The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

001 Craidd Trefol Blaenafon


King Street, Blaenavon: view to the north from Queen Street

HLCA001 Craidd Trefol Blaenafon

Anheddiad trefol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gysylltir â datblygiad gwaith haearn Blaenafon a diwydiannau cloddio cysylltiedig. Nodweddir yr amgylchedd adeiledig yn bennaf gan dai teras diwydiannol a phatrwm strydoedd cynlluniedig ag adeiladau dinesig cysylltiedig, capeli a chraidd masnachol; cysylltiadau hanesyddol pwysig.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Craidd Trefol Blaenafon yn cynrychioli'r brif ardal anheddu a sefydlwyd erbyn 1880 (yn seiliedig ar argraffiad 1af map yr AO). Mae'r ffin yn dilyn ffyrdd a ffiniau caeau gwreiddiol ble bynnag y bo modd. Mae'r ardal hon yn cynnwys y rhan fwyaf o ardal gadwraeth a sefydlwyd gan Gyngor Sir Tor-faen.

Cyn datblygiad y gwaith haearn ym 1788-9 cynhwysai'r ardal dirwedd wledig o ffermydd a bythynnod. Heddiw mae o leiaf un fferm wedi goroesi yn yr ardal, sef Ty'r Godwith (ychydig oddi ar Charles St), tua 1600; mae'r ffermdy wedi cadw lleoedd tân enfawr o gerrig. Graddol bu twf tref Blaenafon, a ddatblygwyd yn rhannol ar dir a oedd yn eiddo i Gwmni Haearn Blaenafon a'i bartneriaid ond hefyd ar dir a oedd yn eiddo i Iarll Y Fenni, Francis James a John Phillips ymhlith eraill, ac adeiladwyd y rhan fwyaf o'r dref ymhell ar ôl i'r gwaith haearn ei hun gael ei sefydlu. Datblygodd yr anheddiad gwreiddiol yn ystod y cyfnod rhwng dechrau a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ac erbyn y dyddiad hwn cynhwysai ddatblygiadau hirgul ar hyd King Street a Queen Street a phatrwm mympwyol yn ne'r ardal gerllaw eglwys Sant Pedr, (a adeiladwyd ym 1804 gan Thomas Hill a Samuel Hopkins). Bryd hynny roedd y tir yng nghanol yr ardal yn dal i gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol.

Cynhwysai'r anheddiad diwydiannol cynnar sy'n gysylltiedig â datblygiad diwydiannol yr ardal dai teras, bythynnod ac addoldai. Ymhlith adeiladau pwysig eraill yn dyddio o'r cyfnod hwn roedd Ty Mawr, cartref meistr haearn, a adeiladwyd gan Samuel Hopkins ym 1800, ysgol St Peter's (1816), yr ysgol gwaith haearn gynharaf yng Nghymru.

Mae'r rhan fwyaf o Flaenafon yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dim ond erbyn y 1850au y gellid ei hadnabod fel tref; enwyd y strydoedd yn y 1860au. Sefydlwyd y rhan fwyaf o'r patrwm strydoedd cynlluniedig presennol â'u rhesi rheolaidd o'r 1840au ymlaen ac fe'i cwblhawyd erbyn y 1870au. Broad Street yw'r brif ffordd drwodd, lle y lleolid y rhan fwyaf o'r eiddo masnachol a lle y'i lleolir o hyd. Ehangodd y datblygiad ychydig i'r de-ddwyrain i gynnwys Morgan Street, James Street a New William Street, fel y dangosir ar argraffiad 1af map yr AO. Roedd nifer o adeiladau eraill megis eglwysi, capeli, Sefydliad Gweithwyr a nifer fawr o dafarndai hefyd wedi'u hadeiladu yn yr ardal erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhwng 1880 a 1920, gwnaed gwaith mewnlenwi ar hyd y ffryntiadau stryd a fodolai eisoes, yn arbennig Rhydynos Street, ond hefyd mewn mannau eraill.

Ymhlith nodweddion eraill sydd o ddiddordeb ceir gwaith brics yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a lefel lo yn Rifles Green (argraffiad 1af map yr AO); mae'r rhan fwyaf o'r ardal hon yn dal heb ei datblygu ac efallai fod olion claddedig wedi goroesi.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae nifer fawr o adeiladau domestig a masnachol gwreiddiol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn parhau i sefyll yng Nghraidd Tref Blaenafon. Ceir grwp pwysig o adeiladau yn ystâd ffurfiol y meistr haearn yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda'i hadeiladau crefyddol ac addysgol cysylltiedig a leolir ar hyd Church Road. Mae'r rhain yn cynnwys hen blasty'r meistr haearn (Blaenavon House neu Dy Mawr, Adeilad Rhestredig: Gradd II); a elwir erbyn hyn yn gartref nyrsio The Beeches, Eglwys Sant Pedr (Adeilad Rhestredig: Gradd II*) ac Ysgol St Peter's (Adeilad Rhestredig: Gradd II*).

Fodd bynnag lleolid prif graidd yr anheddiad gwreiddiol ar hyd Queen Street a King Street, lle y ceir tai hyn o hyd. Mae adeiladau mewn amrywiaeth o arddulliau a adeiladwyd ar wahanol adegau i'w gweld o hyd ar Queen Street; yn nodweddiadol, mae'r adeiladau, y mae'r mwyafrif ohonynt wedi'u rendro bellach, yn amrywio o ran eu maint a'u ffurf hy ceir bythynnod a thai teras â ffrynt dwbl ac un ffrynt. Mae'r amrywiaeth yn adlewyrchu datblygiad mwy anffurfiol yr ardal hon dros gyfnod o amser. Mae natur amrywiol yr adeiladau yn ymestyn i ddeunyddiau adeiladu a thoi gan gynnwys llechi a llechi atgynhyrchu o osodwyd yn lle'r rhai gwreiddiol. Mae rhai cyrn simnai gwreiddiol wedi goroesi, ond mae'r mwyafrif ohonynt wedi'u disodli gan ffliwiau. Yn yr un modd, rhoddwyd ffenestri a drysau newydd yn lle mwyafrif y rhai gwreiddiol, er bod ffenestri codi wedi goroesi mewn rhai adeiladau. Mae ffrynt yr adeiladau yn arddangos cymysgedd o wahanol orffeniadau. Ceir adeiladau heb eu rendro ac adeiladau sydd wedi'u rendro'n arw, sy'n adlewyrchu'r gorffeniad gwreiddiol yn ôl pob tebyg, ac adeiladau a chwipiwyd â gro yn fwy diweddar, y mae gan rai ohonynt addurniadau sment o gwmpas y ffenestri. Mae rhif 44 Queen Street yn enghraifft ddiddorol o fwthyn gweithiwr yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi goroesi; mae rendr "effaith ashlar" i'w weld o hyd ar y bwthyn hwn sydd â ffrynt dwbl a ffenestri codi â phedwar cwarel. Codwyd rhifau 14, 15 ac 16 ar yr ochr arall i'r stryd ychydig yn ddiweddarach (cyn-1843), er eu bod wedi'u chwipio â gro mân erbyn hyn; maent wedi cadw ffenestri codi a chyrn simnai cerrig llinellol mawr.

Mae tai yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w gweld o hyd yn King Street hefyd; yn debyg i'r tai yn Queen Street mae'r tai hyn hefyd yn amrywio o ran eu ffurf, eu harddull a'u dyddiad, sy'n awgrymu gwaith datblygu tameidiog. Efallai fod hyn i'w briodoli i'r gwahanol fathau o berchenogaeth eiddo yn yr ardal hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae adeiladau o ddiddordeb yn cynnwys swyddfa'r post ac eiddo cyfagos, sydd wedi cadw ffenestri codi teiran â deuddeg cwarel a chorn simnai o frics, a thafarn The Fountain Inn hefyd - adeilad wedi'i rendro'n arw a oedd yn ddau eiddo ar wahân yn wreiddiol.

Nodweddir y craidd masnachol ar hyd Broad Street, a ddatblygodd yn ystod y 1840au-1860au gan ddatblygiadau strimynnog. Datblygwyd yr ardal hon gan ddatblygwyr annibynnol, ac efallai yr adlewyrchir hynny i ryw raddau gan ffurfiau, meintiau ac arddulliau amrywiol y tai a geir yn yr ardal; mae'r gwahanol driniaethau i ffrynt yr adeiladau yn arbennig o nodweddiadol. Rhoddwyd sawl cynnig ar ddiweddaru ac adfer blaenau siopau pren "traddodiadol" i eiddo masnachol ar hyd Broad Street. Fodd bynnag, gwnaed hyn mewn modd unffurf gan ddefnyddio pren wedi'i fahoganeiddio safonol ac nid yw'n adlewyrchiad manwl gywir o'r gwreiddiol. Dengys hen ffotograffau y byddai blaenau'r siopau hyn wedi'u paentio'n wreiddiol, gan adlewyrchu arddulliau unigol. Rhifau 15-19 Broad Street (Adeiladau Rhestredig: Gradd II) yw'r enghreifftiau gorau; mae'r rhain mewn cyflwr ardderchog ac maent wedi cadw nodweddion gwreiddiol.

Nodweddir y rhan helaethaf o'r ardal gymeriad gan resi o dai teras ag un ffrynt, sy'n codi mewn parau i fyny'r stryd fel y gwelir yn High Street. Mae'r rhain wedi'u hadeiladu o gerrig patrymog neu gerrig wedi'u gosod yma ac acw; ac mae ganddynt gyrn simnai o frics a chymysgedd o addurniadau bwaog cylchrannog o gerrig a brics o amgylch y ffenestri a'r drysau. Addaswyd rhai eiddo masnachol yn High Street yn dai; mae gan y tai hyn ffrynt dwbl fel arfer. Mae gan resi eraill un ffrynt ac maent wedi'u hadeiladu o frics, er enghraifft Upper Waun Street. Mae rhai adeiladau, a leolir ym mhen rhesi/strydoedd, wedi cadw'r mynedfeydd cornel onglog nodweddiadol; sy'n awgrymu y buont unwaith yn dafarndai neu'n eiddo masnachol arall. Mae adeiladau yn yr ardal yn arddangos cymysgedd o driniaethau i'w ffrynt. Mae rhai heb eu rendro, rhai wedi'u rendro, rhai wedi'u rendro'n arw a rhai wedi'u chwipio â gro fel yn Phillips Street; ceir cyrn simnai o frics a cherrig. Mae'r amrywiaeth hwn yn ymestyn i'r driniaeth sydd wedi'i rhoi i addurniadau drysau a ffenestri (hy capanau); mae'r rhain yn cynnwys brics, cerrig wedi'u paentio, wedi'u rendro, rhai â chonglfeini goramlwg, ac mae rhai o'r rhain yn newydd. Yn yr ardal adnewyddwyd mwyafrif y ffenestri gwreiddiol a dim ond mewn ychydig o dai y mae'r ffenestri gwreiddiol wedi goroesi; ee ffenestri codi â chwe chwarel yn y Market Tafarn, Market Street.

Ymestynnai cyfres o resi arunig o amgylch Rifle's Green, at derfynau gogleddol y dref; yn y fan hon mae'r tai yn debyg fwy neu lai i'r tai a geir mewn mannau eraill, fodd bynnag, ceir enghreifftiau lle y mae cribau toeau'r tai yn hytrach na bod yn risiog, yn dilyn cyfuchlin llethr.

Lleolir Old William Street a New William Street o fewn terfynau deheuol yr ardal. Yn Old William Street mae tai teras nodweddiadol ag un ffrynt a drysau bwaog pâr o gerrig a brics, sydd wedi'u paentio erbyn hyn, wedi goroesi, er bod enghreifftiau o dai â drysau o gerrig cylchrannog nad ydynt yn fwaog i'w gweld hefyd. Mae gan New William Street ar y llaw arall amrywiaeth o dai teras ag un ffrynt, rhai ohonynt â threfniant yn cynnwys tri drws (hy mae un ohonynt yn fynedfa i'r iardiau cefn), ac mae rhif 40 yn enghraifft o'r math hwn o dy. Mae gan dai eraill un ffrynt ond nid ydynt yn dai pâr. Nodweddir pen dwyreiniol New William Street gan dai ag un ffrynt a adeiladwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg o gerrig patrymog ag addurniadau o frics melyn o amgylch y drysau a'r ffenestri sydd â chylchigau endoredig ym mhennau'r capanau a'r conglfeini. Mae addurniadau eraill yn cynnwys llin-gwrs melyn bedair bricsen o led islaw ffenestri ar y llawr uchaf.

Nodweddir yr ardal hefyd gan amrywiaeth o adeiladau dinesig pwysig ac adeiladau pwysig eraill. Mae'r rhain yn cynnwys Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr a adeiladwyd ym 1893 (Adeilad Rhestredig: Gradd II), Swyddfeydd y Dref (Adeilad Rhestredig: Gradd II) ar Lion Street ac ar Prince Street, prif Swyddfa'r Post (Adeilad Rhestredig: Gradd II) a adeiladwyd ym 1937 yn yr arddull Neo-Sioraidd, sydd â tho talcennog, ffenestri codi a drws pedimentog, canolog, trawiadol o gerrig. Mae cofgolofn i'r Ddau Ryfel Byd, a saif ar gornel Church Road a High Street o fewn paramedr Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr, sydd hefyd yn rhestredig (Gradd II).

Mae tafarndai yn parhau yn nodwedd amlwg o'r ardal er eu bod gryn dipyn yn llai niferus nag oeddynt yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan honnid ei bod yn bosibl yfed mewn tafarn gwahanol bob wythnos o'r flwyddyn. Ymhlith y tafarndai sydd wedi goroesi mae The Rifleman's Arms, Gwesty'r Lion (Gwesty'r Red Lion), tafarn y Rolling Mill, Gwesty'r Castle, The Cambrian, The Fountain a'r Queen Victoria. Fe'u hadeiladwyd i'r pwrpas yn aml ym mhen rhesi ond cynhwysent hefyd rai eiddo domestig a addaswyd.

Roedd capeli yn elfen bwysig o ddiwylliant Blaenafon a chynhwysent gapeli a wasanaethai gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Mae rhai enghreifftiau sydd wedi goroesi yn cynnwys Capel Horeb, sef Capel y Bedyddwyr (Adeilad Rhestredig: Gradd II) a adeiladwyd ym 1862, Capel Bethlehem, sef Capel yr Annibynwyr (Adeilad Rhestredig: Gradd II) a adeiladwyd ym 1842, Capel a adeiladwyd gan y Bedyddwyr Saesneg ym 1888 yn yr arddull Glasurol Eidalaidd, Capel Bethel a adeiladwyd gan y Bedyddwyr ym 1887 ac Eglwys Efengylaidd Blaenafon, Capel Moriah (Adeilad Rhestredig: Gradd II).

Mae cysylltiadau hanesyddol yn nodwedd bwysig o'r ardal. Ymhlith y bobl enwog sy'n gysylltiedig â'r dref mae Thomas Hopkins a'i fab Samuel Hopkins, meistri haearn; Thomas Hill, rheolwr gwaith haearn Blaenafon; J.G. Williams; dyn busnes lleol a gyfrannodd at ddatblygiad y dref, yn arbennig Broad Street a Howell Harris a adeiladodd Eglwys gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref. Mae llawer o bobl nodedig hefyd wedi'u claddu yn eglwys a mynwent Eglwys Sant Pedr ac o'r bobl hyn efallai mai Samuel Hopkins, Thomas Hill a Thomas Deakin (tirfesurydd y gwaith haearn) yw'r rhai mwyaf adnabyddus. Un arall sy'n gysylltiedig â'r dref yw Alexander Cordell yr ysbrydolwyd ei nofel, Rape of the Fair Country, gan Flaenafon.