The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Character Areas

Blaenafon

Prosesau Hanesyddol Blaenafon, Themu a Chefndir

Cyflwyniad

Yr ardal o amgylch Blaenafon yw un o'r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi yn y byd o dirwedd a grwyd gan weithgarwch cloddio am lo a gwneud haearn ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd datblygiad cyfochrog y ddau ddiwydiant hyn yn un o rymoedd deinamig allweddol Chwyldro Diwydiannol cyntaf y byd, ac roedd De Cymru ymhlith ei brif ganolfannau. Disgrifiwyd datblygiad prif elfennau'r safle yn fanwl isod.

Am dros ganrif, newidiwyd a chreithiwyd tirwedd naturiol Blaenafon gan weithgarwch gwneud haearn, cloddio am lo, anheddu a gweithgareddau cysylltiedig wrth i ardal gyfan y Safleoedd Tirwedd Hanesyddol a Threftadaeth y Byd gael ei neilltuo i ateb galw menter ddiwydiannol newydd unigol a'r trawsnewidiad radicalaidd a ddilynodd yn ei sgl o ran tir a chymdeithas.

O 1675 o leiaf, ac o gyfnod cynharach yn l pob tebyg, buwyd yn cloddio am fwyn haearn ar fynyddoedd Blaenafon. Arferai'r teulu Hanbury, meistri haearn a gweithgynhyrchwyr tunplat o Bont-y-pwl yr hawliau mwynau dros diroedd comin arglwyddiaeth y Fenni i gyflenwi eu ffwrneisi a losgai olosg. Fodd bynnag, roedd yr ardal yn anghyfannedd bron ac fe'i defnyddid at ddibenion cloddio am lo ar raddfa fach a phori anifeiliaid yn unig.

Ym 1788 prydlesodd Arglwydd y Fenni y tiroedd comin, sef 'Bryniau Arglwydd y Fenni', i Thomas Hill, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt. Gwelodd y tri entrepreneur hyn gyfle i adeiladu gwaith haearn newydd mawr ym Mlaenafon, gan roi ar waith dechnoleg a threfniadaeth ddiweddaraf y Chwyldro Diwydiannol mewn lleoliad newydd a oedd yn llawn o adnoddau. Erbyn 1789 cynhwysai'r Gwaith Haearn dair ffwrnais chwyth a ddefnyddiai bwer ager. Ar unwaith Blaenafon oedd yr ail waith haearn mwyaf yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf yn y byd. O'r tir yr oedd gan y Cwmni hawliau mwynol ynddo, cloddiwyd mwynau haearn, clai tn, glo a chalchfaen. Erbyn 1796 roedd y ffwrneisi yn cynhyrchu 5,400 o dunelli o haearn y flwyddyn. Adeiladwyd tai gerllaw gwaith haearn, mwyngloddiau a chwareli'r cwmni, ar gyfer gweithwyr allweddol, a chrwyd rhwydwaith dwys o reilffyrdd cyntefig i gludo deunyddiau crai i'r gweithfeydd a chynnyrch tua'r marchnadoedd. Tyfodd y boblogaeth yn gyflym o ganlyniad i weithwyr yn mudo i'r ardal o ardaloedd gwledig yng Nghymru, o ardaloedd diwydiannol Canolbarth Lloegr, Iwerddon, yr Alban ac ardaloedd gwledig yn Lloegr. Tyfodd tirwedd ddiwydiannol a grwyd yn gyflym yn cynnwys gweithfeydd stripio lleiniau mwyn haearn, pyllau glo, chwareli calchfaen, gefeiliau haearn, gweithfeydd brics, tramffyrdd, cyrsiau dwr, a thai gweithwyr, i gyd o dan reolaeth cwmni haearn Blaenafon.

Erbyn 1812 roedd pum ffwrnais a allai gynhyrchu 14,000 o dunelli o haearn y flwyddyn. Gwnaed cysylltiadau rheilffordd cyntefig newydd Chamlas Brycheiniog a'r Fenni trwy dwnnel Pwll Du a oedd yn mesur 2.4km o hyd, y twnnel hwyaf a adeiladwyd erioed ar reilffordd lle y tynnid y tramiau gan geffylau. Adeiladwyd Gefail Garn-ddyrys i droi haearn crai yn haearn gyrru ar y mynydd i'r gogledd o Flaenafon ym 1817. Datblygodd gweithgarwch cloddio mynedfeydd am fwyn haearn a glo ar raddfa fwy, gan ddisodli gweithgarwch sgwrio ar yr wyneb, a chyflwynwyd mwyngloddiau siafft, a gynhwysai drefniadau draenio, halio ac awyru soffistigedig. Buwyd yn chwilio am ffynonellau calchfaen newydd ac agorwyd chwareli mwy o faint. Erbyn y 1840au a'r 1850au yn ogystal thai gwasgaredig y gweithwyr ac ysgol y gwaith, yr eglwys a'r capeli cynhwysai'r ardal dref ag amrywiaeth o swyddogaethau trefol a ddatblygodd ar dir y tu allan i berchenogaeth y cwmni.

Yn y 1860au, agorodd y Cwmni waith dur newydd ar draws y dyffryn yn Forgeside. O ganlyniad gwnaed llai a llai o ddefnydd o'r hen waith haearn ac fe'i diogelwyd rhag cael ei ailddatblygu. Ym 1878, dyfeisiodd Sidney Gilchrist Thomas a Percy Gilchrist ym Mlaenafon y broses 'Sylfaenol' neu broses 'Thomas', a oedd o bwys byd-eang am ei bod yn caniatu defnyddio mwynau haearn ffosfforig wrth swmpgynhyrchu dur. Cynyddodd y cynhyrchiant, ac o ganlyniad tyfodd gweithrediadau mwynau'r cwmni, a pharhaodd cynhyrchion haearn Blaenafon a sgiliau ei weithlu i gael eu hallforio ledled y byd. Cloddiwyd Pwll Mawr i wasanaethu'r gwaith newydd, ac adeiladodd y cwmni anheddiad newydd Forgeside. Roedd gan blwyf Blaenafon boblogaeth o 11,452 ym 1891, a oedd wedi tyfu o ddim byd bron ers i'r Gwaith Haearn gael ei adeiladu. Erbyn hyn roedd datblygiad cymdeithasol yr ardal wedi creu diwylliant trefol ffyniannus gyda llawer o gapeli, ysgolion, tafarndai a masnachwyr, ac adeiladwyd Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr ym 1895 i ddarparu cyfleusterau cymdeithasol ac addysgol.

Caniataodd dirywiad cymharol yn y diwydiant cynhyrchu dur o tua throad y ganrif gynnydd yng nghynhyrchiant glo at ddibenion allforio. Parhaodd y galw am lo ager o safon o Dde Cymru i dyfu, a chyrhaeddodd y diwydiant ei uchafbwynt ym 1913, pan gyflogai'r diwydiant cloddio am lo 250,000 o bobl yn uniongyrchol yng Nghymru, neu un o bob pedwar o ddynion. Ehangwyd Pwll Mawr, ac ar l gwladoli diwydiant glo Prydain ym 1947, fe'i hehangwyd ymhellach. Serch hynny, roedd lefelau cyflogaeth yn yr ardal yn gostwng, ac roedd y boblogaeth wedi gostwng yn barhaol ers cyrraedd ei huchafbwynt ym 1921, sef 12,500. Erbyn hyn mae 6,000 o bobl yn byw yn yr ardal. Rhoddwyd y gorau i gynhyrchu dur ym 1938, a chaeodd Pwll Mawr, y gwaith glo gweithredol sylweddol olaf, ym 1980.

Yn sgl y dirywiad economaidd a chymdeithasol, mae angen buddsoddiad yn y dref ei hun ond mae datblygiad diwydiannau newydd, agor y Pwll Mawr fel Amgueddfa Lofaol yn 1983 a chadw Gwaith Haearn Blaenafon wedi cyfrannu at adfywiad economaidd. Mae'r dref a'r dirwedd gyfagos wedi goroesi ymron yn ddigyfnewid i gynrychioli hanes eu gorffennol. Mae Partneriaeth Blaenafon a ffurfiwyd yn ddiweddar yn gweithredu Strategaeth Treftadaeth ac Adfywio a fydd yn cadw asedau hanesyddol Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a chyfrannu at ei adfywiad economaidd a chymdeithasol.

Yn l i'r brig

Themu a Phrosesau Cyffredinol y Dirwedd Gynhanesyddol

Y Dirwedd Ddaearegol, Naturiol ac Amaethyddol

Lleolir ardal tirwedd hanesyddol Blaenafon, sydd ag arwynebedd o ryw 3,911.59ha, ym mlaen dyffryn Afon Llwyd yn un o ardaloedd mwy agored ucheldiroedd Gwent. Lleolir rhan isaf y dref, lle y mae'r afon yn llifo i lawr y dyffryn cul, ar uchder o 300m OD. Mae llethrau'r dyffryn yn codi'n eithaf serth i esgeiriau gweundirol Cefn Coch, Mynydd Coety a'r Blorens oddi amgylch, sy'n cyrraedd bron 600m OD. Mae ardal Pwll Du, i'r gogledd o'r dref, yn ymestyn dros y llwyfandir sy'n ffurfio'r cefn deuddwr rhwng dyffryn Afon Llwyd a cheunant Clydach i'r gogledd.

Mae daeareg soled yr ardal yn cynnwys tywodfaen Carbonifferaidd yn bennaf a nodweddir gan dywodfeini a grutiau ffelsbathig a micaol enfawr trwchus. Ceir Cystradau Glo, Graean Maen Melin a Chalchfaen Carbonifferaidd hefyd. Newidiwyd topograffeg y dirwedd yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd, tua 18,000 o flynyddoedd yn l, gan broses rewlifo i greu'r dirwedd sydd gennym heddiw. Bannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog, y deilliodd nifer fawr o rewlifau peiran o'u hwyneb gogleddol, oedd y prif fan casglu rhewlifol yn Ne Cymru. Newidiodd y broses rewlifo ddyffrynnoedd yr ardal, gan gynnwys Afon Llwyd. Mae daeareg ddrifft yr ardal at ei gilydd yn brin ac mae'n cynnwys mathau gwael, sialaidd llwyd, o bridd.

Er bod rhywfaint o waith dadansoddi paill wedi'i wneud ar safleoedd archeolegol yn yr ardal, mae'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar ddadansoddi deunydd yn gysylltiedig 'r Oes Efydd, a chyfnodau diweddarach. O ganlyniad, prin yw'r dystiolaeth leol o amgylchiadau amgylcheddol cynharach ac yn wir yn union wedi Oes yr I. Cymerir yn ganiataol, wrth i'r hinsawdd wella'n raddol yn dilyn y rhewlifiant olaf, i goetir brodorol trwchus raddol ymestyn dros yr ardal. Mae dynol ryw wedi cael effaith aruthrol ar y coetir hwn; ac awgrymir bod pobl wedi bod yn graddol gymynu'r coed ers y cyfnod Neolithig o leiaf, rhywbeth a ategir gan ddarganfyddiadau ar ffurf bwyeill yn dyddio o'r cyfnod ac yn deillio o bob rhan o'r ardal. Dengys gwaith dadansoddi paill a wnaed yn yr ardal fod yr ardal ar y pryd yn cynnwys rhostir wedi'i orchuddio choed - coed derw yn bennaf. Mae tystiolaeth yn awgrymu erbyn diwedd yr Oes Efydd, fod ardaloedd ucheldirol Blaenau Gwent, yn debyg i'r mwyafrif o'r ucheldiroedd, wedi'u gorchuddio mawnogydd helaeth (Caseldine 1990).

Mae'n debyg bod coetir ar y llethrau llai serth uwch, gan gynnwys llwyfandiroedd Mynydd Coety, Mynydd James, y Blorens a Mynydd y Garn Fawr, wedi'i glirio ar raddfa fawr o gyfnod cynnar; o leiaf erbyn dechrau'r Oes Efydd, yng ngoleuni'r crynoadau o nodweddion angladdol a defodol, carneddau yn bennaf, ar y Blorens ac ar Fynydd y Garn Fawr yn arbennig, o fewn ffiniau'r dirwedd hanesyddol. Ataliwyd y coetir rhag aildyfu gan y defnydd sefydledig a pharhaus a wneid o'r tir at ddibenion magu stoc (gwartheg) ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol; amlygir hyn gan y caeau 'caerog' a geir ar hyd cyrion y llwyfandiroedd ucheldirol, ychydig y tu allan i'r dirwedd hanesyddol.

Dangosir y Coetiroedd Hynafol gan ffynonellau cartograffig; sef mapiau Arolwg Ordnans dyddiedig 1814, 1832 ac argraffiad 1af mapiau 6" yr AO 1891. Mae'n amlwg erbyn y cyfnod l-ganoloesol bod dynol ryw wedi cael effaith aruthrol ar y gorchudd coed yn yr ardal a bod coetir wedi goroesi mewn lleoliadau cyfyngedig, canlyniad uniongyrchol yr angen am olosg ar gyfer y ffwrneisi yn yr ardal yn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif. Erbyn heddiw mae llawer o'r coetir hwn wedi aildyfu ac mae llethrau isaf y dyffryn, yn arbennig HLCA018, bellach wedi'u gorchuddio choetir helaeth.

Byddai amaethyddiaeth draddodiadol ardal Blaenafon wedi bod yn seiliedig ar system o ffermio cymysg, fodd bynnag, yr elfen fugeiliol, sef magu da byw, a fu'n bennaf bob amser ym Mlaenau Gwent.

Yn gyffredinol mae'r patrwm caeau sydd wedi goroesi yn ardal Blaenafon yn dirwedd ddatblygedig yn bennaf a nodweddir gan glytwaith o gaeau bach afreolaidd o faint bach i ganolig, fel y dangosir ar argraffiad 1af mapiau'r AO, a'r llethrau mwy serth, i'r de o'r ardal a arferai fod wedi'i gorchuddio choetir trwchus. Mae ffiniau sy'n nodi gweithgarwch tresmasu ac amgu ar y llethrau ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod l-ganoloesol yn cynnwys cerrig sych yn bennaf, er bod cloddiau a chloddiau ac arnynt wrychoedd a gwrychoedd hefyd i'w cael ar yr ardaloedd isaf tua chwr dwyreiniol y dirwedd. Sefydlwyd y mwyafrif o'r systemau caeau yn yr ardal erbyn y 18fed ganrif, os nad ynghynt, ac arhosodd y systemau caeau hyn yn ddigyfnewid yn ystod y cyfnod hyd at 1891 ar wahn i fn ychwanegiadau a rhywfaint o weithgarwch ad-drefnu (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO).

Mae'r rhan helaethaf o'r ardal hon yn dal i fod yn dir comin agored. Yma mae'r broses dresmasu ar hyd y ffin rhwng y tir amgaeedig sefydledig a'r tir agored yn amlwg a cheir enghreifftiau o ffriddoedd, ee Blaen-Cwm-celyn (HLCA020), ynghyd darnau ar wahn o dir o fewn y tir comin ei hun y bu pobl yn tresmasu arnynt (ee Tir Abraham-Harry, a Phen-ffordd-goch yn HLCA009, Pen-rhiw-Ifor, Pen-y-galchen a Charn-y-gorfydd HLCA011, a Thwyn Blaen-nant, HLCA020). Ymddengys fod y broses dresmasu hon wedi hen ymsefydlu cyn dechrau'r 19eg ganrif.

Er mai bugeiliol oedd yr amaethyddiaeth yn bennaf, llwyddwyd i gynnal cynhyrchiant cyfyngedig ond digonol o gynnyrch r, sef ceirch, barlys a gwenith yn bennaf ynghyd 'r cnydau gwraidd traddodiadol yr ychwanegwyd tatws atynt yn ddiweddarach. Anaml y ci'r llwyfandir uchel ei hun ei ffermio, ac wedyn dim ond yn ystod cyfnodau o gyni eithafol. Ci grawn ei gynhyrchu ar derasau ar lethrau dyffrynnoedd, lle'r oedd y ffermydd fel arfer wedi'u lleoli, tra ci ceirch eu tyfu yn aml yn y dyffrynnoedd.

Ymddengys i ffermio fel y'i harferid mewn rhan helaeth o'r ardal barhau yn l y dulliau traddodiadol tan ddechrau'r 19eg ganrif o leiaf; y math arferol o aradr yn yr ucheldiroedd yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif oedd yr haearn gwthio cyntefig. Prif ddull cludo amaethyddol y cyfnod oedd y ceffyl pwn, neu geir llusg, slediau cyntefig a ddefnyddid ar fynyddoedd. Ymddengys nad effeithiwyd fawr ddim ar ddaliadau amaethyddol tlotach ar dir uchel yn ogystal thyddynnod y gweithwyr ar hyd cyrion deheuol (Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 005 a 006) a gorllewinol yr ardal tirwedd hanesyddol gan y gwelliannau a gyflwynwyd i amaethyddiaeth o'r broses ddiwydiannu.

Ymddengys fod cyflwr amaethyddiaeth ar y ffermydd mwy o faint yn yr ardaloedd is yng nghwr dwyreiniol yr ardal tirwedd hanesyddol wedi gwella yn sgl diwydiannu'r dyffryn, ac mae'r dirwedd yn adlewyrchu hynny: adeiladwyd adeiladau fferm 'diwydiannol' ar nifer o ffermydd ar gyrion yr ardal yn ystod y 19eg ganrif, ee Company Farm (HLCA003).

Yn l i'r brig

Tirweddau Anheddu Cynddiwydiannol a Thraddodiadau Adeiladu

Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o anheddu dynol yn ardal Blaenau Gwent gan gasgliad cymysg bach o offer fflint yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (10000-4400CC), y cyfnod Neolithig (4400-2300CC), a dechrau'r Oes Efydd (2300-800CC), a ddarganfuwyd hyd yma y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol. Daw ychydig o dystiolaeth Neolithig, ar ffurf darganfyddiadau prin o fwyeill, o'r ardal gyffredinol (GGAT 66: Arolwg Litheg 2000), er yr ystyrir bod y dystiolaeth hon o weithgarwch dynol yn cynrychioli gwersylloedd hela ucheldirol dros dro, a gi eu meddiannu gan grwpiau o helwyr-gasglwyr fel rhan o batrwm ymfudo tymhorol rhwng yr iselder arfordirol ac ucheldir Blaenau Gwent.

Mae cryn dipyn o dystiolaeth o weithgarwch gerllaw ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Llangatwg, yn ystod yr Oes Efydd; fodd bynnag mae'r gweithgarwch hwn yn ymwneud yn bennaf henebion angladdol ar dir uchel. Mae ein gwybodaeth am leoliad aneddiadau yn seiliedig i raddau helaeth ar ddarganfyddiadau gwasgaredig ar ffurf offer fflint, ac mae'r dosbarthiad yn debyg i gyfnodau cynharach. Mae effaith gweithgarwch dynol ar lystyfiant naturiol yr ardal yn glir yn l gwaith dadansoddi paill a wnaed yn yr ardal; mae'r gweithgarwch hwn ar ei anterth ar ddiwedd yr Oes Efydd, ac nid yw'n syndod efallai fod effaith fawr gyntaf gweithgarwch anheddu dynol ar amgylchedd ffisegol yr ardal yn dyddio o'r cyfnod hwn ac o'r cyfnod dilynol, sef yr Oes Haearn. Er bod safleoedd anheddu/amaethyddol/amddiffynnol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol i'w gweld yn yr ardal, mae'r dystiolaeth sydd ar gael am ddatblygiad aneddiadau ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig, a dechrau'r cyfnod canoloesol i raddau helaeth heb ei phrofi. Nodweddion anheddu/amaethyddol cynhanesyddol creiriol a chanddynt elfen amddiffynnol yw olion mwyaf gweladwy'r ardal. Dyma'r bryngeyrydd yn dyddio o'r Oes Haearn, a saif mewn lleoliadau trawiadol, ac sy'n amddiffyn y llwybr naturiol i fyny'r ceunant: Craig-y-gaer (PRN 92499g) a Thwyn-y-Dinas (PRN 02474g).

Nid oes fawr ddim tystiolaeth o aneddiadau canoloesol yn yr ardal, er ei bod yn debyg i'r broses dresmasu ar y mynydd agored ddechrau yn ystod hanner olaf y cyfnod canoloesol ac i'r ffermydd l-ganoloesol diweddarach gael eu sefydlu yn wreiddiol yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae'n bosibl bod y rhain yn hafodydd, anheddau dros dro gi eu meddiannu'n dymhorol, sy'n gysylltiedig ag arferion ffermio ymfudol a welir mewn mannau eraill yn ucheldir Cymru.

Arferai'r dirwedd anheddu l-ganoloesol, gynddiwydiannol gynnwys ffermydd gwasgaredig wedi'u gosod o fewn eu daliadau amaethyddol eu hunain, a oedd wedi'u gwasgaru'n aml, fel y dangosir gan dystiolaeth mapiau ystd yn dyddio o'r 18fed ganrif. Er bod adeiladau yn dyddio o'r cyfnod cynddiwydiannol wedi goroesi, newidiwyd y mwyafrif ohonynt i wahanol raddau ac, wedi'u cuddio gan nodweddion anheddu o darddiad diwydiannol, nid hwy yw'r elfen adeiledig amlycaf yn y dirwedd bellach. I'r cyfnod diwydiannol (gweler adran 6.5 isod) y mae'r aneddiadau yn yr ardal yn perthyn i raddau helaeth; ac fe'u nodweddir i raddau helaeth gan ddatblygiadau strimynnog (ee Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 001, 002, a 003) a phatrymau o fath 'sgwatwyr' gwasgaredig (gweler HLCA006). Sefydlwyd yr aneddiadau diweddarach yn aml o amgylch y dirwedd amaethyddol l-ganoloesol gynharach, ar dir comin neu dir diffaith yn aml, ac fel arfer ar gyrion y tir amgaeedig, y parhawyd i'w ffermio. Mae'r anheddiad diwydiannol cynharach yn aml yn gysylltiedig lleiniau o dir neu randiroedd; mae'r patrwm a geir o ganlyniad fel arfer yn cynnwys tyddynnod (Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 006 a 005).

Yn l i'r brig

Themu a Phrosesau Cyffredinol y Dirwedd Ddiwydiannol(yn seiliedig ar Ddogfen Enwebu'r Safle Treftadaeth Byd)

Yr Adnodd Diwylliannol

Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, a leolir ym mlaen Afon Llwyd a hefyd ar ochr ddeheuol Dyffryn Wysg, yn gorwedd ar uchder o rhwng 70m a 581m uwchlaw lefel y mr. Mae'r safle tua 24km o'r mr yng Nghasnewydd, a gellir ei gweld mewn tywydd braf o sawl rhan o'r dirwedd hanesyddol, a thua 40km o Gaerdydd, prifddinas Cymru. Lleolir Blaenafon yng nghwr gogledd-ddwyreiniol Cymoedd De Cymru, mewn man lle y mae'r dirwedd yn newid yn sydyn. Mae'r teithiwr sy'n cyrraedd Blaenafon o'r dwyrain yn symud o'r clytwaith o gaeau a ffermydd, sy'n ffurfio iseldir Sir Fynwy i dirwedd ddramatig wedi'i ffurfio gan weithgarwch cynhyrchu haearn a chloddio am lo. Erys atgofion am y daith o ardaloedd gwledig Canolbarth Cymru i'r cymoedd diwydiannol yn atgofion teuluol y rheini yr ymfudodd eu hynafiaid i'r de i chwilio am waith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd 'ymestynnai'r mwg am filltiroedd' yn ymadrodd a ailadroddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth mewn un teulu. Roedd ardal Blaenafon yn denau iawn ei phoblogaeth cyn y 1780au, er i rai mwynau gael eu gweithio ar raddfa fach gan y teulu Hanbury o Bont-y-pwl gerllaw yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Mae'r strwythurau, y safleoedd a'r tirweddau, sy'n cyfiawnhau'r pwys a roddir ar yr ardal i gyd yn dyddio o'r cyfnod ar l i dir gael ei gymryd ar brydles ar gyfer datblygiadau diwydiannol ar raddfa hollol newydd rhwng 1787 a 1789.

Yn l i'r brige

Gwaith Haearn Blaenafon

Y gwaith haearn yw canolbwynt tirwedd ddiwydiannol Blaenafon a'r rheswm dros y gweithfeydd cloddio mwynau a'r aneddiadau a geir yn yr ardal.

Ym 1787-89 cymerodd Thomas Hill, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt, y partneriaid cyntaf yng Nghwmni Blaenafon, ddarn helaeth o dir ar gyfer gwaith haearn, a'r holl ffynonellau deunyddiau crai angenrheidiol, ar brydles gan Arglwydd y Fenni. Aeth y partneriaid yn eu blaen i adeiladu tair ffwrnais chwyth, gyda siediau bwrw a pheiriant chwythu a adeiladwyd gan gwmni Boulton a Watt. Dilynent arfer diweddaraf y cyfnod, trwy ddefnyddio pwer ager yn hytrach na grym dwr i weithio meginau'r ffwrneisi. Dim ond degawd ynghynt yr adeiladwyd y gwaith cyntaf yn y byd i wneud hynny, yn Snedshill yn Swydd Amwythig. Roedd gan y partneriaid ddigon o ffydd yn y dechnoleg newydd i leoli'r gwaith mewn safle yn llawn o adnoddau ar lethr bryn lle mai dim ond pwer ager y gellid ei ddefnyddio yn ymarferol. Ar ben hynny roedd ganddynt ddigon o ffydd yn eu gallu i ddarparu golosg, mwyn haearn a chalchfaen i adeiladu tair ffwrnais mewn un gwaith. Ychydig o weithfeydd bryd hynny a feddai ar gynifer o ffwrneisi, ac roedd y rhain wedi tyfu o weithfeydd a gynhwysai un ffwrnais yn wreiddiol. Erbyn 1796 roedd y gwaith yn cynhyrchu 5,400 o dunelli o haearn y flwyddyn a olygai ei fod eisoes ymhlith un o'r rhai mwyaf yn y byd. Erbyn 1812 roedd ganddo bum ffwrnais a allai doddi 14,000 o dunelli o haearn y flwyddyn.

Er mwyn sefydlu Gwaith Haearn Blaenafon cymhwyswyd yn systematig sawl cenhedlaeth o ddatblygiadau ym maes diwydiant haearn Prydain. Daeth Hill, Hopkins a Pratt o Ganolbarth Lloegr, lle'r oedd dulliau o weithio haearn gan ddefnyddio glo yn hytrach na golosg wedi'u cyflwyno yn ystod y ddeunawfed ganrif. Er mwyn cymhwyso dulliau newydd y Chwyldro Diwydiannol fel y caent eu gwir effaith chwyldroadol roedd angen lleoliad newydd yn llawn o'r holl ffynonellau o ddeunyddiau crai. Roedd gwireddu'r potensial hwn gan feistri haearn, ym Mlaenafon ac mewn mannau eraill yn Ne Cymru, yn hollbwysig er mwyn sicrhau'r twf aruthrol mewn cynhyrchiant haearn a welwyd yn y blynyddoedd dilynol.

Ym 1709 roedd yr Abraham Darby cyntaf wedi toddi mwyn haearn yn llwyddiannus gan ddefnyddio golosg a wnaed o lo mwynau. Yn y 1750au datblygodd ei fab, yntau yn dwyn yr enw Abraham Darby, ddull o doddi mwyn haearn gan ddefnyddio golosg, a gynhyrchodd haearn crai a oedd yn addas i'w wneud yn haearn gyrru, a sefydlodd batrwm o integreiddio unionsyth yn y diwydiant. Cynhwysai hyn efeiliau yn ogystal ffwrneisi, gweithgarwch cloddio a chwarelu, gwerthu calch a glo domestig, gwneud brics, peirianneg fecanyddol a ffermio hyd yn oed. Ym 1776 defnyddiodd John Wilkinson beiriant ager i yrru ffwrnais chwyth, gan alluogi adeiladu ffwrneisi i ffwrdd o ffynonellau grym dwr. Dangosodd Richard Wright a Richard Jesson ym 1772, a Henry Cort ym 1784, y gellid defnyddio glo i wneud haearn gyrru o haearn crai. Drwy broses o symbiosis datblygwyd technoleg mwyngloddio ochr yn ochr thechnoleg gwneud haearn. Defnyddid peiriannau ager, y ci eu rhannau sylfaenol eu gwneud mewn gweithfeydd haearn, i ddraenio dwr o fwyngloddiau, ac i weithio systemau dirwyn a fu'n fodd i godi mwynau o weithfeydd cloddio tanddaearol ac a ddarparai fynediad iddynt ar gyfer mwyngloddwyr. Daethpwyd 'r ystod hon o dechnoleg, a'r patrymau nodweddiadol hyn o weithredu gan gwmnau gan Hill, Hopkins a Pratt i flaen dyffryn Afon Llwyd (hy HLCA006).

Tua 1810 ychwanegwyd dwy ffwrnais arall, ac ail dy injan. Adeiladwyd y pum ffwrnais gyntaf o gerrig a brics, a chanddynt gynllun sgwr. Newidiwyd un yn ffwrnais chwyth poeth tua 1852. Adeiladwyd chweched ffwrnais ym 1860 yn dilyn ffurf nodweddiadol ffwrneisi'r adeg honno ac roedd ganddi waelod o waith cerrig o dan strwythur crwn o frics tn.

Adeiladwyd pob un o'r ffwrneisi yn erbyn clawdd cerrig uchel wedi'i dorri allan o'r llethr yn null nodweddiadol De Cymru. Mae ffwrnais Rhif 2, un o'r strwythurau gwreiddiol yn dyddio o 1789, yn gyflawn fwy neu lai. Parhawyd i'w ddefnyddio i wneud haearn chwyth oer o safon tan 1902. Mae ffwrneisi 4 a 5, a ychwanegwyd ym 1810, yn gyflawn i raddau helaeth. Mae rhan isaf ffwrnais 6, y ffwrnais gron a adeiladwyd ym 1869, yn enghraifft brin iawn sydd wedi goroesi o fath esblygiadol o ffwrnais. Newidiwyd ffwrnais 4 a 5 ym 1881 i fwrw ingotiau a ddefnyddid i wneud dur yng Ngwaith y Cwmni yn Forgeside (HLCA005). Mae'r cledrau sy'n arwain at y ffwrneisi yn dal i fod yn eu lle, ac arddangosir mowldiau ingotiau a ddarganfuwyd yn ystod gwaith cloddio gerllaw.

Mae'r ffwrneisi (HLCA006), am eu bod yn gyflawn ac oherwydd eu hamrywiol ffurfiau, yn darparu gwell argraff o dechnoleg gwneud haearn a'i datblygiad yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nag unrhyw grwp arall ym Mrydain. Ar ben ffwrnais 5 mae gwaith 'durblatio gwddf' wedi goroesi; sef stripiau o haearn a gyfeiriai ddeunydd a arllwysid i mewn i'r ffwrnais tua'i chanol gan amddiffyn y leinin o frics tn. Mae'r ffaith bod cladin allanol wedi'i dynnu oddi ar rai o'r ffwrneisi yn ei gwneud yn bosibl i ddeall eu strwythurau cymhleth. Mae carreg rud nadd allanwaith y ffwrneisi o safon uchel. O amgylch aelwyd y ffwrnais, cochwyd cerrig a brics tn gan dn. Mae ty bwrw ffwrnais 2 yn gyflawn, gan amlygu ffurf fwaog nodweddiadol y cyfryw strwythurau, i ddarparu cysgod ond caniatu i aer gylchredeg. Ni chloddiwyd sylfeini'r ty peiriant chwythu eto, ond mae gwaelod ei simnai enfawr yr enwyd Stack Square ar ei hl, i'w weld yn glir, yn ogystal 'r pileri a'r ategion o haearn bwrw, a gariai bibellau chwyth i'r ffwrneisi. Yn ffwrnais 5 ceir chwythellau dwr-oeredig o hyd yr i aer trwyddynt i'w thu mewn tanllyd. Cynyddwyd allbwn ffwrneisi chwyth gryn dipyn o 1828 trwy gynhesu'r aer a gyflenwid o'u meginau, y broses chwyth poeth a ddyfeisiwyd yn yr Alban gan James Neilson ac a fabwysiadwyd yng Ngwaith Haearn Blaenafon yn y 1850au. Gellir gweld gwaelod strwythur stof chwyth poeth wedi'i adeiladu o frics tn yng nghornel orllewinol y safle, a cheir llawer o enghreifftiau o frics tn crwybrol a ddefnyddid y tu mewn i'r cyfryw stofiau. Mae'r wal gynhaliol y tu l i'r ffwrnais yn llawn pibelli mawr i ganiatu i aer chwyth poeth gael ei gario o amgylch y safle.

Ad-drefnwyd Cwmni Blaenafon fel cwmni cydgyfalaf ym 1836, pan benodwyd James Ashwell yn rheolwr-gyfarwyddwr. Daeth o Swydd Nottingham, roedd wedi bod yn ddisgybl i'r peiriannydd enwog, Bryan Donkin, ac roedd wedi rheoli gweithfeydd haearn yn Swydd Derby a'r Alban. Roedd Ashwell yn gyfrifol am raglen helaeth o welliannau i ffwrneisi a gefeiliau'r cwmni, i'w systemau trafnidiaeth a'r tai a ddarperid ar gyfer eu gweithwyr.

Y cofadail mwyaf trawiadol i waith Ashwell yng Ngwaith Haearn Blaenafon (HLCA006) yw'r twr cydbwyso dwr yn ei ben gogleddol, a adeiladwyd ym 1839. Defnyddid y math hwn o dechnoleg lifft a ddefnyddiai ddwr i wrthbwyso llwythi yn siafftiau mwyngloddiau de-ddwyrain Cymru ac mewn nifer o weithfeydd haearn. Y safle hwn yw'r enghraifft sydd wedi goroesi yn y cyflwr gorau. Roedd twr y lifft yn gysylltiedig thir uchel y tu l gan bont bren, a ddisodlwyd yn gyflym gan bont gerrig, sydd i'w gweld o hyd. Cynhwysai ei offer dirwyn ffrm o haearn bwrw mn addurniadau Clasurol. Wedi'i gosod ar y ffrm hon yr oedd olwyn bwli y cysylltai cadwyn br o gaetshis lifft drosti, yr ymgorfforai pob un ohonynt danc dwr o haearn gyrru. Drwy beipio dwr i mewn i'r tanc ac allan ohono, gellid codi wagenni a'u gollwng i lawr yn l yr angen. Mae gwaith cerrig y twr o safon, ac ar ei ben ceir olion y ffrm o haearn bwrw, sy'n edrych fel teml Glasurol adfeiliedig. Mae un o gaetshis y lifft ac un o'r tanciau dwr wedi'u cadw ar y safle. Mae tystiolaeth y gallai'r system ddarparu ar gyfer wagenni dau led gwahanol, a rhywfaint o drac lled deuol o haearn bwrw, wedi goroesi wrth waelod y lifft. Mae'n debyg bod oes weithredol y lifft wedi dod i ben ym 1879. Buwyd yn defnyddio adeilad cyfagos, sy'n rhedeg i mewn i'r clawdd, rywbryd yn ystod ei oes at ddibenion storio cadwyni ar gyfer y lifft ond credir ei fod yn br o odynau golosg yn wreiddiol.

Codwyd adeilad mawr, wedi'i awyru'n dda gan fwu agored, ar safle ty injan chwythu gwreiddiol Boulton a Watt, rywbryd ar l 1860. Ffwndri ydoedd, a gyflogai yn y pen draw 170 o bobl. Ci haearn ei doddi mewn ffwrneisi cromen, y mae un ohonynt wedi goroesi, ac fe'i symudid mewn lletwadau o amgylch yr adeiladau gan ddefnyddio craeniau tro y mae eu mannau angori i'w gweld yn glir yn y waliau. Lleolir olion dwy odyn sych graidd gerllaw'r adeilad hwn, lle y ci blychau mowldio tywod eu paratoi ar gyfer bwrw gwrthrychau.

Uwchben y ffwrneisi ceir rhes o odynau adfeiliedig lle y ci mwyn haearn ei galchynnu, neu ei grasu, gan ddidoli sinidr, na chynhwysai fawr ddim haearn, oddi wrth grynodiad a gyflenwid i'r ffwrneisi. Mae adeiladau eraill sydd wedi goroesi ar y safle yn cynnwys swyddfa gyflog, sied storio a simnai, y mae pob un ohonynt yn dyddio o'r cyfnod cyn 1880. Disgrifir y rhes bwysig o dai gweithwyr a adeiladwyd ym 1788 ac a gynhwysai swyddfa, ty rheolwyr a siop o eiddo'r cwmni isod.

Yn y 1870au, yng Ngwaith Haearn Blaenafon cynhaliwyd arbrofion mewn technoleg gwneud haearn a gafodd sgil-effeithiau byd-eang. Ym 1856, am y tro cyntaf, roedd Henry Bessemer wedi gwneud dur meddal, a gyfunai nodweddion haearn bwrw a haearn gyrru, ac y gellid ei wneud, yn wahanol i haearn gyrru, mewn swmp trwy chwythu aer trwy lestr yn cynnwys haearn tawdd. Drwy ddamwain, roedd wedi defnyddio haearn na chynhwysai unrhyw ffosfforws, ond pan roddwyd cynnig ar y broses gan ddefnyddio haearn wedi'i wneud o fwynau ffosfforig bu'n aflwyddiannus. Yng nghanol y 1870au cynhaliodd fferyllydd Gwaith Haearn Blaenafon, Percy Gilchrist, a'i gefnder Sidney Gilchrist Thomas, a oedd wedi astudio meteleg ym Mhrifysgol Llundain ond a oedd yn gweithio fel clerc llys i'r heddlu yn Llundain, arbrofion ar eu traul eu hunain ym Mlaenafon, gan ddatblygu leinins ar gyfer trawsnewidyddion Bessemer a fyddai'n amsugno'r ffosfforws nad oedd ei eisiau. Cyhoeddodd Sidney Gilchrist Thomas lwyddiant yr arbrofion yn Llundain ym mis Mawrth 1878, ac yn y papur gwyddonol a ddilynodd talodd deyrnged i'r cymorth yr oedd ef a'i gefnder wedi'i dderbyn gan Gwmni Blaenafon. Erbyn 1882 roedd pedwar gwaith haearn ar ddeg ym Mhrydain Fawr, Rwsia ac Ymerodraeth Hapsburg wedi buddsoddi mewn newid i broses Gilchrist-Thomas. Talodd Andrew Carnegie, y gwneuthurwr dur mawr o America, 250,000 o ddoleri am yr hawl i ddefnyddio'r broses yn Unol Daleithiau America, a nododd: 'Gwnaeth y ddau ddyn ifanc hyn, Thomas a Gilchrist o Flaenafon, fwy dros fawredd Prydain na'r holl Frenhinoedd a Breninesau gyda'i gilydd. Trawodd Moses y graig a dwyn dwr. Trawsant y mwyn ffosfforig diddefnydd a'i drawsffurfio'n ddur.' Mae cofadail o wenithfaen pinc phenddelw cerfwedd o Gilchrist Thomas, a godwyd yn wreiddiol yng ngwaith Forgeside, bellach yn sefyll gerllaw Gwaith Haearn Blaenafon, tra bod aelwydydd ffwrneisi 4 a 5, a addaswyd i fwrw ingotiau at ddibenion gwneud dur gan ddefnyddio proses Gilchrist Thomas, yn dystiolaeth o gyfraniad unigol pwysicaf Blaenafon at dechnoleg meteleg.

Yn l i'r brig

Pwll Mawr

Mae Pwll Mawr (HLCA005) yn amgueddfa lofaol o bwys rhyngwladol. Yng nghyd-destun Blaenafon mae'n darparu tystiolaeth o'r modd y cafwyd y glo a ddefnyddiwyd wrth doddi mwyn haearn yn y gwaith haearn. Gweithgarwch cyflenwi glo oedd un o'r peiriannau a yrrai'r Chwyldro Diwydiannol a'r elfen ganolog yn y broses o newid o dechnoleg organig i dechnoleg mwynau. Darparai glo ym Mlaenafon danwydd ar gyfer crasu, toddi a gyrru haearn, ar gyfer gwneud dur, ar gyfer llosgi calch, ar gyfer gwneud brics, ar gyfer gyrru peiriannau ager, ac o ran gweithgarwch allforio ar gyfer cyflenwi locomotifau a llongau ager thanwydd. Roedd yn hollbwysig i aneddiadau domestig mewn hinsawdd anffafriol mewn ardaloedd lle'r oedd coed yn brin.

Cloddiwyd y siafft gyntaf ym Mhwll Mawr ym 1860 neu cyn hynny ac roedd wedi'i chysylltu o dan ddaear gweithfeydd cloddio glo a mwyn haearn yn dyddio o'r 1830au. Roedd Pwll Mawr ymhlith nifer o weithfeydd glo dan reolaeth Cwmni Blaenafon, yn wreiddiol i gynhyrchu glo golosgi ar gyfer y ffwrneisi chwyth, ond yn ddiweddarach i gloddio glo i'w werthu at ddibenion eraill. Pwll Mawr oedd y pwll glo dwfn olaf i weithio yn ardal Blaenafon, ac mae'r adeiladau ar yr wyneb yn dal i fod bron yn union fel yr oeddynt pan ddaeth cynhyrchiant glo i ben ym 1980. Maent yn dyddio o rhwng diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a tua 1970 ac maent yn nodweddiadol o strwythurau wyneb gwaith glo gweddol fach yn Ne Cymru. Maent heb unrhyw ymhoniadau pensaernol, ac maent yn eithriadol am eu bod yn gyflawn.

Adeiladwyd ty'r peiriant dirwyn ym 1952 fel rhan o welliannau a wnaed yn dilyn gwladoli diwydiant glo Prydain, pan osodwyd peiriant dirwyn trydanol a gyflenwyd gan Gwmni Peiriannau Uskside o Gasnewydd gerllaw. Mae gwaelod cerrig y ty dirwyn yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w weld o hyd. Mae'r banc ben pwll dur presennol yn dyddio o 1921 ac fe'i defnyddid tan 1973 at ddibenion codi glo a than 1976 at ddibenion codi dynion a deunyddiau. Mae'r system ar gyfer dadlwytho wagenni yn cludo glo o'r lefelydd tanddaearol o'r caetshis yn y siafft ac wedyn dadlwytho'r glo yn dal i fod yn gyflawn. Mae adeiladau eraill ar yr wyneb yn cynnwys ty gwyntyll, ty cywasgydd, ty peiriant halio a ddarparai bwer ar gyfer symud wagenni mewn mwynglawdd drifft, siop asio a ffitio, gefail, bloc stablau, gweithdy trydanwr, melin lifio ar gyfer pyst pwll, swyddfeydd y rheolwr a'r is-reolwr a thy powdwr ar wahn. Ar y llethr uwchlaw'r prif grwp o adeiladau ceir baddondai a ffreutur y mwyngloddwyr, a agorodd ym 1939. Yn debyg i bron pob adeilad o'r fath mewn gweithfeydd glo ym Mhrydain, fe'i hadeiladwyd yn yr arddull Fodernaidd Ryngwladol a ddeilliai o adeiladau cynharach a godwyd yn yr Iseldiroedd, arddull a ffefrid gan benseiri Pwyllgor Lles y Mwyngloddwyr o 1924 ymlaen. Dyma'r unig faddondy yn dyddio o'r cyfnod cyn y Rhyfel sydd wedi cadw ei gypyrddau awyr twym ar gyfer sychu dillad, ei giwbiclau cawod, ei frwshys esgidiau awtomatig, ei ffreutur a'i ystafell feddygol. Fe'i hystyrir yn un o'r enghreifftiau gorau yn unrhyw le o'r math pwysig hwn o adeilad.

Mae Pwll Mawr yn un o ddim ond dwy amgueddfa lofaol yn y Deyrnas Unedig lle y mae modd mynd ag ymwelwyr dan ddaear. Ar l ildio unrhyw nwyddau gwaharddedig, tybaco, matsis, ac unrhyw ddyfeisiau electronig, eir ag ymwelwyr yn y caetsh i lawr y siafft a gloddiwyd ym 1860 i amrywiaeth o lefelydd, y mae rhai ohonynt yn dyddio o'r 1830au. Mae'n bosibl gweld y system awyru a ddefnyddid yn y pwll glo, a'r mathau o ddrysau awyru a weithid gan blant llai na deng mlwydd oed nes ei gwneud yn anghyfreithlon i'w cyflogi ym 1842. Gellir gweld hefyd peiriant halio mawr yn dyddio o'r ugeinfed ganrif a ddefnyddid i halio wagenni ar hyd y ffyrdd, y system gyfathrebu o lefelydd i waelod y pwll trwy gyfrwng gwifrau, y llif sylweddol o ddwr a ddeuai o'r pwll glo, y stablau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer merlod a arferai weithio dan ddaear, a thystiolaeth o'r dulliau cloddio a ddefnyddiwyd yn ystod blynyddoedd olaf gweithrediad y pwll. Ar ben hynny gall arbenigwyr gael mynediad i Lefel yr Afon, sy'n darparu mynediad brys i'r pwll glo o fan gerllaw Afon Llwyd, ty peiriant ager tanddaearol yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a lefelydd eraill.

Mae Pwll Mawr yn safle gwaith glo eithriadol o gyflawn. Nid yw ar yr un raddfa phwll glo mawr iawn megis Lady Victoria yn Newtongrange, ac nid yw'n meddu ar grandrwydd pensaernol mwyngloddiau tebyg i'r Zollern XII yn Essen, ond mae ei faint cryno yn cyfuno 'i gyflawnrwydd a'i gynrychioldeb i'w wneud yn un o'r mannau gorau yn y byd i feithrin dealltwriaeth o brosesau mwyngloddio hanesyddol.

Yn l i'r brig

Ffynonellau Glo, Mwyn Haearn a Chalchfaen: y Dirwedd i'r Gogledd o'r Gwaith Haearn

Mae'r dirwedd i'r gogledd o Waith Haearn Blaenafon yn cynnwys un o gofebau hanesyddol mwyaf gwerthfawr yr ardal. Mae'n bosibl o fewn yr ardal hon feithrin dealltwriaeth o'r modd y cafwyd yr holl ddeunyddiau crai yr oedd eu hangen i wneud haearn - sef glo, mwyn haearn, clai tn a chalchfaen. Ar yr olwg gyntaf ymddengys fod yr ardaloedd o amgylch Garn-yr-erw, Pwll-Du a Phen-ffordd-goch yn hollol ddi-drefn, nad ydynt yn ddim amgenach na thomenni sbwriel wedi'u gosod yma ac acw (ee Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 006, 008, 009, 010, 011). Fodd bynnag, o edrych arnynt yn fanylach amlygir tystiolaeth o'r cyfnodau cynharaf o weithgarwch cloddio a chwarelu yn yr ardal, perthnasau gam wrth gam, a phatrymau o weithgarwch cloddio mwynau dros sawl cenhedlaeth. Canfuwyd glo, clai tn a nodiwlau mwyn haearn gyda'i gilydd yng nghystradau glo dyffryn Afon Llwyd ac ar ben y mynydd (ee Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 003, 005, 006, 008, 009, 010, a 020). Daethpwyd chalchfaen o'r darren ar ochr ogleddol Pwll-Du a'r Blorens (HLCA011 yn bennaf).

Mae un o'r ardaloedd o weithfeydd cloddio haenau glo sydd wedi'i chadw orau, sef honno ym Mhen-ffordd-goch, yn Heneb Gofrestredig sy'n ymestyn dros ardal ag arwynebedd o 40 hectar (HLCA009). Mae llawer o dystiolaeth o weithgarwch hysio neu sgwrio, y broses o gronni dwr gan ddefnyddio argaeau a'i ryddhau wedyn i ddatguddio gwythiennau trwy gael gwared gorlwyth, neu i olchi pentyrrau o fwyn o fynedfeydd. Mae'n debyg bod y gweithgarwch hwn yn cael ei gyflawni cyn yr ail ganrif ar bymtheg ac iddo ehangu yn ystod dau ddegawd cyntaf Gwaith Haearn Blaenafon. Fodd bynnag, gwyddom i weithgarwch sgwrio ddod i ben erbyn 1817 pan adeiladwyd y gronfa ddwr gerllaw, gan ddyddio'r nodweddion sydd wedi goroesi yn bendant i gyfnod cyn y dyddiad hwnnw. Mae un sgwrfa benodol a gofnodwyd yn dilyn brigiad deheuol yr haenau glo i'r de-ddwyrain o'r ffordd i Lanelen trwy Gefn-y-lan i Ffordd y Fenni. Ceir olion pyllau ym mhen y sgwrfa hon, ac ar hyd-ddi o'r naill ben i'r llall fe'i cyflenwid dwr o fwyngloddiau mynedfa. Mae'n debyg iddi gael ei defnyddio dros gyfnod hir ar gyfer golchi mwyn o lefelydd. Dengys tystiolaeth mapiau yn dyddio o tua 1812 nifer fawr o fynedfeydd, neu fwyngloddiau llorweddol ym mynd i mewn i'r llethrau yn yr ardal hon, yr enwyd llawer ohonynt ar l mwyngloddwyr unigol. Mae'r unigoliaeth hon yn nodweddiadol o ddatblygiad gweithgarwch cloddio glo a haearn ledled De Cymru. I'r de o Ben-ffordd-goch ceir nifer fawr o byllau cloch, enghreifftiau o'r math mwyaf cyntefig o fwynglawdd siafft, y mae'r dystiolaeth sy'n goroesi ohono fel arfer ar ffurf pant sip soser, sy'n nodi safle'r siafft, yng nghanol y sbwriel a arllwyswyd o'i amgylch. Mae olion pyllau hysio, ffrydiau a'i cyflenwai dwr, tomenni sip troed brn o ddeunyddiau gwastraff, mynedfeydd sydd wedi cwympo i weithfeydd cloddio, gwrthgloddiau rheilffyrdd cyntefig a adawyd, pantiau yn nodi bod systemau mwyngloddio piler a ffos lo i'w cael oddi tano, a safle peiriant pwyso hefyd i'w gweld yn yr ardal.

Dengys nifer o safleoedd cloddio glo a haearn ledled yr ardal y dull gweithio a'r amgylchiadau gwaith mewn gweithfeydd mwyngloddio brig, mynedfeydd a mwyngloddiau siafft cyntefig. Mae'n debyg i weithgarwch cloddio brigiadau ar yr wyneb a'r defnydd o byllau cloch barhau tan y 1860au pan ysgrifennodd AJ Munby, y sylwebydd ar Ferched sy'n Gweithio, am y merched cadarn a diofn a fu'n gweithio yn y mwyngloddiau mynydd hynny'. O'r mwyngloddiau mynedfa yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gymerodd eu henwau o'r mwyngloddwyr a fu'n eu gweithio, lefel Aaron Brute rhwng y Ffwrneisi a Forgeside (HLCA003), sy'n Heneb Gofrestredig, yw'r un yr ydym yn gwybod fwyaf amdani a'r un hawsaf i'w hadnabod. Gwyddom fod y fynedfa i'r lefel wedi goroesi, ac yn agos ati saif pont haearn yn dyddio o'r cyfnod cyn 1832 a gariai'r rheilffordd gyntefig a arweiniai o'r mwynglawdd i'r Gwaith Haearn. Cydnabuwyd pwysigrwydd y nifer fawr o bontydd yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gariai reilffyrdd cyntefig yn Ne Cymru yn astudiaeth TICCIH/ICOMOS o bontydd a olygwyd gan bennaeth y Cofnod Peirianneg Americanaidd Hanesyddol ac a gyhoeddwyd ym 1996. Roedd lefel Aaron Brute yn nodweddiadol o lawer o weithfeydd cloddio ym Mlaenafon, ond gwyddom ychydig yn fwy am Aaron Brute nag am y mwyafrif o fwyngloddwyr. Saer maen a chontractwr adeiladau ydoedd, a phregethwr yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Cloddiodd y lefel rywbryd rhwng 1812 a'i farwolaeth ym 1818, ac adeiladodd hefyd dai ar hyd Brute's Road, ar ei dir rhyddfraint ei hun. Roedd y lefel wedi gorffen cynhyrchu mwyn haearn erbyn 1843.

Mae olion wedi goroesi o'r mwynglawdd siafft cynharaf ym Mlaenafon, sef Engine Pit yn dyddio o tua 1806, a gofrestrwyd yn ddiweddar fel heneb (HLCA0021). Mae olion sylweddol Hill's Pits yng Ngarn-yr-erw (HLCA009), a gloddiwyd rhwng 1839 a 1844 i ddarparu glo a mwyn haearn ar gyfer y Gwaith Haearn ac a weithiwyd tan 1893, yn darparu tystiolaeth o dechnoleg mwyngloddio ddiweddarach, fwy datblygedig. Y cofadail eithriadol yw'r simnai gerrig, sydd wedi goroesi hyd at uchder o 6m ac a wasanaethai foeleri'r peiriant dirwyn. O bob tu iddi ceir olion y ty injan a lleiniau o dir yn gysylltiedig bythynnod y glowyr. Mae cyfadail Hill's Pits hefyd yn cynnwys ffrm haearn bwrw peiriant brecio inclein rheilffordd gyntefig, a adeiladwyd tua'r adeg y daeth y gwaith glo yn weithredol, fel rhan o lwybr a ddefnyddid i gludo glo i Waith Haearn Blaenafon. Mae olion sylweddol yn gysylltiedig 'r offer brecio. Roedd y math hwn o inclein yn gyffredin yn Nyffrynnoedd De Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond dyma'r unig enghraifft yn y rhanbarth sydd wedi cadw rhannau o'i systemau dirwyn a brecio llorweddol.

Mae'r ardal i'r gogledd o'r Gwaith Haearn hefyd yn darparu tystiolaeth o'r modd y cafwyd calchfaen, a ddefnyddid fel toddydd yn y broses gwneud haearn. Roedd y prif chwareli ym Mhwll-Du ym mlaen Cwm Llanwenarth, ac yn y Tyla i'r gorllewin. Roedd chwareli cynharach, llai o faint eraill ar y Blorens hefyd (HLCA011). Roedd chwarel Pwll Du ar waith yn ei ffurf bresennol fwy neu lai erbyn 1819, ac fe'i cadwyd mewn cyflwr eithriadol o dda. Ei phrif gofadail diwydiannol yw siafft system lifft cydbwyso dwr, y ci wagenni wedi'u llwytho chalchfaen eu codi trwyddi i reilffordd gyntefig ar lefel uwch. Mae twnnel llorweddol yn cysylltu'r siafft llawr y chwarel, ac mae tystiolaeth wedi goroesi o system o gyrsiau dwr a chronfeydd dwr, a gyflenwai'r offer codi dwr. Cyflenwid calchfaen o chwarel Pwll-Du i odynau calch ar hyd Camlas Brycheiniog a'r Fenni yn ogystal ag i'r gwaith haearn. Mae arwyddion terfyn o haearn bwrw i'w gweld o hyd ar lawr y chwarel. Daeth gweithgarwch cloddio calchfaen i ben cyn 1860 ac mae ffurf y chwarel, ei rheilffyrdd a'i thomenni, yn adlewyrchu'r defnydd a wnaed ohono ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae chwarel Pwll-Du yn Heneb Gofrestredig. Ar ben hynny mae gan chwareli'r Tyla a'r Blorens olion helaeth a deongliadol yn gysylltiedig gweithgarwch chwarelu yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae'r llethrau agored yn darparu llawer o dystiolaeth arall o'r gorffennol diwydiannol. Ceir ty powdwr hirsgwar yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, lle y ci ffrwydron i'w defnyddio mewn chwareli a mwyngloddiau eu storio. Ar ben y mynydd ceir carreg wedi'i marcio 'B' ac 'M' ar y ffin rhwng Sir Frycheiniog a Sir Fynwy, a oedd yn arwydd hanfodol bwysig yn nodi terfynau prydles Gwaith Haearn Blaenafon. Ceir hefyd olion sefydliadau gwneud brics ar y llethr uwchben Blaenafon, yn ogystal nifer ddi-rif o bethau sy'n dwyn i gof gynhyrchion y gwneuthurwyr brics ar ffurf y brics tn y ffwrneisi chwyth, waliau'r bythynnod a'r adeiladau cyhoeddus, a'r waliau terfyn a adeiladwyd o frics di-sip a deunydd gwastraff arall. Gwneud brics oedd y brif gyflogaeth ar gyfer merched ifanc ym Mlaenafon yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mewn rhannau o'r dirwedd, yn arbennig gerllaw Pwll-Du, gorchuddir y gweithfeydd cloddio yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan domenni gwastraff o weithfeydd cloddio glo ar yr wyneb yn dyddio o'r 1940au. Nid oes unrhyw enghreifftiau o weithgarwch cloddio glo brig gan ddefnyddio offer symud pridd ar raddfa fawr ym Mhrydain cyn yr Ail Ryfel Byd, er ei fod yn gyffredin yn yr Almaen ac Unol Daleithiau America, ac er y defnyddid dulliau tebyg ar gyfer cloddio mwyn haearn mewn llawer o leoedd yng Nghanolbarth Lloegr. Dechreuodd gweithgarwch mwyngloddio ar yr wyneb ym mis Tachwedd 1941, gan ddefnyddio peiriannau o Unol Daleithiau America a rhai a oedd wedi'u dwyn i Dde Cymru o Banama. Cynhyrchwyd 1.3 miliwn o dunelli o lo ym 1942, a chododd cynhyrchiant i uchafbwynt o 8.65 miliwn o dunelli ym 1944. Cyfatebai hyn i bron 5% o gyfanswm cynhyrchiant glo ym Mhrydain, ac ystyrid iddo chwarae 'rhan hanfodol bwysig o ran mantoli'r gyllideb lo genedlaethol yn ystod blynyddoedd olaf y rhyfel' am iddo ganiatu cyflenwi glo ager hanfodol yn gyflym gan wneud iawn am y cynhyrchiant a gollwyd yn y mathau hynny o lo yn ystod y 1920au a'r 1930au. Cynorthwywyd datblygiad cynnar gweithgarwch mwyngloddio brig gan filwyr byddin Canada a oedd wedi lleoli ym Mhrydain a ddarparai ddriliau diemwnt a'r arbenigedd yr oedd ei angen i'w gweithio. Mae'n arwyddocaol y gelwir rhai o'r dyddodion gwastraff ym Mhwll-Du yn 'Domenni Canada'. Cofnodwyd gweithrediadau mwyngloddio brig ym Mlaenafon yn drawiadol ym 1943 trwy gyfrwng cyfres o baentiadau a lluniau gan Graham Sutherland yn ei rl fel Arlunydd Rhyfel swyddogol. Nid adferwyd y tir yr effeithiwyd arno gan weithgarwch mwyngloddio brig yn y 1940au erioed, am y byddai wedi cael ei weithio ar l yr Ail Ryfel Byd, ac mae'r ffosydd syml a'r tomenni eu hunain yn dystiolaeth o'r cyfnod penodol hwnnw yn hanes Prydain. Credir mai'r rhain yw'r unig weithfeydd mwyngloddio brig cynnar sydd wedi goroesi heb eu hadfer, sy'n ei gwneud yn bosibl i ni ddeall y broses o symud gorlwyth a'r cyferbyniad o ran maint gweithfeydd cynharach.

Mae'r ardal i'r gogledd o Waith Haearn Blaenafon yn cynnwys tirwedd o waith datblygu dilyffethair, lle y defnyddiai dynion a merched offer llaw syml i grafu o'r ddaear y deunyddiau, a gi eu bwydo i'r ffwrneisi. Mae tirwedd Blaenafon yn gofeb i gyfnod penodol o hanes dynol; a thirwedd ydyw y mae llawer i'w dysgu ohoni, sy'n arbennig o berthnasol efallai yn y gwledydd hynny sy'n mynd trwy broses ddiwydiannu ar raddfa fawr. Gallwn ddefnyddio'r ardal i ail-greu profiadau cyfnodau cyntaf gweithgarwch gwneud haearn ar raddfa fawr. Gallwn edmygu craffter dychmygus yr entrepreneuriaid ym Mlaenafon, a chydymdeimlo dioddefaint a stoiciaeth eu cyflogeion.

Yn l i'r brig

Systemau Trafnidiaeth: Camlesi a Rheilffyrdd Cyntefig

Roedd gwella'r systemau trafnidiaeth yn un o elfennau allweddol y Chwyldro Diwydiannol ac roedd yn hanfodol bwysig i lwyddiant y diwydiannau glo a haearn o ran cludo eu nwyddau swmpus a'u galluogi i ddatblygu rhanbarthau newydd. Roedd datblygiad rhwydweithiau dwys o gamlesi diwydiannol yn arbennig a datblygiad rheilffyrdd cyntefig integredig yn ganolog i'r Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain, yn arbennig yn y cyfnod o'r 1780au hyd y 1830au. Ceir llawer o dystiolaeth o hyd yn y dirwedd o'r systemau trafnidiaeth a ddefnyddid i gyflenwi Gwaith Haearn Blaenafon deunyddiau crai ac i gludo ei gynnyrch i'r arfordir. Disodlodd y rhain gyfres o dramffyrdd cyntefig y mae eu holion i'w gweld o hyd, a bu iddynt barhau i ddatblygu dros sawl cenhedlaeth.

Yn ddiau roedd y posibilrwydd o sefydlu cysylltiad phorthladd Casnewydd trwy Gamlas Sir Fynwy yn un o'r ffactorau a arweiniodd Hill, Hopkins a Pratt i sefydlu'r gwaith haearn yn y cyfryw leoliad ym 1789, ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd y gamlas newydd o fewn 6km i'r gwaith, gan ddarparu dull swmpgludo rhad am y rhan fwyaf o'r ffordd i'r mr. Buddsoddodd Hill gryn dipyn o arian yn y gamlas, a gwblhawyd hyd at Bontnewynydd ar ddechrau'r 1790au ac a gysylltwyd yn uniongyrchol 'r Gwaith Haearn gan reilffordd gyntefig a weithid gan geffylau ym 1795. Mae pont yn perthyn i'r rheilffordd hon a llawer o rannau adnabyddadwy o'i llwybr wedi goroesi o fewn yr ardal.

Ym 1792 hyrwyddwyd Camlas Brycheiniog a'r Fenni gyda'r bwriad o ddarparu dyfrffordd fewndirol i rannau uchaf dyffryn Wysg, ychydig i'r gogledd o Flaenafon, gan gysylltu Chamlas Sir Fynwy ym Mhont-y-moel. Dechreuwyd adeiladu'r gamlas ym 1797, a chwblhawyd rhan gyntaf y gamlas yn yr un flwyddyn. Agorwyd terfynfa ogleddol y gamlas yn Aberhonddu ar gyfer traffig lleol ym 1800, a'r derfynfa i'r gorllewin o Ofilon ym 1805, ond nid tan 1812 y cwblhawyd y rhan o'r gamlas trwy Lan-ffwyst (HLCA015) i'r gyffordd ym Mhont-y-moel. Cynigiai'r gamlas lwybr rhatach i'r mr a daeth yn rhan bwysig o dirwedd gysylltiedig Gwaith Haearn Blaenafon. Cymerodd y Cwmni dir ar brydles ar gyfer dwy lanfa ar y rhan o'r gamlas a leolir agosaf at y Gwaith Haearn yn Llan-ffwyst a Gofilon. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r gamlas ym 1930, ond mae wedi'i hadfywio bellach fel dyfrffordd boblogaidd ar gyfer gwyliau hwylio, er nad oes ganddi unrhyw gysylltiad ag unrhyw rannau eraill o'r rhwydwaith mordwyo mewnol ym Mhrydain.

Y basn yn Llan-ffwyst, a leolir ar ochr y mynydd, ac a gyrhaeddir i fyny llwybr serth, yw nodwedd eithriadol Camlas Brycheiniog a'r Fenni o fewn y Dirwedd Hanesyddol a Safle Treftadaeth y Byd. Dyma oedd terfynfa'r rheilffordd gyntefig a adeiladwyd gan Thomas Hill ac a gwblhawyd ym 1817. Fel hyn gobeithiai Cwmni Blaenafon osgoi'r tollau uchel a godid gan Gamlas Sir Fynwy, a chyrraedd marchnadoedd ar gyfer ei lo yn rhan uchaf Dyffryn Wysg ac i'r dwyrain ar draws y ffin Lloegr yn Swydd Henffordd. Mae warws sylweddol ar gyfer storio haearn crai a barrau a blymau o haearn gyrru cyn iddynt gael eu llwytho ar gychod camlas. Mae'r warws ar ddau lawr ac mae rheilffordd yn darparu mynediad uniongyrchol iddo o'r dramffordd. Mae twnnel o dan y gamlas, tua 33.6m o hyd, i ddarparu ar gyfer hen ffordd y plwyf. Mae pont ar gyfer tramffordd Hill a adeiladwyd o blatiau haearn bwrw yn croesi'r gamlas wedi'i chynnal gan drawstiau trychiad T o haearn bwrw. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r lanfa yn y 1860au ac erbyn hyn canolfan ydyw ar gyfer cychod mordwyo. Mae pob un o'r prif strwythurau yn y lanfa yn rhestredig, a chydnabuwyd pwysigrwydd rhyngwladol y safle yn hanes dyfrffosydd fel enghraifft gynnar o gyfnewidfa camlas/rheilffordd yn yr adroddiad ar Gofebau Camlas a baratowyd ar gyfer confensiwn Treftadaeth y Byd gan TICCIH ac a gyhoeddwyd ym 1996.

Cymerodd Thomas Hill o Flaenafon dir ar y gamlas ar brydles hefyd ar gyfer y Gwaith Haearn ychydig flynyddoedd ynghynt, ym 1815, yng Ngofilon (HLCA014) lle y mae'r ffordd o Flaenafon i'r Fenni yn croesi'r gamlas. Cafodd ganiatd i adeiladu warws, a chredir mai adeilad bach ar lan y gamlas, sydd bellach yn rhestredig, yw'r strwythur hwn. Ar l adeiladu glanfa Llan-ffwyst, daeth glanfa Gofilon yn derfynfa i Dramffordd Bailey, rheilffordd gyntefig a adeiladwyd gan y meistr haearn Crawshay Bailey ym 1821 i gysylltu ei waith haearn yn Nant-y-glo 'r gamlas. Mae'r warws tri llawr o gerrig llanw a adeiladwyd gan Bailey tua 1821 yn rhestredig, ac mae'n bosibl gweld tystiolaeth o'r modd y darparwyd ar gyfer y rheilffordd yn y lanfa gyda bwa i mewn i'r adeilad. Yn y coetir i'r de-orllewin o Ofilon ceir pont un bwa o gerrig llanw a adeiladwyd i gario'r rheilffordd ar draws nant Cwm Llanwenarth, sy'n Heneb Gofrestredig. Saif grwp pwysig o odynau calch gerllaw'r gamlas hefyd.

Yn ogystal 'r adeiladau yn y ddwy lanfa, diogelwyd pob un o brif nodweddion Camlas Brycheiniog a'r Fenni o fewn y Dirwedd Hanesyddol a Safle Treftadaeth y Byd drwy eu rhestru. Maent yn cynnwys pontydd (Rhifau 95-99), y mae pob un wedi'i hadeiladu o gerrig llanw ac yn dyddio o flynyddoedd cynnar y gamlas, sawl rhan o ddyfrbont argloddiedig, ac olion tair odyn galch.

Gwasanaethid Gwaith Haearn Blaenafon gan rwydwaith dwys o reilffyrdd, a ddatblygodd o'r 1780au ymlaen, a gludai galchfaen, glo a mwyn haearn i'r gwaith, ac a'i cysylltai 'r camlesi. Chwaraeodd De Cymru ran bwysig yn natblygiad y rheilffordd bryd hynny, o enghreifftiau cynharach o reilffyrdd chledrau pren i reilffyrdd cyhoeddus y 1830au ac ar l hynny. Cafwyd datblygiadau mewn ymagweddau peirianneg sifil, cynllun traciau a'u gwely, dulliau halio a threfniadaeth weinyddol. Adlewyrchir llawer o'r rhain mewn rheilffyrdd sydd wedi goroesi ym Mlaenafon.

Mae'r rheilffordd gyntefig a adeiladwyd gan Thomas Hill yn y blynyddoedd ar l iddo ddechrau rheoli Gwaith Haearn Blaenafon ym 1812, a elwir yn Dramffordd Hill (Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 011 a 013), yn cynnig llawer o wybodaeth am gyfnod pwysig o ddatblygiad technolegol, yn ogystal thystiolaeth o hanes Cwmni Blaenafon. Nid yn unig y sefydlodd y rheilffordd gysylltiad Chamlas Brycheiniog a'r Fenni, ond gwellodd y dull o gludo mwyn a chalchfaen i'r Gwaith Haearn o'r gogledd, a'i gwneud yn bosibl i gludo haearn crai o'r ffwrneisi i'r efail a agorwyd yng Ngarn-Ddyrys ym 1817, lle y ci ei droi'n haearn gyrru (HLCA011). Mae dilyn y llwybr troed ar hyd cwrs y rheilffordd gyntefig, ar derasau sydd ymron yn wastad, a adeiladwyd yn feiddgar ar lethrau serth, yn brofiad gwefreiddiol.

Ar y mwyafrif o'r hydoedd o'r rheilffordd mae'r blociau cerrig yr oedd y cledrau wedi'u gosod arnynt yn dal i fod yn eu lle. Mae'r llwybr yn cynnwys cysylltiadau chwareli calchfaen ym Mhwll-Du a Thyla a'r efail yng Ngarn-ddyrys. Mae cyfres o blanau ar oleddf wedi'u gwrthbwyso yn mynd 'r rheilffordd i lawr y mynydd i Lan-ffwyst. Y twnnel o dan y mynydd ym Mhwll-Du a fesurai 2,400m o hyd oedd y twnnel hwyaf erioed a adeiladwyd ar gyfer rheilffordd lle y tynnid y wagenni gan geffylau ym Mhrydain. Fe'i datblygwyd o lefel gloddio gynharach a oedd eisoes tua 1,000m o hyd ym 1800. Gelwir y ffordd ddynesu ddeheuol at y twnnel, yn eironig, yn Marble Arch, ac mae'n Heneb Gofrestredig. Mae arwydd terfyn haearn bwrw o eiddo Cwmni Blaenafon yn dal i fod yn ei le gerllaw un o'r ddau borth gogleddol, a gaewyd waliau cerrig.

Credir bod y rhan fwyaf o'r twnnel yn dal i fod yn gyflawn o dan ddaear a bwriedir cynnal archwiliad ac arolwg. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r rhan fwyaf o Dramffordd Hill yn y 1850au pan sefydlwyd cysylltiadau rheilffordd y brif linell rhwng Blaenafon a Chasnewydd. Cydnabuwyd pwysigrwydd Tramffordd Hill trwy ei chynnwys ar restr o reilffyrdd o bwys rhyngwladol a luniwyd o ganlyniad i flwyddyn o ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Caerefrog ac fe'i cadarnhawyd mewn cyfarfod o arbenigwyr o amrywiaeth o wledydd yn yr Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol yng ngwanwyn 1998.

Mae llawer o olion eraill yn gysylltiedig systemau rheilffordd cyntefig yn ardal Blaenafon. Mae blociau cerrig, sliperi o haearn bwrw a chledrau o haearn gyrru a haearn bwrw i'w gweld o hyd o welyau traciau a thomenni gwastraff. Mae llawer o'r arteffactau hyn wedi'u symud ac wedi'u cadw fel tystiolaeth bwysig o ddatblygiad rheilffyrdd. Mae pontydd o gerrig a haearn bwrw wedi goroesi a nodwyd lleoliad traphont reilffordd amlfwaog gyntaf y byd efallai, a adeiladwyd tua 1790, yn ddiweddar. Gellir dilyn llwybr llawer o reilffyrdd a gellir gwerthfawrogi natur ddwys y rhwydwaith a ddatblygwyd. Ad-drefnwyd system reilffordd gyntefig Cwmni Blaenafon i raddau helaeth gan y rheolwr Richard Johnson yn y 1850au. Disodlodd dau locomotif ager un ar bymtheg o'r cannoedd o geffylau a oedd gan y Cwmni, a disodlwyd cledrau sip L o haearn bwrw a oedd wedi'u gosod ar flociau cerrig neu sliperi haearn bwrw gan gledrau o haearn gyrru ar sliperi pren. Adeiladwyd inclein ddwbl lle y tynnid y wagenni gan ddefnyddio pwer ager tua 1850 ar draws y mynydd i gymryd lle twnnel Pwll-Du (Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 006 a 011). Mae'r rhwydwaith rheilffordd sydd ar l o fewn Gwaith Haearn Blaenafon wedi cadw llawer o'i chledrau yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n darparu tystiolaeth werthfawr o dechnoleg reilffordd y cyfnod hwnnw.

O ganol y 1850au, daeth Blaenafon, yn debyg i'r mwyafrif o drefi yn Ewrop, i ddibynnu ar reilffyrdd lled safonol wedi'u gyrru gan ager i gludo teithwyr a nwyddau. Mae'n briodol yr arddangosir dull gweithredu'r cyfryw reilffyrdd ar ddarn byr o linell gadwedig (HLCA008) a leolir rhwng Gwaith Haearn Blaenafon a Phwll Mawr.

Yn l i'r brig

Rheoli Adnoddau Dwr

Roedd y ffwrneisi chwyth ym Mlaenafon ymhlith y rhai cyntaf yn unrhyw le i gael eu chwythu gan rym ager yn hytrach na chan weithrediad olwyn dwr. Fodd bynnag, roedd dwr yn hanfodol yng ngweithrediadau'r Cwmni Haearn a gellir gweld tystiolaeth o'r ffyrdd y'i defnyddid yn y dirwedd drwyddi draw.

Mewn lleoliad ucheldirol yn debyg i un Blaenafon, a leolir yn uchel ar y cefn deuddwr, roedd rheoli dwr yn ofalus yn hanfodol bwysig i ddarparu cyflenwad digonol a dibynadwy, hyd yn oed mewn cyfnodau o sychder, i weithio lifftiau cydbwyso dwr, cyflawni gweithgarwch sgwrio, a bwydo peiriannau ager. Roedd systemau draenio dwr wyneb a dwr tanddaearol hefyd o'r pwys pennaf ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio. Gellir gweld cyrsiau dwr a draeniau mewn llawer o leoedd ar y bryniau uwchben Blaenafon, sydd yn aml yn gysylltiedig 'i gilydd sy'n caniatu pennu dyddiadau cymharol. Gerllaw pob un o'r siafftiau mwynglawdd ceir cronfeydd dwr bach ar gyfer cyflenwi systemau cydbwyso dwr a pheiriannau ager, a gyflenwid gan lawer o gilometrau o gyrsiau dwr, a fu hefyd yn fodd i ddraenio'r wyneb.

Defnyddiai Engine Pit (HLCA 021) olwynion dwr tanddaearol a pheiriant ager i godi dwr i fynedfa ddraenio, gan alluogi defnyddio systemau cydbwyso dwr mewn siafftiau yn uwch i fyny. Roedd gan efeiliau Cwmafon (HLCA018) a Garn-ddyrys (HLCA011) feginau a morthwylion a yrrid grym dwr. Mae'r gronfa ddwr, a gyflenwai ddwr i Garn-Ddyrys, yn nodwedd amlwg yn y dirwedd ym Mhen-ffordd-goch. Mae'r gronfa ddwr, a wasanaethai lifft gydbwyso chwarel Pwll-Du, hefyd i'w gweld yn glir ac mae'n rhan o'r safle cofrestredig. Uwchlaw Pwll Mawr, ar ochr Mynydd Coety, adeiladwyd Pwll Coety (HLCA004) ym 1839 fel cronfa ddwr y cyflenwid y boeleri ar gyfer y peiriannau ager yn Forgeside dwr ohoni. Defnyddid dwr i weithio'r lifft gydbwyso yng Ngwaith Haearn Blaenafon hefyd.

Mae'n amlwg bod rheoli dwr yn effeithiol yn un o brif lwyddiannau'r rhai a sefydlodd ac a gynhaliodd ddiwydiannau Blaenafon.

Yn l i'r brig

Integreiddio Unionsyth: Gwaith Gofannu fel rhan o'r Diwydiant Haearn

Cynhyrchai'r ffwrneisi chwyth yng Ngwaith Haearn Blaenafon haearn crai, math o haearn bwrw, sy'n cynnwys tua 4% o garbon, y gellir ei fwrw mewn mowldiau, sy'n gryf pan fo ar ffurf gywasgedig ond yn wan pan fo ar ffurf estynedig. Roedd y galw mwyaf ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg am haearn gyrru a gynhyrchid trwy buro'r cynnyrch ymhellach, math cemegol bur o'r metel, sy'n wan pan fo ar ffurf gywasgedig ond yn gryf pan fo ar ffurf estynedig. Tan y 1770au, roedd y broses o wneud haearn gyrru o haearn bwrw yn cynnwys defnyddio golosg. Y broses gyntaf a ddefnyddiai lo yn unig oedd y dull 'stampio a photio' fel y'i gelwid, a batentwyd ym 1772. Patentwyd y dull arall, sef pwdlo, lle y ci haearn bwrw ei doddi mewn ffwrnais atseiniol, wedyn ei droi a'i weithio nes iddo adweithio yn wyllt gan gynhyrchu fflamau glas a dechrau edrych fel pwti, pryd y ci ei forthwylio o dan forthwyl trwm, gan Henry Cort o Fontley Forge yn Hampshire ym 1784. Mabwysiadwyd proses Cort ar raddfa eang yn Ne Cymru ac roedd yn gyfrifol am lwyddiant y rhanbarth o ran cynyddu cynhyrchiant haearn gyrru yn gyflym nes mai hi oedd ei brif gyflenwr. Ceir olion sylweddol yn gysylltiedig thair gefail yn dyddio o wahanol gyfnodau yn ardal Blaenafon.

Daeth yr efail yng Ngarn-Ddyrys (HLCA011), gerllaw'r rheilffordd gyntefig a adeiladwyd gan Thomas Hill i gysylltu Blaenafon Chamlas Brycheiniog a'r Fenni yng Nglanfa Llan-ffwyst, yn weithredol ym 1817. Ci haearn crai o Waith Haearn Blaenafon ei gludo trwy'r twnnel ym Mhwll-Du i Garn-Ddyrys i gael ei wneud yn haearn gyrru, a gi ei gludo ar hyd y rheilffordd i'r gamlas. Roedd yr efail yn gwneud tua 200 o dunelli o haearn yr wythnos ar ddechrau'r 1850au. Fe'i caewyd ar ddechrau'r 1860au ar l sefydlu gwaith y Cwmni yn Forgeside. Saif yr efail ar lethr llwm ar uchder o ryw 400m. Mae prif nodweddion y safle yn cynnwys rhai blociau hynod gerfluniol o wastraff soled o'r broses gwneud haearn, y mae un ohonynt yn 4m o uchder, olion y pyllau a oedd yn rhan o system grym dwr yr efail, adfeilion ty rheolwr a bythynnod gweithwyr, ac olion cysylltiadau'r rheilffordd cyntefig 'r safle, gan gynnwys twnnel cyflawn a adeiladwyd i gario Tramffordd Hill o dan domenni sorod. Datgelodd gwaith cloddio gan archeolegwyr ym 1970 sylfeini ffwrnais bwdlo ac olion tanddaearol eraill, pyllau olwynion dwr, ffwrneisi a melinau rholio, sy'n gyflawn i raddau helaeth. Mae Garn-Ddyrys yn cynnig potensial archeolegol mawr i wella ein dealltwriaeth o ddatblygiad prosesau pwdlo a rholio ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r efail, ynghyd 'r darn o reilffordd gyntefig gerllaw yn Heneb Gofrestredig.

I'r de o dref Blaenafon mae Cwmafon (HLCA018), lle'r oedd gefail a oedd wedi'i chysylltu Gwaith Haearn Blaenafon, a ddefnyddiai'r broses bwdlo yn l pob tebyg, a oedd yn weithredol o tua 1804. Ymddengys fod ei gyfnod cyntaf o weithgarwch yn eithaf byr, ond fe'i hadfywiwyd yn y 1820au, ac o hynny allan roedd yn gysylltiedig gwaith haearn y Farteg i'r gorllewin. Roedd adeiladau gefail yn ansylweddol fel arfer, ac nid oes unrhyw olion ar wyneb y ddaear yng Nghwmafon, ond ni ddatblygwyd y safle ac mae olion cyflenwad dwr yr efail yn gyflawn. Atgyweiriwyd teras a gynhwysai ddeuddeg annedd yn wreiddiol, a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr yr efail tua 1804, gan Ymddiriedolaeth Adeiladau Hanesyddol Prydain ym 1987-88, ac fe'i disgrifiwyd fel yr enghraifft orau sydd wedi goroesi o deras o dai gweithwyr yn Nyffrynnoedd De Cymru. Adeiladwyd ty mwy sylweddol, sef Cwmavon House, ar gyfer y meistr haearn a adfywiodd yr efail yn y 1820au. Bryd hynny roedd gan Gwmni'r Farteg ffwndri a gwaith peirianneg ar y safle yng Nghwmafon a allai drydyllu silindrau peiriannau ager. Gwnaed y peiriant trawst pwysig a arddangosir ar gampws Prifysgol Morgannwg ym Mhontypridd yno tua 1840.

Ddiwedd y 1850au sefydlodd Cwmni Blaenafon waith haearn newydd ar yr ochr arall i'r dyffryn o'i ffwrneisi gwreiddiol mewn safle, y daethpwyd i'w alw yn Forgeside (HLCA005). Symudwyd gefeiliau a melinau rholio i'r safle hwn o Garn-Ddyrys. Gallai'r gwaith newydd wneud hyd at 500 o dunelli'r wythnos o reiliau haearn, teiars ar gyfer wagenni a cherbydau rheilffordd, a phlatiau ar gyfer boeleri a llongau. Ym 1868 chwythwyd yn y gyntaf o nifer o ffwrneisi chwyth ar y safle, a phum mlynedd ar l hynny cynhwysai'r safle ddeg ffwrnais chwyth, 89 o ffwrneisi pwdlo ac wyth melin rolio. Ym 1880 dechreuodd y Cwmni wneud dur meddal gan ddefnyddio proses Gilchrist Thomas a ddyfeisiwyd ym Mlaenafon, y gallai'r Cwmni, a neb arall, ei ddefnyddio heb dalu breindaliadau. Mae gwaith Forgeside yn dal i weithio ar raddfa fach mewn adeiladau newydd a rhannau o'r melinau teiars gwreiddiol. Mae adeiladau cynnar eraill wedi goroesi yn cynnwys Coity House, a adeiladwyd yn l pob tebyg rhwng tua 1840 a 1860 ar gyfer rheolwr y gwaith, gorsaf drydan yn dyddio o tua 1920, a'r mwyafrif o'r tai gweithwyr.

Yn l i'r brig

Tref Blaenafon

Roedd y twf yn y boblogaeth yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd yn Ne Cymru, lle'r oedd y mwyafrif o'r gweithfeydd haearn wedi'u lleoli, yn un o'r newidiadau demograffig mwyaf dramatig ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Ar y dechrau darparwyd llety ar gyfer gweithwyr gan y cwmnau haearn lle'r oedd angen eu llafur, a siopau'r cwmnau oedd y brif ffynhonnell nwyddau. Yn raddol datblygodd nifer o drefi poblog gwasanaethau a chyfleusterau trefol canoledig. Roedd ffurf nodweddiadol y trefi hyn yn ddi-drefn, ac fe'i pennwyd gan echelau llwybrau a rheilffyrdd ac argaeledd tir. Mae Blaenafon ymhlith yr enghreifftiau gorau o'r canolfannau trefol hyn a oedd yn datblygu yn Ne Cymru. Crynhodd y bardd Idris Davies waith adeiladu yn yr anhrefn hon:

The daffodils dance in gardens

Behind the grim brown rows,

Built among the slag heaps,

In a hurry long ago.

Daeth bywyd trefol ymhell ar l twf cychwynnol diwydiant ym Mlaenafon. Mae tref Blaenafon yn dyddio i raddau helaeth o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ei hadeiladau yn adlewyrchu'n gryf y diwylliant arbennig a oedd wedi datblygu yn yr ardaloedd gweithio haearn chloddio glo yn Nyffrynnoedd De Cymru. Yr unig gysylltiad pwysig chymdeithas gynddiwydiannol yn yr ardal yw safle Capel Newydd, capel bychan y ceir sn amdano yn gyntaf mewn dogfennau dyddiedig 1577 ac a ddymchwelwyd ym 1863. Mae'r sylfeini sydd wedi'u gorchuddio gan dyweirch wedi goroesi o fewn clostir hirsgwar. Mae'r capel yn Heneb Gofrestredig.

Er bod y dref yn gwbl ddibynnol am ei bywoliaeth ar Gwmni Blaenafon, nid oedd yn 'dref cwmni' yn ystyr arferol y term hwnnw. Tyfodd yn raddol, ac ni ddilynodd gynllun penodol. Yn wir, ymddengys i ran helaeth o'r dref gael ei hadeiladu ar dir, nad oedd yn eiddo i'r Cwmni nac i'w bartneriaid. Yn y 1840au roedd tri phrif glwstwr o adeiladau yn yr ardal lle y saif y dref heddiw, un o amgylch y Gwaith Haearn (HLCA006), un ar hyd yr echel yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, sef King Street bellach (HLCA001), lle'r oedd unrhyw anheddu cynddiwydiannol wedi'i ganoli yn l pob tebyg, ac un o amgylch Eglwys Sant Pedr (HLCA001). Llenwyd y bylchau rhwng y tri chnewyllyn yn raddol ag adeiladau, a ddatblygodd yn dref adnabyddadwy erbyn y 1850au. Roedd enwi'r strydoedd yn y 1860au yn ddatblygiad pwysig.

Mae cysylltiad agos rhwng un grwp o adeiladau a'r genhedlaeth gyntaf o feistri haearn, sef plasty'r meistr haearn, eglwys ac ysgol a adeiladwyd gerllaw Rheilffordd Blaenafon rhwng 1800 a 1816 (HLCA001). Adeiladwyd y plasty, ty cerrig sylweddol a elwid yn Dy Mawr, yn Church Road, tua 1800 gan Samuel Hopkins, mab rheolwr preswyl cyntaf y Gwaith Haearn, a oedd yn un o berchenogion y gwaith haearn ei hun o 1798. Fe'i defnyddid gan gyfarwyddwyr Cwmni Blaenafon fel caban hela tan 1924, pan y'i trowyd yn ysbyty a gynhelid gan danysgrifiadau pobl leol. Mae ei ardd fawr yn y cefn bellach yn goedwig. Mae'r ty yn gartref nyrsio ac yn Adeilad Rhestredig. Cyfeiriwyd eisoes at Coity House yng Ngwaith Forgeside a Cwmavon House fel tai rheolwyr gefeiliau. Gofilon House oedd cartref y perchennog gefail John Harries ym 1819 a Llanfoist House oedd cartref un o'r meistri haearn pwysicaf yn Ne Cymru, sef Crawshay Bailey. Mae'r cyferbyniad rhwng tai'r meistri haearn a thai'r dosbarth cyflogeion i'w weld yn glir. Mae llawer o derasau o dai gweithwyr, yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan welwyd twf yn y boblogaeth ym Mlaenafon, wedi goroesi'n gyflawn. Yn ogystal thref Blaenafon ei hun, ceir rhesi hir o dai yn dyddio o'r 1870au yng Ngarn-yr-erw ac enghreifftiau eraill ar gyrion y dref.

Adeiladwyd Eglwys Sant Pedr yn yr arddull Gothig ym 1804 gan y meistri haearn Thomas Hill a Samuel Hopkins. Claddwyd corff y cyntaf mewn daeargell gerllaw. Mae tu mewn yr eglwys a'i mynwent yn adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant haearn ym Mlaenafon. Mae bedyddfaen o haearn bwrw, sy'n dwyn dyddiad cysegru'r eglwys ym 1805, yn dal i gael ei ddefnyddio, tra cynhelir y galerau gan golofnau o haearn bwrw yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y fynwent ceir tri bedd cist ac arnynt glawr haearn, yn eu plith beddau'r meistr haearn Samuel Hopkins a Thomas Deakin, sef tirfesurydd y Gwaith Haearn. Roedd ficer cyntaf Eglwys Sant Pedr, a benodwyd gan Hill a Hopkins, yn Gymro Cymraeg, sy'n awgrymu i'r genhedlaeth gyntaf o weithwyr haearn gael eu recriwtio o gefn gwlad Cymru.

Gerllaw'r eglwys saif Ysgol Sant Pedr, a adeiladwyd ym 1815-16 er cof am y meistr haearn Samuel Hopkins gan ei chwaer, Sarah Hopkins. Mae arysgrif Ladin ar y ffasd yn cofnodi agor yr ysgol ym 1815. Ymddengys ei bod yn cynnwys dwy ystafell fawr yn wreiddiol, un ar gyfer bechgyn ac un ar gyfer merched. Ychwanegwyd yr Ysgol Fabanod gerllaw ym 1849, ac mae Ysgol Fechgyn Sant Pedr (Canolfan Astudio Ramfield bellach) yn dyddio o 1860, ac ar l y dyddiad hwnnw defnyddiwyd yr adeilad gwreiddiol ar gyfer merched yn unig. Mae Ysgol Sant Pedr yn adeilad ysgol cwmni anarferol o gynnar, yr ysgol gwaith haearn hynaf y gwyddom amdani yng Nghymru. Yn ddiau cymerodd y teulu Darby o Coalbrookdale, teulu o Grynwyr a meistri haearn enwog Ceunant Ironbridge, ddiddordeb yn addysg plant eu gweithwyr yn y ddeunawfed ganrif, ond ni chymerasant gyfrifoldeb am godi adeilad ysgol tan ymhell ar l 1816.

Datblygodd Broad Street (HLCA001) fel canolfan manwerthu a gwasanaethu i'r gogledd o'r ysgol a'r eglwys yn y 1840au a'r 1850au, gan ymestyn dros dir rhyddfraint nad oedd o dan reolaeth Cwmni Blaenafon a chyda'r gwaith datblygu yn cael ei wneud gan ddatblygwyr annibynnol. Ymestynnodd strydoedd o dai newydd a adeiladwyd gan landlordiaid hapfasnachol ar y naill ochr a'r llall i Broad Street yn ystod y 1850au a'r 1860au. Mae'r patrwm adeiladu hwn i'w weld yn glir yn ffurf y dref heddiw, gyda'i phatrwm ychydig yn fwy trefnus a'i safon ychydig yn uwch na'r tai a oedd wedi'i rhagflaenu. Darperir enghraifft arbennig o dda o deras o bum siop yn dyddio o'r cyfnod rhwng canol a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Rifau 15-19 Broad Street; mae'r tai hyn yn dal i fod mewn cyflwr da. Denwyd llawer o swyddogaethau gwasanaethu a manwerthu newydd i gyflenwi poblogaeth Blaenafon a oedd yn cynyddu o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.

Mae capeli niferus Blaenafon yn darparu llawer o dystiolaeth o ddiwylliant y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Megis yn y mwyafrif o gymunedau diwydiannol yn Ne Cymru roedd y capeli yn sefydliadau addysgol pwysig yn ogystal bod yn sefydliadau crefyddol pwysig, a darparent gyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes yn ogystal dysgu plant i ddarllen ac ysgrifennu. Gallai capeli hefyd fod yn fynegiant o ymdeimlad ethnig, o hunaniaeth y Cymry Cymraeg a oedd yn gweithio i entrepreneuriaid Seisnig, neu o ymwybyddiaeth wleidyddol ar gyfer gweithwyr a oedd yn barod neu'n amharod i addoli gyda'u cyflogwyr.

Yr adeilad capel mwyaf hynafol yw Capel Bethlehem yn Broad Street, y cyfarfu ei gynulleidfa o Annibynwyr (neu Gynulleidfawyr) Cymraeg am y tro cyntaf (mewn adeilad cynharach) ar Ddydd Nadolig 1820. Agorwyd yr eglwys bresennol, yn yr arddull Glasurol, sydd galeri a gynhelir gan wyth piler o haearn bwrw, ym 1840. Adeiladwyd Capel Horeb gan y Bedyddwyr ym 1862 i ddarparu addoldy ar gyfer cynulleidfa a sefydlwyd yn l ym 1807. Mae pwll bedyddio yn dal i fod o dan yr estyll, a chynhelir y galeri, yn debyg i'r un yng Nghapel Bethlehem, gan bileri o haearn bwrw. Mae Capel Moriah yn Broad Street yn dyddio o 1888, ac mae yn yr arddull Glasurol hefyd, ond mae ganddo du mewn mwy addurnedig. Mae colofnau haearn ag addurniadau troellog wedi'u paentio'n aur yn cynnal galeri balwstradau o waith haearn tyllog, a gyrhaeddir i fyny dwy set o risiau o gyntedd y fynedfa. Erbyn hyn mae'r capel a adeiladwyd ym 1861 gan Gristnogion y Beibl, enwad Methodistaidd yn hanu o Ddyfnaint a Chernyw, yn neuadd ambiwlansys. Mae'n dystiolaeth bwerus o fewn y dirwedd o'r ymdeimlad o hunaniaeth ymhlith ymfudwyr a oedd wedi symud i Gymoedd De Cymru o dde-orllewin Lloegr.

Roedd y defnydd o'r iaith Gymraeg ym Mlaenafon wedi'i gyfyngu i raddau helaeth i'r capeli erbyn y 1860au, a daeth yn bwnc llosg rhwng cynulleidfaoedd ac aelodau'r cynulleidfaoedd eu hunain yn y degawd a ddilynodd. Erbyn 1900 roedd tri chapel ar ddeg ym Mlaenafon bron yn uniaith Saesneg, a'r gymuned yn gyffredinol hefyd. Cofnododd cyfrifiad 1901 boblogaeth o 10,010, yr oedd 857 neu 8% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach roedd y boblogaeth wedi cyrraedd 11,087, yr oedd 616 neu 5% ohonynt yn unig yn siaradwyr Cymraeg.

Ymgymerwyd rhai o rolau cymdeithasol ac addysgol y capeli yn Nyffrynnoedd De Cymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan sefydliadau gweithwyr. Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Blaenafon yw'r adeilad mwyaf trawiadol yn y dref. Fe'i cynlluniwyd gan E A Lansdowne o Gasnewydd. Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1893 ac agorwyd y sefydliad ym 1895, er bod yr adeilad yn dwyn y dyddiad 1894. Fe'i hadeiladwyd gan adeiladwr lleol, John Morgan, a chostiodd 10,000, a godwyd trwy godi ardoll o hanner ceiniog ar gyflogau mwyngloddwyr a gweithwyr haearn, a leihaodd gost adeiladu'r adeilad trwy gyfrannu eu llafur yn wirfoddol. Roedd y Sefydliad, a sefydlwyd yn ffurfiol ym 1880, yn olynydd ym Mlaenafon i Gymdeithas Darllen a Chyd-wella yr oedd ganddi aelodaeth o 110 ym 1860.

Daeth sefydliadau gweithwyr yn gyffredin yn Ne Cymru o'r 1890au, ac adeiladwyd rhai enghreifftiau nodedig yn y 1920au a'r 1930au gyda chymorth Cronfa Les y Glowyr. Perthynai diwylliant gwrywaidd iddynt. Elfennau nodweddiadol adeilad sefydliad oedd:

O ran pensaernaeth Sefydliad Blaenafon yw un o'r enghreifftiau gorau yn Ne Cymru, ac mae'n darparu cysylltiad chyfnod pendant a nodweddir gan ddiwylliant dosbarth gweithiol hunanwellhaol, a fynegwyd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol, a gynhwysai gymdeithas gorawl, sawl band pres, clwb lles, corfflu o reifflwyr gwirfoddol a chlwb criced. Mae tref Blaenafon wedi cadw llawer o adeiladau eraill sy'n ymwneud 'i hanes yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys Gorsaf Heddlu a Llys Ynadon yn dyddio o 1867, a nifer o dafarndai hanesyddol, y ceisiodd Cwmni Blaenafon gyfyngu ar eu nifer.

Mae bron pob un o'r prif adeiladau yn nhref Blaenafon a nodwyd uchod yn rhestredig, ac mae craidd y dref wedi'i ddynodi fel Ardal Gadwraeth.

Yn l i'r brig

Llan-ffwyst

Cynhwysir pentref Llan-ffwyst (HLCA015), y lleolir rhan ohono yn y Safle Treftadaeth Byd, yn ardal y Dirwedd Hanesyddol. Mae'r anheddiad yn cynnwys nifer o adeiladau sy'n gysylltiedig 'r fasnach mewn haearn, sy'n cydategu'r rhai ym Mlaenafon. Mae mynwent eglwys ganoloesol St Faith yn cynnwys cofeb i Crawshay Bailey (1789-1872), un o feistri haearn enwocaf ac yn wir mwyaf drwg-enwog De Cymru, a wrthwynebai yn ddiwyro ddeddfwriaeth y bwriedid iddi sicrhau diogelwch gweithwyr. Treuliodd Bailey ei flynyddoedd olaf yn Llanfoist House gerllaw.

Yn l i'r brig

Tai Gweithwyr

Mae amrywiaeth o dai gweithwyr, y mae rhai ohonynt yn dyddio o flynyddoedd cynharaf y diwydiant haearn, wedi goroesi yn y dirwedd ym Mlaenafon; roedd yn rhaid i Gwmni Blaenafon ddarparu tai ar gyfer eu gweithwyr yn ystod blynyddoedd cynnar ei weithrediad, am mai tenau iawn oedd poblogaeth yr ardal cyn y 1780au. Mae'r patrymau anheddu sydd wedi deillio o hynny yn nodweddiadol o'r modd y darparwyd llety ar gyfer gweithwyr yng ngweithfeydd haearn De Cymru, a oedd ymhlith yr aneddiadau a oedd yn tyfu gyflymaf yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Dyblodd poblogaeth Sir Fynwy mewn cwta deng mlynedd ar l 1810, ac roedd y rhan fwyaf o'r twf hwn wedi'i ganoli ar gymunedau gwneud haearn newydd megis Blaenafon. Fel arfer adeiladodd Cwmni Blaenafon anheddau yn agos iawn at ei weithfeydd haearn, ei fwyngloddiau, ei chwareli neu ei lwybrau trafnidiaeth. Felly dim ond yn raddol y datblygodd canolfan drefol. Ble bynnag yr oedd modd ymddengys i'r Cwmni geisio adeiladu tai y tu allan i blwyf Llanofer, lle'r oedd y ffwrneisi wedi'u lleoli, fel y gallai osgoi talu trethi tlodion rhy uchel mewn cyfnodau o ddiweithdra. Yn lle hynny dewisodd y Cwmni adeiladu tai yn Llanwenarth (Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 013 a 014) neu Lan-ffwyst (HLCA015), lle'r oedd ganddo eiddo gwerth trethiannol llai.

Gerllaw'r Gwaith Haearn saif Stack Square ac Engine Row, grwp bach o fythynnod cerrig cadarn eu hadeiladwaith, sy'n ymgorffori patrymau adeiladu, yn arbennig pennau drysau a ffenestri, sy'n nodweddiadol o Orllewin Canolbarth Lloegr ynghyd ag arferion adeiladu mwy lleol (HLCA006). Mae'n debyg i'r tai gael eu hadeiladu ym 1788 ar gyfer y gweithwyr medrus cyntaf a weithiai'r ffwrneisi o'r adeg pryd y'u hadeiladwyd. Ymhlith y trigolion cynnar roedd Joseph Hampton o ardal Stourbridge yn Swydd Gaerwrangon, a fu'n gweithio fel arolygydd y Gwaith Haearn am bron 30 o flynyddoedd cyn ei farwolaeth ym 1832. Mae'r tai yn ffurfio sgwr lle y gosodwyd corn simnai 50 metr o uchder ar gyfer ty injan newydd ym 1860, y mae ei waelod i'w weld o hyd. Cynhwysai rhes ganolog y sgwr swyddfa'r Cwmni, siop a thy rheolwr yn wreiddiol ym 1788, ac fe'i trowyd yn anheddau yn y 1860au, a oedd yn llawer llai o faint na chartrefi'r gweithwyr medrus, a safai o bob tu iddynt. Mae'r sgwr gyfan yn Heneb Gofrestredig sydd dan ofal y wladwriaeth ac sydd wedi'i chadw'n ofalus.

Nid yw'r adeiladau cyntefig iawn a adeiladwyd ar yr un pryd Stack Square, y mae rhai ohonynt yn dai cefn wrth gefn ag un ystafell, yn bodoli bellach, ond yn y mwyafrif o achosion mae eu lleoliadau i'w gweld yn glir ac maent yn gyflawn yn archeolegol. Rhwng 1817 a 1832 adeiladodd Cwmni Blaenafon tua 160 o anheddau deulawr ag un ffrynt a thair ystafell, sydd wedi'u galw yn Dai Safonol Cwmni Blaenafon. Fe'u hadeiladwyd fel arfer mewn terasau, y cynhwysai rhai gymaint 30 o anheddau, ond rhai eraill cyn lleied phump. Y teras yng Nghwmafon (HLCA018), a ailadeiladwyd yn l pob tebyg yn y 1820au, yw'r enghraifft orau o'r math hwn o dy. Mae sylfeini, lleiniau gardd a thomenni sbwriel nifer o derasau a ddymchwelwyd yn gyflawn yn archeolegol, gan gynnwys rhai'r 30 o anheddau a ffurfiai Lower Rank Cottages, gerllaw porth gogleddol twnnel Pwll-Du (HLCA011), sy'n Heneb Gofrestredig ac sy'n cynnig potensial i astudio archeoleg gymdeithasol ac amgylchiadau byw'r cyfryw gymunedau diwydiannol ymhellach. Mae tair o'r pum rhes o dai cerrig llanw a adeiladwyd ar gyfer y gweithwyr yn Forgeside (HLCA012) cyn 1860 ac a adwaenir wrth y llythrennau 'C', 'D' ac 'E' yn unig yn hytrach nag enwau strydoedd wedi goroesi, a dymchwelwyd rhesi 'A' a 'B' ym 1977.

Yn l i'r brig

Anheddu Diwydiannol

Themu Cyffredinol

Adlewyrchir pwysigrwydd tarddiad gwledig patrwm anheddu'r ardal gan olion ffermydd yng nghefn gwlad (ac adeiladau cynddiwydiannol sydd wedi'u hamgu o fewn yr ardal drefol, fel y nodir gan RCAHMW, yn arbennig Ty'r Godwith (HLCA001), fferm yn dyddio o'r cyfnod cyn y 18fed ganrif a leolir oddi ar Charles Street, sydd wedi cadw lleoedd tn cerrig enfawr yn dyddio o tua 1600). Mae enghreifftiau o anheddau amaethyddol traddodiadol yn dyddio o'r cyfnod cyn y 19eg ganrif, y mae'r mwyafrif ohonynt yn anheddau ar ffurf yr uned ty hir rhanbarthol, hefyd yn nodweddiadol o'r dirwedd hanesyddol, a lleolir llawer, gan gynnwys Coity Farm, Shephard's Cottage, Coety Canol, Ty Rheinallt, a Waun Mary Gunter, o fewn HLCA, er bod y mwyafrif bellach mewn cyflwr adfeiliedig. Gellir dadansoddi datblygiad gweithgarwch anheddu yn yr ardal fel a ganlyn:

Newid o economi wledig i economi ddiwydiannol: economi ddeuol tyddynnod. Mae rhywfaint o dystiolaeth ar gyfer tyddynnod, yr ymddengys iddynt gael eu sefydlu o bosibl fel tresmasiadau (cyfreithlon?); er enghraifft ar lethrau Mynydd Coety (HLCA020), a'r Blorens (HLCA011), yn ogystal ag yn y Tumble a gerllaw Garn-yr-erw (HLCA009). Erbyn hyn ymddengys nad yw'r mwyafrif ond yn enghreifftiau digyswllt sydd wedi goroesi, ond efallai eu bod yn cynrychioli dimensiwn pwysig o ddiwydiannu cynnar. Mae'r cysylltiadau parhaol rhwng economau amaethyddol a diwydiannol hefyd yn bwysig, ac mae'n werth nodi'r adeiladau fferm cwmni, sef Company's Farm neu Allgood Farm (HLCA003), sydd wedi goroesi ar ochr arall yr afon gyferbyn 'r eglwys yn y cyd-destun hwn: mae'n amlwg bod cadw cysylltiadau gwledig-trefol yn bwysig (ac fe'i hanwybyddir yn aml mewn adroddiadau ar brosesau diwydiannu).

Aneddiadau diwydiannol cynnar: er bod y mwyafrif wedi'u colli, nodwyd rhai olion archeolegol yn ystod yr arolwg ucheldiroedd diweddar (RCAHMW 2003, 67). Mae'n amlwg bod Stack Square (HLCA006) yn dra phwysig yn y cyd-destun hwn, er ei bod yn eithriadol fel tai cwmni cynlluniedig ar gyfer gweithwyr allweddol. Mae tystiolaeth ar gyfer tai cynnar a adeiladwyd yn y fan a'r lle, a thai cynnar eraill a ddarparwyd gan y cwmni wedi goroesi ar ffurf ddogfennol, ac i ryw raddau ar ffurf archeolegol. Ar wahn i'r ardal gerllaw'r gwaith haearn yn North Street, dengys tystiolaeth gartograffig yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif ddatblygiadau yn Ivor Street a James Street ac ar hyd King Street (i gyd o fewn HLCA001), a hefyd i ryw raddau ar hyd Queen Street (Arolwg Iarll y Fenni 1828; adroddiad nas cyhoeddwyd gan Jenkins, OM, ar gyfer RCAHMW, 2002).

Mae Olwen Jenkins RCAHMW yn ei hastudiaeth yn nodi 'gyda'i brydles fer, nad ymddengys fod y Cwmni wedi dychmygu tref gynlluniedig ar gyfer ei weithwyr, yn gymaint blociau cynlluniedig o lety ar gyfer gweithwyr allweddol wedi'u lleoli i raddau helaeth ar ei dir prydles', a bod y rhain yn ymwneud yn benodol 'r gweithle (Lowe). Mae Stack Square, er enghraifft, sgwr o dai ffrynt dwbl a phedair ystafell, a adeiladwyd gyferbyn 'r ffwrneisi i ddarparu llety ar gyfer gweithwyr haearn allweddol o Ganolbarth Lloegr, megis yr Arolygydd neu Reolwr y Gwaith Haearn, ac a ddarparai hefyd ar y dechrau siop cwmni ac efallai ty rheolwr a thy cyfrif, yn enghraifft allweddol sydd wedi goroesi. Cynhwysai aneddiadau diwydiannol cynnar eraill o'r cyfnod cynnar dai cefn-wrth-gefn, megis y rhes yn y Furnace Yard a ddymchwelwyd cyn 1880, y mae'n debyg iddi gael ei hadeiladu ar gyfer dynion ffwrnais. Darparai Stable Row, grwp o dai a adeiladwyd erbyn 1813-14 o amgylch iard stablau lety ar gyfer y gweision stabl a'r ostleriaid a ofalai am y ceffylau a'r mulod (adroddiad nas cyhoeddwyd gan Jenkins, OM, ar gyfer RCAHMW, 2002).

Ymddengys fod twf yr aneddiadau diwydiannol cynnar i raddau helaeth heb ei gynllunio ac iddo ddigwydd yn ddifyfyr. Dengys Queen Street (HLCA001), er enghraifft, amrywiaeth o wahanol arddulliau adeiladu a dyddiadau adeiladu; ac adeiladau o wahanol faint a ffurf, hy ceir bythynnod a thai teras ffrynt dwbl ac un ffrynt. Mae'r amrywiaeth yn adlewyrchu datblygiad llai ffurfiol yr ardal hon dros gyfnod o amser. Mae'r amrywiaeth yn cynnwys deunyddiau adeiladu a thoi, cyrn simnai, gwaith coed, a gorffeniadau drychiadau. Mae rhif 44 Queen Street yn enghraifft ddiddorol sydd wedi goroesi o fwthyn gweithiwr yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae'r bwthyn hwn ffrynt dwbl wedi cadw rendr 'effaith ashlar' a ffenestri codi phedwar cwarel. Mae tai yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif hefyd i'w gweld yn King Street; mae'r stryd hon yn arddangos amrywiaeth tebyg o ffurfiau, arddulliau a dyddiadau i Queen Street, sy'n awgrymu gwaith datblygu tameidiog. Gellir priodoli hyn o bosibl i wahanol fathau o berchenogaeth eiddo yn yr ardal hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae enghreifftiau eraill o ddatblygiadau trefol a chanddynt gynllun afreolaidd a threfniant gwasgarog ar hyd y stryd, yr ystyrir eu bod yn deillio o 'waith adeiladu di-drefn unigol', yn cynnwys tai cwmni ar ochr Ddwyreiniol North Street y bu'r cenedlaethau o ddynion yn gweithio yn y ffwrneisi chwyth oer yn byw ynddynt yn ddi-dor ers y 18fed ganrif; adeiladwyd y tai hyn ar dir prydles wedi'u gosod i mewn i'r llethr heb ddrws cefn (Jeremy Lowe; adroddiad nas cyhoeddwyd gan Jenkins, OM, ar gyfer RCAHMW, 2002).

Aneddiadau diwydiannol trefol: Blaenafon, fodd bynnag, yw'r enghraifft orau o ddiwylliant diwydiannol trefol yn dyddio o'r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, am mai'r cyfnod hwn yw'r un a gynrychiolir fwyaf yn y stoc adeiladau sydd wedi goroesi. Sefydlwyd y rhan fwyaf o batrwm strydoedd cynlluniedig presennol Blaenafon sy'n cynnwys rhesi rheolaidd, wedi'u canoli ar ffordd drwodd fasnachol Broad Street (HLCA001), o'r 1840au ac fe'i cwblhawyd erbyn y 1870au; yn wir dim ond erbyn y 1850au y gellid ei hadnabod fel tref. Am fod cymaint o'r dref wedi goroesi byddai modd ail-greu strwythur cymdeithas y dref yn ystod y cyfnod bron yn gyfan gwbl trwy'r gwahaniaethau bach yn ei phensaernaeth. Dangosodd gwaith RCAHMW y cyfnodau yn ei datblygiad mewn perthynas phatrymau perchenogaeth tir, a gellir olrhain y rhain yn glir o hyd yng nghymeriad archeolegol gwahanol flociau o dir (ee tai'r cwmni ar Upper Waun Street a Lower Waun Street, a Park Street a High Street, a'r unedau datblygu sy'n adlewyrchu blociau o berchenogaeth neu brydlesu). Fodd bynnag, yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig yw sut y gellir gwahaniaethu ymhellach trwy edrych ar fanylion penodol iaith bensaernol, i ddangos nid yn unig y cyfnodau datblygu, ond hefyd eu cymeriad cymdeithasol.

Felly mae'n arbennig o bwysig tynnu sylw at y math o nodweddion, sy'n arwyddocaol. Gallai'r rhain gynnwys y canlynol:

Datblygiadau ym maes cynllunio tai, o ffurf linellol frodorol (rhai enghreifftiau yn King Street, Queen Street; HLCA001) i gynllun dwfn diwydiannol trefol (megis ar hyd Upper Waun Street a Lower Waun Street). Daeth yr olaf yn gyffredin ledled yr ardal, ac roedd gan y mwyafrif ohonynt un ffrynt. Mae'n amlwg bod y gwahaniaeth rhwng tai sy'n cyffinio 'r stryd a thai sydd gerddi blaen yn bwysig. Ar l tua 1900, cyflwynwyd rhai mathau gwahanol o adeiladau, yn bennaf y filu dosbarth canol mwy o faint a saif ar eu pennau eu hunain neu mewn parau i'r dwyrain o'r dref (HLCA002).

Mae maint unedau datblygu yn haeddu sylw, ac mae rhai strydoedd yn cynrychioli blociau cynlluniedig eithaf cydlynol (ee, Upper Waun Street a Lower Waun Street, a Park Street a High Street), tra adeiladwyd rhai eraill mewn modd mwy tameidiog o unedau llawer llai o faint. Mae Broad Street, a ddatblygwyd yn ystod y 1840au-1860au, yn enghraifft hollbwysig o'r olaf, ond mae strydoedd preswyl eraill yn amlygu amrywiadau tebyg am fod unedau datblygu yn adlewyrchu maint lleiniau a ddatblygwyd o dan rydd-ddaliadaeth neu ddaliadaeth prydles.

Mae cyfeiriad gwaith datblygu hefyd yn rhywbeth sy'n rhoi cymeriad cryf i'r dref, megis yn y cyferbyniad rhwng y rhesi, sy'n rhedeg i fyny'r allt (y mae gan y mwyafrif ohonynt linellau toeau grisiog nodweddiadol, er y ceir rhai enghreifftiau o doeau ar oleddf), a'r rhai sydd wedi'u gosod ar hyd y llethr.

Yn arbennig o fewn HLCA002, ceir rhai enghreifftiau diddorol o dai cyhoeddus neu gymdeithasol yn dyddio o'r 20fed ganrif, yn arbennig yr ystad debyg i ardd-bentref a leolir yng ngogledd-ddwyrain y dref, ac wedyn gwahanol ystadau tai yn dyddio o ganol y ganrif ymhellach i'r dwyrain ac i'r de. Mae'r rhain yn cyfleu yn dda iawn y safonau cynllunio a oedd yn newid (ee o ran darparu mannau agored, gerddi ac ati, yn ogystal chynllunio gofodol ar gyfer tai unigol).

Amrywiadau mewn dulliau adeiladu

Ymddengys mai deunyddiau a gafwyd yn lleol a ddefnyddid yn bennaf, ond mae'n amlwg i gerrig o wahanol ffynonellau gael eu defnyddio, a cheir cryn amrywio o ran y modd y cawsant eu trin (er y byddai'n ddiddorol llunio rhestr law o'r amrywiaeth hwn, ystyrid ei bod y tu hwnt i gwmpas yr ymarfer presennol). Ci brics wedi'u gweithgynhyrchu'n lleol eu defnyddio hefyd, unwaith eto at ddibenion addurniadol weithiau, gan fanteisio ar y patrwm a'r ansawdd a gynhyrchwyd yn y clampiau (gweler Upper Waun Street a Lower Waun Street (HLCA001), er enghraifft, a adeiladwyd gan y cwmni). Ceir hefyd amrywiadau yn y cyfuniad o frics a cherrig - defnyddio brics o wahanol liwiau i ddarparu'r mn addurniadau pensaernol, er enghraifft. Ymddengys i rendr gael ei ddefnyddio i ychwanegu manylion pensaernol (ee architrafau), ac ar y cyd brics i gyfleu ffasadau yn fwy pensaernol mewn adeiladau yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Mae'r defnydd helaeth a wneir o rendr mewn gwaith adnewyddu modern yn newid cymeriad y dref mewn ffyrdd sy'n destun gofid, am ei fod yn dileu rhai o'r mn wahaniaethau hyn. Ni roddwyd digon o sylw i nodi'r iaith bensaernol yr adeiladwyd trefi diwydiannol, megis Blaenafon, ynddi. Mae manylion pensaernol gwreiddiol mewn cyd-destun trefol yn hynod o bwysig i ddeall yn iawn gymhlethdodau strwythur cymdeithasol ac economaidd yn y prif gyfnodau o ddatblygiad trefol, ac am y rheswm hwn mae colli unrhyw fanylion trwy waith adnewyddu anghydnaws ac anghydymdeimladol yn fwy anffodus byth.

Mae mn fanylion hefyd yn haeddu sylw: lle y mae morter cynnar wedi goroesi, mae'n cynnwys yn aml gymysgedd o lwch glo, sy'n rhoi iddo ei olwg tywyll nodweddiadol.

Gwaith coed a manylion pensaernol: prin iawn yw'r gwaith coed gwreiddiol sydd wedi goroesi, ond mae amrywiaeth da o fanylion eraill i'w gweld o hyd, ee fframiau wedi'u rendro o amgylch ffenestri a drysau, rhywfaint o waith teils, ac ati. Mae'r manylion pensaernol hyn yn llawer pwysicach mewn datblygiadau yn dyddio o tua 1900 - ceir rhai enghreifftiau da o waith terracotta yn nwyrain y dref (i'r gogledd-ddwyrain o Cwmafon Road; HLCA002). Mae blaenau siopau traddodiadol, megis y rhai sydd wedi goroesi yn rhifau 15-19 Broad Street (Adeiladau Rhestredig: Gradd II) hefyd yn bwysig; er bod rhywfaint o ymdrech wedi'i gwneud i adnewyddu blaenau siopau pren "traddodiadol" i eiddo masnachol mewn mannau eraill ar hyd Broad Street, gwnaed hynny yn l patrwm unffurf gan ddefnyddio pren safonol wedi'i fahoganeiddio ac nid ymddengys ei fod yn adlewyrchiad manwl gywir o'u cymeriad gwreiddiol.

Waliau a Rheiliau: mae rheiliau o haearn bwrw yn diffinio gerddi blaen y tai o radd gymdeithasol uwch a leolir yn bennaf o fewn rhan ddwyreiniol y dref (HLCA002). Mae'r nodweddion hyn yn elfennau tra phwysig mewn 'tref haearn'; fodd bynnag er gwaethaf hynny mae llawer o'r rheiliau hyn wrthi'n cael eu symud o dan y cynllun adnewyddu ac mae rheiliau safonedig yn cael eu gosod yn eu lle. Dylai unrhyw waith adnewyddu pellach geisio diogelu gwaith haearn gwreiddiol, gan roi cydrannau go iawn 'tebyg am debyg' yn l yr angen. Ar ben hynny ceir rhai enghreifftiau o waliau sorod, sy'n cynnwys yn arbennig waliau terfyn gerddi a waliau mewn iardiau cefn; unwaith eto mae'r waliau hyn yn nodwedd bwysig o anheddiad a grwyd gan waith haearn a dylid eu diogelu.

Yn l i'r brig