The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

008 Coridor Trafnidiaeth Garn-yr-Erw


Locomotives at the Pontypool and Blaenavon Railway.

HLCA 008 Coridor Trafnidiaeth Garn-yr-Erw

Coridor trafnidiaeth â rheilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus, rhwydwaith tramffyrdd, llwybrau a lonydd. Gwasgariad o resi a bythynnod diwydiannol, ac eglwys ac ysgol, yng Ngarn-yr-Erw. Tirwedd amaethyddol ôl-ddiwydiannol gweddilliol a gweithgarwch cloddio ar raddfa fach.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Coridor Trafnidiaeth Garn-yr-Erw ceir llinell Rheilffordd Pont-y-pwl a Blaenafon rhwng Waunafon a Forgeside i'r de-orllewin a llwybr ffordd y B4248 i'r gogledd-ddwyrain, gan gynnwys y tir amgaeëdig yng Ngarn-yr-Erw.

Croesai nifer o nodweddion trafnidiaeth cydgysylltiedig yr ardal, y mae'r cynharaf ohonynt yn cynnwys llwybrau yn gysylltiedig â'r tir amgaeedig a ddarparai fynediad i'r dirwedd ucheldirol agored i'r dwyrain. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd tramffyrdd wedi'u datblygu; gan gynnwys llwybr rhwng Gwaith Haearn Blaenafon a Garn Pits ar hyd ochr ddwyreiniol yr ardal ac un arall i'r gorllewin o'r ardal a redai o waith Forgeside i Garn Pits. Rheilffordd Pont-y-pwl a Blaenafon yw'r nodwedd trafnidiaeth bwysicaf a gysylltir â'r ardal. Agorodd y rheilffordd hon fel Cangen Leol Rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr ym 1868 i wasanaethu'r gwaith haearn, mwyngloddiau a gweithfeydd glo ac roedd yn gysylltiedig â Garn Pits trwy'r dramffordd i'r gorllewin o'r ardal. Fe'i hadnewyddwyd ers hynny fel atyniad ymwelwyr.

Mae'n debyg bod Fferm Garn-yr-Erw, a oedd yn dir prydles yn y ddeunawfed ganrif, yn cynrychioli gweithgarwch tresmasu ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol ar y tir comin mynyddig ar yr ucheldir. Datblygodd aneddiadau diwydiannol yn yr ardal hon o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan adeiladwyd terasau o dai a bythynnod gweithwyr yn Upper Garn Terrace (Mount Pleasant Terrace neu Society Houses), Lower Garn Terrace, Upper Rank, Cinder Pit Cottages a Pwrcas Cottages. Adeiladwyd Capel Horeb gan y Bedyddwyr ym 1866 a pharhawyd i'w ddefnyddio tan 1905. Roedd y capel hwn, a ddymchwelwyd bellach, wedi'i leoli ym mhen gogleddol Lower Garn Terrace. Erbyn troad y ganrif cynhwysai'r anheddiad Eglwys Sant Ioan a therasau Fairmont a Fairview (a elwid hefyd yn Black Ranks neu Sheepshead Row). Roedd yr anheddiad yn Garn-yr-Erw, a gynhwysai hefyd siop gydweithredol, swyddfa bost a Neuadd Les, ymhlith y rhai cyntaf yn Ne Cymru a adeiladwyd o dan gynllun Lles yr Hen Lowyr; erbyn hyn mae'n llawer llai o faint. Dymchwelwyd y rhesi unigryw a elwid yn 'Black Ranks' yn y 1980au, addaswyd Eglwys Sant Ioan yn annedd, tra caeodd ysgol y pentref, a sefydlwyd ym 1894, ym 1981 ac erbyn hyn mae'n cael ei defnyddio at ddibenion masnachol.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Rheilffordd Pont-y-pwl a Blaenafon, a rannol adferwyd bellach yn yr ardal hon, yw'r nodwedd amlycaf yngNghoridor Trafnidiaeth Garn-yr-Erw. Mae'r rheilffordd, sy'n atyniad ymwelwyr ar hyn o bryd, yn rhedeg locomotifau ager ac mae sawl locomotif i'w gweld yn ardal yr hen olchfa lo a chilffyrdd. Mae gan Reilffordd Pont-y-pwl a Blaenafon y rheilffordd led safonol uchaf a gadwyd yng Nghymru a Lloegr ac mae ganddi ddringfa barhaol fwy serth nag unrhyw linell arall.

Nodweddir yr ardal hefyd gan aneddiadau diwydiannol; rhesi ar wahân yn bennaf, ond hefyd datblygiadau strimynnog. Mae'r stoc dai sydd wedi goroesi yn cynnwys anheddau teras diwydiannol ag un ffrynt a adeiladwyd o gerrig y rhoddwyd amrywiaeth o driniaethau i'w ffrynt. Mae llawer wedi'u rendro ac wedi'u paentio mewn amrywiaeth o liwiau, mae rhai wedi cadw cyrn simnai o frics, er bod y mwyafrif o'r ffenestri a'r drysau wedi'u hadnewyddu. Mae elfennau nodweddiadol yn cynnwys gerddi blaen â ffensys pren ac iardiau cefn â siediau glo o gerrig ac arnynt doeau o haearn rhychog ac adeiladau allan mewn amrywiaeth o ddeunyddiau ac arddulliau. Wrth ddynesu at Garn-yr-Erw o Flaenafon ceir tai ar wahân â ffrynt dwbl a adeiladwyd o gerrig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac sy'n sefyll ychydig yn ôl o'r ffordd; mae'r tai hyn heb eu rendro ac mae ganddynt doeau llechi a chyrn simnai o frics. Mae cyn-Eglwys Sant Ioan ar Garn Road yn yr arddull Neo-Gothig yn debyg i Eglwys Sant Pedr, Blaenafon.

Nodweddir y dirwedd amaethyddol weddilliol yn Garn-yr-Erw gan batrwm caeau afreolaidd datblygedig a rhennir y caeau gan waliau sych, cloddiau ag wyneb o gerrig gyda gwrychoedd neu hebddynt, a chloddiau glaswelltog â gwrychoedd moel. Mae'r dirwedd yn rhan ogledd-orllewinol yr ardal hon yn dal i fod yn agored i raddau helaeth. Nodweddir yr ardal hon gan fân waith cloddio a ddynodir yn bennaf gan domenni gwastraff bach.