Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

029 Dyffryn Abergwenffrwd


Aerial photograph over Hill's Pits, courtesy of RCAHMW.

HLCA 029 Dyffryn Abergwenffrwd

Anheddiad diwydiannol yn bennaf: gwasgariad llac a chlystyrau bach/datblygiad hirgul o fythynnod a thai/ffermydd mwy; patrwm amrywiol o glostiroedd datblygedig afreolaidd a chlostiroedd unionlin rheolaidd; nodweddion anheddiad/mathau o adeiladau ôl-ganoloesol; archeoleg ddiwydiannol; melinau (papur, yd a seidr, a hen weithfeydd gwifren); safle sorod haearn posibl a chwareli; nodweddion rheoli dwr yn gysylltiedig â melinau: cronfeydd dwr, ffosydd a llifddorau; ffynhonnau yn gysylltiedig ag anheddiad; nodweddion cysylltiadau; ffiniau traddodiadol; coetir cymysg a phlanhigion coniffer. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Abergwenffrwd yn cynrychioli dyffryn llednant coediog iawn sy'n cynnwys White Brook, nant sy'n rhedeg i lawr y dyffryn i'r dwyrain tuag at ei chyflifiad ag Afon Gwy. Yn hanesyddol lleolwyd yr ardal ym mhlwyfi Penallt, Trelech a Llaneuddogwy, a oedd yn rhan o faenor Trelech a oedd yn eiddo i Ddug Beaufort.

Mae'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch ar White Brook yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; crybwyllir melin yd neu yd mâl (PRN 00670g) mewn Inquisition Post Mortem dyddiedig 1314; mae melin (a addaswyd bellach) yn dal i fodoli ar White Brook. Fodd bynnag, nis cadarnhawyd a yw ar yr un safle â'r felin a grybwyllwyd uchod.

Dechreuodd y diwydiant gwneud papur yn Abergwenffrwd tua 1760 drwy adeiladu Melin Bapur Clearwater (PRN 00665g, 07971g, LBs 24923, 24943, SAM MM 294), a ddangosir ar gynllun ystad J. Aram o Faenor Trelech dyddiedig 1772 a dogfennwyd bod o leiaf naw gwneuthurwr papur yn weithredol yn yr ardal rhwng 1773 a 1791 (Tucker 1972). Roedd Melin Bapur Clearwater, a bwerwyd gan beiriant tyrbin ager (a ddisodlwyd yn 1869), yn cael ei defnyddio am dros gan mlynedd tan tua 1875 (Newman 2000, 277).

Ffynnodd y diwydiant papur ac ehangodd yn Nyffryn Abergwenffrwd gyda hyd at chwe melin bapur y gwyddys iddynt weithredu ar hyd y dyffryn ar unrhyw un adeg. Cofnodwyd bod 50 o bobl yn cael eu cyflogi yn y melinau papur ar hyd Dyffryn Abergwenffrwd yn 1841 (Newman 2000). Adeiladwyd llety yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn benodol i gartrefu'r niferoedd mawr o bobl a gyflogwyd yn Nyffryn Abergwenffrwd.

Tystia tystiolaeth ddogfennol i ddirywiad graddol y diwydiant gwneud papur yn Abergwenffrwd o'r 1820au ymlaen. Fodd bynnag, noda Bradney 'by 1850 the manufacture of paper was entirely given up and the mills were in a state of ruin’ (Bradney 1913). Fodd bynnag, dynoda ffynonellau dogfennol yr amser i felinau papur barhau i weithredu drwy gydol yr 1860au a'r 1870au, ac yn wir ychwanegwyd at Felinau Clearwater a'u hehangu yn 1863 gan fecaneiddio'r gweithfeydd drwy newid i bwer ager. Ni wnaeth diwydiant ddirywio yn yr ardal tan yr 1880au, pan roddwyd sawl melin a'u cynnwys ar y farchnad wrth i elw leihau (Tucker 1972).

Mae melin seidr sydd fwy na thebyg yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bodoli yn y dyffryn o hyd mewn cyflwr cymharol debyg. Mae gan y felin hon hanes cudd diddorol gan iddi gael ei defnyddio i gartrefu faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Dyffryn Abergwenffrwd, a ddiffinnir gan ei ddaearyddiaeth ffisegol naturiol, dyffryn afon serth cul, yn bennaf gan anheddiad diwydiannol, diwydiant creiriol a nodweddion cysylltiedig. Ar waelod Dyffryn Abergwenffrwd, ceir awyrgylch cymharol ynysig, gyda phrysurdeb diwydiant wedi hen ddirwyn i ben erbyn hyn; yn rhannol goediog, gyda chymysgedd o goetir collddail lled-naturiol, amgylchynir yr ardal gan Goedwig Hael (HLCA 027) i'r gogledd a'r de a hefyd i'r dwyrain lle mae'r goedwig yn cau i rannu'r ardal â nodweddion yn ddwy ran ar wahân, rhan uchaf ac isaf Dyffryn Abergwenffrwd. Mae cryn dipyn o olion o'r dirwedd ôl-ganoloesol a oedd yn gysylltiedig â gweithgynhyrchu papur a gwifrau yn bodoli o hyd ar hyd Dyffryn Abergwenffrwd, er bod llawer o'r olion hyn yn cael eu cuddio gan goetir bellach.

Mae White Brook yn ffynhonnell ddwr gyflym, sy'n rhedeg am tua 3km o'i ffynhonnell yn Hoop i lawr i Afon Gwy, sydd wedi'i defnyddio mewn amryw ffyrdd fel ffynhonnell o bwer gan byllau cronfa ddwr a melinau amrywiol. Rhydd yr olion strwythuredig sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu papur, fel Melin Bapur Clearwater (PRN 00665g, 07971g, LB 24923, 24943, SAM MM 294) a'i Simnai restredig gysylltiedig (PRN 07971g, LB 24923 Gradd II), nodwedd bwysig. Roedd gan y felin, sy'n adfail ar hyn o bryd, olwyn ddwr dros y rhod, a thyrbin dwr, y mae rhan o hynny yn dal i fodoli heddiw yn y wal gyferbyn â'r felin. Cred Newman y gallai Melinau Clearwater hefyd fod wedi'u lleoli ar safle gweithfeydd gwifren o ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg (Newman 2000, 277).

Mae olion helaeth melinau papur eraill ac adeiladau allan cysylltiedig, ffosydd adeiladwaith, llifddorau, ffrydiau melinau a phyllau hefyd yn dal i fodoli yn yr ardal â nodweddion. Ymhlith yr enghreifftiau o'r rhain mae Melin Sunnyside (PRN 00667g), Melinau Dyffryn Gwy (PRN 00671g), Whitebrook Farmhouse (PRN 07966g, LB 24920), Melin Bapur Glynn (PRN 07967g), Melindy Dyffryn Gwy (PRN 07968g, LB 24942) a Melin Fernside (PRN 03168g, LB 24948).

Mae'n bosibl mai Melin Fernside, sydd gyferbyn â'r hen felindy a bloc stablau, yw'r enghraifft orau sy'n goroesi o felin bapur yn Nyffryn Abergwenffrwd a dim ond un o blith ychydig i oroesi yng Nghymru ydyw (Tucker 1972; Newman 2000, 277). Wedi'i lleoli uwchben grwp o byllau melin a fwydir gan White Brook, mae adeilad hirsgwar y felin yn cefnu ar y ffordd ac fe'i hadeiladwyd o garreg sgwâr patrymog â rwbel tywodfaen lleol ar ei phen. Mae'r felin ar dri llawr yn ei drychiad dwyreiniol ac ar un llawr yn ei drychiad gorllewinol uwchben pyllau'r felin; credir bod y to panteils presennol wedi'i osod yn ddiweddarach yn yr ugeinfed ganrif. Mae'r lwferau awyru unionsyth, a oedd yn angenrheidiol i sychu papur, yn dal i fodoli mewn mannau o amgylch yr adeilad, er bod rhai newydd wedi'u gosod mewn sawl man.

Ymhlith y nodweddion diwydiannol eraill mae olion cei a warws yn gysylltiedig â'r diwydiant gwneud papur wrth gyflifiad White Brook ag Afon Gwy, yn ogystal ag olion Melin Seidr Fern Bank (PRN 07970g, LB 24922) sy'n ymddangos ar Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881. Mae'r adeilad olaf yn hirsgwar ac wedi'i adeiladu o dywodfaen coch lleol o dan do llechi; y tu mewn ceir llawr carreg ar oleddf ac mae ffrâm y wasg yn ei lle o hyd gyda'r peiriant malu yn yr iard y tu allan, mae nenfwd â llawer o drawstiau yn cynnal yr ydlofft/storfa afalau uwchben.

Er bod gan yr ardal hon â nodweddion gysylltiadau cryf â thirwedd ehangach Dyffryn Gwy, mae'n dal i fod yn dirwedd gydlynol a hunangynhwysol sy'n gysylltiedig â chryn weithgarwch diwydiannol o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan weithgynhyrchu gwifrau i gychwyn ac yn ddiweddarach wneud papur.

Mae anheddiad nodweddiadol yr ardal yn deillio'n bennaf o weithgarwch diwydiannol, ac ymddengys i'r rhan fwyaf o anheddau gael eu hadeiladu ar gyfer perchenogion melinau a'u gweithwyr. Mae patrwm yr anheddiad yn cynnwys datblygiad hirgul anffurfiol, er bod clystyrau anghysbell neu fach o dai, bythynnod, a daliadau bach ger safleoedd diwydiannol. Gwelir arwydd o'r dylanwad diwydiannol ar batrwm yr anheddiad lleol a'r strwythur yn yr amrywiaeth o fathau gwahanol o adeiladau: yn ogystal â'r bythynnod, tai, a ffermdai arferol (gan gynnwys adeiladau amaethyddol), ceir addoldai (eglwys a chapel), ysgol, tafarndy, a swyddfa bost, ac wrth gwrs y melinau. Mae Dyffryn Abergwenffrwd yn nodedig am gyfres o dai eithaf mawr (yn wahanol i ardaloedd Botany Bay a dyffryn Angidy), yr adeiladwyd hwy oll yn y traddodiad Sioraidd, er enghraifft Melindy Fernside (PRN 03168g) a Whitebrook Farmhouse (PRN 07966g; LB 24920): gall y rhain hefyd dystio i'r ffyniant a oedd yn gysylltiedig â'r diwydiant papur. Yn gyffredinol, adeiladwyd bythynnod y gweithwyr yn arddull nodweddiadol Dyffryn Gwy Isaf o gerrig patrymog (wedi'u rendro neu eu paentio), a phrif ddeunydd y toeon yn yr ardal yw llechi a phanteils.

Mae nodweddion cysylltiadau a ffiniau'r ardal yn ychwanegu at yr ymdeimlad o dirwedd gaeedig. Mae'r llwybrau cysylltiadau sy'n rhedeg drwy'r ardal yn bodoli ar ffurf lonydd troellog cul a amgylchynir gan gloddiau daear a waliau cerrig sych. Ymhlith y nodweddion eraill mae pontydd troed a cherrig sarn. Yn nodweddiadol, mae'r ffiniau yn wrychoedd â choed nodedig aeddfed sefydledig, yn ogystal â waliau mortar a ffensys post a gwifren