The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

003 Glantorfaen


Fieldscape of Glantorfaen with Company's Farm (centre)and industrial terraced row (middle left)

HLCA 003 Glantorfaen

Ardal a nodweddir gan anheddiad clwstwr bach o resi diwydiannol ar wahân. Nodweddion trafnidiaeth a chyfathrebu, gan gynnwys rheilffordd ddiwydiannol a chyhoeddus, rhwydwaith tramffyrdd, ffyrdd, llwybrau troed a lonydd. Tirwedd amaethyddol weddilliol.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Lleolir ardal tirwedd hanesyddol Glantorfaen, sy'n anheddiad diwydiannol anghysbell, i'r de o linell reilffordd Rhan y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o hen Reilffordd Sir Fynwy a thref Blaenafon. Defnyddir y ffordd i'r Farteg fel ffin gyfleus â thirwedd HLCA018 a nodweddir yn bennaf gan drafnidiaeth/amaethyddiaeth.

Cynhwysai'r ardal diroedd rhyddfraint yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol a thiroedd prydles diweddarach yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif i'r de. Prynodd Cwmni Blaenafon y tir, a oedd yn eiddo i ystâd fach wedi'i chanoli ar Glantorfaen House gan Mr Edward Lewis ym 1819. Mae'n debyg bod Fferm Allgood a leolir gerllaw, a ddangosir fel Fferm y Cwmni ar argraffiad 1af map yr AO a mapiau cynharach yn gysylltiedig â mwyngloddiau Cwmni Blaenafon.

Mae Lefel Mwyn Haearn Aaron Brute yn nodwedd enwog arall yn yr ardal (SAM: MM220) ac y mae ei mynedfa wedi goroesi. Cloddiodd Aaron Brute, saer maen a chontractiwr adeiladu, y lefel, a barhaodd i gael ei weithio tan 1843, ger Forgeside ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae nodweddion eraill a gysylltir ag Aaron Brute yn cynnwys ei bont haearn (SAM: MM220), a gariai reilffordd gyntefig o'r mwynglawdd i'r gwaith haearn yn Forgeside a Brute's Row, sef y tai teras diwydiannol cynharaf yn yr ardal.

Adeiladwyd tai teras diweddarach yn yr ardal, hy Glantorfaen Terrace Upper, Glantorfaen Terrace Lower a Railway Terrace, o'r 1860au i gyd-fynd â datblygiad Cangen Leol Rheilffordd yr LNWR o Flaenafon i Frynmawr. Adeiladwyd rhagor o dai teras erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif gan ymestyn y rhes yn Barnfield Terrace a rhes o bedwar ty yn Oakfield Terrace. Hefyd erbyn y dyddiad hwn, roedd dwy res newydd wedi'u hadeiladu i ffurfio Allgood Avenue; bellach maent wedi'u dymchwel.

Datblygodd cysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardal ac adeiladwyd tramffordd ym 1796 a wasanaethai'r gwaith haearn o'r de. Ym 1854, fe'i disodlwyd gan Ran y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o Reilffordd Sir Fynwy, a redai'n agos at yr afon, gan groesi nifer o bontydd ac a oedd yn gysylltiedig â rhwydwaith tramffyrdd a gysylltai safleoedd y ddau waith haearn. Ym 1868 agorwyd llinell ychwanegol, sef cangen leol Rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr (Rheilffordd Pont-y-pwl a Blaenafon), gerllaw'r gwaith haearn yn Forgeside. Bu'r olaf yn cludo teithwyr a nwyddau tan ganol yr ugeinfed ganrif.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Glantorfaen yn ardal led-agored a nodweddir yn bennaf gan ddatblygiadau diwydiannol. Mae canolbwynt yr anheddiad wedi symud o Brute's Row i'r ardal i'r de ac i'r dwyrain o Fferm Allgood (Fferm y Cwmni). Nodweddir canolbwynt gwreiddiol yr anheddiad o amgylch Brute's Row (y mae rhan ohoni wedi goroesi) gan drefniant digynllun, i bob pwrpas, o fythynnod ar wahân a chanddynt ffrynt dwbl sy'n ffurfio clwstwr bach o aneddiadau a gysylltir â grwp afreolaidd o iardiau. Fel arfer mae gan yr adeiladau hyn gyrn simnai yn y talcen, drychiadau modern wedi'u hailrendro a thoeau llechi, fodd bynnag, fe'u moderneiddiwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Nodweddir canolbwynt diweddarach yr anheddiad, sef Railway Terrace, Barnfield Terrace a Terasau Glantorfaen, a leolir o amgylch Fferm y Cwmni, gan resi unffurf o dai a adeiladwyd o gerrig, y mae ganddynt i gyd un ffrynt, toeau llechi a chyrn simnai o frics. Mae pob un o'r rhain yn wahanol o ganlyniad i'r driniaeth a roddwyd i'w ffrynt, sy'n arddangos cymysgedd o orffeniadau heb eu rendro, wedi'u rendro, wedi'u paentio ac wedi'u chwipio â gro; ymddengys y byddai ffrynt y ty wedi'i adael heb ei rendro yn wreiddiol. Nodweddir yr ardal gan erddi blaen, llinellol, rheolaidd ac iardiau bach a thoiledau/stordai glo allanol tua'r cefn. Mae cwrtil y gerddi blaen a'r iardiau cefn wedi'i wneud o gerrig wedi'u plastro â morter.

Mae Fferm y Cwmni yn elfen bwysig yn yr ardal gymeriad hon: rhes ddeulawr, a adeiladwyd o gerrig wedi'u gosod ar hap, mae ganddi ddrychiadau gwyngalchog ac mae rhai o'i ffenestri gwreiddiol wedi goroesi. Ychwanegwyd rhes o siediau unllawr, ar ffurf L, fwy neu lai, a adeiladwyd o frics ac sydd â thoeau o haearn rhychog at yr ochr dde-ddwyreiniol yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Fferm y Cwmni yn enghraifft o'r cysylltiad a'r rhyngweithio pwysig, a anghofir yn aml, rhwng cymdeithas drefol ddiwydiannol ac amaethyddiaeth.

Nodweddir yr ardal gan gysylltiadau trafnidiaeth ddiwydiannol a chyhoeddus, a wasanaethai dref Blaenafon, y Gwaith Haearn a phyllau glo cysylltiedig megis Pwll Mawr. Mae'r cysylltiadau hyn yn cynnwys tramffyrdd cynnar, a rheilffyrdd diweddarach megis Rhan y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o Reilffordd Sir Fynwy a Changen Leol Rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr. Mae nifer o lonydd a llwybrau yn rhedeg trwy'r ardal hefyd.

Mae'r patrwm caeau afreolaidd, datblygedig, sylfaenol, er ei fod wedi'i guddio'n rhannol gan ddatblygiadau anheddu, wedi goroesi mewn ffurf y gellir ei hadnabod i'r dwyrain o Nant Torfaen.