The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

011 Y Blorens a Bryn Gilwern


Quarries near Pwll Du: view to the north

HLCA 011 Y Blorens a Bryn Gilwern

Tirwedd ucheldirol gloddiol ddiwydiannol greiriol sy'n gysylltiedig yn bennaf â gweithgarwch cloddio am galchfaen. Mae nodweddion pwysig eraill yn cynnwys rhwydweithiau trafnidiaeth a gweithgarwch prosesu metel. Nodweddir yr ardal hefyd gan aneddiadau diwydiannol creiriol, a arferai gynnwys rhesi unigol o fewn grwpiau ar wahân, a chan weithgarwch tresmasu yn dyddio o'r cyfnod Ôl-ganoloesol a nodweddion angladdol/defodol Cynhanesyddol.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Blorens a Bryn Gilwern yn cynnwys y tir amgaeedig o amgylch y Blorens a Bryn Gilwern y tu allan i derfyn brigiad gogledd-ddwyreiniol maes glo De Cymru ac mae'n diffinio ardal a nodweddir yn bennaf gan weithgarwch cloddio am galchfaen.

Mae'r olion cynharaf yn yr ardal yn ymwneud â gweithgarwch angladdol a defodol Cynhanesyddol, sy'n amlwg ar y Blorens ar ffurf carneddau yn dyddio o'r Oes Efydd; mae'r rhain yn cynnwys crugiau crwn sy'n perthyn i fynwent grugiau Llan-ffwyst Fawr; y mae un ohonynt, a leolir yn SO270119 fwy neu lai, o bwysigrwydd cenedlaethol (SAM: MM219).

Er bod safle ffynnon gysegredig bosibl yn arwydd o weithgarwch canoloesol ar y Blorens, mae gweithgarwch diweddarach yn ymwneud yn bennaf a chloddio yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg: y chwareli calchfaen ar y Tyla, ar Fryn Gilwern ac ar y Blorens yw'r cynharaf ohonynt. Bu'n rhaid rhoi'r gorau i gloddio un o'r chwareli gogledd-orllewinol cynharaf ar y Blorens a agorwyd tua 1795 ym 1804 yn sgîl problemau daearyddol. Cofrestrwyd y safle cymharol fyrhoedlog hwn sydd felly yn un pwysig ynghyd â'i dramffordd (SAM: MM288). Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynyddodd gweithgarwch cloddio calchfaen o'r ardal ar gyfer gwaith haearn Blaenafon ac agorwyd chwareli newydd ym Mhwll Du. Mae'r chwarel galchfaen ym Mhwll Du (SAM: MM225), yn dyddio o'r cyfnod cyn 1819, mewn cyflwr eithriadol o dda ac mae'n cynnwys llawer o nodweddion pwysig; lifft cydbwyso dwr a godai wagenni calchfaen llwythog at y dramffordd yw'r pwysicaf yn eu plith. Gweithid y chwarel hon gan Walter Lewis i gyflenwi odynau calch yng Ngofilon a Llan-ffwyst yn ogystal â'r gwaith haearn ym Mlaenafon a'r efail yn Garnddyrys.

Mae Craig yr Hafod yn chwarel bwysig arall (SAM: MM278), a oedd yn cael ei defnyddio, ynghyd ag odyn galch amaethyddol gyfagos, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gysylltiedig o bosibl â gweithfeydd cloddio ym Mhen-ffordd-goch. Disodlwyd y chwarel hon ym 1812 gan chwareli mwy o faint a oedd wedi'u cysylltu gan dramffordd â'r gamlas. Mae'r safle yng Nghraig-yr-Hafod o bwysigrwydd cenedlaethol fel enghraifft eithriadol o odyn galch gynnar a chwarel gysylltiedig.

Roedd rhwydwaith o ffyrdd cyntefig yn gysylltiedig â'r gweithfeydd calchfaen hyn. Tramffordd Chwareli'r Blorens yw un o'r cynharaf (SAM: MM288) a adeiladwyd tua 1795 ac y rhoddwyd i'r gorau i'w defnyddio erbyn 1804 ar ôl i'r chwarel gau. Ar ôl cwblhau Camlas Brycheiniog a'r Fenni i Lan-ffwyst ym 1812, sefydlwyd llwybrau trafnidiaeth ychwanegol dros y Blorens. Roedd y cyfryw gysylltiadau trafnidiaeth mewn ymateb i gynnydd yn y galw am haearn a chynnydd cyfatebol mewn cynhyrchiant yng ngwaith haearn Blaenafon, a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Roedd Thomas Hill, rheolwr gwaith haearn Blaenafon, eisoes wedi adeiladu tramffordd o Bwll Du i'r gwaith haearn trwy dwnnel Pwll Du tua 1815; lleolir mynedfa ogleddol (SAM: MM224) Twnnel Pwll Du yn yr ardal. Datblygodd tramffordd Hill i fod y prif lwybr trafnidiaeth ar gyfer deunyddiau yn rhedeg o waith haearn Blaenafon i'r lanfa yn Llan-ffwyst. Mae darn diweddarach o'r dramffordd sydd mewn cyflwr da yn cynnwys twnnel 'torri a gorchuddio' y Blorens sy'n 40m o hyd (SAM: MM275). Rhedai estyniad o Dramffordd Hill, a adeiladwyd tua 1817-22, o Bwll Du i Lan-ffwyst trwy Garnddyrys, ac ymestynnwyd darn bach o dramffordd ran o'r ffordd ar draws Bryn Gilwern; roedd y chwareli yng Ngilwern wedi'u cysylltu cyn hynny â Phwll Du gan dramffyrdd cynharach.

Caniatâi tramffordd Hill gludo haearn o waith haearn Blaenafon i'r efail yng Ngarnddyrys (a sefydlwyd ym 1817) er mwyn ei droi'n haearn gyr; rhedai o dan Garnddyrys trwy dwnnel tua 120m o hyd. Mae gwaith haearn Garnddyrys a darn o dramffordd Hill i fyny at Bwll Du trwy Benrhiw Ifor wedi'u cofrestru (SAM: MM189). Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r darn o dramffordd Hill i Lan-ffwyst i raddau helaeth ar ôl sefydlu cysylltiadau rheilffordd prif linell yn y 1850au a ddisodlodd y gamlas fel y prif ddull cludo ar gyfer gwaith haearn Blaenafon, tra rhoddwyd y gorau i ddefnyddio gwaith haearn Garnddyrys tua 1861, pan adeiladwyd safle newydd yn Forgeside, gerllaw'r cysylltiadau rheilffordd a oedd newydd eu sefydlu. O hynny ymlaen lleihaodd gweithgarwch cloddio o'r chwareli calchfaen a rhoddwyd y gorau i weithio rhai ohonynt yn gyfan gwbl erbyn 1860.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir y Blorens a Bryn Gilwern fel tir comin ucheldirol agored yn bennaf a ddefnyddid at ddibenion pori a chanddo nodwedd bwysig a gynrychiolir gan weithgarwch cloddio am galchfaen. Mae'r ardal yn bwysig ar hyn o bryd oherwydd gweithgareddau hamdden/twristiaeth megis barcuta a cherdded.

Mae gweithgarwch cloddio am galchfaen yn arbennig o amlwg ym Mhwll Du gyda'i wyneb chwarel dramatig a'i lifft cydbwyso dwr sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Ceir chwareli ledled yr ardal ym Mhen-rhiw Ifor, Tyla, Bryn Gilwern, Garnddyrys, Fferm Llwyncelyn, Craig-yr-Hafod ac ar y Blorens. Mae tomenni rwbel yn gysylltiedig â'r gweithgareddau hyn hefyd yn dal i fod yn nodweddiadol o'r ardal.

Mae gweithgarwch prosesu hefyd yn nodweddiadol o'r ardal: mae olion adeiladau prosesu diwydiannol wedi goroesi yn Garnddyrys ac maent yn cynnwys ffwrneisi pwdlo, gefail a melin rolio; tra roedd gweithgarwch cynhyrchu cynhyrchion calchfaen hefyd yn elfen bwysig ac mae olion odynau calch wedi goroesi ar y Blorens, ac yng Nghraig-yr-Hafod a chwareli Tyla.

Ynghlwm wrth y prosesau diwydiannol mae nodweddion rheoli dwr hy cronfeydd dwr, pyllau, draeniau a ffrydiau. Cynhwysai cronfeydd dwr Upper Pond a Lower Pond, y cyflenwid y ddau gan Forge Pond i wasanaethu Gefail Garnddyrys. Mae Forge Pond (a adwaenir hefyd fel Pen-ffordd-goch Pond neu Keeper's Pond) wedi goroesi, er bod y pyllau a gyflenwai'r lifft cydbwyso dwr yn chwarel Pwll Du bellach yn sych.

Roedd cysylltiadau cyfathrebu'r ardal o'r pwys pennaf i ddatblygiad diwydiannol yr ardal. Mae elfennau nodweddiadol sydd wedi goroesi yn cynnwys llwybrau ar draws y Blorens, rhai ohonynt yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol/cynddiwydiannol. Cyn adeiladu ffordd Cwmni Blaenafon (ffordd bresennol y B4246) ym 1825, cyrhaeddid y Fenni o Flaenafon ar hyd lôn wledig fach dros y Blorens trwy Ben-ffordd-goch a Chefn y Galchen. Tramffyrdd a'u twnelau cysylltiedig yw'r nodweddion trafnidiaeth pwysicaf yn yr ardal: rhedai tramffordd Hill, platffordd 2 droedfedd o led ar flociau sliper o gerrig, trwy dwnnel Pwll Du, twnnel Garnddyrys (twnnel 'torri a gorchuddio', un trac o gerrig llanw patrymog a chanddo gromen dwnnel gron), a thwnnel y Blorens (sydd hefyd o fath 'torri a gorchuddio' a lle y mae'r ddau borth yn gyflawn). Mae nodweddion amlwg eraill ar y Blorens a Bryn Gilwern yn cynnwys tyrrau cyfathrebu yn dyddio o'r ugeinfed ganrif.

Mae aneddiadau yn yr ardal, a gysylltir â gweithfeydd cloddio diwydiannol a gweithgarwch tresmasu ar raddfa fach, yn nodwedd lai amlwg o'r ardal na chynt. Roedd amgylchedd adeiledig hanesyddol yr ardal i raddau helaeth yn seiliedig ar adeiladau diwydiannol ac aneddiadau cysylltiedig yn Garnddyrys Forge, Pwll Du, Pen-rhiw Ifor, The Tumble a Phenrhiw. Yn anffodus dymchwelwyd llawer o'r adeiladau a safai yn yr ardal, er ei bod yn debyg bod olion claddedig wedi goroesi. Nid oes fawr ddim o'r hen anheddiad ym Mhwll Du, a gynhwysai dai gweithwyr, ysgol, tafarn, tai rheolwr (Pwll Du House), siop a stablau Cwmni Blaenafon, i'w weld ar wyneb y ddaear heddiw ar wahân i dafarn y Lamb and Fox. Cynhwysai tai gweithwyr ym Mhwll Du Lower Rank, rhes deras o 31 o fythynnod a adeiladwyd cyn 1819 (er y credir mai dyma'r enghraifft gynharaf o dai 'safonol' Cwmni Blaenafon); Upper New Rank, rhes deras o 17 o fythynnod deulawr â ffrynt dwbl wedi'u hadeiladu o gerrig a gynhwysai adeiladau allan cysylltiedig ar ffurf poptai a gerddi a lle y ceid capel yn y pen gorllewinol a bythynnod tebyg yn Tunnel Houses ymhlith eraill. Yng Ngarnddyrys cynhwysai tai gweithwyr fythynnod deulawr ag un ffrynt a adeiladwyd o gerrig a chanddynt gapanau drysau o gerrig a phantrïoedd cefn cromennog corbelog a baril (Glanddyrys Square) wedi'u hadeiladu i mewn i ochr y bryn, roedd pymtheg o fythynnod cerrig yn Garnddyrys Row hefyd. Mae'n debyg bod olion claddedig a rhai olion ar yr wyneb yn gysylltiedig â'r strwythurau hyn wedi goroesi.

Cynrychiolir gweithgarwch tresmasu ôl-ganoloesol gan ardal fach, ar wahân, o gaeau, er enghraifft, o amgylch Pwll Du a Phenrhiw Ifor. Ceir amrywiaeth o ffiniau caeau, gan gynnwys, waliau sych, cloddiau ag wyneb o gerrig, cloddiau pridd, gwrychoedd a ffensys pyst a gwifrau. Mae corlannau hefyd yn nodweddiadol o'r ardal yn ogystal â cherrig/pyst terfyn, y mae rhai ohonynt yn nodi ffin hawliau mwynau Cwmni Blaenafon tra bod eraill yn nodi terfynau perchenogaeth tir. Mae nodweddion angladdol a defodol, hy carneddau yn dyddio o'r Oes Efydd hefyd yn nodwedd bwysig, sy'n adlewyrchu defnydd tir cynharach.