The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

005 Forgeside a Phwll Mawr


Big Pit with associated buildings: view to the south.

HLCA 005 Forgeside a Phwll Mawr

Tirwedd ddiwydiannol greiriol a nodweddir gan weithgarwch prosesu diwydiannol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweithgarwch cloddio a thomenni gwastraff cysylltiedig; lefelydd gwaith glo Pwll Mawr a hen safle gwaith haearn diweddarach Blaenafon. Yn cynnwys o bosibl olion claddedig nodweddion yn gysylltiedig â gwaith haearn Blaenafon. Cysylltiadau trafnidiaeth pwysig: rheilffordd a thramffordd. Nodweddion rheoli dwr. Digwyddiadau a phobl hanesyddol yn gysylltiedig â'r ardal.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Forgeside a Phwll Mawr yn cynnwys y dirwedd ddiwydiannol sydd wedi goroesi gan gynnwys Pwll Mawr, y tomenni sy'n gysylltiedig ag ef a safle'r hen waith haearn yn Forgeside.

Dechreuodd Cwmni Haearn a Glo Blaenafon adeiladu ei waith haearn newydd yn Forgeside ym 1838. Y bwriad oedd adeiladu tair ffwrnais a datblygu gefeiliau a melinau newydd unwaith yr oeddynt wedi dechrau cynhyrchu. Roedd dwy ffwrnais wrthi'n cael eu hadeiladu yn y flwyddyn ganlynol ac ym 1840 prynwyd peiriant chwythu â thrawst yn mesur 52 ½ o fodfeddi gan Waith Haearn Abaty Nedd. Fodd bynnag, bu'r ffwrneisi yn segur hyd at 1861 yn sgîl yr oedi a fu yn y broses o gwblhau'r gwaith newydd oherwydd prinder adnoddau. Yr efail, a agorwyd ym 1859, oedd y rhan gyntaf o'r gwaith newydd i gael ei orffen. Ym 1860, cwblhawyd y felin; cynhwysai bâr o beiriannau llorweddol yn mesur 36 troedfedd wrth 6 throedfedd a adeiladwyd gan James Watt and Co. a oedd yn addas ar gyfer gweithio melin reiliau neu felin bariau a phlatiau trwm. Ym 1860, dechreuodd peiriant llorweddol pwysedd uchel yn mesur 30 modfedd wrth 4 troedfedd 6 modfedd weithio yn gyrru pâr o roliau garw a chadwyn dair lefel o roliau blwmio. Cyflymodd y gwaith datblygu yn y gwaith newydd a dechreuodd melin teiars rheilffordd weithio ym 1861, wedi'i gyrru gan beiriant yn mesur 34 modfedd (James Watt and Co.). Cynyddodd cynhyrchiant y gwaith hwn uwchlaw cynhyrchiant yr hen safle am ei fod yn gysylltiedig gan reilffordd ager â Phont-y-pwl a Chasnewydd a chynigiai fwy o le i ehangu. Er i'r hen waith gau ym 1900, parhawyd i weithio'r gwaith newydd tan 1938, (Ince, 1993: 122-123). Ar wyneb y ddaear cliriwyd unrhyw olion yn ddiweddarach a thirluniwyd yr ardal ar ôl hynny.

Arweiniodd galw cynyddol a gwelliannau mewn trafnidiaeth at gynyddu cynhyrchiant glo a haearn. Ym 1854 cysylltwyd Blaenafon â Chasnewydd gan Gangen Leol y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o Reilffordd Sir Fynwy, ac ychwanegwyd Cangen Leol Rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr yn ddiweddarach ym 1868. Cyn y dyddiad hwn byddai glo a haearn wedi'u cludo i'r arfordir ar y ffordd neu ar gamlas, i'r gogledd.

Datblygwyd Pwll Mawr, â siafft halio hirgrwn yn mesur 39 metr, ar safle pwll glo cynharach; sef Pwll Glo Kearsley. Y siafft ym Mhwll Mawr, a ymestynnwyd i 89 metr ym 1880, oedd y siafft gyntaf yn yr ardal a oedd yn ddigon llydan i godi dau dram llawn glo ochr yn ochr. Ymgorfforwyd gweithfeydd cloddio eraill yn ddiweddarach megis Mine Slope a Forge Level, a siafftiau Pwll Glo Coety gerllaw; defnyddiwyd yr olaf ar ôl hynny at ddibenion awyru. Yn fuan roedd cynhyrchiant y pwll glo ym Mhwll Mawr yn fwy na 100,000 o dunelli metrig o lo o ardal ag arwynebedd o ryw 12 milltir sgwâr.

Yn ystod ei oes, gweithiwyd naw haen lo wahanol ym Mhwll Mawr a gynhyrchodd 'lo ager' o'r radd flaenaf a wnaeth De Cymru yn enwog ledled y byd. Yr haen olaf i gael ei gweithio oedd haen Garw, a gynhyrchodd lo golosgi ardderchog. Roedd yr haen hon ar lefel o 366 o droedfeddi ac a fesurai 71cm o drwch lle'r oedd ar ei mwyaf trwchus yn un anodd ei gweithio.

Mecaneiddiwyd Pwll Mawr ym 1908 pan osodwyd peiriant cludo mecanyddol ac roedd y pwll glo ymhlith y rhai cyntaf yn Ne Cymru i gael ei drydaneiddio: erbyn 1910 roedd y gwyntyll awyru, y pympiau a'r system halio danddaearol i gyd yn gweithio ar drydan. Fodd bynnag parhaodd yr offer dirwyn i gael eu gyrru gan ager tan 1953. Adeiladwyd baddondai pen pwll ym 1939 a oedd yn ychwanegiad pwysig at y dirwedd lofaol.

Cyrhaeddodd cynhyrchiant glo ei anterth ym 1913 ac yn ei oes aur cyflogai Pwll Mawr 1300 o ddynion a chynhyrchai fwy na 250,000 o dunelli o lo y flwyddyn. Dilynodd dirywiad araf a'r cyfnod gwaethaf oedd dirwasgiad yr 20au a'r 30au pan oedd 57% o'r gweithlu ym Mlaenafon yn ddiwaith. Ar wahân i gyfnod byr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, parhaodd y dirywiad ac erbyn 1966, Pwll Mawr oedd yr unig bwll glo dwfn ar ôl yn ardal Blaenafon. Ym 1980 caeodd y pwll glo o'r diwedd ac ail-agorodd fel amgueddfa lofaol.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Heddiw nodweddir Forgeside a Phwll Mawr yn bennaf gan y nodweddion a'r adeiladau sydd wedi goroesi ac sydd bellach yn rhan o Amgueddfa Lofaol Pwll Mawr, ond mae posibilrwydd cryf hefyd bod olion archeolegol claddedig wedi goroesi yn gysylltiedig â'r gwaith haearn a'r lefelydd glo yn Forgeside yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae safle Pwll Mawr yn cynnwys casgliad o adeiladau a strwythurau pen pwll rhestredig yn dyddio o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg drwodd i ganol yr ugeinfed ganrif: yr Adeilad Pen Pwll, y Prif Fframin a'r gylchffordd dramiau; Baddondai a Ffreutur y Glowyr, (y ddau yn Rhestredig Gradd II*); y Ty Dirwyn; Grwp ar ffurf U Gan gynnwys Siop Asio a Gosod, Gweithdy Gof a Siop De; Melin Lifio; Caban Dirprwyon; Swyddfa, Gweithdy Trydanol; Ty Peiriant Halio a Chaban y Glowyr; Derbynfa (Gweithdai Gosod); Ty Gwyntyll a Chywasgyddion; a Thy Powdwr (i gyd yn rhestredig Gradd II). Mae'r grwp hwn o adeiladau yn cyflwyno cymeriad diwydiannol cryf yn erbyn cefndir o domenni wedi'u rhannol adfer.

Mae hen dir diwydiannol tirluniedig, sy'n ychwanegiad cymharol ddiweddar, hefyd yn nodweddiadol o'r ardal ac ystyrir bod olion o ddiddordeb yn debygol o fod wedi'u claddu oddi tano. Safle tirluniedig cyn-waith Forgeside a berthynai i Waith Haearn Blaenafon yw'r brif enghraifft. Safai'r gwaith hwn yn union i'r gogledd-ddwyrain o Bwll Mawr a chynhwysai ffwrneisi chwyth poeth, ffwrneisi pwdlo, melinau rholio ar gyfer barrau haearn a rheiliau ac odynau golosg helaeth yr oeddynt i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd gan rwydwaith tramffyrdd/rheilffyrdd. Er bod rhan o'r ardal hon (safle Melin Forge/Tyre) bellach yn gorwedd o dan unedau diwydiannol modern, mae rhan helaeth o'r cyn-waith yn gorwedd o dan dir agored ac mae pob posibilrwydd bod olion claddedig wedi goroesi.

Mae ffin ogledd-ddwyreiniol yr ardal hon yn dilyn ac yn cynnwys llinellau Cangen Leol Rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr (llinell Rheilffordd Pont-y-pwl a Blaenafon bellach), sy'n dal i fod yn nodwedd amlwg yn y dirwedd. Roedd yn rhan o rwydwaith llawer mwy helaeth yn cynnwys tramffyrdd, a wasanaethai byllau glo a gweithfeydd haearn yr ardal.

Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nodweddion rheoli dwr; cyflenwai cronfeydd dwr systemau cydbwyso dwr a pheiriannau ager yn y pyllau glo a gwaith Forgeside. Cynhwysai'r system rheoli dwr dair prif elfen; Pwll Coety (HLCAS004), Pwll Forge a chronfa ddwr i'r dwyrain o Bwll Glo Coety. Yn gysylltiedig â'r rhain roedd nifer o byllau, dyfrbontydd a ffrydiau llai o faint (argraffiad 1af map yr AO). O'r prif nodweddion rheoli dwr yn yr ardal (HLCA005), mae Pwll Forge yn dal yn gyflawn tra mewnlenwyd y gronfa ddwr i'r dwyrain o Bwll Glo Coety, sydd bellach yn faes parcio.

Nodweddir yr ardal hefyd gan y gweithgarwch arllwys gwastraff glofaol a ddigwyddodd ar raddfa fawr i'r gogledd o Bwll Glo Coety/Pwll Mawr, lle'r oedd y tomenni gwastraff i raddau helaeth yn eu lle erbyn arolwg argraffiad 1af map yr AO ym 1879-80. Lleolir ardal ychwanegol lle y buwyd yn arllwys gwastraff yn fwy diweddar (yn ail hanner yr ugeinfed ganrif), sydd bellach wedi'i thirlunio, yn yr ardal i'r de-ddwyrain o Bwll Mawr. Roedd y domen hon yn un o'r tair tomen gonigol fawr a adwaenwyd gynt fel Little Egypt.

Yn debyg i safle'r gwaith haearn i'r gogledd-ddwyrain, mae'r ardal hon yn gysylltiedig â'r datblygiadau a wnaed ym maes cynhyrchu dur o dan gyfarwyddyd Percy Carlyle Gilchrist a Sydney Gilchrist Thomas. Ym mis Rhagfyr 1877 defnyddiwyd y safle yn Forgeside ar gyfer profion ar raddfa fwy, a lwyddodd i ddefnyddio leinin sylfaenol i droi haearn o fwynau ffosfforig yn ddur, rhywbeth nad oedd modd ei gyflawni cyn hynny gan ddefnyddio proses Bessemer.