The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

010 Tomenni Canada a Blaen Pig


Canada Tips created through WWII opencasting:view to the southwest

HLCA 010 Tomenni Canada a Blaen Pig

Tirwedd gloddiol a nodweddir yn bennaf gan weithfeydd mwyngloddio brig a thomenni gwastraff yn dyddio o'r Ail Ryfel Byd. Nodweddion cloddio diwydiannol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n gysylltiedig â gweithgarwch chwarelu a chloddio. Cysylltiadau hanesyddol.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tomenni Canada a Blaen Pig yn cynnwys terfynau Tomenni Canada i'r De a gweithfeydd glo brig eraill i'r gogledd. Cynhwysir olion y dirwedd ddiwydiannol gynharach sydd wedi goroesi i ryw raddau yn yr ardal oherwydd anawsterau yn gysylltiedig â nodi ffiniau pendant yn y dirwedd fodern.

Carneddau yn ymwneud â gweithgarwch angladdol a defodol Cynhanesyddol yw'r nodweddion cynharaf a nodwyd yn yr ardal (argraffiad 1af map yr AO); dinistriwyd y carneddau hyn, gan gynnwys 'Careg-Croes-Ifor' gan weithgarwch mwyngloddio brig yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg buwyd yn cloddio deunyddiau crai yn ddiwydiannol ar gyfer gwaith haearn Blaenafon; er gwaethaf y gweithgareddau mwyngloddio brig diweddarach, mae nodweddion yn ymwneud â'r gweithfeydd cloddio cynharach hyn wedi goroesi yn yr ardal. Blaen Pig, a wasanaethid gan dramffordd, oedd y brif ardal gloddio, lle y câi glo a mwyn haearn eu gweithio gan nifer o byllau glo, chwareli, hysiau a lefelau. Lleolid pyllau glo eraill gerllaw Rose a Riverside Cottage, y dymchwelwyd y ddau ohonynt bellach. Roedd y mwyafrif o'r gweithfeydd diwydiannol a sefydlwyd cyn i weithrediadau mwyngloddio brig ddechrau wedi darfod amdanynt erbyn y 1880au.

Yn y 1940au helpodd Byddin Canada i ddatblygu gweithgarwch mwyngloddio brig ar gyfer ymdrech y rhyfel a gelwir olion y gweithgarwch hwn yn Domenni Canada. Dechreuodd y dull hwn o gloddio glo trwy fwyngloddio arwyneb, nad oedd yn hysbys ym Mhrydain cyn hynny, ym 1941 gan ddefnyddio peiriannau o Unol Daleithiau America a Panama. Erbyn 1944, roedd y safle yn cynhyrchu 8.65 miliwn o dunelli, a gyfatebai i bron 5% o gyfanswm cynhyrchiant glo Prydain. Rhwng 1945-8 cyflawnwyd rhagor o weithgarwch mwyngloddio brig ym Mhwll Du a Blaen Pig.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Tomenni Canada a Blaen Pig wedi cadw rhai nodweddion diwydiannol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, y nodwedd amlycaf yw gweithfeydd mwyngloddio brig Tomenni Canada yn dyddio o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, y credir mai hwy yw'r unig weithfeydd mwyngloddio brig cynnar, anadferedig sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Nodweddir yr ardal gan 'dirwedd leuadol' o weithfeydd a thomenni wedi'u rhannol orchuddio â llystyfiant, ar raddfa fawr. Mae tomenni cynharach hefyd yn nodweddiadol, ac mae enghreifftiau wedi goroesi ar hyd cyrion yr ardal ger Pen-ffordd-goch a Phwll Du.

Ymhlith y nodweddion diwydiannol sydd wedi goroesi yn yr ardal ceir tomenni, hysiau, pyllau glo, mwyngloddiau drifft, lefelau a ffrydiau ym Mlaen Pig. Ceir mân nodweddion trafnidiaeth hefyd, er eu bod yn dal i fod yn bwysig; ceir nifer o lwybrau yn yr ardal a thramffyrdd yn ddiweddarach gan gynnwys hanner uchaf Inclein Dyne Steel, y mae ei linell i'w gweld o hyd yn rhedeg trwy'r ardal.

Ymhlith y bobl hanesyddol sy'n gysylltiedig â'r ardal mae Graham Sutherland, Arlunydd Rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gynhyrchodd gyfres o baentiadau o Domenni Canada ym 1943.