA006, yn arbennig yn ymwneud â Thomas Hill a Thomas Dyne Steel.